ALLWN NI DDILEU DIGARTREFEDD YNG NGHYMRU?

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n nodi ystod o gynigion sy’n gweithio tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu atal ac ailgartrefu’n gyflym, i wneud digartrefedd yn ‘yn brin ac yn fyrhoedlog ac na fydd yn ailddigwydd’. Mae’r cynigion yn seiliedig ar argymhellion Panel Adolygu Arbenigol. Fe all y ddeddfwriaeth hon ‘arwain y byd’, ond mae’n debygol y bydd rhwystrau sylweddol gyda’i gweithredu. Bu Cymru yn arwain y DU trwy ymgorffori atal digartrefedd mewn gwasanaethau statudol, ac uchelgais y Papur Gwyn yw mynd â hyn gam ymhellach. Y prif gynigion ynddo yw:

  • Rhoi terfyn ar y profion ‘angen blaenoriaethol’ a ‘digartref yn fwriadol’, sydd ill dau wedi’u defnyddio i gyfyngu ar faint o help a gynigir i rai pobl. Gallai eu dileu symleiddio’r broses. Mae’n debygol y byddai rhaid i Awdurdodau Lleol gynnig cymorth mwy sylweddol i fwy o bobl, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt brynu neu adeiladu tai cymdeithasol y mae mawr eu hangen.
  • Uchelgais i wella safonau llety dros dro. Croesewir hyn, gan fod llawer o unigolion yn disgrifio eu profiadau mewn llety o’r fath fel rhai ynysig a thrawmatig. Fodd bynnag, bydd angen buddsoddiad a chymorth sylweddol ar Awdurdodau Lleol i wireddu hyn, o ystyried bod dros 11,000 o bobl mewn llety dros dro ar hyn o bryd, ac mae’r defnydd o lety Gwely a Brecwast yn dal yn gyffredin iawn.
  • Ffurfioli atebion creadigol i heriau presennol yn y sector digartrefedd, megis ‘Digartref Gartref’ lle gall ymgeiswyr am dai aros gyda ffrindiau neu deulu yn hytrach na mewn llety dros dro heb golli mynediad at y ddyletswydd digartrefedd. Byddai hyn yn lleddfu rhywfaint o bwysau ar Awdurdodau Lleol ac yn caniatáu i aelwyd gadw’n sefydlog wrth chwilio am lety parhaol.
  • Cynigir dyletswydd statudol newydd i gefnogi ymgeisydd i gadw llety a sicrhawyd ar ei gyfer gan Awdurdod Lleol. Mae profiad aelod Cytûn Housing Justice Cymru yng nghynllun Citadel yn dangos bod llawer o unigolion yn gwerthfawrogi cymorth ar ôl symud i lety parhaol a setlo i mewn i gymuned newydd, sydd hefyd yn helpu i atal digartrefedd mynych.

Mae’r cynigion yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wireddu ei huchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd. Ond rhaid i’r uchelgais hwnnw gael ei gefnogi gan adnoddau cyfalaf a refeniw, ac mae arian yn brin iawn ar hyn o bryd. Her allweddol fydd y cyllid annigonol ar hyn o bryd ar gyfer y Grant Cymorth Tai, sy’n ariannu’r rhan fwyaf o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru – mae angen ei gynyddu i fodloni’r galw a’r costau cynyddol. Mae cynghorau lleol yn torri’n ôl ar eu gwasanaethau, wrth i gyllidebau grebachu: dyna pam mae aelod Cytûn, Byddin yr Iachawdwriaeth, yn canfod bod ei wasanaethau’n gorfod symud o atal digartrefedd i ymateb mewn argyfwng. Er y gall elusennau fel Byddin yr Iachawdwriaeth wneud iawn am rywfaint o’r diffyg o’u hadnoddau eu hunain, mae terfyn ar ba mor bell y gall hynny fynd.

Mae hyn yn darlunio’r heriau mynych gydag uchelgais y Papur Gwyn o ran mwy o weithio mewn partneriaeth, ac mae effeithiau hynny yn fwy amlwg yng nghanol argyfwng costau byw pan fo gwasanaethau ac adnoddau dan fwy o straen nag erioed. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael yma a chroesewir ymatebion tan 16 Ionawr.

Llun: Eleni enillwyd cystadleuaeth flynyddol pêl-droed pum bob ochr gwasanaethau digartrefedd Byddin yr Iachawdwriaeth, Tlws y Bartneriaeth, gan dîm Tŷ Gobaith, Caerdydd – yn y llun gyda chyn gôl-geidwad Lloegr Peter Shilton OBE.

Yn y cyfamser, mae eglwysi lleol yn awyddus i roi cymorth ymarferol i bobl ddigartref. Yn ogystal â phrosiect Citadel Housing Justice (gweler uchod), gall eglwysi gefnogi Byddin yr Iachawdwriaeth yn lleol. Fel eglwys ac elusen, mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn cefnogi pobl mewn pob math o angen, trwy 36 corfflu lleol yng Nghymru a gwasanaethau arbenigol. Mae cynnydd yn y galw am ei chymorth gyda digartrefedd, ac mae’n ceisio diwallu’r angen hwnnw drwy amrywiaeth eang o wasanaethau ledled Cymru – Tai Gobaith, prosiectau cymorth fel y bo’r angen a gwaith allgymorth. Yn hollbwysig, wrth i nifer y bobl sy’n cysgu allan ac mewn llety dros dro godi, maent yn profi gorfod canolbwyntio fwyfwy ar ymateb i argyfyngau, yn hytrach na gweithio i’w hatal. Mae teuluoedd a phobl sengl yn mynd i drafferthion ariannol, gyda niferoedd uwch bellach angen cefnogaeth a llety dros dro. Nawr yn fwy nag erioed mae Byddin yr Iachawdwriaeth am barhau i helpu pobl i osgoi colli eu cartrefi a dod o hyd i ffyrdd cyflym allan o ddigartrefedd.

Gweledigaeth Byddin yr Iachawdwriaeth yw ‘Cyflawnder bywyd i bawb gyda Iesu’. Mae ei gwasanaethau digartrefedd a’r corffluoedd yn gweithio’n galed i gyflawni hynny mewn ffyrdd ymarferol iawn. Maent wedi ymrwymo i helpu lle bynnag y mae ei angen, a mae’n croesawu ehangder ac uchelgais y Papur Gwyn. Ond mae angen yr adnoddau i wneud y gwaith.

Mae’r elusen Gristnogol Hope into Action hefyd yn cynnig ffyrdd o alluogi eglwysi i gartrefu’r digartref. Ei gweledigaeth yw gweld pob eglwys yn darparu cartref cariadus i’r bobl a effeithir gan ddigartrefedd, a thrwy’r cariad hwnnw gweld trawsnewid bywydau.

Mae model Hope into Action yn galluogi unigolion neu grwpiau o bobl i fuddsoddi mewn tai y maent wedyn yn eu prydlesu a’u defnyddio i ddarparu cartrefi o ansawdd da. Yn y modd hwn, gall pobl rannu eu cyfoeth gyda’r tlawd. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw 110 o gartrefi mewn tua 30 o drefi a dinasoedd ledled y DU, gyda mwy ar y gweill.

Llun: Un o denantiaid Hope into Action yn derbyn un o’u ‘Gwobrau Tenantiaid’

Mae Hope into Action yn credu mai tlodi perthnasoedd yw gwraidd llawer o ddigartrefedd. Nid oes gan bobl unrhyw le i fynd oherwydd nad oes ganddynt neb i fynd atynt, neu mae ganddynt berthynas afiach â phobl neu â sylweddau. Trwy ddarparu cartrefi diogel a meithrin perthnasoedd cadarnhaol, maent yn grymuso tenantiaid â gobaith am newid. Darperir cefnogaeth broffesiynol i denantiaid trwy ‘Weithiwr Grymuso’ a mentora, a chynigir cyfeillgarwch a chymuned trwy wirfoddolwyr o’r eglwys leol. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i eglwysi ymgysylltu’n ystyrlon â’r rhai sydd mewn sefyllfaoedd bregus. Maen nhw’n dweud, “Dydyn ni ddim yn gorfodi ein ffydd ar neb, ond rydyn ni’n credu yn nylanwad trawsnewidiol perthynas gariadus â Thad nefol. Gweithiwn gydag eglwysi o amrywiol draddodiadau, gan feithrin undod Cristnogol ynghanol amrywiaeth. Mae partneriaeth agos ag eglwysi lleol wrth wraidd model Hope into Action. Mae’r gefnogaeth a gynigir gan yr eglwys yn hollbwysig.”

Gellir cysylltu â Hope into Action trwy info@hopeintoaction.org.uk

Llawer o ddiolch i Housing Justice Cymru, Byddin yr Iachawdwriaeth a Hope into Action am eu cyfraniadau i’r erthygl yma.

Hyder, Iechyd a Lles Digidol ar gyfer eglwysi

Mae Cymunedau Digidol Cymru (CDC) yn bodoli er mwyn lleihau allgáu digidol yng Nghymru. Y nod yw Cymru lle mae gan bawb y sgiliau, y mynediad a’r cymhelliant i fod yn ddefnyddiwr hyderus o dechnoleg ddigidol. Mae CDC yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Cwmpas. Mae’n darparu cymorth i sefydliadau a chymunedau i’w helpu i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu strategaethau a’u harferion. Cynrychiolir Cytûn ar Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru gan y Parchg Aled Davies.

Mae CDC yn awyddus i gefnogi a chael sgyrsiau gydag eglwysi ac archwilio sut y gallir cefnogi staff a gwirfoddolwyr gyda’u sgiliau a’u hanghenion digidol, fel y gall pobl ddefnyddio technoleg ddigidol a’r rhyngrwyd er budd eu bywydau a chefnogi cyd-addolwyr yn yr un modd. Mae ystod eang o sesiynau hyfforddi ar gael, gan gynnwys pynciau pwysig yn ymwneud â ‘Diogelwch Ar-lein’ a chymorth gyda’r sgiliau mwy sylfaenol. Yn ogystal, mae’r awdit sgiliau digidol yn ffordd y gall eglwys nodi ble mae hi ar ei thaith cynhwysiant digidol. Trwy’r awdit nodi ac argymell hyfforddiant addas.

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth cynhwysiant digidol yng Nghymru, cymorth, neu hyd yn oed sgwrs, cysylltwch â mohammed.basit@cwmpas.coop neu 07824 035880.

Hyfforddiant diogelwch ffydd i eglwysi

Mae’r Swyddfa Gartref wedi lansio peilot ar gyfer y prosiect Hyfforddiant Diogelwch Ffydd. Mae hwn yn gwrs newydd sbon a ddatblygwyd gan y Swyddfa Gartref, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr diogelwch a phlismona, a bydd yn rhad ac am ddim i gymunedau ffydd, er codi ymwybyddiaeth o risgiau diogelwch a sut i ymateb iddynt.

Mae’r Swyddfa Gartref yn barod i ddechrau treialu sesiynau wyneb yn wyneb, ac am groesawu aelodau o gymunedau ffydd, yn enwedig pobl sydd mewn swyddi arweinyddol neu sy’n gyfrifol am ddiogelwch mewn addoldai, i fynychu a rhoi adborth ar y cynnwys a’r cyflwyniad. Bydd cymryd rhan yn rhoi’r cyfle i chi gyfrannu eich arbenigedd a siapio’r prosiect, gan sicrhau ei fod mor effeithiol ag y gall fod wrth helpu i gadw cymunedau’n ddiogel pan fydd yn cael ei gyflwyno’n ehangach.

Bydd lleoliadau’r sesiynau peilot yn dibynnu ar y diddordeb a’r nifer sydd am gymryd rhan, felly fe’ch anogir i gofrestru eich diddordeb waeth ble rydych chi. Ymhob sesiwn diwrnod, rhagwelir croesawu rhwng 6-8 o gyfranogwyr. Bydd yn para tua chwech awr, ac yn cael ei chyflwyno mewn amgylchedd diogel, hygyrch a chroesawgar. Bydd yr hyfforddiant hwn hefyd ar gael yn ddigidol yn nes ymlaen.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r sesiynau peilot, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb yma, neu ar ddyfais symudol sganiwch y cod QR a rhowch eich manylion. Bydd y data a ddarperir gennych wrth gofrestru yn cael ei gasglu gan bartner cyflawni’r Swyddfa Gartref, CDS. Ni fydd y wybodaeth y bydd CDS yn ei chasglu yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall. Fel arall, os hoffech siarad â rhywun yn uniongyrchol, cysylltwch â 03301 75 69 62 neu e-bostiwch FaithSecurityBooking@cdsds.uk .

Bydd yr hyfforddiant yn help i addoldai baratoi ar gyfer cyflwyno dyletswyddau newydd o dan y Bil Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) (‘Cyfraith Martyn’) arfaethedig. Cadarnhaodd Araith y Brenin ym mis Tachwedd y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod sesiwn bresennol Senedd San Steffan, yn dilyn ymgynghori pellach ag addoldai a mannau cymunedol eraill, gyda’r bwriad o sicrhau na fydd y dyletswyddau newydd yn rhy feichus iddynt. Mae Cytûn mewn cysylltiad â’r Swyddfa Gartref ynglŷn â hyn, a bydd yn galluogi ein haelodau i ymateb i’r ymgynghoriad newydd maes o law.

Mae’r Community Security Trust hefyd yn cynnig gweminarau am ddim am faterion diogelwch ffydd. Gellir gweld y manylion ar hyb Zoom CST yma neu drwy: LinkedIn: safe-by-cst; X (Twitter gynt): @SAFE_CST; neu Facebook: SAFE by CST.

 DIWRNOD GWEITHREDU BYD-EANG COP 28, 9 RHAGFYR

Rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 12, bydd arweinwyr byd yn ymgynnull ar gyfer uwchgynhadledd hinsawdd COP28 dan lywyddiaeth yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE). Yn dilyn yr haf poethaf erioed a newidiadau i ymrwymiadau hinsawdd Llywodraeth y DU, mae pawb sy’n poeni am yr argyfwng hinsawdd yn achub ar y cyfle hwn i ddod at ei gilydd a cheisio newid y naratif.

Ddydd Sadwrn Rhagfyr 9, bydd ymgyrchoedd yn cael eu cynnal ledled y byd mewn diwrnod byd-eang o weithredu dros gyfiawnder hinsawdd gan ddefnyddio’r slogan #NowWeRise.

Mae Cymorth Cristnogol yn gwahodd pobl i ymuno â nhw am 11yb ar ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr yn y Tabernacl, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AJ, am wasanaeth byr a chyfle i weddïo dros drafodaethau COP28. Maent yn gwahodd cefnogwyr i greu eu placardiau eu hunain. Gellir lawrlwytho adnoddau ar gyfer placardiau a gweddïau (yn Saesneg) yma: Campaign for Climate Justice – Christian Aid. Os ydych yn bwriadu mynychu, neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at JWeaver@christian-aid.org

Mae gweithgareddau hefyd ar y gweill ar yr un diwrnod ym Mangor (tu allan i Pontio LL57 2TQ am 2.30pm), Aberystwyth (yn y Bandstand SY23 2NN am 11am), Abertawe (Sgwâr y Castell SA1 3PP am hanner dydd). Mae map rhyngweithiol o’r holl ddigwyddiadau i’w weld yma.

Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn trefnu Wythnos Hinsawdd Cymru i gyd-fynd â COP28 gyda gweminarau byw a wedi’u recordio ar Ragfyr 4-8. Dilynir hyn gan raglen o Sgyrsiau am yr Hinsawdd tan 31 Ionawr 2024, a fydd yn ceisio annog trafodaeth ac ymateb i Fframwaith Pontio Cyfiawn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddir yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae Cytûn wedi bod yn rhan o drafodaethau am y fframwaith hwn drwy Climate Cymru, yr ydym yn aelodau ohono.

Eglwysi yn gofalu am yr amgylchedd

Mae nifer cynyddol o eglwysi yn cynnal caffis trwsio, sy’n cynnig atgyweirio llawer o eitemau cyffredin a allai fel arall gael eu taflu – gan leihau gwastraff, rhannu sgiliau a dod â’r gymuned ynghyd. Y rhwydwaith ar gyfer Caffis Trwsio yw https://repaircafewales.org/cy/ lle gallwch ddod o hyd i’ch caffi atgyweirio agosaf, neu â phwy i gysylltu os hoffech chi ddechrau un.

Mae Llyfrgell Pethau yn gynllun tebyg – weithiau’n cael ei redeg ar wahân neu mewn achosion eraill ochr yn ochr â chaffi trwsio. Mae hyn yn union fel llyfrgell arferol ond ar gyfer pethau nad ydych yn eu defnyddio’n aml, sydd yn rhy fawr i’ch cartref neu sy’n costio gormod. Ymhlith yr eitemau gellir eu benthyg mae offer garddio a DIY, offer gwersylla a llawer mwy. Bydd gan bob llyfrgell eu pethau eu hunain gallwch fenthyg, a’r cyfan ar gael am lai na fyddech chi’n disgwyl talu’n ail law a gyda’r cyfle i dalu gydag amser yn lle arian. Y rhwydwaith ar gyfer llyfrgelloedd o bethau yw Benthyg Cymru https://www.benthyg-cymru.org/  Byddem yn annog eglwysi i ystyried partneru ag eraill yn y gymuned i sefydlu prosiectau o’r fath, neu i gefnogi’r rhai sydd eisoes yn bodoli.

Ar 28 Tachwedd, cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau ar gyfer y trefniadau newydd (o fis Ebrill 2024) ar gyfer ailgylchu gan bob safle annomestig, gan gynnwys eglwysi, yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys gwahanu gwastraff yn chwe chynhwysydd ar wahân (saith yn cynnwys gwastraff na ellir ei ailgylchu). Er i Loegr roi’r gorau i gynlluniau o’r fath, maen nhw’n mynd rhagddynt yng Nghymru. Bydd rheoliadau ar wahân yn gwahardd gollwng bwyd i’r garthffos gyhoeddus – gan gynnwys defnyddio peiriannau malu ac offer tebyg. Mae Cytûn wedi paratoi gwybodaeth i eglwysi sydd ar gael ar ein gwefan.

LLES POBL CYMRU – HEDDIW AC YFORY

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cyhoeddwyd dau adroddiad sydd, o wahanol safbwyntiau, yn cynnig cipolwg ar lesiant pobl Cymru.

Mae Carnegie UK wedi ceisio mesur llesiant cyfunol pobl Cymru fel rhan o’i fynegai Bywyd yn y DU. Mewn partneriaeth ag Ipsos, mae’n mesur lles pobl y DU drwy archwilio atebion i gwestiynau ar draws themâu cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a democrataidd. Mae’r ymchwil hwn, sy’n seiliedig ar arolwg o fwy na 6900 o bobl gan gynnwys 531 yng Nghymru, yn canfod:

  • Mae lles pobl yng Nghymru yn is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Er enghraifft, mae ganddynt sgorau llesiant amgylcheddol 15 pwynt yn is na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (57 allan o 100 o gymharu â 72 allan o 100). Mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru (32%) yn anfodlon ar gyfleoedd gwaith lleol, o gymharu â chyfartaledd y DU (23%).
  • Mewn patrwm tebyg i weddill y DU, mae’r ymchwil yn datgelu diffyg ymddiriedaeth mewn systemau a sefydliadau gwleidyddol. Teimla tri chwarter (75%) yr ymatebwyr yng Nghymru nad oes ganddynt ddylanwad dros benderfyniadau sy’n effeithio ar y DU; mae dwy ran o dair (67%) yn teimlo’r un peth am benderfyniadau Cymru gyfan; tra bod dros hanner (56%) yn teimlo nad oes ganddynt ddylanwad dros benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi lansio ei adroddiad diweddaraf A yw Cymru’n Decach?. Yn wahanol i rifynnau blaenorol, mae gan adroddiad 2023 bennod ar gyfer pob ‘nodwedd warchodedig’ o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r bennod ar ‘Crefydd a Chred’ yn nodi bod data sy’n benodol i Gymru yn y maes hwn yn brin. Canfyddiadau allweddol y bennod yw:

  • Mae pobl mewn lleiafrifoedd crefyddol (sef pob crefydd heblaw Cristnogaeth) yn llai tebygol o gael eu cyflogi na’r rhai heb unrhyw ymlyniad crefyddol, gyda chyfradd cyflogaeth o 52.2% o gymharu â 65.9% ar gyfer y grŵp Dim Crefydd.
  • Cynyddodd cyfraddau tlodi mewn aelwydydd â phenteulu Cristnogol o 15.0% yn 2011/12 i 20.2% yn 2018/19, sydd wedi lleihau’r bwlch tlodi gyda’r grŵp Dim Crefydd.
  • Mae Cristnogion yn fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi sy’n berchen eu tai tra bod Mwslimiaid yn fwyaf tebygol o fyw mewn tai rhent preifat neu dai cymdeithasol. Mae Mwslimiaid hefyd yn profi’r gyfradd uchaf o orlenwi, gan fod 14.2% o aelwydydd â phenteuluoedd Mwslimaidd yn orlawn yn 2021.
  • Bu gostyngiad yn yr holl grwpiau sy’n dweud fod ganddynt iechyd da yng Nghymru rhwng 2016 a 2019, gyda mwy o ddirywiad ar gyfer lleiafrifoedd crefyddol (-6.7 pwynt canran).
  • Mae nifer y troseddau a waethygwyd gan hiliaeth neu grefydd a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu ond mae cyfran y troseddau sy’n arwain at gyhuddiad wedi gostwng.

Mae’r darlun cymysg hwn ar gyfer llesiant yng Nghymru yn drawiadol, gan fod Cymru wedi arwain y DU gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a fwriadwyd i roi lles wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae’n amserol, felly, fod ail Gomisiynydd Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, wedi lansio ei strategaeth newydd, Cymru Can. Dros y saith mis diwethaf, mae’r Comisiynydd a’i dîm wedi cyfarfod â mwy na 1,400 o bobl ledled y wlad i lunio Ffocws Ein Dyfodol am y saith mlynedd nesaf. O ganlyniad, mae Mr Walker wedi gosod pum cenhadaeth i ddweud y gall Cymru defnyddio’r ddeddfwriaeth arloesol hon i arwain y ffordd wrth feddwl a gweithredu yn yr hirdymor. Dyma’r pump:

  • Gweithredu ac Effaith: Sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
  • Hinsawdd a Natur: Sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a natur gadarnhaol erbyn 2030, mewn ffordd sy’n lleihau anghydraddoldebau ac yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i bobl a chymunedau ledled Cymru.
  • Iechyd a Lles: Hwyluso trawsnewid y ffordd yr ydym yn cadw pobl yn iach, gyda mwy o ffocws ar atal a’r tymor hir, fel bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Diwylliant a’r Gymraeg: Atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol, fel bod cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwella gwead cymunedau a hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg.
  • Economi Llesiant: Helpu i drawsnewid Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf, gyda llywodraethau ar bob lefel, cymunedau a busnes yn gwneud i hyn ddigwydd.

Bydd Cytûn yn parhau i weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i helpu i wella llesiant holl bobl Cymru, gan bwysleisio llesiant Cristnogion a phobl grefyddol eraill, a’r cyfraniad y gall argyhoeddiadau ffydd ei wneud i wireddu’r nodau hyn.

NEWID GWYLIAU’R YSGOL – BETH AM Y PASG?

Mae Llywodraeth Cymru yn holi barn ar gynigion i ddiwygio dyddiadau tymhorau’r ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru fel bod y tri thymor yn fwy cyfartal o ran hyd. Dywed Llywodraeth Cymru, “Rydym am i’r calendr ysgol gyd-fynd yn well â bywyd yn yr 21ain ganrif a’n helpu i fynd i’r afael ag anfantais, lleihau anghydraddoldeb addysgol, a chefnogi llesiant dysgwyr a staff.”

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 21 Tachwedd 2023 a bydd ar agor tan 12 Chwefror 2024. Y newidiadau penodol a ystyrir yn yr ymgynghoriad, i’w gweithredu ym mlwyddyn ysgol 2025/26 yw:

  • Ymestyn gwyliau hanner tymor mis Hydref i bythefnos a chwtogi gwyliau’r haf gan 1 wythnos. Byddai hyn yn golygu na fyddai’r ysgolion ar wyliau yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.
  • Yr hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau’r gwanwyn â phenwythnos y Pasg. Byddai gwyliau cyhoeddus Gwener y Groglith a Llun y Pasg yn dal i fod (gan nad yw gosod gwyliau cyhoeddus wedi’i ddatganoli i Gymru). Byddai penwythnos gŵyl gyhoeddus y Pasg yn glanio y tu allan i’r gwyliau ysgol tua dwywaith bob deng mlynedd.

Yr ail awgrym fydd yn peri fwyaf o bryder i eglwysi. Ar y naill law, fe all olygu ambell flwyddyn na fydd ysgolion yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn gallu cynnal eu gweithgareddau arferol yn yr Wythnos Fawr am y bydd yr ysgolion ar gau. Ar y llall, fe all olygu mewn blynyddoedd eraill na fyddai modd i blant a’u teuluoedd fynychu gwyliau Cristnogol megis Spring Harvest neu Llanw a gynhelir yn yr wythnos yn dilyn Sul y Pasg, gan y byddai disgwyl iddynt fod yn yr ysgol. Fe fydd rhai hefyd yn gweld y newid yn arwydd o seciwlareiddio pellach ar ein cymdeithas.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio barn am newidiadau posibl pellach y gellid eu cyflwyno maes o law. Yn eu plith y mae ymestyn a/neu symud gwyliau hanner tymor mis Mai, gan gwtogi gwyliau’r haf wythnos o ganlyniad (gan olygu y byddai gwyliau’r haf yn bedair wythnos o hyd); a symud diwrnod canlyniadau’r arholiadau TGAU i’r un wythnos â diwrnod canlyniadau’r arholiadau Safon UG/Safon Uwch.

Gwyddom y bydd nifer o eglwysi ac unigolion am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae Cytûn eisoes wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru, a byddai’n gymorth mawr pe byddem yn gallu derbyn copi o unrhyw ymateb yr ydych yn ei ddanfon, i ni ddeall barn ein haelodau.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 29 2023. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Ionawr 31 2024.