Croesawyd cannoedd o blant, pobl ifanc ac oedolion i babell Cytûn : Eglwysi ynghyd yng Nghymru ar faes Eisteddfod yr Urdd  yn Llanymddyfri wythnos diwethaf.

 Mewn fideo byr mae cyd-drefnydd y babell ar ran Cytûn, y Parch Aled Davies o’r Cyngor Ysgolion Sul, yn sôn sut mae’r arlwy ar gyfer pobl ifanc ar ffurf gemau fel jenga a Connect 4, Lego a K’nex wedi diddanu a ddiddori plant gydol yr wythnos.

“Yn ogystal â’r cannoedd o blant a fu yn y babell yn ystod yr wythnos mae wedi bod yn braf cyd-weithio gyda Cymorth Cristnogol, A Rocha, Byddin yr Iachawdwriaeth, tîm Plant Dewi yr Eglwys yng Nghymru – Mae ‘na bob math o weithgareddau wedi bod yn digwydd.

“Ry’n ni hefyd wedi bod yn ffodus i gael gwirfoddolwyr o’r Eglwysi Lleol a gyda’r ysgolion Sul, sydd wedi bod yn arddangos eu gwaith yma trwy bosteri a lluniau lliwgar iawn o’r hyn sy’n digwydd yn lleol.

“Mae’r Eglwys wedi mynd yn guddiedig o gymdeithas, ac felly mae mor bwysig ein bod ni yma. Ry’m ni yn cael sgyrsiau pwysig, a sgyrsiau gydag arweinwyr eglwysig am bwysigrwydd ail-ddechrau gwaith gyda phlant wedi cyfnod y pandemig.

“Ond beth sy’n braf yn anad dim arall yw gweld teuluoedd yn dod i mewn i’r babell, ac yn derbyn croeso twymgalon oddi wrth yr Eglwysi  a gweld yr eglwysi ar eu gorau mewn gwirionedd, yn estyn croeso a gweld phabell llawn bwrlwm a lliw, sef yr hyn yw yr eglwys mewn gwirionedd.”

Bydd presenoldeb gan Cytûn yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru rhwng 24 a 27 Gorffennaf yn Llanelwedd, a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, Penrhyn Llŷn rhwng 5-12 Awst.

DIWEDD                                                                      08 Mehefin 2023