Cynhelir yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol eleni rhwng 18 a 25 Ionawr.

Mae yna adnoddau cynhwysfawr yn Gymraeg a Saesneg wedi eu paratoi gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon gyda’r deunyddiau rheini wedi eu llunio gan Gyngor Eglwysi Burkina Faso a rhai o enwadau eraill y wlad yng ngorllewin Affrica, gyda’r gwaith wedi ei gydlynu gan y gymuned Chemin Neuf leol.

Yn ogystal â myfyrdodau dyddiol, mae ‘na wasanaeth pwrpasol hefyd i’w ddefnyddio gyda chynulleidfa ehangach yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Siôn Brynach, Prif Weithredwr Cytûn:

“Y thema a ddewiswyd ar gyfer eleni gan eglwysi Burkina Faso ar gyfer y deunyddiau yma yw “Dos a gwna dithau yr un modd” sef cyfarwyddyd Iesu ar ddiwedd adrodd dameg y Samariad Trugarog. Yn eu cyflwyniad i’r deunyddiau, dywedant:

‘Wrth ddewis y darn hwn o’r Ysgrythur ar gyfer yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol, mae eglwysi Burkina Faso wedi ein gwahodd i ymuno â nhw mewn proses o hunan fyfyrio wrth iddynt ystyried beth mae’n ei olygu i garu ein cymydog yng nghanol argyfwng diogelwch. Er bod cymunedau ym Mhrydain ac Iwerddon mewn llai o berygl oddi wrth weithredoedd o drais torfol nag yw cymunedau Burkina Faso, eto mae llawer yma’n parhau i fyw gydag atgofion o drais difrifol a llawer yn profi bygwth hynny yng nghyd-destun hunaniaeth a pherthyn. Mae hefyd grwpiau o fewn cymunedau, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig a phobl sy’n ceisio lloches, sy’n teimlo’n arbennig o agored i drais neu gael eu dadleoli dan fygythiad trais.

‘Mae ein cymdogion yn Burkina Faso yn ein galw i gofleidio o’r newydd freuddwyd Duw ar ein cyfer – breuddwyd o undod ar sail rhwymau cariad a thosturi. Mae hyn yn ein herio nid yn unig i fyfyrio ar yr hyn rydym wedi ei ddysgu ar ein taith eciwmenaidd hyd yma, ond hefyd i ehangu ein gweledigaeth.’

“Bydded I’r deunyddiau hyn, ynghyd â’n myfyrdodau ni yn unigol ac yn dorfol, fod yn fodd I ni ystyried o’r newydd ystyr eciwmeniaeth, a sut y medrwn ni un unigol, ac fel cynulleidfaoedd led-led Cymru, gyfrannu tuag at undeb Cristnogol yn ystod 2024.”

Gellir lawr-lwytho’r deunyddiau ar gyfer yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol o ymweld â gwefan CTBI – https://ctbi.org.uk/week-of-prayer-for-christian-unity-2024/