SUL COFIO COVID?

Yn ystod mis Medi, fe gyhoeddwyd adroddiad terfynol Comisiwn y DU ar Goffáu Covid. O ddiddordeb arbennig i eglwysi fydd yr argymhelliad cyntaf, sef Dylid sefydlu diwrnod o fyfyrdod ledled y DU a’i gynnal yn flynyddol ar ddydd Sul cyntaf mis Mawrth. Y rheswm a gyflwynir am ddewis Sul yw fod llai o bobl yn y gwaith y diwrnod hwnnw, ac felly ar gael i fyfyrio a chofio. Mae’r adroddiad yn cydnabod y bydd y diwrnod hwn yn cyd-daro ar adegau â Dydd Gŵyl Ddewi neu Sul y Mamau, ac yn argymell y dylai’r Ymddiriedolaeth Coffáu Covid, yr argymhellir ei sefydlu, allu penderfynu newid y dyddiad coffáu i osgoi unrhyw wrthdaro.

Ymhlith yr argymhellion eraill mae nodi tua 10 o fannau gwyrdd ar draws y DU a sefydlu cofeb newydd ym mhob lleoliad yn fan myfyrio tawel lle gall pobl ymgynnull. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wrthi yn sefydlu tair coedlan goffa yng Nghymru, ar Ystâd Erddig, Wrecsam; yn Nyffryn Tywi; ac yng Nghwmfelinfach, Caerffili. Gellir gweld cerdd gyfareddol Ifor ap Glyn, Dod at ein Coed, yn nodi dechrau plannu’r coedlannau, yma.

Llun: PICRYL. Public Domain.

Argymhellir hefyd ariannu cofebau lleol, gwefan, hanesion llafar ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, ac ymchwil ar gyfer paratoi at risgiau’r dyfodol. Mae’n galw hefyd am sicrhau fod hanes y pandemig yn cael ei ddysgu mewn ysgolion a cholegau.

Fe fu Cytûn a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru yn cymryd rhan yng ngwaith y Comisiwn, ac mae nifer o’i argymhellion yn adlewyrchu ein mewnbwn ni. Nid yw’r llywodraethau eto wedi ymateb i’r argymhellion.

Yn y cyfamser, mae Ymchwiliad Covid-19 y DU, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Hallett, yn parhau gyda’i waith. Bydd gwrandawiadau Modiwl 2, am brif benderfyniadau Llywodraeth y DU a’u heffeithiau, yn dechrau clywed tystiolaeth lafar gyhoeddus ar Hydref 3. Bydd gwrandawiadau Modiwl 2B, am benderfyniadau Llywodraeth Cymru a’u heffeithiau, yn dilyn yn Chwefror/Mawrth 2024. Mae Cytûn a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru yn cydlynu cyflwyniad gan eglwysi a grwpiau ffydd eraill ar gyfer Modiwl 2B. Dylai unrhyw enwad neu rwydwaith, eglwys leol neu grŵp ffydd arall sydd am gyfrannu at y cyflwyniad hwn anfon mewnbwn at gethin@cytun.cymru mor fuan ag y bo modd, fel y gellir ei baratoi mewn da bryd ar gyfer yr Ymchwiliad.

Yn y cyfamser, mae Covid-19 yn parhau i gylchredeg yng Nghymru. Yr amrywiolyn diweddaraf i’w nodi yw BA.2.86. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf amdano. Dywedant fod y dystiolaeth gynnar yn awgrymu nad yw’r amrywiolyn diweddaraf yn fwy tebyg o achosi salwch difrifol na’r rhai blaenorol, a bod y brechlynnau yn effeithiol yn ei erbyn. Mae’n ymddangos fod profion llif unffordd (lateral flow tests) o hyd yn gweithio’n gywir gyda’r amrywiolyn newydd hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chyngor ar fesurau hylendid, awyru a mesurau diogelwch priodol eraill, ac anogir eglwysi i barhau i gymryd y camau a argymhellir ynddo wrth drefnu eu gweithgarwch, yn enwedig wrth i’r gaeaf agosáu. Fe fydd dilyn y camau hyn o gymorth hefyd i gadw mynychwyr yn ddiogel rhag afiechydon heintus eraill y gaeaf. Mae cynllun brechu’r gaeaf eisoes ar waith yng Nghymru ar gyfer pobl sy’n gymwys.

Llun: PICRYL. Public Domain.

GWEITHREDU AR NEWID HINSAWDD

Wythnos cyn i Brif Weinidog y DU fynegi gofid am effaith gweithredu ar yr hinsawdd ar bobl gyffredin, a newid rhai polisïau o ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddegawd o weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd chyrraedd sero net erbyn 2050.

Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru, Gweithredu ar Newid Hinsawdd Cymru, yw helpu pobl i ddeall pa gamau y gallan nhw eu cymryd i wneud newidiadau cadarnhaolyn yr hirdymor. Mae gwybodaeth ar y wefan am newid yn yr hinsawdd, y camau y gall pobl eu cymryd, a’r cymorth sydd ar gael.

Neges sylfaenol yr ymgyrch yw: Mae mwy na thair miliwn ohonom yng Nghymru. Ni all unrhyw un wneud popeth i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond gall pawb wneud rhywbeth.

Mae eglwysi eisoes yn rhan o weithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru:

  • Mae Cytûn yn rhan o glymblaid eang Climate Cymru, sydd wedi bod yn rhan o’r ymgynghori â Llywodraeth Cymru am sefydlu Gweithredu ar Newid Hinsawdd Cymru.
  • Mae cynllun EcoChurch, a lywir gan ARocha UK, sy’n aelod o Cytûn, yn annog eglwysi lleol i gofrestru ac anelu at gael eu gwobrwyo am eu hymdrechion o fewn eu hadeiladau, tir a chymdogaeth lleol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
  • Yng nghyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru fis Medi, fe gyhoeddodd Archesgob Cymru y bydd yn cynnull cynhadledd hinsawdd i Gymru gyfan yn yr hydref 2024.

O ran y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU, cafwyd ymatebion cryf gan rai o enwadau Cytûn yn gresynu at liniaru uchelgais y llywodraeth. Mewn datganiad ar y cyd gan yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, dywedant, Rydym yn gresynu bod Prif Weinidog y DU yn gohirio gweithredu polisïau i gyflawni sero net. … Ar adeg pan fo cymaint o bobl yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, mae gan y llywodraeth rôl hanfodol i’w chwarae i sicrhau nad yw cost y newid i sero net yn disgyn fwyaf ar y rhai lleiaf abl i’w fforddio. Effaith gwbl groes i hynny gaiff gohirio mesurau i insiwleiddio cartrefi, a bydd arafu ymdrechion i leihau’r defnydd o danwydd ffosil yn cynyddu difrod yr hinsawdd ar gymunedau bregus ledled y byd….
Roedd yr ymrwymiadau a wnaed yn COP26 yn allweddol o ran rhoi hyder i ddiwydiant, buddsoddwyr a chymdeithas sifil fod y DU o ddifrif am ymateb i her yr hinsawdd. Mae’n destun siom aruthrol y bydd cyhoeddiad y Prif Weinidog yn niweidio’r hyder hwnnw ac yn tanseilio ein hymdrechion ar y cyd. Fel gwlad, mae gennym ni gyfrifoldebau moesol a chyfreithiol i ddangos arweiniad wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd gyda’n gilydd.

Meddai Jennifer Larbie, Pennaeth Eiriolaeth ac Ymgyrchoedd y DU gyda Chymorth Cristnogol, sy’n aelod o Cytûn: Mae gosod terfynau amser yn ysgogi gweithredu a bydd eu gwthio yn ôl yn gweld y DU yn achosi mwy o loes i bobl sy’n dioddef gan y sychder enbyd yn Nwyrain Affrica neu’r stormydd marwol yn y Môr Tawel. Y DU yw’r 8fed uchaf yn y byd o ran allyriadau hanesyddol, sy’n golygu ein bod, fel gwlad, wedi cyfrannu mwy at yr argyfwng hinsawdd na’r mwyafrif. Trwy danseilio ein hymrwymiadau hinsawdd mae Sunak yn diystyru mewn ffordd waradwyddus y bobl fwyaf bregus yn y byd. Mae’n gam cwbl ddi-hid.

  • Cyhoeddodd yr Eglwys Gatholig y bydd y Pab yn cyhoeddi ail ran ei gylchlythyr Laudato Si’ am gyfrifoldeb Cristnogol tuag at Gread Duw ar ddiwedd Tymor y Cread 2023, Hydref 4.


Gellir archebu tocynnau ar gyfer dangosiad cyntaf y ffilm ddogfen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi 75 mlwyddiant dyfodiad y cyntaf o ‘genhedlaeth Windrush’ i ynysoedd Prydain yma. Dangosir y ffilm yn Cineworld Caerdydd ar Ddydd Sadwrn Hydref 7 am 1.30yp. Pris y tocynnau yw £5.

Mae llu o weithgareddau eraill yn dilyn yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, a gellir gweld y manylion ar wefan Race Council Cymru.

CAPLANIAETH MEWN CARCHARDAI

Rhoddodd yr Hybarch James Ridge, Caplan Cyffredinol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, sgwrs yng Nghynhadledd Ryngwladol Caplaniaid Carchardai (Ewrop) yn Llandudno ym mis Mehefin. Archwiliodd hanes ac arfer Caplaniaeth Carchardai yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei recordio ac mae bellach ar gael ar-lein trwy YouTube.

GOFAL YSBRYDOL A BUGEILIOL YN Y GWASANAETH IECHYD

Ym mis Awst, cyhoeddodd GIG Lloegr ganllawiau newydd ar gyfer rheolwyr y GIG ar ofal bugeiliol, ysbrydol a chrefyddol. Er nad yw’r canllawiau hyn yn weithredol yng Nghymru, byddant ymhlith y deunyddiau i’w hystyried yn adolygiad GIG Cymru o’i ganllawiau cyfatebol. Mae’r adolygiad hwn yn cael ei gynnal drwy SHaW (Iechyd a Lles Ysbrydol yn y GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru). Mae Cytûn a rhai grwpiau ffydd eraill yn cael eu cynrychioli ar SHaW, ynghyd â chaplaniaid gofal iechyd, cwrs Caplaniaeth Sefydliad Padarn Sant, a chyrff cyhoeddus a thrydydd sector perthnasol eraill. Bydd ymgynghoriad ag eglwysi a grwpiau ffydd eraill yn dilyn unwaith y bydd y canllawiau perthnasol o Loegr, yr Alban a mannau eraill wedi’u casglu a’u hastudio.

CANMLWYDDIANT APÊL ARLOESOL YR EGLWYSI AM HEDDWCH

Llun: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Ym 1923-4 fe aeth merched o Gymru ati i gasglu bron 400,000 o lofnodion yn apelio ar Lywodraeth Unol Daleithiau’r America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Mae dathliadau canmlwyddiant y gwaith anhygoel hwnnw eisoes ar waith, a gellir darllen mwy yma.

Roedd llawer o’r merched yn perthyn i gapeli neu eglwysi, a roedd llawer o ganghennau lleol Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn cyfarfod mewn addoldai. Yn sgîl trosglwyddo’r ddeiseb i’r UDA yn 1924, fe benderfynodd arweinyddion rhai o enwadau Cristnogol Cymru – gwryw oll – y dylent hwy ychwanegu eu llais at yr alwad. Bu gohebu rhyngddynt ac fe gytunwyd ar eiriad apêl cyffelyb, i’w ddanfon at Gyngor Ffederal Eglwysi Crist yn yr UDA – bellach Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Crist yr UDA, chwaer fudiad i Cytûn.

Gan nad oedd corff ecwmenaidd tebyg yng Nghymru ar y pryd (dim ond y capeli anghydffurfiol oedd yn perthyn i Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru), roedd y penderfyniad hwn i lunio apêl ar draws yr enwadau Protestannaidd Cristnogol yn arloesol. Fe arwyddwyd yr apêl gan ddau o esgobion yr Eglwys yng Nghymru – dim ond pum mlynedd ar ôl iddi gael ei datgysylltu, a dim ond wyth mlynedd wedi iddi fod yn cefnogi ymdrech gwledydd Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o Eglwys Loegr. Roeddent yn cyd-lofnodi gyda Chymdeithas y Cyfeillion (y Crynwyr), oedd wedi gwrthwynebu’r rhyfel gyda rhan helaethaf ei haelodau yn gwrthod gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Mae’r ohebiaeth rhwng yr arweinyddion a esgorodd ar yr apêl ar gael yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae Canolfan Cymru dros Faterion Rhyngwladol (WCIA), sy’n gyfrifol am y Deml Heddwch, yn awyddus i gydweithio gydag olynwyr yr enwadau a arwyddodd yr Apêl, a chydag holl eglwysi a mudiadau Cytûn, i ymchwilio ymhellach i’r hanes ac yna ei ddathlu yn 2025. Bydd yn ganmlwyddiant pwysig i’r mudiad heddwch ac i’r mudiad ecwmenaidd fel ei gilydd.

Nid dyna oedd diwedd yr hanes. Cafwyd deiseb gan weithwyr ym 1928, ac yna deiseb bellach gan yr eglwysi, yn galw am ddiarfogi, ym 1931. Gellir darllen mwy a gwylio fideo gyda Swyddog Polisi Cytûn yn sôn am yr hanes a’i arwyddocâd heddiw yma.

Lansio Gwasanaeth Caplaniaeth Newydd yn y Senedd

Ar ddydd Mercher 4ydd Hydref bydd y Gwasanaeth Caplaniaeth newydd yn cael ei lansio yn y Senedd. Y trefniadau caplaniaeth newydd yw’r rhai cyntaf o’u math mewn senedd genedlaethol ac maent yn flaengar, yn gynhwysol o ran rhywedd ac yn cynrychioli ffydd a chredoau pobl sy’n gweithio yn y Senedd.

Aelodau tîm newydd y gaplaniaeth yw: Y Parchg Ddr Stephen Adams (Cristnogol), Dr Laura Jones (Mwslim) a Mari Vaughan-Owen (Dyneiddwyr). Byddant yn gallu ceisio cymorth o grefyddau a chredoau eraill pan fo’n briodol.

Bydd y tîm ar gael i gynnig gofal bugeiliol a chymorth i Aelodau’r Senedd, eu staff cymorth a staff Comisiwn y Senedd. Mae lansio’r gwasanaeth caplaniaeth yn ganlyniad i waith sylweddol gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd yn y Senedd – y mae Cytûn a llawer o’n haelod eglwysi a sefydliadau yn ei fynychu’n rheolaidd – mewn partneriaeth â’r Llywydd a Chomisiwn y Senedd.

SUL DIGARTREFEDD HYDREF 8 2023

Mae aelod fudiad Cytûn, Housing Justice Cymru, yn cynnal Sul Digartrefedd yn flynyddol. Mae yna amrywiaeth eang o adnoddau ar gyfer y Sul ar gael yma. Gellir ei gynnal ar Sul Hydref 8, neu ar unrhyw Sul arall sy’n addas i’r eglwys leol.

Er bod rhan fwyaf y deunydd yn Saesneg, am y tro cyntaf eleni, lluniwyd gweddi yn Gymraeg gan Swyddog Polisi Cytûn, y Parch. Gethin Rhys:

Dduw trugarog,
fe ddywedodd dy fab Iesu Grist
“Y mae gan llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod,
ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” [Mathew 8.20, BCND]
Fe wyddost felly sut beth yw byw fel crwydryn heb wybod ble fyddi yn cysgu heno,
a rwyt yn cyd-deithio â phawb sydd yn byw heb loches parhaol,
yn cysgodi ar drugaredd ffrindiau, mewn llety dros dro, neu ar y strydoedd.
Yn dy drugaredd, felly, bendithia waith Housing Justice Cymru
a phawb sy’n gwirfoddoli i letya ffoadur,
i gefnogi pobl yn eu cartref sefydlog cyntaf trwy gynllun Citadel,
i fwydo’r newynog neu ofalu am y claf.
Nertha eglwysi Cymru i ymateb i anghenion ein cymdogion
a hynny heb farnu nac edliw,
ond gan efelychu dy awydd di i ddeall, i fendithio ac i nerthu.
A bydd gyda staff cyflogedig ac ymddiriedolwyr Housing Justice wrth iddynt lywio’r gwaith
a chyda phawb yn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy’n gweithio yn y maes hwn.
Yn enw Iesu y gofynnwn hyn, Amen.

Gellir gweld fideo o’r weddi yma.

DIWYGIO ETHOLIADAU A SENEDD CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r cyntaf o dri Bil i ddiwygio Senedd ac etholiadau Cymru. Byddai Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), o’i dderbyn gan y Senedd, yn cynyddu maint y Senedd o 2026 ymlaen i 96 aelod. Byddai’r etholiad nesaf yn 2026 yn cael ei gynnal trwy drefn cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestri caeëdig. Dyma’r drefn a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer seddi rhanbarthol Senedd Cymru, ac a ddefnyddiwyd ar gyfer etholiadau i’r Senedd Ewropeaidd nes i’r DU ymadael yn 2020. Yn ôl y drefn hon, byddai gan bob pleidleisiwr un bleidlais yn unig, a honno ar gyfer un rhestr bleidiol. Ni fyddai modd i bleidleiswyr ddewis rhwng yr enwau ar y rhestr, ac ni allent bleidleisio o blaid neu yn erbyn ymgeisydd unigol ar sail daliadau moesol neu rinweddau personol yr unigolyn hwnnw. Yr unig eithriad fyddai yn achos ymgeisyddion annibynnol, a allai gyflwyno eu hunain i’w hethol ar restr gydag un enw yn unig arni.

Yn ôl y Bil, yn ystod y seithfed Senedd (2026-30), byddai disgwyl i’r Senedd ystyried cynllun i ganiatáu i Aelodau o’r Senedd rannu’r swydd, a hefyd adolygu’r trefniadau newydd. Byddai’n caniatáu i faint Llywodraeth Cymru gynyddu i 17 gweinidog, gyda’r posibilrwydd o ehangu ymhellach yn y dyfodol, ac yn caniatáu ethol Dirprwy Lywydd ychwanegol gan y Senedd. Byddai tymor y Senedd, pum mlynedd ar hyn o bryd, yn cael ei gwtogi i bedair blynedd – sef yr hyn a fu’n weithredol tan 2011. Cynhelir ymgynghoriad ar y Bil gan bwyllgor seneddol tan 3 Tachwedd.

Yn ystod 2024-5 bydd dau Fil ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn yr un maes:

  • Ar Hydref 3, cyflwynir Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn newid peth o fecanwaith pob etholiad datganoledig (Senedd Cymru a llywodraeth leol) trwy ei gwneud hi’n haws i gofrestru i bleidleisio a phleidleisio trwy’r post, yn gwella hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio, ac yn cydgrynhoi’r clytwaith o ddeddfau sydd yn ymwneud â’r meysydd hyn.
  • Bil Cwotâu Rhywedd, a fyddai’n gorfodi i’r rhestri ymgeisyddion ar gyfer Senedd Cymru gynnwys ymgeisydd gwryw a benyw bob yn ail, er mwyn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Senedd.

PYTIAU POLISI

Nyrsio Plwyf yng Nghymru

Mae Parish Nursing UK, un o aelod-fudiadau Cytûn, yn cynnal sesiwn Archwilio Ar-lein i Gymru ar 1 Tachwedd am 10am neu 7pm i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am Nyrsio Plwyf a pha effaith y mae’n ei chael ar gymunedau ledled y DU. Gobeithiwn y bydd yn llwyfan gwych ar gyfer casglu gwybodaeth a rhannu ymhlith eglwysi ledled Cymru am yr heriau a wynebir mewn eglwysi a chymunedau a sut y gallai Nyrsio Plwyf fod yn rhan o’r cyd-destun lleol.

Awr yn unig yw pob sesiwn, a maent yn rhad ac am ddim. I archebu eich lle, cysylltwch ag enquiries@parishnursing.org.uk . I ddarllen mwy am nyrsio plwyf ewch i www.parishnursing.org.uk

Sgyrsiau gyda’r Cyhoedd am Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yng ngoleuni’r heriau a wynebir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Comisiwn Bevan yn cynnal cyfres o sgyrsiau cyhoeddus ym mhob ardal Bwrdd Iechyd Cymru, a gefnogir gan Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG a Llais, y corff newydd sy’n rhoi llais i ddinasyddion am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd cyfarfod ar-lein hefyd. Yn ystod y digwyddiadau hyn, bydd cyfle i siarad am yr heriau y mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a thrafod sut y gellid gwella a chynnal pethau yn y dyfodol.

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad anffurfiol a rhyngweithiol hwn, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Darperir lluniaeth. Gweler amserlen lawn gyda dolenni i archebu a mwy o wybodaeth yn https://www.bevancommission.org/programmes/a-conversation-with-the-public/

Mudwyr yn Ewrop

Gyda mudo yn dod yn bwnc trafod cyhoeddus mwyfwy amlwg a gwenwynig, mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn trafod gyda Chomisiwn yr Eglwysi ar Fudwyr yn Ewrop (CCME), corff eciwmenaidd a sefydlwyd ym 1964 i gefnogi gwaith eglwysi ledled Ewrop, cefnogi mudwyr a siarad â’r rhai sydd mewn grym am bolisïau mudo. Mae llawer o waith y Comisiwn yn canolbwyntio ar bolisi ymfudo yn yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft trwy gyhoeddi yn ystod mis Medi ddatganiad ar y cytundeb mudo rhwng yr UE a Tunisia.

Gyda pholisi mudo’r DU bellach yn annibynnol ar bolisi’r UE, a Chymru’n dyheu am fod yn Genedl Noddfa (gweler https://sanctuary.gov.wales/cy) , mae Cytûn yn credu bod gan eglwysi yng Nghymru gyfraniad pwysig i’w wneud i’r drafodaeth hon nid yn unig yn y DU ond ledled Ewrop. Mae’r Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn aelodau o CCME, felly hefyd Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI) a Chyngor yr Eglwysi Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd. Mae Cytûn yn aelod a gobeithiwn ddefnyddio ein haelodaeth yn ystod y misoedd nesaf i wella cyfathrebu y naill ffordd a’r llall rhwng CCME a’r holl eglwysi a sefydliadau sy’n aelodau o Cytûn, ac i helpu CCME i ymgysylltu â pholisi mudo’r DU a’i effeithiau mewn mannau eraill yn Ewrop.

Cyfarfod cyhoeddus: ‘Hunanladdiad â chymorth: Sut beth yw ymateb tosturiol?’

Siaradwr: Y Farwnes Finlay o Landaf, aelod o Dŷ’r Arglwyddi, Athro Anrhydeddus Meddygaeth Liniarol, Prifysgol Caerdydd. Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023, 12:00 pm – 1:30pm, Ystafell Gynadledda C & D, Tŷ Hywel, ger Senedd Cymru. Darperir cinio. Noddir gan Darren Millar AS 
Ymateb: Rupert Evans (Rheolwr Materion Cyhoeddus, Right to Life UK) Rupert@righttolife.org.uk

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru   
www.cytun.co.uk        @CytunNew facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Medi 28 2023. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Dachwedd 30 2023.