Mrs Sasha Perriam BA | Gweinyddwraig Ddwyieithog y Prif Weithredwr
03300169860
Cafodd Sasha ei magu yn y Groesfaen. Dysgodd hi Gymraeg fel ail hiaith ac astudiodd cwrs ôl-raddedig yn y Gymraeg ac Is-deitlo ym Mhrifysgol Llambed. Ymunodd â Cytûn yn 2003. Cyn gweithio i Cytûn, bu Sasha’n byw yn Bourges, Ffrainc – yn gweithio ar brosiectau cymunedol a chymdeithasol. Bu’n dysgu Saesneg i fyfyrwyr Ffrengig hefyd a mae hi wedi cyflawni cwrs TEFL. Bu’n gweithio yn Swyddfa’r Eglwys yng Nghymru, Swyddfa’r Prif Weithredwr y Blaid Lafur yng Nghymru. Bu hefyd yn gweithio i gwmni Gerald Eve, yn Swyddfa’r Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ac yn yr Academi Gymreig cyn ymrwymo i’r swydd yn Cytûn. Mae Sasha yn mwynhau cerddoriaeth, nofio, ffilmiau a rhedeg.