Mai 10
Mynychu Cynhadledd Rhyng Ffydd Cymru – Reforming World Views – – Perspectives on One Humanity, Morality and Home -wedi ei drefnu gan yr Onyx Link Foundation. Roedd yn gynhadledd ddiwrnod cyfan gydag wyth o siaradwyr amrywiol yn cyflwyno safbwyntiau/profiadau/storiau o gefndir eu crefydd hwy. Roedd yn ddiwrnod diddorol ac addysgol gyda’r pwyslais amlwg iawn bod mwy yn gyffredin rhwng y crefyddau nag sy’n wahanol. Roedd Prif Weinidog Cymru wedi gyrru neges o gymeradwyaeth i’r diwrnod ac roedd Pennaeth Cydraddoldeb, Llywodaraeth Cyrmru a rhai o’i staff yn bresennol.
Mai 24
Cyfarfod o’n Cyngor. Roedd cynrychiolaeth dda yn bresennol i ddiwrnod oedd gyda Agenda lawn iawn. Cafwyd cyflwyniad am Addysg Grefyddol yn Y Cwricwlwm newydd sy dan drafodaeth. (Adroddiad wedi ei yrru i’r Enwadau a’r Wasg). Cyflwynwyd adroddiadau am Hyfforddiant Diwinyddol ac mae awydd am fwy o wybodaeth eto ac hefyd Adroddiadau Gethin Rhys fel Swyddog Polisi Cytûn. Cafwyd cyflwyniad gan Wynford Ellis Owen am waith Cynnal -y gwasanaeth Cwnsela newydd ar gyfer clerigwyr o bob enwad a’u teuluoedd. Yn dilyn ymholiadau daeth Y Parch Debbie Hodge, Ysgrifennydd Caplaniaeth Grŵp Eglwysi Rhyddion Prydain i esbonio y sefyllfa gyfredol gan fod newidiadau mawr wedi digwydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Eto mae hwn yn faes y bydd CERC yn parhau i’w ystyried. Roedd gan Vaughan Salisbury restr sylweddol o Faterion Addysg i’w cyflwyno a chafwyd trafodaeth gychwynnol ar rai materion fydd yn cael sylw manwl yn y dyfodol ar ôl ymgynghori gydag unigolion ac Enwadau. Cafwyd yr Adroddiadau arferol gan yr Enwadau a chan Y Trysorydd a’r Parch Paul Rochester, Llundain. Cytunwyd i newid y cyfansoddiad er mwyn enwebu hyd at ddau o’r De a dau o’r Gogledd i fod yn aelodau gan fod y ddwy Adran wedi dod i ben. Nodwyd y bydd Medalau Gee yn cael eu cyflwyno yn y Gogledd eleni ac yn y De a’r Gogledd yn 2019. Gyrrwyd neges i ddymuno yn dda i’r Parch Geraint Tudur ar ei ymddeoliad ac i longyfarch Y Parch Dyfrig Rees a apwyntiwyd i’w olynu. (Gellir cael copi llawn o’r Cofnodon drwy gyfrwng e bost gan Helen Jones, Ysgrifennydd CERC – rhys.helen.jones@btinternet.com)
Meh 6
Cyfarfod lluosog o Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd yn Y Senedd. Y pwnc oedd Materion Trawsryweddol:Safbwyntiau Crefyddol. Cafwyd agoriad grymus gan Yr Esgob Gregory Cameron a osodd ei safbwynt yn glir gydag argyhoeddiad. Dywedodd nad oes unrhyw ddysgeidiaeth Beiblaidd ar y Trawsryweddol a chyfeiriodd at ddyfyniadau Beiblaidd a’r gwahanol ddeghongliadau a roddir iddynt. Nododd enghreifftiau o’i brofiad personol yn delio gyda’r Trawsryweddol. Yn y pen draw roedd yn rhaid i Gristion dderbyn bod dysgeidiaeth Iesu yn dangos bod pob unigolyn yn haeddu cariad Duw. Cafwyd trafodaeth ddofn ac ystyrlon. Pwysleiswyd na ddylai’r eglwys fod yn ddyfarniadol ar y mater yma a bod angen ystyried pob achos unigol a’r modd y maent yn dod at Dduw.
Meh 11-12
Mynychu Cynhadledd Flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru yn Nant Gwrtheyrn. Cael y cyfle, wrth gyfarch ar ran y gwesteion, i gydnabod a diolch am gyfraniad y Bedyddwyr i CERC dros y blynyddoedd. Gwerthfawrogi’n fawr cael cynryd rhan yng Oedfa Sefydlu Aled Davies fel Llywydd UBC am 2018-19. Roedd Rhaglen gyflawn a diddorol iawn dros y tridiau. Traddodwyd Darlith Goffa Lewis Valentine yn afaelgar gan Pryderi Llwyd Jones. Cafwyd nifer o sgyrsiau anffurfiol diddorol gydag unigolion a myfyrdod boreol effeithiol gan Rob Nicholls.Cafwyd nifer o gyflwyniadau hynod o ddiddorol am waith cenhadol a chyfleodd mewn gwahanol feysydd. Roedd llawer mwy ond nid oeddwn yn dyst i’r rheini!
Gorff 9-11
Mynychu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Wrecsam – dan wahoddiad. Cyd gerdded yng ngorymdaith Y Llywydd wrth i’r Parch Brian Huw Jones drosglwyddo’r Lywyddiaeth i’r Parch Brian Matthews. Cafwyd llu o adroddiadau, cyflwyniadau a darlithoedd ynghyd ag oedfaon bendithiol. Ymhlith y cyflwyniadau mwyaf cofiadwy a bendithiol oedd un Y Parchg. Ddr Robert Cunville o Eglwys Bresbyteraidd India a siaradodd am ei brofiadau a’i wasanaeth gyda Y Parch Billy Graham am flynyddoedd.
Gorff 13
Cyfarfod o Gyngor Rhyng Ffydd Cymru. Trawsdoriad da o gynrychiolwyr y gwahanol grefyddau a phawb yn cyfrannu yn agored. Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion o Lywodraeth Cymru am Fesur fydd yn cynnig dileu yr amddiffyniad o gosb resymol i blant.
Awst 11
Helen Jones (Ysgrifennydd CERC) a minnau yn cynnal yr Oedfa foreol ar stondin CYTUN yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Rheinallt A Thomas, Llywydd, Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru Gwelfor, 65 Lacuna Windsor Esplanade, CAERDYDD, CF10 5BG e bost: rheinallt@talktalk.net