Mae Prif Weithredwr Cytûn, Siôn Brynach, wedi cyhoeddi y bydd yn ymadael â’r swydd honno ar ddiwedd mis Ebrill 2024.
Bydd yn symud i fod yn offeiriad llawn amser gyda’r Eglwys yng Nghymru fel ficer yn ardal weinidogaeth gorllewin Caerdydd.
Gan siarad heddiw dywedodd Siôn:
“Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser bod yn Brif Weithredwr Cytûn ers Ebrill 2023, a byddaf yn edrych yn ôl ar y tri mis ar ddeg yn y swydd fel cyfnod cyffrous ac adeiladol. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gadael gwaddol adeiladol o fod wedi holi cwestiynau heriol i aelod-eglwysi Cytûn trwy’r ddarlith a draddodais ym mis Awst 2023, a thrwy’r cyfarfod rhwng arweinwyr eglwysig Cymru ac ymddiriedolwyr Cytûn ym mis Hydref 2023.
“Mae adroddiad y cyfarfod hwnnw ar fin cael ei gyhoeddi ar wefan Cytûn ac rwy’n annog pob enwad yng Nghymru i ddarllen hwnnw a myfyrio o’r newydd ar y ffyrdd y medrant gyfrannu at y “tymor newydd o eciwmeniaeth” y cyfeiriodd yr arweinwyr eglwysig ato yn eu cyfarfod ym mis Hydref.
Gan ymateb dywedodd Cadeirydd Cytûn, y Parch Jennie Hurd:
“Roedd hi’n ddrwg gen i glywed am benderfyniad Siôn i ymadael â swydd y Prif Weithredwr, ond rwy’n hynod ddiolchgar iddo am ei holl waith hyd yma, ac yn edrych ymlaen at yr hyn y bydd yn ei gyflawni hefyd dros y misoedd cyn ei ymadawiad. Rwyf wedi mawr werthfawrogi cydweithrediad Siôn yn y swydd ac yn dymuno pob bendith iddo wrth iddo gychwyn ar gam nesaf ei weinidogaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru. Gwn y bydd ei ddycnwch dros eciwmeniaeth yn parhau.”
DIWEDD Sul 21 Ionawr 2024
Nodiadau i olygyddion:
Cyn dechrau fel Prif Weithredwr Cytûn ar ddechrau Ebrill 2023 treuliodd Siôn:
- 5 mlynedd fel Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru.
- Treuliodd dros ddegawd yn gweithio i’r BBC rhwng 2006 a 2017
- Bu’n gweithio fel Swyddog y Wasg i’r Archesgob ac Arweinydd Tîm Cyfathrebu’r Eglwys yng Nghymru rhwng 2000 a 2006
- Rhwng 2017 a 2018 bu’n Brif Weithredwr ar yr elusen Hanfod Cymru.
- Rhwng 1996 a 2000 bu’n Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus gyda Nwy Prydain.