Aled a Delyth Wyn Davies – trefnyddion digwyddiadau tystiolaeth cenedlaethol Cytûn
Mae Aled a Delyth yn gweithio i Cytûn ar gytundeb llawrydd ers 2022, yn trefnu’r ‘dystiolaeth Gristnogol’ yn y digwyddiadau cenedlaethol, sef Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r ddau ohonynt wedi bod yn rhan o’r dystiolaeth honno ers dros 30 mlynedd, gyda Delyth yn gweithio i Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr a’r Eglwys Fethodistaidd yn ei thro, ac Aled trwy ei waith gyda Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair. Maent yn byw yn Chwilog, Eifionydd, ac mae Aled hefyd yn weinidog bro yno ers 1992. Mae gwreiddiau Delyth yn Llandudno, ac Aled yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, ond trwy eu gwaith gyda’r digwyddiadau cenedlaethol maent wedi dod i adnabod Cristnogion ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn. Maent yn angerddol am gael gweld Cristnogion ac enwadau yn cydweithio, yn lleol ac yn genedlaethol i hyrwyddo ffydd.
Ebost uniongyrchol: aled@ysgolsul.com
Darllenwch fwy am ein gwaith yn y tri digwyddiad cenedlaethol ar y tudalennau priodol: