Wrth i’n cenedl wynebu her digynsail pandemig coronafeirws, mae Cytun (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) ar y cyd ag Eglwysi ynghyd yn Lloegr (CTE) yn annog Cristnogion ar draws ein dwy genedl i barhau i uno mewn gweddi, gan weddïo #GweddïauGobaith #PrayersOfHope yn eu cartrefi am 7 bob nos Sul.
Yn dilyn yr ymateb anhygoel i’r Alwad Genedlaethol i Weddïo a Gweithredu ar Sul y Mamau, mae Cytûn wedi paratoi poster cannwyll ar gyfer y sawl hoffai osod symbol parhaol yn eu ffenestri o oleuni Crist yn llewyrchu yn y tywyllwch. Mae yna fersiynau du a gwqyn a lliw o’r poster, a phoster y gellir ei liwio gartref. Bydd y posteri hyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Cytûn www.cytun.co.uk cyn bo hir, ac fe’u hatodir i chi nawr. Croesewir pob cyhoeddusrwydd a’u cynnwys ar eich gwefannau chi.
Darperir y poster hwn am ein bod yn ymwybodol o’r perygl tân a achosir gan canhwyllau byw, yn enwedig ar sil y ffenest. Rydym yn awyddus osgoi unrhyw bwysau ar ein gwasanaethau argyfwng ar yr adeg anodd hwn.
‘Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.’ Ioan 1:5 (Beibl.net)
Posteri i’w llawrlwytho:
“Gweddïo drosoch chi, gweddïo dros bawb”
“Rydym yn Gweddïo”