Aeth blwyddyn heibio ers y Digwyddiadur blaenorol ac wrth gwrs ychydig iawn o ddigwyddiadau arwyddocaol sy wedi bod ers Ebrill 2020 am resymau amlwg.
Cytunodd Y Parch SimonWalkling (fy Olynydd fel Llywydd)i weithredu ar weithgor Llywodraeth Cymru ar faterion “addoli ac addoldai” gan fy mod yn credu ei fod yn llawer mwy ymwybodol na mi am yr agweddau ymarferol a diolchaf iddo am hyn. Fel arall parheais i gynrychioli yn ôl yr angen a nodaf isod y cyfarfodydd a fynychais o Mai 2020 hyd at yn awr.
Mai 7 Cymerais ran eto mewn dau gyfarfod “Zoom” a drefnwyd gan CTBI (Eglwysi ynghyd ym Mhrydain). Yng nghyfarfod y bore, a fynychwyd gan 26 “Uwch Arweinwyr Eglwysig”, bu i ni i gyd gyfrannu am ein sefyllfaoedd amrywiol yn y pedair gwlad a’r cyswllt gyda’r llywodraethau a thrafodwyd oblygiadau ymarferol Covid19 ar waith yr eglwysi.
Mehefin 3 Mynychu Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng “Teams”. Prif faterion: Agor Addoldai; Deddf Addysg; Priodasau ac Angladdau; Sul Y Cofio; Cyfiawnder Hiliol; Penalun.
Mehefin 26 Mynychu Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng “Teams” Prif faterion:
Addoldai; Deddf Addysg; Penalun; Srebrenica; Profi ac Olrhain; Hawliau Dynol.
Awst 4 Cynrychiolwyd CERC yng Ngwasanaeth Diwrnod VJ Day a deledwyd o Gadeirlan Llandâf gan Helen.
Hydref 1 Mynychu Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng “Teams”. Prif faterion:
Deddf Addysg; Agor Addoldai; Cyfiawnder Hiliol.
Tachwedd 8 Cynrychiolwyd CERC gan Helen yng Ngwasanaeth Cenedlaethol Y Cofio gynhaliwyd yn y Gofeb Genedlaethol ym Mharc Cathays a chyflwynodd ddarlleniad o’r Ysgrythur.
Rhagfyr 1 Gyrrais Gyfarchion Nadolig 2020 at aelodau Y Cyngor ac i’r “Pedair Tudalen” oedd yn diweddaru y sefyllfa yn gyffredinol.
Ionawr 20 Mynychu Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng “Teams”. Prif faterion:
Diweddariad Grŵp Seremonïau ; Rhaglen frechu – pob ffydd yn ei gefnogi; Aelodaeth y Fforwm – ychwanegu Eglwysi arweinir gan pobl Ddu.
Chwefror 24 Mynychu , trwy gyfrwng “zoom”, Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd Cafwyd cyflwyniad gan Claire Walker, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol ar yr Adroddiad “House of God” Gwerth Economadd a Chymdeithasol Eglwysi’r DU. Cyfeiriodd bod dros £500mil o grantiau wedi eu rhoi i eglwysi Cymru yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Manylion ar we fan National Churches Trust.
Mawrth 3 Mynychu Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng “Teams”. Prif faterion:
Cyfrifiad 2021; Diweddariad ar y pandemig; Rhaglen frechu; Diweddariad Grŵp Seremonïau.
Ebrill 2 Cael fy ngwahodd gan Olygyddion Cenn@d i gyfarch aelodau’r Eglwysi Rhyddion yng Nghymru ar drothwy’r Pasg. Ysgrifennais erthygl oedd yn gorffen gyda’r paragraff a ganlyn: “Mae cyfle gwych i ni ddod at ein gilydd fel enwadau i gydaddoli, i ddefnyddio ein hadnoddau dynol a’n hadeiladau yn llawer mwy effeithiol ar y cyd. Beth am werthu pob capel ond un mewn gofalaeth/cylch a chael hwnnw ar gyfer yr ardal, a newid y gweddill yn fflatiau/tai ar gyfer eu gosod/gwerthu i bobl ifanc y cylch? Mae llawer o bosibiliadau. Ewch ati yn llawn gobaith i feddwl ac i drefnu.”Ni allaf feddwl am eiriau gwell ychwaith i orffen fy Nigwyddiadur olaf fel Llywydd gan hyderu y bydd yn dwyn ffrwyth. Hoffwn ddymuno pob bendith ar waith Y Cyngor i’r dyfodol gan fynegi fy niolch diffuant am y fraint a roddwyd i mi i weithredu fel Llywydd.
Rheinallt A Thomas, Llywydd