Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol

Brodor o Aberystwyth yw Cynan ond bellach mae’n byw yn Grangetown yng Nghaerdydd gyda’i wraig Rachel a’u dau mab. Mae’n ddiacon yn Eglwys Ebeneser Caerdydd (Annibynwyr) ac yn un o arweinwyr Angor Grangetown, sy’n un o fentrau arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddo MPhil o Brifysgol Aberystwyth a PhD o Brifysgol Caerdydd ble ymchwiliodd i fewn i Athrawiaeth yr Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant yng ngwaith rhai o’r Piwritaniaid Cymreig a’u goblygiadau cymdeithasol yng Nghymru. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ag eglwysi ac elusennau yng Nghymru. Bu’n gweithio fel cynorthwy-ydd bugeiliol yn eglwysi San Mihangel a’r Santes Fair, Aberystwyth cyn cael ei benodi’n Swyddog Plant a Phobl Ifanc Llenyddiaeth Cymru. Mae wedi gweithio i Cymorth Cristnogol fel Cydlynydd Rhanbarthol De Cymru ac yna’n Bennaeth Dros Dro ac wedyn fel Pennaeth Tearfund Cymru, cyn dechrau ar ei swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cytun yng Ngorffennaf 2024. Mae hefyd yn awdur, ac mae Gwasg Y Lolfa wedi cyhoeddi dwy nofel o’i eiddo i bobl ifanc ac mae’i drydedd nofel ar fin ei chyhoeddi gan Llyfrau Broga.

Ebost uniongyrchol: cynan@cytun.cymru

Iestyn Davies, Swyddog Polisi

Mae Iestyn Davies yn arweinydd profiadol gyda chefndir cyfoethog mewn polisi a materion cyhoeddus, yn fwyaf arbennig ym myd addysg a busnes, ond hefyd ym maes iechyd. Gwasanaethodd fel Prif Swyddog Gweithredol ColegauCymru, gan eiriol dros golegau addysg bellach yng Nghymru, ac arweiniodd Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru, gan gefnogi mentrau bach. Fel Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), datblygodd fentrau academaidd ac ymgysylltiad cymunedol. Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful ac wedi’i eni a’i fagu yn rhengoedd Byddin yr Iachawdwriaeth, mae Iestyn yn hyrwyddwr brwd dros eciwmeniaeth ac adeiladu a chryfhau perthnasoedd rhwng cymunedau ffydd amrywiol Cymru, ac yn arbennig, yn eu cyfraniad yn y byd cyhoeddus. Ymunodd a staff Cytun ym mis Mawrth 2025.

Ebost uniongyrchol: iestyn@cytun.cymru

Sasha Perriam, Gweinyddwraig a Chynorthwy-ydd Personol yr Ysgrifennydd Cyffredinol

Cafodd Sasha ei magu yn y Groesfaen. Dysgodd hi Gymraeg fel ail iaith ac astudiodd cwrs ôl-raddedig yn y Gymraeg ac Is-deitlo ym Mhrifysgol Llambed. Ymunodd â Cytûn yn 2003. Cyn gweithio i Cytûn, bu Sasha’n byw yn Bourges, Ffrainc – yn gweithio ar brosiectau cymunedol a chymdeithasol. Bu’n dysgu Saesneg i fyfyrwyr Ffrengig hefyd a mae hi wedi cyflawni cwrs TEFL. Bu’n gweithio yn Swyddfa’r Eglwys yng Nghymru a Swyddfa Prif Weithredwr y Blaid Lafur yng Nghymru. Bu hefyd yn gweithio i gwmni Gerald Eve, yn Swyddfa Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ac yn yr Academi Gymreig cyn ymgymryd a’r swydd yn Cytûn yn 2003.  Mae Sasha yn mwynhau cerddoriaeth, nofio, ffilmiau a rhedeg.

Ebost: post@cytun.cymru
Ffon y swyddfa: 03300 169860