GWYLIAU’R PASG DAN FYGYTHIAD?

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS, wedi cyhoeddi ei fod am barhau i ymgynghori am newid patrwm gwyliau ysgol yng Nghymru – er i adroddiad gan gwmni ymchwil a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ddangos fod mwyafrif y bobl y buont yn siarad â nhw, yn blant ac yn oedolion, y tu mewn a thu hwnt i’r system addysg, yn lled fodlon ar y drefn bresennol.

Dywed Mr Miles ei fod yn credu y gallai ystyried yn fanwl dosbarthu gwyliau ysgol yn fwy cyfartal o gylch y flwyddyn, a lleihau rhywfaint ar y gwyliau hir yn yr haf, ein galluogi i gefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu’r cwricwlwm, mynd i’r afael ag anfantais ac anghydraddoldebau addysgol, a chefnogi lles dysgwyr a staff.

Bu Cytûn a nifer o gyrff crefyddol eraill yn cyfrannu i’r gwaith ymchwil, ac fe grybwyllir ein tystiolaeth yn yr adroddiad. Mae llawer o bryderon ymhlith yr eglwysi ynghylch y syniad o drefnu gwyliau’r gwanwyn yn annibynnol ar ddyddiad y Pasg Cristnogol, er mwyn cysoni hyd y tymhorau ysgol (er nad oes gan Senedd Cymru y gallu i ddileu’r gwyliau banc ar Wener y Groglith na Llun y Pasg, a fyddai’n parhau hyd yn oed pe byddent yn syrthio yn ystod y tymor). Byddai rhai ysgolion yn croesawu gallu dysgu am y Pasg yn ystod y tymor ei hun, yn yr un modd ag y gwneir gyda gŵyliau crefyddau eraill. Ar y llaw arall, byddai eglwysi yn colli’r cyfle i gyflwyno hanes y Pasg trwy glybiau gwyliau, a byddai teuluoedd Cristnogol yn colli’r cyfle i fynychu’r amryw ŵyliau Cristnogol a gynhelir yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain yr wythnos cyn ac ar ôl Sul y Pasg. Nid oes unrhyw sôn am fwriad i newid y gwyliau ysgol ar draws y ffin yn Lloegr.

Disgwylir ymgynghoriad ffurfiol yn ystod y flwyddyn academaidd 2022-23, a bydd Cytûn yn croesawu clywed barn aelodau am hyn er mwyn ymateb yn ffurfiol ar eich rhan.

NEWIDIADAU I GYFRAITH PRIODAS?

Llun: Canva

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi cyhoeddi adroddiad swmpus yn argymell newid y drefn gyfreithiol ar gyfer priodasau yng Nghymru a Lloegr. (Er i’r ddogfen ymgynghori gael ei chyhoeddi yn Gymraeg, hyd yma yn Saesneg yn unig y cyhoeddwyd yr adroddiad).

Ymhlith yr argymhellion mae:

  • Cydnabod y sawl sy’n gweinyddu priodas, yn lle’r drefn bresennol o gofrestru adeiladau pwrpasol.
  • Gallai’r gweinyddwyr priodas hyn fod yn gynrychiolwyr enwadau neu gymunedau crefyddol, neu yn unigolion wedi eu hyfforddi a’u cymeradwyo gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO).
  • Byddai offeiriad Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn weinyddwyr priodas yn rhinwedd eu swyddi; byddai enwadau eraill yn penderfynu ar eu trefn eu hunain.
  • Byddai rhaid i’r gweinydd fod yn bresennol yn y seremoni, ond gallai’r cyfan neu ran o’r ddefod gael ei harwain gan rywun neu rywrai eraill. Byddai hyn yn caniatáu cynnwys elfennau o fwy nag un grefydd yn yr un gwasanaeth, a chynnwys elfennau crefyddol (megis emyn neu weddi) mewn priodas sifil – rhywbeth nad yw’n bosibl ei wneud ar hyn o bryd.
  • Gellid cynnal priodasau gan weinydd crefyddol neu annibynnol mewn unrhyw fan lle gellid cynnal y seremoni mewn ffordd urddasol, dan do neu yn yr awyr agored, neu ar fwrdd llong.
  • Os yw Llywodraeth y DU yn caniatáu, gallai mudiadau cred anghrefyddol (megis Dyneiddwyr) aprofi gweinyddwyr priodas yn yr un modd ag y mae enwadau crefyddol yn gwneud.

Mater i Lywodraeth San Steffan fydd ystyried sut – os o gwbl – i weithredu’r argymhellion hyn. Bydd Cytûn yn cadw golwg ar y sefyllfa wrth iddi ddatblygu.

RHAGLEN DDEDDFWRIAETHOL LLYWODRAETH CYMRU

Ar Orffennaf 5, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn seneddol 2022-23. Yn y datganiad ac wrth ateb cwestiynau, fe roddodd hefyd ragflas o ddeddfau’r blynyddoedd i ddilyn.

Bydd prif ddeddfau 2022-23 yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol:

  • Bil i atal neu cyfyngu ar werthiant rhai mathau o blastig untro yng Nghymru. Bydd hwn hefyd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru herio Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020, gan y gallai honno awdurdodi parhau i werthu’r plastigau hyn yng Nghymru cyhyd ag y bônt ar gael yn gyfreithlon yn Lloegr.
  • Bil Aer Glân.
  • Bil Amaeth i weithredu’r argymhellion ar gyfer cynllun newydd i dalu ffermwyr yn bennaf yn ôl eu gwaith amgylcheddol o 2025. Lansiwyd cynigion bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf.
  • Bil ar ddiogelwch tomennydd glo, yn seiliedig ar adroddiad Comisiwn y Gyfraith, Rheoleiddio tomennydd glo yng Nghymru.
  • Bil Cydsynio Seilwaith i symleiddio’r broses o roi caniatâd cynllunio a rheoleiddiol ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol, megis ffermydd gwynt, cynlluniau trafnidiaeth, ac ati.

Yn ystod 2023-24 disgwylir cyflwyno’r Biliau ychwanegol canlynol:

  • Bil i ddiwygio’r Senedd trwy gynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96 a chyflwyno trefn bleidleisio newydd ar sail rhestri pleidiol, gan ganiatáu i bleidleiswyr fwrw pleidlais dros un blaid yn unig, heb allu dewis rhwng ymgeisyddion unigol. Bydd hwn yn seiliedig ar adroddiad pwyllgor Senedd Cymru ar y mater.
  • Bil i roi mwy o rym i awdurdodau lleol i reoleiddio bysiau.
  • Bil Cyllid Llywodraeth Leol, i ddiwygio’r dreth gyngor (ond heb ei dileu) a rhoi’r hawl i awdurdodau lleol gyflwyno trethi twristiaeth lleol.
  • Bil arall i ddiwygio Trethi Annomestig Lleol.
  • Bil i gyflwyno trefn newydd o reoleiddio’r amgylchedd yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Senedd Cymru hefyd yn trafod is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i weithredu deddfau a basiwyd eisoes, ac yn trafod p’un ai i gydsynio â biliau San Steffan sy’n cyffwrdd â materion datganoledig.

DEDDFAU AR Y GWEILL YN SAN STEFFAN

Wrth gyhoeddi’r Bwletin hwn, mae peth ansicrwydd ynghylch hynt rhai o’r biliau a gyflwynwyd yn ddiweddar i San Steffan wrth i ni ddisgwyl Prif Weinidog, ac felly Llywodraeth, newydd ar Fedi 5. Ymhlith y biliau y mae Cytûn yn cadw golwg arnynt mae:

  • Bil Hawliau Dynol, fydd yn dileu Deddf Hawliau Dynol 1998, sy’n greiddiol i drefn ddatganoledig Cymru, a gosod yn ei lle Bil newydd yn seiliedig ar Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop, ond gyda llai o allu i unigolion ddwyn achos yn y llys os ydynt yn credu i’w hawliau gael eu tramgwyddo. Mae nifer o aelod eglwysi Cytûn yn bryderus am y bil hwn a mae Cytûn yn monitro’r datblygiadau gyda chymorth mudiadau hawliau dynol.
  • Bil Diogelwch Arlein, sy’n cyflwyno cyfyngiadau ar allu plant i gyrchu deunydd anaddas ar y we, ond hefyd – ym marn rhai – yn cyfyngu ar ryddid mynegiant ar y we.
  • Bil Trefn Gyhoeddus, sy’n anelu at roi hawliau i’r heddlu gyfyngu ar brotestiadau sy’n atal traffig neu’n achosi sŵn neu annifyrrwch i aelodau’r cyhoedd.
  • Bil Protocol Gogledd Iwerddon, sydd eisoes wedi ei dderbyn gan Dŷ’r Cyffredin ond nid eto gan Dŷ’r Arglwyddi, fyddai’n rhoi grymoedd eang i weinidogion San Steffan newid nid yn unig y protocol am Ogledd Iwerddon yng nghytundeb ymadael y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd unrhyw ddeddfwriaeth – gan gynnwys deddfau datganoledig – sydd yn cyffwrdd â’r materion yn y protocol hwnnw.

Amser a ddengys a fydd newid yn llywodraeth y DU yn newid hynt neu gynnwys rhai o’r biliau hyn.

Mae dros 5,000 o Eco Eglwysi yng Nghymru a Lloegr yn troi’n wyrdd

Ym mis Gorffennaf 2022, chwe mis ar ôl cynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn Glasgow, cyhoeddodd yr elusen gadwraeth Gristnogol A Rocha UK, sy’n aelod o Cytûn, fod 5,152 o eglwysi o wahanol enwadau yng Nghymru a Lloegr wedi ymuno â’u cynllun gwobrau Eco Eglwys. Mae hyn yn ymrwymiad i weithredu bwriadol, parhaus, i ofalu am natur a’r hinsawdd o ran adeiladau eglwysig ac yn y gymuned leol. Mae 36% o’r eglwysi hynny wedi ennill gwobr efydd, arian neu aur.

Eglwys Ddiwygiedig Unedig Beulah, Caerdydd oedd yr eglwys leol gyntaf yng Nghymru i ddadfuddsoddi o danwydd ffosil. Yma, bu gofal y greadigaeth yn gyson wrth galon ei dysgeidiaeth a’i haddoli. Enillodd gardd y Ganolfan yno Wobr y Faner Werdd yn 2020 ac mae plant yr eglwys yn tyfu llysiau a pherlysiau. Mae’r eglwys hon, sydd wedi derbyn gwobr Arian Eco Eglwys, hefyd yn ymgysylltu â’i Haelodau yn San Steffan ac yn Senedd Cymru trwy ei hoedfaon a’i digwyddiadau. Maent yn mesur eu hôl troed carbon (gan ddefnyddio teclyn 360 Carbon Stiwardiaid Hinsawdd) a maent yn annog yr aelodau i newid i gyflenwyr ynni gwyrdd.

Lluniau o eglwysi Beulah a’r Barri trwy garedigrwydd ARocha UK.

Bu Eglwys Undebol y Barri (Eglwys Ddiwygiedig Unedig a Methodistaidd) yn dathlu agor eu hadeilad newydd ar hen ddociau’r Barri ym mis Gorffennaf trwy dderbyn Gwobr Arian Eco Eglwys, ac maent bellach yn paratoi i fynd am y wobr aur. Mae’r amgylchedd ac ecoleg wrth galon yr adeilad, sydd â phaneli solar a gorsaf wefru trydan. Cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau, symudwyd nadroedd defaid yn ofalus o’r safle adeiladu i’r ardd gyfagos sy’n eiddo i’r eglwys. Mae blychau adar wedi’u gosod ar gyfer gwenoliaid duon, drudwy, adar y to a gwenoliaid y bondo, a choridor bywyd gwyllt rhwng yr adeilad a’r siopau cyfagos. Sefydlwyd glaswelltir o flodau gwyllt o flaen yr eglwys ac ehangwyd y pwll presennol, sy’n llawn bywyd gan gynnwys madfallod a brogaod. Mae yna hefyd ychydig o randir lle mae aelodau’r eglwys yn plannu nifer o ffrwythau a llysiau. Mae’r adeilad hefyd yn gartref i Gaffi Cymunedol Lana lle gall oedolion ifainc ag anghenion ychwanegol gael gwaith a chyfleoedd a meithrin eu hyder.

Mae Eco Eglwys bellach yn ei seithfed flwyddyn, ac yn helpu i sicrhau newid sylweddol o ran gweithredu Cristnogol ar yr amgylchedd. Mae’n gynllun ecwmenaidd sy’n helpu eglwysi i weld y cysylltiad rhwng eu ffydd a’r amgylchedd, a chymryd camau ymarferol mewn ymateb. Mae’n ystyried sut yr eir i’r afael â’r amgylchedd o fewn addoli ac addysgu, adeiladau, tir, ymgysylltu cymunedol a byd-eang, a ffordd o fyw. Ond mae’n fwy na chynllun gwobrwyo – mae’n gymuned addysgiadol o eglwysi sydd oll eisiau chwarae eu rhan mewn ymateb i newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Swyddog Cymru Eco Eglwys yw Delyth Higgins – a ddarlunnir ar bwys ei stondin ym mhabell Cytûn yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Gellir cysylltu â hi trwy delyth.higgins@arocha.org

Nawr bod Eco Eglwys wedi cyrraedd y garreg filltir o dros 5,000 o eglwysi cofrestredig, nod A Rocha UK yw cyrraedd 10,000 o eglwysi yng Nghymru a Lloegr yn y 5 mlynedd nesaf.

YR WYTHNOS WERDD FAWR

Bydd yr Wythnos Werdd Fawr yn cael ei chynnal rhwng y 24ain o Fedi – 2il o Hydref ac mae Climate Cymru – y mae Cytûn yn aelod ohono – am gefnogi cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru. Hoffem i gynifer o eglwysi a mudiadau lleol eraill â phosib gymryd rhan yn y digwyddiad dathliadol hwn ac os nad oes gennych gynllun ar hyn o bryd, gallwch ddod o hyd i ddigon o ysbrydoliaeth yn yr A-Y hwn o syniadau.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i adnoddau dwyieithog yma, ac os ydych yn chwilio am bethau i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, edrychwch ar y graffeg cyfryngau cymdeithasol dwyieithog, y testun a awgrymir, a’r ffilm y gellir ei lawrlwytho. Unwaith y byddwch wedi penderfynu beth i’w wneud, edrychwch ar y canllaw hwn am awgrymiadau ar drefnu digwyddiadau.

Unwaith y byddwch wedi rhoi eich dyddiad yn y dyddiadur, cysylltwch â Climate Cymru i roi gwybod iddynt beth rydych yn ei wneud fel y gallant helpu i gysylltu digwyddiadau yn eich ardal. Gallant hefyd ateb cwestiynau a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i hyrwyddo’ch digwyddiad.

A pheidiwch ag anghofio ychwanegu eich digwyddiad at wefan yr Wythnos Werdd Fawr.

ARIAN AR GAEL AR GYFER CEFNOGI NATUR YN LLEOL

Mae gan Raglen Cymunedau Gwydn Llywodraeth Cymru £2m o gyllid grant ar gael i helpu unigolion a sefydliadau i gynyddu cyfranogaeth cymunedau gyda byd natur i helpu i feithrin cymunedau gwydn. Gallai hyn fod o fudd i eglwysi sy’n ymwneud ag Eco Eglwys, yr Wythnos Werdd Fawr neu gynlluniau tebyg.

Gwybodaeth allweddol:

  • Grant cystadleuol gwerth £2m ar gael dros ddwy flynedd. Cyflawni hyd at fis Ionawr 2024.
  • £10k yw’r isafswm sy’n gymwys (dros un i ddwy flynedd).
  • £125k yw’r uchafswm os yw’n cael ei gyflwyno o fewn un Blwyddyn Ariannol neu £250k mewn dwy Flynedd Ariannol.
  • I wneud cais am Gyllid, bydd angen cael rhif ffurflen gais ar wefan Grantiau Cymunedau Gwydn i gael mynediad at y ffurflen gais ar-lein. Y dyddiad cau yw 19 Medi 2022.
  • Ar agor i unrhyw ymgeisydd, a gall ymgeiswyr wneud cais ar draws sawl lleoliad.
  • Byddwn yn edrych yn ffafriol ar geisiadau cydweithredol / ar y cyd.
  • Rhaid iddo fynd i’r afael â’r gweithgareddau sydd yn y cwmpas a nodir ar y wefan uchod, megis ail-gysylltu cymuned â’u natur lleol a gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol.
  • Rhaid i geisiadau ddangos gwaith a/neu fuddion ar lefel gymunedol.

Dylech gyfeirio camau’r broses ymgeisio a phob cwestiwn ynglŷn â’r grant at: grantiau.strategol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

PERERINDOD AR YR YMYLON YM MERTHYR

Mae Church Action on Poverty – mudiad cysylltiol gyda chwaer gorff Cytûn, Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon – yn ail-ddychmygu’r hyn y mae pererindod yn ei olygu yn 2022. Trwy gyfres Pererindod ar yr Ymylon byddant yn pererindota i a chyda chymunedau anghofiedig neu ar y cyrion yn economaidd.

Ar ddydd Mercher 7 Medi cynhelir pererindod yn Eglwys Hope, Merthyr Tudful (a welwyd ar dudalen flaen Bwletin Polisi Pasg 2022)  lle gallwch dreulio amser gyda chyd-bererinion yn gwrando, yn myfyrio ac yn rhannu breuddwydion, gobeithion a dyheadau ar gyfer ein hunain, ein cymunedau a’r gymdeithas ehangach.

Dewch i wrando ar a lledaenu’r gwirioneddau a ddatgelir gan bobl yn y gymuned wrth iddynt rannu eu gweledigaeth o’r math o ddyfodol y maent am ei weld o ran eu hunain a’r gymdogaeth, a sefyll mewn undod â nhw wrth lefaru gwirioneddau i’r sawl sydd mewn grym am y newidiadau ehangach sydd eu hangen i helpu i gyflawni hyn. Gallwch gofrestru am ddim ar Eventbrite.

Gwireddu’r weledigaeth o gynnwys pobl anabl

Bu’r Parchg Jonathan Edwards, cynghorydd anabledd a chyn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, sy’n aelod o Cytûn, yn cyflwyno’i weledigaeth am sut i annog arweinyddion eglwysig i gynnwys pobl anabl. Gwnaeth hynny mewn digwyddiad ar-lein ym Mai 2022 ar gyfer ‘Torwyr To’ neu hyrwyddwyr cynhwysiant anabledd eglwysi.

Llun o’r Parchg Jonathan Edwards trwy garedigrwydd Trwy’r To.

Mae cynghorion ac awgrymiadau ymarferol Jonathan ar gael i’w gweld ar y fideo o’i sgwrs, a gynhaliwyd gan yr elusen anabledd Cristnogol Trwy’r To, sy’n aelod o Cytûn. Ymhlith prif argymhellion Jonathan oedd:

  • Mae dealltwriaeth a phrofiad personol yn hanfodol – nid oes gan lawer o arweinyddion eglwys brofiad personol o anabledd. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu arweinyddion eglwysi i gysylltu â phobl anabl a’u straeon yn bwysig.
  • Mae anogaeth yn bwysig iawn. Gadewch i ni ddathlu pan fydd cynhwysiant anabledd yn digwydd yn effeithiol yn ein heglwysi – llawer gwell na beirniadu.
  • Mae rhoi cymorth ymarferol yn bwysig hefyd. Gall cael ‘torrwr to’ neu bencampwr anabledd yn y gynulleidfa fod yn hollbwysig, a bydd yr adnoddau sydd ar gael gan Drwy’r To yn help mawr.
  • Gweddi yw’r allwedd! Pwysleisiodd Jonathan yr angen i weddïo am y mater hwn ac i wrando ar Dduw: “Os ydych chi am i arweinydd eich eglwys gyffroi ynghylch cynhwysiant anabledd, yna dechreuwch weddïo heddiw.”

Mae Trwy’r To yn hyfforddi ac yn arfogi eglwysi a sefydliadau eraill i gynnwys pobl ag unrhyw anabledd. Mae’n cyhoeddi deunyddiau, yn rhedeg teithiau tramor byr, yn dosbarthu cadeiriau olwyn wedi’u hadnewyddu mewn gwledydd sy’n datblygu ac yn rhedeg gwyliau hygyrch, ymhlith rhaglenni eraill. Darganfyddwch sut y gall Trwy’r To helpu arweinyddion eich eglwys i gydio yn y weledigaeth yn: https://www.throughtheroof.org/forchurches/roofbreakers/ neu trwy gysylltu â’r Cydlynydd Allgymorth i Gymru, Katie Mobbs – katie@throughtheroof.org

Hefyd yn y maes…

Mae Ymchwil y Senedd newydd gyhoeddi crynodeb dirdynnol o ymchwil elusennau anabledd am sut y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl anabl, sy’n dioddef fwy gan y cynnydd mewn costau ynni a phrisiau sylfaenol eraill.

Cofrestru eglwys leol fel elusen

Yn 2021, bu i’r Charities (Exception from Registration) (Amendment) Regulations 2021 ymestyn tan 31 Mawrth 2031 y cyfnod y mae addoldai ac elusennau crefyddol llawer o enwadau Cristnogol (ond nid pob un) wedi’u heithrio rhag cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, oni bai bod eu hincwm blynyddol yn fwy na £100,000.

Er i lawer o addoldai ac enwadau groesawu’r estyniad, i rai gall greu anawsterau, gan nad yw pob corff cyllido yn cydnabod y disgrifiad ‘elusen eithriedig’ yn eu proses ymgeisio. Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cadarnhau i Cytûn, os oes gan eglwys eithriedig ag incwm o lai na £100,000 anawsterau yn ymwneud â denu cyllid, neu hyd yn oed caffael bargen ffafrio gyda banc, am nad ydynt wedi’i chofrestru, rydym yn hapus i’w chofrestru os ydynt yn rhoi gwybod inni. Os ydyn nhw’n rhoi gwybod i ni eu bod nhw’n cael anhawster heb rif cofrestredig, rydyn ni’n hapus i ystyried cais i’w chofrestru.

Dylid gwneud ymholiadau i Mike James: registrationapplications@charitycommission.gov.uk Mae’n bwysig bod eglwysi lleol yn trafod unrhyw fwriad i wneud cais gyda’u hawdurdodau enwadol hefyd, gan fod trefniadau enwadol yn amrywio.

Maes o law, bydd rhaglen gofrestru wirfoddol ar gyfer elusennau eithriedig yn cael ei lansio gan y Comisiwn Elusennau, a bydd Cytûn yn hysbysu aelodau am hyn pan fydd ar gael.

PYTIAU POLISI

Croesawu ffoaduriaid o Wcráin

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am fwy o fusnesau, elusennau a sefydliadau i helpu gyda chroesawu ffoaduriaid drwy gynnig llety, trafnidiaeth, cyfleusterau cyfieithu neu gyfleusterau eraill ar raddfa fawr. Mae nifer o sefydliadau eglwysig eisoes wedi cynnig, ond byddai croeso i fwy.       
Gall unigolion sy’n gallu cynnig llety i unigolyn neu deulu gofrestru yma. Mae Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn, yn rhedeg cynllun lletya ar gyfer ymfudwyr anghenus o bob rhan o’r byd, ac ar hyn o bryd mae’n recriwtio staff newydd er mwyn ymestyn y cynllun hwn i ffoaduriaid o Wcráin.

Arolwg gwaith ieuenctid yn dal ar agor

Mae prosiect KESS, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru, yn dal i apelio ar bob sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru i gwblhau arolwg byr sy’n nodi natur eich sefydliad a’r cymorth a ddarperir i bobl ifanc. Mae Cytûn wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn, ac mae’n annog pob mudiad crefyddol sy’n darparu gwaith ieuenctid i dreulio ychydig funudau yn cwblhau’r arolwg yma.

Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 a safleoedd o ymddiriedaeth

Daeth Adran 47 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd 2022 i rym ar 28 Mehefin. Mae’n diwygio Deddf Troseddau Rhywiol 2003 drwy fewnosod adran 22A newydd yn Neddf 2003, a thrwy hynny ehangu ystyr “safle o ymddiriedaeth” (“position of trust”) i gynnwys y sefyllfa lle:

‘(a) A coaches, teaches, trains, supervises or instructs B, on a regular basis, in a sport or a religion, and

(b) A knows that they coach, teach, train, supervise or instruct B, on a regular basis, in that sport or religion, where “religion” includes “a religion which involves belief in more than one god, and a religion which does not involve belief in a god”.’ [ychwanegwyd y pwyslais]

[Gyda diolch i CLAS, Gwasanaeth Cynghori Deddfwriaethol yr Eglwysi]

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: gwybodaeth i rieni/gofalwyr

O fis Medi 2022, wrth i gwricwlwm newydd Cymru gael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd a rhai ysgolion uwchradd, ni fydd gan rieni/gofalwyr yr hawl mwyach i dynnu eu plant allan o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru felly wedi diweddaru ei thaflen wybodaeth ACRh i rieni/gofalwyr ac wedi cynhyrchu fideo astudiaeth achos sy’n dangos addysgu ACRh mewn ysgolion cynradd. Gellir cael mynediad cyhoeddus at y rhain a llu o adnoddau eraill ar restr chwarae ACRh Hwb.

Penodi aelodau i gorff newydd Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi penodiad saith aelod i gorff newydd Llais y Dinesydd, fydd yn disodli Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn 2023, ac a fydd hefyd yn rhoi llais i ddinasyddion mewn gofal cymdeithasol. Cadeirir y corff gan yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 26 2022. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fedi 29 2022.