Papur Briffio ar gyfer eglwysi yng Nghymru sy’n rhentu cartrefi neu yn darparu cartrefi ar gyfer clerigion neu weithwyr eglwysig
Diwygiwyd Hydref 24 2022
Er i bob ymdrech gael ei gwneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth hon, nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid dehongli dim ynddo fel y cyfryw. Cynghorir aelod eglwysi yn gryf i geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain ar y materion y cyfeirir atynt yma.
Cefndir
Pasiwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd), yn seiliedig ar argymhellion gan Gomisiwn y Gyfraith. Mae’n gwneud newidiadau mawr i ddeiliadaeth eiddo preswyl yng Nghymru.
Mae’r broses gychwyn wedi cael ei gohirio gan nifer o faterion cyfreithiol ac ymarferol, ac ar Fai 30 2022 cyhoeddwyd oedi pellach gan Lywodraeth Cymru. Y bwriad bellach yw ei chychwyn ar Ragfyr 1 2022. Mae’r ddeddfwriaeth wreiddiol wedi’i diwygio gan ddau ddarn arall o ddeddfwriaeth sylfaenol – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (sydd wedi’i chychwyn) a Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, a chan gryn dipyn o is-ddeddfwriaeth. Dylid nodi nad yw’r holl newidiadau hyn wedi’u hymgorffori yn nhestun Cymraeg y Ddeddf ar legislation.gov.uk, ond maent wedi eu cynnwys yn y testun Saesneg, felly dolenni i’r Saesneg a ddangosir yn y papur hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno i’r Senedd sawl pecyn o is-ddeddfwriaeth, ac mae’r cyfan wedi ei dderbyn gan y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hefyd canllawiau i landlordiaid a datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol y gellir eu defnyddio yn sail i gontractau meddiannaeth dan y Ddeddf. Mae yna hefyd canllawiau i denantiaid.
Mae hyn yn golygu fod yna swmp sylweddol o wybodaeth i’w ddarllen a nifer o newidiadau cyfreithiol cymhleth i’w gweithredu gan bob landlord, gan gynnwys eglwysi sy’n landlordiaid, erbyn Rhagfyr 1 2022.
Goblygiadau i eglwysi
Bydd y Ddeddf yn effeithio ar bob eglwys sy’n gosod eiddo preswyl yng Nghymru neu sy’n lletya clerigion neu weithwyr eglwysig mewn eiddo eglwysig. Mae tri phrif gategori eiddo yn y cyd-destun hwn:
1. Eiddo preswyl wedi’i osod i denant sy’n talu
Dylai eglwysi sy’n defnyddio cyfreithwyr neu asiantau y tu allan i Gymru sicrhau bod eu cyfreithiwr neu asiant yn gwbl gyfarwydd â’r gyfraith newydd, gan gynnwys yr is-ddeddfwriaeth a’r canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac y cyfeirir atynt uchod. Os yw landlord yn methu â chyhoeddi datganiad contract ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r holl feysydd a bennir gan y Ddeddf, mae cosbau am beidio â chydymffurfio; ac ni fydd y landlord yn gallu adennill meddiant o’r eiddo tan chwe mis ar ôl cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cywir.
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno gweithdrefnau newydd hefyd ar gyfer cynyddu’r rhent, gan gynnwys cyfnod rhybudd newydd, ac ar gyfer amrywio telerau contract. Mae yna hefyd rwymedigaethau cryfach ar landlordiaid o ran atgyweirio a chynnal a chadw’r eiddo.
Mae Atodlen 12 y Ddeddf (fel y’i diwygiwyd) yn darparu y dylid trosi tenantiaethau a oedd yn bodoli eisoes yn ‘gontractau meddiannaeth’ newydd o dan y Ddeddf cyn pen chwe mis ar ôl cychwyn y Ddeddf. Rhaid cario telerau’r denantiaeth bresennol (gyda rhai eithriadau) i’r contract newydd. Bydd y rhwymedigaeth i ddarparu datganiad contract llawn ysgrifenedig, a’r cosbau am fethu â gwneud hynny, yn berthnasol.
Gweithiodd Cytûn gydag aelodau yn Senedd Cymru i gyflwyno gwelliannau i geisio tymheru’r effeithiau ar eglwysi sy’n gadael eiddo a ddefnyddir fel arfer gan glerigwyr (gweler adran 3 isod) i denantiaid masnachol yn ystod cyfnodau pan fo swydd weinidogol yn wag. Trechwyd y gwelliannau hyn yn y Senedd, felly dylid nodi y bydd y darpariaethau newydd yn berthnasol i’r holl eiddo preswyl sydd wedi eu gosod i denantiaid sy’n talu, hyd yn oed os yw’r eiddo dan delerau ymddiriedolaeth ar gyfer lletya clerigion. Mae hyn yn golygu, ymhlith darpariaethau eraill, y bydd angen o leiaf chwe mis o rybudd i ddeiliad y contract i adfeddiannu’r eiddo er mwyn iddo gael ei feddiannu gan glerig.
Ym mis Hydref 2022, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynnig i ymestyn y cyfnod rhybudd ar gyfer tenantiaid ar ‘gontractau wedi’u trosi’ (hynny yw, y rheini a oedd eisoes yn denantiaid cyn i’r Ddeddf ddod i rym) i chwe mis, er mwyn cysoni hyn â’r cyfnod rhybudd mewn contractau newydd a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf. Cynigir bod y newid hwn yn dod i rym ar 1 Mai 2023. Ymatebodd Cytun a rhai o’n haelod eglwysi i’r ymgynghoriad gan dynnu sylw at yr anawsterau y byddai hyn yn eu hachosi o ran tenantiaid cyflogedig mewn eiddo a ddefnyddir fel arfer ar gyfer cartrefu clerigion neu weithwyr eglwysig.
Anogir eglwysi sy’n landlordiaid preswyl yng Nghymru yn gryf i geisio cyngor cyfreithiol ar oblygiadau’r Ddeddf i’w tenantiaethau presennol ac i’w harferion o ran gosod eiddo, ac i adolygu eu tenantiaethau a’u harferion presennol yng ngoleuni’r cyngor hwn.
Dylai eglwysi hefyd ofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch a yw’n ddoeth i eiddo preswyl a berchnogir o dan ymddiriedolaethau elusennol at ddibenion llety clerigwyr barhau i gael ei osod yn fasnachol o dan y Ddeddf newydd, yn enwedig os daw ‘contractau wedi’u trosi’ hefyd i gynnwys cyfnod rhybudd o 6 mis, neu a ddylid gwneud trefniadau amgen ynghylch eiddo o’r fath yn ystod cyfnodau rhwng deiliadaeth glerigol.
2. Eiddo preswyl wedi’i osod i weithiwr eglwysig a gyflogir o dan gontract cyflogaeth
Daw’r Ddeddf â ‘thrwydded i feddiannu’ ar gyfer gweithiwr eglwysig a gyflogir o dan gontract o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth a mae’n ei gwneud yn ofynnol roi contract meddiannaeth newydd o dan y Ddeddf i’r gweithiwr.
Oherwydd y rhyngweithio rhwng y Ddeddf hon a chyfraith cyflogaeth (a gedwir yn ôl i San Steffan), anogir yn gryf i eglwysi sy’n darparu tai i’w gweithwyr cyflogedig yng Nghymru geisio cyngor cyfreithiol cyn bwrw ymlaen i gyhoeddi contractau cyflogaeth neu gontractau meddiannaeth newydd.
3. Eiddo preswyl a feddiannir gan weinidog crefyddol, offeiriad neu glerig (deiliad swydd)
Yn dilyn cyfres o drafodaethau â Llywodraeth Cymru ers 2019, derbyniodd Cytûn gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021 lythyr sy’n cadarnhau mai bwriad polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai’r Ddeddf hefyd fod yn berthnasol i eiddo preswyl sy’n eiddo i’r eglwys ac sy’n cael ei feddiannu gan glerigwyr fel rhan o’u trefniadau gwaith (persondai, mansys, ficerdai, tai clerigwyr).
I can confirm that it is the Welsh Government’s policy intention that the 2016 Act should apply to all tenancies and licences meeting the criteria for an occupation contract, except those specifically excluded by Parts 2 and 3 of Schedule 2 of the 2016 Act. If the Church in Wales, or any other denomination or faith group, or their ministers or faith leaders, require advice as to the application of the law to their particular arrangements they will need to seek that independently, and should there be a dispute as to the application of the law, it will be a matter for the courts to make a determination.
Mae nifer o aelod eglwysi Cytûn wedi ceisio cyngor cyfreithiol ar y mater hwn, a mae’r cyngor a dderbyniwyd yn codi amheuon sylweddol a yw dehongliad Llywodraeth Cymru o’r gyfraith yn gywir yn hyn o beth. Mae’r cyngor cyfreithiol hwn hefyd wedi codi’r posibilrwydd y gallai cyhoeddi contract meddiannaeth gan yr eglwys newid statws cyflogaeth y meddiannydd o statws ‘deiliad swydd’ i statws gweithiwr cyflogedig. Mae llythyr Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn nodi:
Having considered the evidence provided to date, it is Welsh Government’s view at this time that there would be no significant risk that a written statement would be deemed by an employment tribunal to amount to an employment contract, nor increase the risk of it being found that an employment relationship existed. However, as with the other issues you have raised, this would again ultimately be a matter for the courts to determine and you may wish to take your own legal advice on this.
Mae’r datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn groes i gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd gan rai o’n haelod eglwysi. O’u cymryd ynghyd â darpariaethau Atodlen 12 (gweler Adran 1 uchod), mae hyn yn golygu y bydd angen i eglwysi sy’n darparu eiddo i glerigwyr yn rhinwedd eu gwasanaeth benderfynu o fewn chwech mis i gychwyn y Ddeddf a ddylid rhoi contractau meddiannaeth i glerigwyr (a mentro y gellid dyfarnu fod y contract hwnnw yn goblygu bod yna gontract cyflogaeth) neu beidio â gwneud hynny (a mentro y cymerir camau o dan y Ddeddf, a byddai’r eglwys yn methu ag adfeddiannu’r eiddo pe bai’r angen yn codi).
Mae’n bosibl y bydd cydbwysedd y risgiau yn y sefyllfa hon yn wahanol o enwad i enwad oherwydd union delerau eu Deddfau Seneddol sylfaenol, eu gwahanol strwythurau a’r trefniadau a wnânt i sicrhau gwasanaeth clerigion.
Oherwydd ansicrwydd cyfreithiol y sefyllfa hon, mae’n hanfodol i bob aelod eglwys sy’n cartrefu ei chlerigwyr yng Nghymru mewn cartref sy’n eiddo i’r eglwys geisio cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr / cyfreithwyr sydd ag arbenigedd priodol mewn cyfraith tai a chyflogaeth.
Gellir darllen neu lawrlwytho llythyr Llywodraeth Cymru yn gyfan yma (Saesneg yn unig):
Casgliad
Nid oes gan Cytûn yr awdurdod na’r adnoddau i ddarparu cyngor cyfreithiol i’n haelodau eglwysi. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe gallai aelod eglwysi ein hysbysu am unrhyw gyngor cyfreithiol y maent yn ei dderbyn, ac yn enwedig am unrhyw drafodaethau pellach a gânt gyda Llywodraeth Cymru. Dylai aelod eglwysi fod yn ymwybodol, pe bai unrhyw ymgyfreitha yn dilyn, y gellid awgrymu yn y llys fod gweithredoedd un aelod eglwys yn creu cynsail sy’n berthnasol i aelod eglwys arall, a gobeithiwn felly y bydd ein haelod eglwysi am gyd-weithio cyn belled ag sy’n bosibl yn y mater hwn.
Gethin Rhys 24.10.2022