A fyddwn ni’n Gynnes y Gaeaf yma?

Mae Climate Cymru – y mae Cytûn yn aelod ohono – wedi lansio ymgyrch dan yr enw Cynnes Gaeaf Yma (Warm this Winter) yng Nghymru, i annog llywodraethau Cymru a’r DU i weithredu ar yr argyfyngau cydgysylltiedig o ran costau byw, ynni a hinsawdd. Arweinir yr ymgyrch gan grwpiau gwrth-dlodi ac amgylcheddol, a chaiff ei chefnogi gan gannoedd o sefydliadau a miloedd o unigolion o bob cornel o Gymru.

Mae gan Cynnes Gaeaf Yma bedwar prif ofyniad:

• Cefnogaeth frys i aelwydydd bregus

• Rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol

• Cynnydd cyflym o ynni adnewyddadwy cost isel

• Rhyddhewch ni o danwydd ffosil

Mae ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma ledled y DU yn gwneud galwadau tebyg gan Lywodraeth y DU. Mae gan yr ymgyrch yng Nghymru ofynion ychydig yn wahanol i adlewyrchu gwahanol safbwyntiau polisi Llywodraethau’r DU a Chymru.

Meddai Sam Ward, Rheolwr Climate Cymru: “Mae yna argyfwng costau byw cynyddol, argyfwng ynni, ac argyfwng hinsawdd parhaus. Mae’r argyfyngau hyn yn gysylltiedig. Maent yn rhannu achosion, fel tanwyddau ffosil, sy’n eu gwneud i gyd yn waeth, ac yn rhannu atebion a all ein helpu i ddod allan o’r llanast hwn, fel insiwleiddio tai Cymru ar raddfa fawr a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy glân, rhad iawn.

“Rydym yn gobeithio gweithio’n gynhyrchiol gyda Llywodraeth Cymru ar ein gofynion a’u gweithrediad, yn ogystal â chyda phartneriaid yn y DU i wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan i ddatgloi’r cyllid a’r ysgogiadau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn ar y cyflymder a’r raddfa mae’r sefyllfa’n mynnu”

Mae Climate Cymru yn glymblaid o dros 300 o sefydliadau Cymreig, a bron i 14,000 o unigolion sydd wedi ymrwymo i gydweithio i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae gofynion Cynnes Gaeaf Yma yn cydweddu’n dda â galwadau wnaed eisoes gan nifer o aelod eglwysi Cytûn, megis y llythyr a ddanfonwyd at Liz Truss AS, Prif Weinidog y DU, gan nifer o arweinyddion ffydd, gan gynnwys arweinyddion o blith aelod eglwysi Cytûn Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig a’r Eglwys yng Nghymru, ynghyd â Grŵp Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr ac Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae Adran Cyfiawnder Cymdeithasol Cynhadledd Esgobion Catholig Lloegr a Chymru wedi cyhoeddi papur briffio yn cyflwyno opsiynau polisi o berspectif Dysgeidiaeth Gymdeithasol Gatholig.

Mesurau a gymerwyd eisoes ar gyfer aelwydydd

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 21 Medi becyn cymorth i gartrefi ledled y DU. Mae’r Warant Pris Ynni yn sicrhau y bydd pris uned cyfartalog i gwsmeriaid tanwydd deuol sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol yn cael ei gyfyngu i 34.0c/kWa am drydan a 10.3c/kWa am nwy, gan gynnwys TAW, o 1 Hydref. Bydd taliadau sefydlog cyfartalog ar gyfer cwsmeriaid ar dariffau diofyn yn parhau i gael eu capio yn unol â’r lefelau a osodwyd gan Ofgem ar gyfer y cap tariff diofyn o 1 Hydref, sef 46c y dydd am drydan a 28c y dydd am nwy, ar gyfer cwsmer tanwydd deuol nodweddiadol sy’n talu trwy ddebyd uniongyrchol. Yn ogystal, mae’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni yn darparu gostyngiad awtomatig nad yw’n ad-daladwy o £400 i bob cartref sydd â chysylltiad trydan domestig. Mae £1,200 ychwanegol o gymorth ar gyfer y rhai sy’n derbyn rhai budd-daliadau. Bydd hyn yn cael ei dalu’n awtomatig mewn rhandaliadau yn ystod y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhai mesurau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Cymorth Tanwydd, sy’n cynnig £200 i bobl sy’n derbyn nifer o fudd-daliadau, megis Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a Lwfans Gofalwyr – mae’r rhestr lawn i’w gweld yma. Yn wahanol i gynlluniau Llywodraeth y DU, mae angen i’r rheini sy’n gymwys wneud cais i’w hawdurdod lleol. Mae £150 pellach ar gael o dan y Cynllun Cymorth Costau Byw i’r rhai sy’n talu Bandiau Treth y Cyngor A-D a’r rhai sy’n elwa o Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hwn yn cael ei dynnu o fil Treth y Cyngor yn awtomatig, ond mewn rhai achosion bydd angen gwneud cais. Nid yw’r rhai sy’n byw mewn eiddo o’r fath ond nad ydynt yn atebol am y Dreth Gyngor (fel llawer o glerigion sy’n byw mewn eiddo sy’n perthyn i’r eglwys) yn gymwys, ond gallant wneud cais i’w hawdurdod lleol am daliad disgresiynol.

Mesurau a gymerwyd eisoes ar gyfer cwsmeriaid annomestig (megis eglwysi)

Ar 21 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Lliniaru Biliau Ynni ar gyfer cwsmeriaid annomestig. Ar gyfer y cwsmeriaid hyn, mae’r pris a gefnogir gan y llywodraeth wedi’i osod ar £211 fesul megawat awr (MWa) ar gyfer trydan a £75 fesul MWa am nwy. Bydd y pris yn cael ei gymhwyso’n awtomatig am chwe mis (tan 31 Mawrth 2023) – gan ddisodli’r prisiau contract a oedd eisoes wedi’u cyflwyno i lawer o eglwysi a chwsmeriaid eraill. O fewn tri mis (cyn y Nadolig felly) fe fydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi adolygiad o’r cynllun, ac yn penderfynu pa gwsmeriaid sy’n parhau’n “fregus” ac felly angen cymorth pellach.

Bydd Cytûn yn cyfrannu tystiolaeth i’r adolygiad hwn o’r angen am gefnogaeth bellach i lawer o eglwysi ac adeiladau sy’n eiddo i eglwysi sy’n darparu gwasanaethau cymunedol hanfodol. I helpu darparu’r dystiolaeth hon, byddem yn croesawu enghreifftiau o’r prisiau contract a gynigiwyd i eglwysi cyn cyhoeddi’r Cynllun Lliniaru Biliau Ynni, a sut mae hyn yn cyfateb i incwm yr eglwys. Anfonwch dystiolaeth o’r fath at gethin@cytun.cymru  Byddai’n ddefnyddiol hefyd os gallwch ddisgrifio sut mae’r eglwys a’r gymuned ehangach yn defnyddio’r adeilad(au). Rydym ni, gyda chydweithwyr o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, yn cyflwyno’r achos i Lywodraeth Cymru hefyd o’r angen am gymorth ar gyfer y gwasanaethau cymunedol hanfodol sy’n cael eu cynnal yn adeiladau eglwysi.

Awgrymodd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS, efallai na fyddai cynllun y DU yn ddigon i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yng Nghymru, ac awgrymodd y gallai Llywodraeth Cymru gynnig rhywfaint o gymorth ychwanegol. Yr unig gymorth penodol a gyhoeddwyd wrth i ni fynd i’r wasg oedd £1 miliwn i gefnogi Banciau Cynnes (i’w cymharu â Banciau Bwyd) lle mae adeiladau cymunedol – megis eglwysi – yn cael eu hagor i’r gymuned er mwyn galluogi pobl i gadw’n gynnes gyda’i gilydd yn hytrach na gwresogi. eu cartrefi ar wahân. Cyhoeddwyd hyn gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, yn Senedd Cymru ar Fedi 20, ond nid oedd y manylion llawn ar gael wrth i ni fynd i’r wasg. Lansiwyd clymblaid o elusennau Cristnogol, Warm Welcome UK, sy’n darparu cymorth ymarferol i eglwysi sy’n dymuno gwneud hyn, ar Fedi 28. Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dechrau cysylltu ag eglwysi lleol i ofyn am eu cefnogaeth i ddarparu cyfleusterau o’r fath.

Edrych i’r tymor hir

Yn Senedd Cymru ar 21 Medi, yn ystod dadl ar adroddiad Pwyllgor Seneddol am y rhaglen Cartrefi Clyd bresennol yng Nghymru, cadarnhaodd Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, y bydd y cynllun yn cynyddu ei gyllideb i £30 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, cyn cyhoeddi adolygiad llawn cyn diwedd 2022. Roedd y Pwyllgor yn feirniadol o’r cynllun presennol mewn nifer o ffyrdd, yn benodol bod mwy na hanner y gwariant wedi bod ar osod boeleri nwy newydd, yn hytrach na gwella inswleiddio cartrefi a symud i ffwrdd o ddarpariaeth tanwydd ffosil, fel y mae Cynnes Gaeaf Yma yn galw amdano.

Tynnodd y Gweinidog sylw at ymestyn y cynllun i dalu am y gost o osod paneli solar a batris storio ynni, lle bo’n briodol. Ym mis Tachwedd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymgyrch tanwydd gaeaf, i roi cyngor am ddim i gartrefi ar leihau eu biliau ynni.

Fe fu Llywodraeth y DU yn amharod i gefnogi symud oddi wrth danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy. Er enghraifft, mae’r Ardoll Elw Ynni (y cyfeirir ati’n aml fel “windfall tax”) ar elw ychwanegol cwmnïau tanwydd ffosil wedi’i gyflwyno am chwe mis yn unig, ac roedd ad-daliadau sylweddol ar gael i wrthbwyso costau chwilio am olew a nwy newydd yn y DU. Mae Cynnes y Gaeaf Yma yn ymgyrchu dros weddnewid y blaenoriaethau hyn, fel bod cefnogaeth ariannol yn cael ei gynnig ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil. Ynghyd â diwygio’r farchnad ynni (sydd ynghlwm â phris nwy ar hyn o bryd) byddai hyn yn caniatáu i’r ffaith, er enghraifft, bod cynhyrchu ynni gwynt ar y môr naw gwaith yn rhatach na’i gynhyrchu o danwydd ffosil, yn arwain at i filiau is ar gyfer aelwydydd. a chwsmeriaid annomestig, gan leihau’r angen am gymorth drud gan y Llywodraeth.

Wythnos Ymwybyddiaeth Atal Cwympiadau, 3-7 Hydref

Gan adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol ac yn gydnaws gyda dulliau gofal iechyd darbodus, rydym yn rhoi dinasyddion wrth galon wythnos #FallsAwareness2022. Enw’r ymgyrch yw Sadiwch i Gadw’n Saff. Mae gan yr ymgyrch ymagwedd systematig, iechyd cyhoeddus yn seiliedig ar ymdrechion tebyg, llwyddiannus iawn, i gyrraedd cynifer o bobl hŷn ag sy’n bosibl yn y gymuned, y gellir ei gymharu gyda chyfranogiad y gymuned yn Canterbury, Seland Newydd. Mae tystiolaeth o astudiaethau yn Hemisffer y De yn dangos y bu gostyngiad o 25-30% yn nifer y cwympiadau sydd angen ymyriad iechyd.

A yw’n costio unrhyw beth? Na, yr unig beth a geisiwn gennych yw i chi gymryd 2 funud i siarad gyda’r bobl hŷn sy’n defnyddio eich adeiladau neu’n mynychu eich gwasanaethau.

Os mai’r ateb yw DO, yna gallwch siarad am risgiau sylfaenol cwympiadau ac annog pobl hŷn i geisio help i sicrhau eu bod yn gostwng risg syrthio eto ac efallai ddioddef anaf difrifol. Yn eithaf aml mae’n gymaint am annog cleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth i fabwysiadu ffordd o fyw mwy cadarnhaol ac iach: mae cyngor amserol yn allweddol i ostwng risgiau, a gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ymweld â’r gwefannau dilynol:

Care & Repair Cymru:       www.careandrepair.org.uk/cwympo  (Ffôn: 0300 111 3333)

Age Cymru:                         www.agecymru.org.uk/falls   (Ffôn: 0300 111 3333)

Age Connects:                    www.ageconnectswales.org.uk/falls  (Ffôn: 01639 617 333)

Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, 8-15 Hydref

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn wythnos genedlaethol o weithredu i annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion troseddau casineb lleol. Thema eleni yw #CymruYnghyd. Ar Ddydd Gwener Hydref 14 bydd pwyslais arbennig ar droseddau casineb yn ymwneud â ffydd a chrefydd.

Ymhlith y digwyddiadau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi mae gweminar o’r enw Archwilio effeithiau casineb ar ddydd Llun 10 Hydref am 1.30yp. Bydd Nick Olson o Dîm Cydlyniant Cymunedol Cyngor Dinas Caerdydd a Becca Rosenthal o Ganolfan Cymorth Casineb Cymru yn trafod effaith casineb yng Nghymru ac mewn ardaloedd lleol fel Caerdydd. Dilynwch y ddolen Eventbrite uchod i gofrestru.

Hanes Pobl Dduon Cymru 2022-23 | Bobol Ifainc, Nawr yw’r Amser!

Mae Cyngor Hil Cymru yn lansio Hanes Pobl Dduon Cymru mewn amryfal leoliadau gydol mis Hydref. Cynhelir y sesiynau rhad ac am ddim a ganlyn:

1 Hydref | 12-4yp Diwrnod i’r Teulu gyda chelf, cerdd a chyflwyniadau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB

6 Hydref | 6yh hyd 9 yh | Gwobrau Ieuenctid a Chymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru Cyflwyniadau, perfformiadau a gwobrau ieuenctid yn y Senedd, Bae Caerdydd CF99 1SN

15 Hydref 2022 | Amser i’w gadarnhau | Lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 2022-23 (Gog Ddn Cymru)  ynTŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BY

22 Hydref 2022 | Amser i’w gadarnhau | Lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 2022-23 (Gog Orllewin Cymru) yng Nghanolfan Pontio, Prifysgol Bangor, Heol Deiniol, Bangor LL57 2TQ

28 Hydref 2022 | 6yh hyd 11yh | Gŵyl Cerddoriaeth Ieuenctid Hanes Pobl Dduon Cymru 2022 ar Lwyfan y Lanfa, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd CF10 5AL.

29 Hydref 2022 | I’w cadarnhau | Lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 2022-23 (Gorllewin Cymru)

CYHOEDDI MESUR DADLEUOL ‘RHYDDID BREXIT’

Clywodd Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn ei gyfarfod ar 26 Medi nad yw materion yn ymwneud â Brexit y tu ôl i ni eto. Ar 22 Medi, cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i Senedd San Steffan. Pe bai’n cael ei basio, byddai’n pennu terfyn amser o 31 Rhagfyr 2023 i’r rhan fwyaf o’r is-ddeddfwriaeth sy’n weddill sy’n deillio o aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd iddi naill ai gael ei chymathu i gyfraith y DU neu gael ei dirymu. Byddai rhaid i’r cyfan oll gael ei benderfynu erbyn 23 Mehefin 2026. Bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn derbyn pŵer i ymwneud â’r broses hon gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth seneddol. Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw AS, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi ei bryder bod y Bil yn rhoi pwerau i weinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru, meddai, “yn groes i’r setliad datganoli.”.

Un nod allweddol yw lleihau’r hyn y mae’r Bil yn ei alw’n “feichiau rheoleiddio” y mae Llywodraeth y DU yn credu eu bod yn atal twf economaidd. Yn ei Chynllun Twf a gyhoeddwyd ar 23 Medi, mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio at liniaru gwarchodaeth amgylcheddol, llawer ohoni yn deillio o gyfraith yr UE. Mae pryder y gallai hawliau mewn meysydd eraill, megis cyflogaeth ac iechyd, hefyd gael eu colli – yn fwriadol neu’n ddamweiniol – yn ystod y broses hon, a fydd o reidrwydd yn cael ei rhuthro i gwrdd â’r terfyn amser.

Er bod y manylion yn dechnegol a chymhleth, gallai’r effeithiau ar fywydau unigolion, cymunedau a natur fod yn sylweddol. Mae Ymchwil y Senedd wedi cynhyrchu papur briffio am y Bil.

CYNGOR EGLWYSI’R BYD YN GALW AM HEDDWCH YN EWROP

Cyfarfu Cyngor Eglwysi’r Byd yn Karlsruhe, deheudir yr Almaen, o Awst 30 hyd Fedi 8 2022, gyda chynrychiolwyr o’r Eglwys yng Nghymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Cytûn yno o Gymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o aelodau Prydeinig Cytûn megis yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr.

Wrth gyfarfod ar gyfandir Ewrop, roedd rhaid trafod y rhyfeloedd sy’n digwydd ar y cyfandir. Roedd cynrychiolaeth gref o blith eglwysi Wcráin yno (yn sylwedyddion, gan nad yw eglwysi Wcráin yn aelodau o Gyngor Eglwysi’r Byd ar hyn o bryd) ac hefyd gan Eglwys Uniongred Rwsia. Cytunwyd trwy gonsensws ar ddatganiad manwl yn condemnio’r ymosodiad ar Wcráin ac yn galw am gadoediad brys a datrysiad cyfiawn. Cyhoeddwyd datganiad hefyd am ryfel Nagorno-Karabakh.

Rhoddwyd llawer o sylw hefyd i’r argyfwng hinsawdd, gyda chynifer o’r eglwysi yno yn gweinidogaethu mewn gwledydd sy’n dwyn effeithiau enbydus ffordd o fyw wastraffus a gormodol gwledydd y gorllewin. Cyhoeddwyd datganiad cryf a galwad i weithredu.

Llun o’r Esgob Gregory Cameron: © Albin Hillert/WCC

Y Gwir Barchg Gregory Cameron, Esgob Llanelwy (yn y llun), oedd yn cadeirio’r pwyllgor luniodd neges derfynol y Gymanfa. Meddai honno, yn rhannol:

‘Mae cariad Crist yn arwain y byd at gymod ac at undod.’ Y mae’r cariad hwn, mewn ateb i gri’r rhai sy’n dioddef, yn ein cymell ni i ddod ato mewn undod ac ymateb a gweithredu er lles cyfiawnder. Cawn ein galw i gymodi â chariad Duw, ac i dystio i’r cariad a ddangoswyd yng Nghrist (1 Ioan 4:9–11). … Y mae Cristnogion, a’r strwythurau a adeiladwyd gennym ni, wedi bod yn gyfrannog yng nghamdriniaeth eraill, a rhaid i ni edifarhau ac ymuno yn y symudiad hwn tuag at gymod. Yn wyneb rhyfel, anghydraddoldeb, a phechodau yn erbyn y greadigaeth heddiw, y mae cariad Crist yn ein galw ni oll at edifeirwch, cymod a chyfiawnder.

Yng nghanol ein holl amrywiaeth, rydym ni wedi ailddysgu yn ein cynulliad fod yna bererindod o gyfiawnder, cymod, ac undod i’w gerdded gyda’n gilydd.

Wrth gwrdd gyda’n gilydd yn yr Almaen, fe ddysgwn beth yw pris rhyfel a phosibilrwydd cymodi;
Wrth glywed gair Duw gyda’n gilydd, cydnabyddwn ein galwad gyffredin;
Wrth gydwrando a chydgerdded, down yn gymdogion agosach;
Wrth alaru gyda’n gilydd, gwnawn ein hunain yn fwy agored i boen a dioddefaint eraill;
Wrth weithio gyda’n gilydd, cytunwn i weithredu ar y cyd;

Wrth ddathlu gyda’n gilydd, ymhyfrydwn mewn llawenydd ac yng ngobaith ein gilydd;
Wrth weddïo gyda’n gilydd, darganfyddwn gyfoeth ein traddodiadau a phoen ein rhaniadau….

Dyhëwn am fudiad ehangach, am gymod ac undod i’r holl ddynoliaeth, ac yn wir i’r cosmos cyfan. Byddai hyn yn undod ble mae Duw’n sefydlu cyfiawnder, lle cyfartal i bawb, a thrwy hynny yr adnewyddir y greadigaeth a’i chryfhau. Rydym ni’n dibynnu ar gariad Crist wrth i ni weithredu ac eiriol dros gyfiawnder hinsawdd. Ychwanegwn ein lleisiau at gynulliad Amsterdam (1948) fod ‘rhyfel i’r gwrthwyneb i ewyllys Duw,’ a chynulliad Nairobi (1975) fod ‘hiliaeth yn bechod yn erbyn Duw.’ Galarwn am y ffaith fod yn rhaid i ni ailadrodd y datganiadau hyn.

…Nawr, gofynnwn am gymorth Duw i drawsnewid ein hymrwymiadau i fod yn weithredoedd. Ymrwymwn i weithio gyda phawb sydd ag ewyllys dda. Wrth i ni fyfyrio ar ffrwyth ein gwaith yn Karlsruhe, gwahoddwn bawb i ddod yn bererinion gyda’i gilydd. Oherwydd, yng Nghrist caiff popeth ei wneud yn newydd. Gall ei gariad – sy’n agored i bawb, gan gynnwys yr olaf, y lleiaf a’r colledig, ac a gaiff ei gynnig i bawb – ein symud ni, ein grymuso ni yn ein pererindod o gyfiawnder, cymod, ac undod.           

(Cyfieithiad gan Elinor Wyn Reynolds. Gellir darllen y neges llawn, yn Saesneg, yma).

PYTIAU POLISI

Cynhadledd Bywyd tu hwnt i Ffiniau

Bydd Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI) a Rhwydwaith Ffoaduriaid yr Eglwysi (CRN) yn cynnal cynhadledd ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2022 ym Mhrifysgol Hope Lerpwl i archwilio goblygiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ffiniau ar gymunedau, gan gynnwys eu heffaith ar y mwyaf bregus yn ein cymunedau, megis ffoaduriaid. Bydd hefyd yn dwyn ynghyd amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau ac unigolion o bob rhan o Brydain ac Iwerddon sy’n ymwneud â gwaith lloches a ffoaduriaid mewn rhyw fodd, a bydd yn dangos y gwaith gwych sy’n digwydd gan grwpiau eglwysig a seciwlar yn y maes hwn. Gallwch gofrestru i fynychu’r digwyddiad rhad ac am ddim yma.

Galwadau am wirfoddolwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn apelio am fwy o wirfoddolwyr i letya ffoaduriaid o Wcráin yn eu cartrefi. Mae’r Llywodraeth wedi ariannu Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn, i gynnig  hyfforddiant a chefnogaeth i letywyr i sicrhau fod y broses ymgeisio a’r profiad sy’n dilyn mor hwylus ag yn bosibl. Mae Llywodraeth Cymru a Housing Justice Cymru hefyd yn gweithio gydag Airbnb i ddarparu llety tymor byr i ffoaduriaid o Wcráin sydd ei angen.

Mae Marie Curie yn gobeithio recriwtio gwirfoddolwyr cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Cynorthwywyr Marie Curie, sef gwasanaeth proffesiynol a ddarperir gan wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n cynnig cwmnïaeth a chymorth un-i-un i bobl sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd. Mae Cynorthwywyr Gwirfoddol yn darparu cwmnïaeth a chymorth emosiynol, cymorth ymarferol, seibiannau byr i ofalwyr a help gyda chyfeirio at wybodaeth a chymorth. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gweithrediadau Gwirfoddolwyr ar volunteering@mariecurie.org.uk neu ar 0800 304 7032.

Lansio adroddiad Comisiwn Profedigaeth y DU

Mae adroddiad Comisiwn y DU ar Brofedigaeth, dan gadeiryddiaeth y Gwir Barchedig Sarah Mullally, Esgob Llundain, i’w lansio ar Hydref 12, yn Llundain ac ar-lein. (Gohiriwyd y lansio o Fedi 12). Cyfrannodd Cytûn dystiolaeth i’r adroddiad ar ran eglwysi Cymru, yn sôn am brofiad pandemig Covid 19, ac anghenion pobl ffydd mewn profedigaeth – gan gynnwys sut y gall profedigaeth effeithio ar ffydd ac amheuaeth, a phwysigrwydd gweddi i lawer o bobl grefyddol wrth gefnogi anwylyd trwy ddiwedd oes ac yna wynebu profedigaeth. Gallwch archebu lle i fynychu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen uchod.

Gweithredu dros Natur ym Mro Gŵyr

Mae A Rocha UK wedi trefnu ei ‘ddiwrnod Gweithredu dros Natur’ cyntaf erioed yng Nghymru yng Nghanolfan Madog Sant, Llanmadog, Gŵyr, 10yb tan 2yp ar ddydd Iau 13 Hydref ac mae ar agor i eglwysi a phobl leol. Mae’n gyfle i ddysgu mwy am natur a dod yn agos a phersonol ag ef trwy daith gerdded gydag ecolegydd gwybodus, ac yna yn ôl yn y ganolfan ar gyfer gweithgareddau ymarferol, fel dipio pwll a chrefftau gyda natur. Mae am ddim, ond mae’n hanfodol archebu lle yma.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Medi 28 2022. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Dachwedd 29 2022.