CROESAWU CEISWYR LLOCHES I GYMRU
Mae Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn, yn arwain gwaith partneriaeth yng Nghymru i ddatblygu’r cynllun Lletya ar gyfer pobl ddiymgeledd sy’n geiswyr lloches, ffoaduriaid neu â statws mewnfudo ansicr am resymau eraill. Mae gwesteiwyr gwirfoddol yn croesawu rhywun i’w cartref am gyfnod penodol o amser er mwyn darparu diogelwch a sefydlogrwydd. Mae cael lle i aros ac i gadw eiddo a phapurau yn gam mawr tuag at symud achos yn ei flaen. Mae hefyd yn rhoi cyfle i wella lles a derbyn addysg neu gwirfoddoli.
Gall dinasyddion tramor fod yn ddiymgeledd yn y DU am amrywiaeth o resymau, gan ganfod eu hunain heb unrhyw incwm nac unman diogel i gysgu. Heb ganiatâd cyfreithiol i aros, nid oes hawl ganddynt i weithio na hawlio budd-daliadau, ac mae pobl mewn sefyllfa lle gall eraill gymryd mantais arnynt.
Mae llawer o bobl sydd wedi cyflwyno cais am loches yn byw yn llety’r Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Geiswyr Lloches (NASS), a reolir yng Nghymru gan Ready Homes. Mae’r llety yn amrywio o ran safon ond yn darparu gwely a lwfans cynhaliaeth wythnosol bach. Fodd bynnag, os gwrthodir cais am loches, rhoddir 21 diwrnod o rybudd i breswylydd adael y llety. Ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael i rywun a wneir yn ddigartref fel hyn, a gall y cynllun Lletya fod yn achubiaeth.
Mae yna hefyd fudwyr bregus y tu allan i’r system lloches. Gall pobl golli eu caniatâd cyfreithiol i aros ar ôl i berthynas chwalu, er enghraifft, neu wedi colli swydd. Ac yn ystod y misoedd diwethaf mae rhai pobl wedi disgyn drwy rwyd Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, gan golli’r hawliau oedd ganddyn nhw pan dynnodd y DU allan o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn baradocsaidd, i rai pobl, mae derbyn statws Ffoadur a chaniatâd cyfreithiol i aros yn gyfnod ansefydlog ynddo’i hun. Wrth roi ochenaid o ryddhad, mae’n rhaid i Ffoadur newydd lywio’r newid o NASS i dai prif ffrwd, budd-daliadau a chyflogaeth. Mae’r Swyddfa Gartref yn caniatáu ‘cyfnod gras’ o 28 diwrnod i wneud hyn.
Mae hanes cryf o Letya yng Nghymru a thros y blynyddoedd diwethaf mae miloedd o nosweithiau diogel o gwsg wedi’u darparu yng nghartrefi gwirfoddolwyr. Mae sefydliadau lleol yn cefnogi gwesteiwyr a gwesteion i wneud yn siŵr bod y lleoliadau mor gadarn ag y gallant fod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod yn Genedl Noddfa ac mae’r gwaith Lletya yn rhan o’r mudiad pwerus hwnnw o bobl, cymunedau a sefydliadau.
Sut allaf i gymryd rhan?
Nid oes y fath beth â gwesteiwr ‘nodweddiadol’. Mae Lletya yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd i wahanol bobl ac mae’r trefniadau wedi’u teilwra i westeion a gwesteiwyr unigol. Gall hyd yr arhosiad amrywio o ychydig wythnosau i sawl mis ac mae rheolau’r tŷ yn amrywio. Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am y cynllun Lletya, e-bostiwch Romy Wood ar r.wood@housingjustice.org.uk
STOPIO COSBI CORFFOROL YNG NGHYMRU
Mae delweddau tebyg i’r rhain i’w gweld ar fyrddau hysbysebu a’r cyfryngau ledled Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i weithredu Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 ar ddydd Llun 21 Mawrth. Bydd gwybodaeth yn dod trwy’r bost i gartrefi hefyd.
O dan y gyfraith, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy’n gweithredu fel rhiant bellach yn cael cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Pwrpas y ddeddfwriaeth yw helpu i amddiffyn hawliau plant; mae’n adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae adnoddau ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyhoedd a phartneriaid, gan gynnwys taflen gyffredinol, taflen i rieni, cwestiynau cyffredin, fideos cefnogol, fideo esbonio’r ddeddf, poster, llinellau amser a nodyn briffio i randdeiliaid.
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru Magu Plant. Rhowch amser iddo yn ategu’r ddeddfwriaeth drwy hyrwyddo technegau magu plant cadarnhaol, gyda chyngor gan rieni, gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr ar reoli ymddygiad yn gadarnhaol a heb orfod troi at gosb gorfforol. Gellir dilyn Magu Plant. Rhowch amser iddo ar Facebook a parenting.wales ar Instagram.
Ar 6 Rhagfyr, cyhoeddwyd y cyntaf o nifer o straeon o’r ymgyrch Angen Disgybliaeth i Ddisgyblu yn tynnu sylw at yr effaith hirdymor bosibl o gosb corfforol ar blentyn. Gellir darllen a gweld darllediadau newyddion ITV yma.
GWADDOL SUL YR HINSAWDD
Roedd Cytûn a’r rhan fwyaf o’n haelod eglwysi yn bartneriaid gydag eglwysi a mudiadau Cristnogol eraill yng nghlymblaid Sul yr Hinsawdd, a oedd yn annog eglwysi i addoli, ymrwymo a chodi llais erbyn cynhadledd COP26 ym mis Tachwedd. Er i’r glymblaid bellach ddod i ben, bydd y partneriaid yn parhau i weithio ar newid hinsawdd. Daeth 340 o bobl i weminar i glywed sut y gall eglwysi lleol gymryd camau pellach i warchod Cread Duw, a gellir gweld y gweminar ar-lein, ynghyd â’r ystod eang o adnoddau addoli yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae adran wedi’i diweddaru ar y wefan yn rhoi arweiniad i eglwysi sut i barhau i Godi Llais ar y mater, a bydd y cynlluniau EcoChurch a Live Simply yn parhau i fod ar gael i eglwysi lleol ymuno â nhw.
GWEITHREDU DATGANOLI O FEWN TEYRNAS UNEDIG
Mae pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymryd camau pwysig tuag at sicrhau fod trefn weinyddol gadarn i gadw’r cydbwysedd rhwng eu gallu i ddeddfu a gweithredu yn unol â dymuniadau’r pedair cenedl a’r angen i gyd-lynu cyfraith a marchnata ar draws y DU.
Pan sefydlwyd y drefn ddatganoledig gyfoes yng ngwledydd Prydain yn 1999, fe sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Gweinidogion (JMC) i oruchwylio cyd-berthynas y pedair gweinyddiaeth. Ysbeidiol oedd y cyfarfodydd, ond yn y blynyddoedd cynnar roedd y ffaith mai’r un blaid (y Blaid Lafur) oedd yn ffurfio tair o’r pedair gweinyddiaeth yn golygu fod llawer o gyd-lynu yn digwydd yn anffurfiol.
Hyd yn oed wedi i bleidiau gwahanol ffurfio’r pedair gweinyddiaeth wedi 2010, roedd y ffaith fod llawer o’r meysydd datganoledig yn ddarostyngedig i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn golygu fod yna fframwaith yr oedd yn rhaid i bob llywodraeth weithio oddi mewn iddi. Gyda chanlyniad refferendwm 2016 roedd rhaid i hyn newid, ac ar ddechrau 2021 fe beidiodd cyfraith yr Undeb Ewropeaidd â bod yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig – er i lawer o’r cyfreithiau penodol gael eu cadw (dros dro o leiaf) trwy Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Bu pandemig Covid 19 yn fodd i dynnu sylw llawer mwy cyhoeddus at yr angen am gyd-lynu gwaith y pedair llywodraeth, gan fod iechyd yn faes datganoledig. Cafwyd cyfres o ddadleuon ac anghytundebau cyhoeddus rhwng y llywodraethau am nifer o faterion, a bu cwyno mynych gan y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, nad oedd unrhyw drefn gyson ar gyfer cyd-drafod nac ar gyfer datrys anghydfodau. Roedd yna anfodlonrwydd hefyd fod Llywodraeth y DU – oherwydd ei rôl deublyg fel gweinyddiaeth Lloegr o ran materion datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfan – yn gorfod cyflawni dwy swyddogaeth o fewn y cyfarfodydd, ac nad oedd yna fodd i sicrhau cymodi di-duedd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o adroddiadau am hyn – y mwyaf diweddar oedd Diwygio ein Hundeb yng Ngorffennaf 2021.
Roedd hwn yn adlewyrchu’r pryder cynyddol yn dilyn pasio Deddf Marchnad Fewnol y DU gan Senedd San Steffan – er i Senedd Cymru wrthod cydsynio â hi – yn Rhagfyr 2020. Ond ar y funud olaf, fe gynhwyswyd yn y Ddeddf honno trwy welliant yn Nhŷ’r Arglwyddi sail statudol i’r Fframweithiau Cyffredin oedd yn cael eu trafod ers 2018 gan y pedair llywodraeth i geisio cwmpasu awydd y gweinyddiaethau datganoledig am fwy o ryddid i ddeddfu yn y meysydd hyn y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac awydd Llywodraeth y DU i gyd-lynu’r meysydd polisi ar draws y pedair gwlad. Bellach fe gyhoeddwyd rhai o’r fframweithiau hyn a mae Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin yn ymgynghori amdanynt tan Chwefror 21. Digon technegol yw cynnwys y fframweithiau, ond yn dilyn y pandemig a’r dadleuon yn ei sgîl fe fydd y fframwaith amlinellol ar Ddiogelu Iechyd Cyhoeddus o ddiddordeb eang.
Yn Ionawr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad o gyd-Berthynas y llywodraethau (Saesneg yn unig) sy’n gosod yn ei le drefn newydd. Mae hon yn cynnwys Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig; Pwyllgor Sefydlog Rhyng-weinidogol rhwng y gweinidogion sy’n gyfrifol am faterion rhyng-lywodraethol ymhob llywodraeth; Pwyllgor Sefydlog Rhyng-weinidogol Ariannol; a Grwpiau Cyd-weinidogol ar bynciau penodol (megis Sero Net; Etholiadau; Cabinet Chwaraeon; Twristiaeth; Addysg Uwch; Masnach; y Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE; ac ati). Yn fwyaf arwyddocaol, bydd yna Ysgrifenyddiaeth Ryng-lywodraethol yn atebol i’r pedair gweinyddiaeth (nid i Lywodraeth y DU yn unig) a fydd yn gyfrifol am lunio agendâu ac ati ac am drefnu datrys anghydfodau pan fo angen. Mae nifer o’r trefniadau hyn yn adlewyrchu yr hyn ofynnwyd amdano gan Lywodraeth Cymru yn Diwygio ein Hundeb. Mae’r drefn newydd hon hefyd yn cael ei hadlewyrchu ym mwriad Swyddfa Marchnad Fewnol y DU (a sefydlwyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020) i drin y pedair gweinyddiaeth mewn modd cyfartal wrth fynd i’r afael ag unrhyw anawsterau sy’n codi gyda marchnad fewnol y DU.
Er nad oes unrhyw drefn yn mynd i atal anghytgord gwleidyddol na cham-ddealltwriaeth rhag codi o dro i dro, gellir cytuno’n amodol â dyfarniad yr arbenigwr cyfansoddiadol David Torrance yn ei bapur i Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin fod hyn yn agor cyfnod newydd yn rhyng-berthynas llywodraethau’r DU. Amser a ddengys sut fydd pethau’n datblygu.
Gethin Rhys
CYHOEDDI DOGFENNAU TERFYNOL Y CWRICWLWM
Yn hwyrach na’r disgwyl, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis Ionawr y dogfennau terfynol ar gyfer ysgolion Cymru iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd o Fedi 2022. O’r dyddiad hwnnw, bydd disgyblion hyd at flwyddyn 6 yn derbyn addysg trwy gwricwlwm a baratoir yn lleol ar sail y fframwaith cenedlaethol yn y dogfennau hyn. Bydd gan ysgolion uwchradd y dewis o gyflwyno’r cwricwlwm i Flwyddyn 7 ym Medi 2022 neu Fedi 2023, ond bydd raid iddynt gyflwyno i Flwyddyn 8 yn 2023 ac yna i bob blwyddyn arall yn eu tro yn y blynyddoedd sy’n dilyn.
Yn ogystal â thwtio’r dogfennau a gyhoeddwyd eisoes a diweddaru’r amserlen a’r wybodaeth am y sefyllfa gyfreithiol, mae’r pecyn o ddogfennau yn cynnwys dwy adran y bu eglwysi Cymru yn eu trafod yn fanwl ac yn ddwys gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, sef:
- Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Canllawiau yw’r rhain yn hytrach na fframwaith, am y rheswm a esbonir yn y ddogfen fel a ganlyn:
Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig er mwyn adolygu’r maes llafur ac argymell maes llafur priodol i’r awdurdod lleol er mwyn iddo ei fabwysiadu. Dylai’r maes llafur cytunedig ar gyfer pob awdurdod lleol gael ei adolygu bob pum mlynedd.
Ar ôl i faes llafur cytunedig gael ei fabwysiadu, bydd yn ofynnol i bob ysgol a lleoliad a gynhelir ystyried y maes llafur cytunedig, gan gynnwys ysgolion sydd â chymeriad crefyddol, wrth gynllunio elfen maes llafur cytunedig eu darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Os bydd awdurdod lleol yn dymuno mabwysiadu neu addasu’r canllawiau [cenedlaethol] hyn fel eu maes llafur cytunedig, caiff wneud hynny.
Mae nifer o Feysydd Llafur Cytunedig wedi eu trefnu dros yr wythnosau nesaf, a dymunwn yn dda i gynrychiolwyr yr eglwysi a’r cymunedau crefyddol eraill ymhob awdurdod lleol wrth iddynt drafod sut i gymhwyso’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer ysgolion eu hardal leol.
- Côd a Chanllawiau Statudol ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: Cytunwyd y Côd trwy bleidlais yn Senedd Cymru yn Rhagfyr 2021, ac felly mae sail statudol i’r adran hon o’r cwricwlwm. Rydym yn falch o weld cydnabyddiaeth benodol fod angen i’r adran hon o’r cwricwlwm (fel pob adran arall) barchu hawliau plant i ryddid mynegiant ac i gael eu magu o fewn cymuned grefyddol. Rydym hefyd yn falch fod y cynnwys gorfodol yn yr adran hon o’r cwricwlwm wedi ei seilio ar brofiadau creiddiol megis cyfeillgarwch a pherthynas deuluol.
Mae’r cwricwlwm cyfan yn gofyn i ysgolion sicrhau fod dysgwyr yn datblygu ymdeimlad dilys o gynefin, gan ddatblygu gwybodaeth am wahanol ddiwylliannau a hanes, a’u galluogi i feithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth unigol a deall sut y mae hyn yn cysylltu â dylanwadau ehangach ac wedi’u llywio ganddyn nhw. Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio mwy am cynefin fel hyn: Dyma’r man y teimlwn ein bod yn perthyn iddo, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a lle mae’r golygfeydd a’r seiniau yn gysurus o hawdd eu hadnabod. Nid dim ond man yn yr ystyr ffisegol neu ddaearyddol ydyw, serch hynny. Dyma’r lleoliad hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi ffurfio ac sy’n parhau i ffurfio’r gymuned sy’n trigo ynddo.
Mae eglwysi a chapeli a chymunedau ffydd, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o’r cynefin hwn, a dyma agor cyfleoedd i eglwysi lleol (fel mudiadau lleol eraill) ddyfnhau eu cysylltiadau â’u hysgolion lleol.
Wrth ddylunio cwricwlwm yn lleol, dywedir Dylai hyn fod yn sgwrs barhaus ar gyfer yr ysgol gyfan a thu hwnt, gan ymgysylltu â’r rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, academia a gwasanaethau cyhoeddus. Dylai hyn gael ei lywio gan werthoedd ac ethos yr ysgol, yn ogystal â’i lleoliad a’i hamgylchedd. Mae hyn yn ategu y cyfle pwysig a roddir gan y cwricwlwm I ymwneud â’n hysgolion lleol, nid yn unig ar gychwyn y cwricwlwm newydd ond yn barhaus, a’r ddyletswydd ar ysgolion i ymwneud ag eglwysi fel rhan o’r gymuned leol.
Fe fydd Cytûn yn parhau i annog eglwysi lleol, ac yn gweithio gyda’n haelod enwadau a mudiadau yn genedlaethol, i wneud y gorau o’r cyfleoedd newydd hyn. Yn y cyfamser, mae gan ysgolion dipyn o dasg i gyflwyno cwricwlwm newydd tra yn ymdrin ag effeithiau Covid-19, a byddai’n dda i eglwysi lleol weddïo dros eu hysgolion lleol a chynnig cymorth ymarferol lle bo hynny’n bosibl. Ceir deunydd gweddi gan fudiad Pray for Schools, a chynhelir cyfle arlein i weddïo ar Chwefror 10.
FFYDD YN Y DYFODOL: EGLWYSI A CHAPELI YNG NGHYMRU
Mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol a Fforwm Addoldai Cymru (y mae Cytûn a llawer o’n haelod eglwysi yn rhan ohono) yn trefnu tair seminar Ffydd yn y Dyfodol
• adeiladu cysylltiadau ac ymgysylltu â chymunedau ar 15 Chwefror am 1.30yp
• ffyrdd arloesol o godi arian ac incwm ar 8 Mawrth am 1.30yp
• ymateb i her newid hinsawdd ar 29 Mawrth am 1.30yp
Mae pob gweminar yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch ar EventBrite
Bydd pob seminar yn gyfle i glywed gan arbenigwyr yn y sector, gyda’r ymchwil a’r cyngor diweddaraf. Yn bwysicach, byddwn hefyd yn clywed gan wirfoddolwyr mewn prosiectau gwych ac enghreifftiau o arfer gorau mewn eglwysi, capeli a mannau addoli eraill.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich ymateb i’r trafodaethau a bydd yr adborth a roddwch yn helpu i lywio gwaith Fforwm Addoldai Cymru yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn eich annog i rannu syniadau a chwestiynau gyda gwirfoddolwyr o eglwysi, capeli a mannau addoli eraill sy’n cymryd rhan yn y sgwrs.
CYNLLUN CYMORTH TANWYDD GAEAF CYMRU
Fel rhan o becyn cymorth ehangach o dros £50m i fynd i’r afael â phwysau ar gostau byw ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
Mae’r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae un aelod yn cael rhai budd-daliadau penodol, sef:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credydau Treth Gwaith
Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifol am dalu biliau ynni’r eiddo.
Gall unrhyw un y mae angen cymorth ariannol arnynt i dalu am danwydd oddi ar y grid (megis olew, nwy petrolewm hylifedig neu glo) ystyried gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth.
Bydd cynghorau lleol yn cysylltu ag aelwydydd cymwys i ofyn iddynt wneud cais. Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd o’r farn ei fod yn gymwys gyflwyno cais drwy wefan ei gyngor lleol o 13 Rhagfyr 2021 ymlaen. Rhaid i bob cais ddod i law cyn 18 Chwefror 2022. Mewn achos ceisiadau llwyddiannus, gwneir y taliadau rhwng mis Ionawr a diwedd mis Mawrth 2022.
Mae Adran Gwaith a Phensiynau a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau na fydd y taliad hwn yn effeithio ar fudd-daliadau presennol ymgeiswyr ac na chodir trethi arnynt.
DEDDFWRIAETH DDADLEUOL YN SAN STEFFAN
Mae nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sydd gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn peri pryder i’n haelod eglwysi, ac i eglwysi a sefydliadau Cristnogol ledled y DU.
Mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn gwneud diwygiadau sylfaenol i drefniadau’r DU ar gyfer derbyn ac asesu’r rhai sy’n ceisio lloches (y dyfernir statws ffoadur iddynt, os ydynt yn llwyddiannus). Yn benodol, ni fydd ceisiadau am loches yn dderbyniol os bydd pobl yn cyrraedd ar hyd llwybrau anawdurdodedig (fel glanio mewn cychod bach ar yr arfordir). Bydd hefyd yn cyfyngu cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern i’r rhai sy’n honni bod hyn yn wir o fewn terfyn amser penodedig. Mae Cadeirydd Cytûn wedi arwyddo llythyr aml-ffydd a gydlynir gan y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd (Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys Diwygiedig Unedig) a gyhoeddir ddechrau mis Chwefror; mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhannu profiad am ei gwaith ar gaethwasiaeth fodern; ac mae Cymdeithas y Cyfeillion wedi cyflwyno tystiolaeth i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol yn San Steffan. Mae’r Bil yn cael ei drafod ar hyn o bryd mewn pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi, lle mae rhai o esgobion Eglwys Loegr wedi cyflwyno gwelliannau. Bydd angen i unrhyw newidiadau a wneir yn Nhŷ’r Arglwyddi gael eu hystyried gan Dŷ’r Cyffredin, sydd eisoes wedi cytuno i’r Bil.
Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn ymdrin ag ystod eang o faterion cyfiawnder troseddol. Mae Rhan 4 o’r Bil yn gwneud tresmasu ar le gyda’r bwriad o fyw yno yn drosedd, a fydd yn gwneud bywyd yn anodd iawn i Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny (gan gynnwys y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru) lle nad oes digon o safleoedd swyddogol i Deithwyr aros. Bu Cytûn, fel rhan o Glymblaid Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Trydydd Sector Cymru, yn gohebu â’r Arglwyddi ac Aelodau Senedd Cymru ynglŷn â hyn, a llofnododd Archesgob Cymru yr Eglwys yng Nghymru a sawl aelod eglwys arall lythyr aml-ffydd. Pleidleisiodd Senedd Cymru i wrthod cydsynio i’r rhan hon o’r Bil, ond nid yw’n hysbys eto a fydd hyn yn rhwystro ei gweithredu yng Nghymru.
Mae cymalau yn yr un Bil a fydd yn rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu atal protestiadau yn cael eu gwrthwynebu gan Gymdeithas y Cyfeillion ac eraill yng Nghynghrair Bil yr Heddlu. Gwnaed llawer o ddiwygiadau i’r adran hon gan Dŷ’r Arglwyddi, a bydd angen i’r newidiadau hyn yn awr gael eu hystyried gan Dŷ’r Cyffredin.
Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori tan Fawrth 8 ar ddiwygiadau posibl i Ddeddf Hawliau Dynol 1998, a fyddai’n cyflwyno cam cyn gwrandawiad i leihau nifer yr heriau hawliau dynol sy’n cyrraedd y llysoedd; cyfyngu ar y graddau y gall llysoedd domestig gymryd cynseiliau o Lys Hawliau Dynol Ewrop i ystyriaeth; rhagnodi’n fanylach y ffyrdd y dylid dehongli rhai hawliau dynol yn y DU; ac ychwanegu rhai hawliau ychwanegol, megis hawl i brawf gan reithgor. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder am y newidiadau posibl ac wedi gwahodd grwpiau ffydd ac eraill i gyfarfod i ystyried goblygiadau’r newidiadau hyn, ac mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymchwiliad ac wedi gwahodd Cytûn i gymryd rhan. Byddem yn croesawu cyfraniadau i’n hymateb gan ein haelod eglwysi a sefydliadau.
CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales
Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL
Yn ystod cyfnod yr argyfwng, yn gweithio gartref. Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru www.cytun.co.uk @CytunNew
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2022. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 28 Mawrth 2022.