DIWEDD TYMOR CYTHRYBLUS SENEDD CYMRU
Ar brynhawn Mercher, Mawrth 24, fe ddaeth diwedd ar dymor pumed Cynulliad Cymru, bellach yn Senedd Cymru. Yn yr un modd â’r pedwerydd tymor, fe ddaeth i ben gyda’r Llywodraeth yn annisgwyl yn colli’r bleidlais olaf un (er nad oedd oblygiadau pellgyrhaeddol i’r bleidlais hon). Cafwyd wedyn areithiau teimladwy gan y saith AS sydd wedi dewis peidio â sefyll yn yr etholiad nesaf. Bydd y gweddill yn ymgiprys gydag ymgeiswyr newydd yn yr etholiad a gynhelir ar Fai 6 (gweler tudalen 6 am adnoddau Cytûn ar gyfer yr etholiad).
Fe fu’n dymor cythryblus mewn sawl ffordd. Bu farw 3 o’r 60 aelod a etholwyd yn 2016 (Mohammad Asghar, Steffan Lewis a Carl Sargeant) ac ymddiswyddodd un arall (Nathan Gill). Penderfynodd 8 aelod newid eu plaid, rhai fwy nag unwaith, gyda 2 yn gadael Plaid Cymru a 6 yn gadael UKIP. Cododd a diflannodd Plaid Brexit o fewn yr un Senedd. Erbyn diwedd y tymor roedd wyth plaid wahanol wedi eu cynrychioli ar lawr y Senedd a thri aelod annibynnol.
Yn gynnar yn y tymor, pleidleisiodd y DU, gan gynnwys Cymru, i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Nid yn unig oedd hyn yn ddadleuol – gyda mwyafrif llethol aelodau’r Senedd wedi ymgyrchu dros aros – ond roedd pwerau’r Senedd wedi eu diffinio o fewn fframwaith gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd. Mae ailwampio’r fframwaith hwnnw yn anorffenedig ar ddiwedd y tymor, gydag oblygiadau’r newidiadau i rychwant pwerau Senedd Cymru yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020 heb eu profi hyd yma, ac yn cael eu herio yn gyfreithiol gan Lywodraeth Cymru. Bydd angen i’r Senedd nesaf ddeddfu ym meysydd amaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd i sefydlu gweithdrefnau newydd cyflawn i Gymru.
Daeth diwedd y tymor ddiwrnod wedi nodi blwyddyn ers cyflwyno cyfnod clo i geisio atal lledaenu’r coronafeirws yng Nghymru. Yn ogystal â’r holl oblygiadau i unigolion, teuluoedd, eglwysi a’r gymdeithas gyfan, gwelwyd bod gan Senedd Cymru bwerau nad oedd fawr neb wedi breuddwydio amdanynt cyn hynny i gyfyngu ar ryddid unigolion a chymdeithas dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd ac i reoli pob agwedd ar fywyd. Daeth i’r amlwg fod yr amgylchiadau yn caniatáu i Senedd Cymru reoli materion megis trefniadau mewnfudo o dramor a theithio ar draws y ffin â Lloegr, nad ydynt wedi eu datganoli fel y cyfryw. Nid rhyfedd, felly, i fater perthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig ddod yn bwnc trafod yn ystod blwyddyn y pandemig.
Arafodd y broses o greu deddfau newydd oherwydd Covid, ond fe lwyddwyd i basio nifer o ddeddfau fydd yn effeithio ar Gymru am genhedlaeth, yn eu plith:
- Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sydd yn trawsnewid beth a ddysgir i holl ddisgyblion ysgolion Cymru, gyda fframwaith y cwricwlwm newydd i’w gyflwyno o Fedi 2022.
- Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn atal cosbi plant yn gorfforol o Ebrill 2022.
- Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn gosod isafswm o 50c yr uned am alcohol.
- Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 sy’n atal ysmygu mewn ystod o leoedd cyhoeddus.
- Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a roddodd yr hawl i bobl ifainc 16 ac 17 oed a dinasyddion o wledydd eraill bleidleisio yn etholiad y Senedd ar Fai 6 2021, a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n ymestyn yr un hawliau i etholiadau lleol o Fai 2022.
Ar y llaw arall, methwyd am dymor cyfan â gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a basiwyd gan y Cynulliad blaenorol, a bydd raid aros tan o leiaf Ebrill 2022 i’w gweld ar waith. Pan ddigwydd hynny, bydd holl drefn rhentu tai gan landlordiaid preifat (gan gynnwys eglwysi) yn newid yng Nghymru.
Trwy’r cyfan fe fu Cytûn yn ceisio sicrhau fod buddiannau eglwysi Cymru yn cael eu hystyried (er enghraifft, o ran anghenion eglwysi sy’n darparu tai i’w gweinidogion dan y drefn gyfreithiol newydd) a hefyd fod llais Gristnogol i’w chlywed am y materion moesol a chymdeithasol sy’n codi wrth ddeddfu o’r newydd ac wrth weithredu’r deddfau sydd eisoes yn bod. Ar ambell fater (megis cosbi plant) gwyddom nad yw ein heglwysi a’u haelodau yn unfryd unfarn, ond fe geisiwyd helpu Llywodraeth a Senedd Cymru i ddeall yr ystod o ddaliadau sydd yn ein plith. Lle’r oeddem yn gallu cydweithio gyda chymunedau ffydd eraill – Cristnogol ac o grefyddau eraill – fe wnaethom hynny, ac yn yr un modd gyda mudiadau trydydd sector eraill. Yn ystod blwyddyn Covid fe ddaeth y Fforwm Cymunedau Ffydd a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector hyd yn oed yn bwysicach wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru am yr amryfal newidiadau yn y rheoliadau, a mae Cytûn yn cynrychioli ein haelodau ar y ddau fforwm allweddol yma.
DEDDFU AR GYFER CYMRU SERO-NET ERBYN 2050
Ymhlith y llu o is-ddeddfau a basiwyd yn wythnosau olaf y Senedd oedd cyfres o reoliadau i leihau allyriadau carbon Cymru i ddim erbyn 2050, gyda rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau gostyngiad o 63% o leiaf (o’i gymharu â 1990) erbyn 2030 ac o leiaf 89% erbyn 2040. Nid ar chwarae bach y cyrhaeddir y nodau hyn – er y gellir cyfrif mesurau megis cipio a storio carbon mewn coedwigoedd neu trwy ddulliau technolegol wrth geisio eu cyrraedd.
Fe fydd ymrwymiadau pob gwlad yn y byd yn cael eu hystyried yn Uwch-Gynhadledd ryngwladol COP26 a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021. Mae Cytûn yn cynrychioli ein haelod eglwysi a mudiadau o fewn dwy glymblaid sydd yn gweithio i esbonio pwysigrwydd y gynhadledd hon ac annog unigolion, eglwysi a’r gymdeithas gyfan i ymgymryd â’r her – tra’n cydnabod mai yn nwylo llywodraethau’r byd y mae’r gallu i gymryd y camau mwyaf.
Mae Climate.Cymru yn glymblaid o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy’n anelu at godi llais o leiaf 50,000 o bobl yng Nghymru yn yr uwch-gynhadledd. Gallwch ychwanegu’ch llais chi drwy ddilyn y ddolen uchod i’r wefan.
Mae Sul yr Hinsawdd yn glymblaid o eglwysi a mudiadau Cristnogol ledled Prydain ac Iwerddon sy’n annog cynulleidfaoedd lleol o bob traddodiad Cristnogol i gynnal oedfa seiliedig ar thema’r hinsawdd; ymrwymo i wneud eu rhan fel cynulleidfa drwy gynllun EcoChurch neu LiveSimply; a chodi llais trwy arwyddo datganiad Clymblaid yr Hinsawdd at yfory mwy iach, teg a gwyrdd – gan nodi eich bod yn gwneud hynny ar sail eich ffydd. Mae yna adnoddau helaeth ar gyfer eich oedfa – neu, yn wir, fwy nag un oedfa – yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Sul yr Hinsawdd.
Lansio prosiect i helpu pobl hŷn aros mewn cyswllt.
Mae Age Cymru wedi lansio HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) i helpu pobl hŷn (50+) a gofalwyr i gael eu cefnogi a gallu byw eu bywydau i’r eithaf. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ledled Cymru. Ariennir Hope gan Lywodraeth Cymru dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd Mawrth 2023.
Bydd HOPE yn helpu pobl i gael gwybodaeth a chefnogaeth gyda materion gan gynnwys tai, cyrchu gwasanaethau, delio ag unigrwydd ac arwahanrwydd a chael cymorth ariannol a hawliau eraill y gallant fod eu hangen neu elwa ohonynt. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn helpu pobl hŷn i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, deall eu hawliau, ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Gwyddom y bydd y pandemig COVID-19 presennol wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl hŷn, felly mae’n bosib bod angen mwy o gymorth nag erioed arnynt i ailymgysylltu â’u cymunedau a chael mynediad at wasanaethau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.
Bydd staff a gwirfoddolwyr HOPE hefyd yn ymgysylltu â chymunedau all ein harwain i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth a ddarparwn yn briodol i anghenion pobl hŷn a gofalwyr yn eu hardaloedd. Byddwn yn datblygu fforymau i’n cefnogi i wneud hyn neu byddwn yn gweithio â rhai sydd eisoes yn bodoli, os oes rhai. Nid ydym eisiau dyblygu gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli, ond yn hytrach hoffem wneud yn siŵr ein bod yn ategu darparwyr a fforymau eiriolaeth sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Fe fydd modd i eglwysi, sydd eisoes yn cynnig cymaint o gymorth gwirfoddol i bobl hŷn yn eu cymunedau lleol, gyfeirio pobl i’r gwasanaeth eiriolaeth newydd.
Bydd HOPE yn sefydlu rhaglen o hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau a fydd yn galluogi eiriolwyr ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth ymhellach. Bydd hyfforddiant a gweithdai ar gael hefyd i weithwyr proffesiynol eraill a allai elwa o fwy o ymwybyddiaeth o eiriolaeth a sut i gael mynediad ato.
Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr yn y gymuned i ddarparu cymorth eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn a gofalwyr lleol, gan ganiatáu iddynt lunio’r penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau ac osgoi mynd i sefyllfaoedd o argyfwng. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn eiriolwr gwirfoddol gyda HOPE, cysylltwch â Bryony Darke (bryony.darke@agecymru.org.uk) neu ewch i’r wefan: www.agecymru.org.uk/advocacy
Ail Rownd y Gronfa Adfer Diwylliannol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ail rownd o grantiau’r Gronfa Adfer Diwylliannol. Ei nod yw diogelu busnesau a sefydliadau cynaliadwy a chymaint o swyddi â phosibl er mwyn sicrhau bod y sector diwylliannol yn goroesi argyfwng Covid-19 ac yn parhau i fod yn fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy. Mae’r sector yn cynnwys theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, mannau recordio ac ymarfer, atyniadau a sefydliadau treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, archifau, sinemâu annibynnol, lleoliadau comedi a digwyddiadau.
Bydd y cyllid yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Bydd y Gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau o’r wythnos sy’n dechrau ar 6 Ebrill ac yn cau ar 20 Ebrill. Fe all y bydd nifer o fudiadau Cristnogol yn gymwys. Ceir yma fwy o wybodaeth am y gronfa a holiadur i asesu a yw eich sefydliad neu fusnes yn gymwys i wneud cais.
BYW NAWR YN TROI YN COMPASSIONATE CYMRU
Mae John Moss yn ysgrifennu…
Yn ddiweddar, cefais fy mhenodi’n rheolwr rhaglen strategol Compassionate Cymru gyda Macmillan, gan weithio’n agos gyda Lesley Bethell, cadeirydd Compassionate Cymru, a’n tîm sy’n datblygu gan gynnwys Cath Thompson a Kimberley Jones.
Pwrpas gwreiddiol Byw Nawr, a sefydlwyd gan y diweddar Dr Hywel Francis AS, oedd cynhyrchu sgwrs genedlaethol am sut y gallwn fyw yn dda, ac eto gwneud paratoadau ymlaen llaw ar gyfer diwedd oes ac mae’r mudiad wedi cyflawni llawer. Fodd bynnag, canolbwyntiodd sylw’r grŵp fwy a mwy ar y dull cymunedau tosturiol a phan lofnodwyd Siarter Compassionate Cymru gan Weinidogion Cymru yn 2020, roedd yn ymddangos bod yr amser yn iawn i symud o Byw Nawr a chanolbwyntio ymdrechion yn llwyr ar ddarparu Cymru Tosturiol.
Mae uchelgais, cyrhaeddiad a chwmpas y rhaglen yn aruthrol ac yn hynod gyffrous ac mae’n cynnwys gweithio gyda nifer fawr o bartneriaid a sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, a sefydliadau’r trydydd sector. Rhoddir cyd-destun i’r gwaith hwn gan y Siarter Gwlad Dosturiol a’i wreiddio yn ein cymunedau ac yn yr unigolion, y teuluoedd a’r sefydliadau sy’n eu ffurfio.
Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar yr aelodau hynny o’n cymunedau sydd ar ddiwedd eu hoes, neu’n gofalu am y rheini sy’n cyrraedd diwedd eu hoes ar unrhyw oedran, gan gynnwys plant a’u teuluoedd. Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi’r rhai o unrhyw oed sy’n unig ac yn ynysig, ac am ddod â phobl ynghyd â’r rhai sy’n aelodau o’u cymunedau ac yn awyddus i gefnogi ei gilydd. Mae ein prosiectau cychwynnol yn canolbwyntio ar gefnogi llwybrau adref o’r ysbyty, darparu cefnogaeth y gymdogaeth a gweithio i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn marw ar ei ben ei hun.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi i gyd i wneud y cysylltiadau hyn fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddarparu Cymru Tosturiol.
Ychwanegodd Gethin Rhys…
Rwy’n cynrychioli Cytûn a’n haelod-eglwysi ar Grŵp Llywio Compassionate Cymru, ac os dilynwch y ddolen uchod i’r Siarter Gwlad Dosturiol fe welwch fod ynddi gyfeiriad penodol at addoldai.
Byddaf yn cydlynu ymateb yr eglwysi i Fframwaith Cenedlaethol Drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Profedigaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd tua diwedd tymor y Senedd. Byddwn yn croesawu cyfraniadau i’n hymateb – nid oes rhaid i’r rhain fod yn draethodau hir am fanylion polisi, ond gallant fod yn gyfraniadau ar sail profiad eich cynulleidfa, eich enwad neu’ch mudiad. Er mwyn cael ein hymateb i Lywodraeth newydd Cymru erbyn y dyddiad cau, Mai 17, byddwn yn falch o glywed gennych erbyn Mai 10 trwy gethin@cytun.cymru
Newid yn y drefn ar gyfer cofrestru priodasau
Mae Comisiwn y Gyfraith ar hyn o bryd yn ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad gynhaliwyd yn 2020 ar gyfraith cynnal priodasau yng Nghymru a Lloegr. Yn y cyfamser, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU gerbron Senedd San Steffan reoliadau The Registration of Marriages Regulations 2021 i weithredu’r newidiadau i drefn cofrestru priodasau yn The Civil Partnerships, Marriages and Deaths (Registration etc.) Act 2019.
Bydd hyn yn newid rhai o gyfrifoldebau gweinidogion a phersonau awdurdodedig wrth gofrestru priodasau o Fai 4 2021. Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi cyhoeddi crynodeb o’r newidiadau, a mae blog Law & Religion wedi cyhoeddi crynodebau defnyddiol o’r wybodaeth i glerigion a gwybodaeth i’r sawl sy’n cofrestru gan Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol.
Dylid nodi hefyd fod yna newidiadau i’r gofynion ar gyfer dinasyddion tramor sydd am briodi yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a cheir gwybodaeth am hynny ar gov.uk
Eglwysi yn galw am ddiogelu Datblygu Rhyngwladol Prydain
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Canghellor y DU fwriad y Llywodraeth i leihau’r gyllideb ar gyfer datblygu rhyngwladol yn sylweddol, gan ddadlau bod costau ymdrin â phandemig y coronafeirws yn golygu bod angen torri’r gyllideb dros dro.
O dan gynlluniau’r Llywodraeth, bydd gwariant cymorth tramor yn cael ei leihau o 0.7 y cant i 0.5 y cant o Incwm Gwladol Gros. Byddai’n golygu y byddai’r gyllideb ddatblygu ryngwladol yn gweld gostyngiad o tua thraean, o £15.2 biliwn yn 2019 i tua £10 biliwn yn 2021. Llwyddwyd i gyrraedd y targed o 0.7 y cant bob blwyddyn ers 2013, a’i gorffori yn y gyfraith ers 2015.
Mae uwch arweinwyr a chynrychiolwyr o Eglwysi’r DU wedi beirniadu’r cam hwn yn gryf, yn eu plith arweinyddion nifer o aelod eglwysi Cytûn:
Meddai’r Cardinal Vincent Nichols, Archesgob Westminster, “Mesur clir o fawredd gwlad yw’r ffordd y mae’n ymateb i anghenion ei phobl dlotaf. Mae’r un peth yn wir am yr ymateb i dlodi rhwng gwledydd. Os ydym yn dymuno bod yn wlad wych mewn gwirionedd yna mae torri’r gyllideb cymorth tramor yn gam yn ôl.”
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru, “Mae ymrwymiad llywodraeth y DU i wario 0.7% o Incwm Gwladol Gros ar ddatblygu rhyngwladol… wedi rhoi llawer i’r DU fod yn falch ohono fel chwaraewr ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddangos ein cefnogaeth i wledydd eraill, cydnabod ein rhyng-gysylltedd fel cymuned fyd-eang, a darparu llwyfan cryf i ni annog cyfrifoldeb byd-eang mewn eraill. Nid yw’n dderbyniol dweud y dylai pobl gwledydd eraill ddioddef mwy oherwydd bod pobl yn y DU yn dioddef effeithiau economaidd y pandemig.”
Meddai’r Parch Richard Teal a Mrs Carolyn Lawrence, Llywydd ac Is-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd, “Mae’n amser anodd i lawer ohonom, yma yn y DU, ac i’n brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd. Mae ymrwymiad cymorth y DU yn ganran o incwm y DU – ac felly mae’n newid bob blwyddyn, ac nid yw byth yn fwy na’r hyn y gallwn ei fforddio fel gwlad.”
Gyda galwad i garu ein cymdogion, ymrwymiad i weithio dros gyfiawnder, a llawer o gysylltiadau byd-eang, mae Eglwysi wedi hyrwyddo ymdrechion rhyngwladol sy’n ymwneud â datblygiad dynol a lleihau tlodi byd-eang ers degawdau lawer. Mae’r targed o 0.07 y cant yn deillio o fenter gan Gyngor Eglwysi’r Byd ym 1958, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig ym 1970.
Yn y DU, mae Eglwysi a Christnogion wedi bod yn amlwg iawn yn yr alwad ar Brydain i gefnogi datblygu rhyngwladol a chyflawni ei chyfrifoldebau byd-eang mewn perthynas â chymorth, masnach, dyled a hinsawdd, drwy ymgyrchoedd fel Jiwbilî 2000 a Rhown Derfyn ar Dlodi. Mae gwreiddiau llawer o asiantaethau datblygu rhyngwladol mawr Prydain fel Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund a World Vision yn yr eglwysi.
Y pandemig byd-eang yw’r argyfwng dyngarol mwyaf mewn cenhedlaeth, ac mae wedi gwthio tua 150 miliwn o bobl i dlodi eithafol ledled y byd. Ar yr adeg dyngedfennol hon, cred yr eglwysi mai mwy o gymorth rhyngwladol sydd ei angen, nid llai. Mae’r DU wedi bod yn ddylanwadol yn gwthio ei chymheiriaid i ymrwymo i fwy o gymorth a gwell cymorth – ond bydd yn cwympo’n is na nhw yn awr. Mewn blwyddyn pan fydd y DU yn cynnal Uwchgynadleddau’r G7 a Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, a phan mae’r llywodraeth yn ceisio sefydlu rôl a gweledigaeth ar gyfer ‘Prydain Fyd-eang’ wedi Brexit, dylem fod yn dangos arweiniad drwy ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu rhyngwladol.
Mewn oes o ryng-ddibyniaeth fyd-eang, mae helpu i greu cymdeithasau mwy diogel, tecach ac iachach lle gall pawb ffynnu er budd pawb. O ran Covid-19, dim ond pan fydd pobl a gwledydd o amgylch y byd yn rhydd o’r firws y gellir codi’r cyfyngiadau ar ein bywydau. Dim ond trwy weithredu rhyngwladol y gellir mynd i’r afael yn effeithiol â heriau cyfoes eraill sy’n effeithio ar Brydain, fel newid yn yr hinsawdd, mudo a rhyfeloedd.
Anogir aelodau’r eglwysi i ysgrifennu at Aelodau Senedd San Steffan i fynegi eu safbwynt.
Talfyriad o bapur briffio a gyhoeddwyd gan Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon
CADARNHAU CYNNAL ETHOLIADAU AR FAI 6 2021
Ar Fawrth 9, fe gadarnhaodd Llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban y byddai’r etholiadau’r a drefnwyd ar gyfer Mai 6 yn cael eu cynnal, dan amodau arbennig oherwydd pandemig Covid-19 – gan gynnwys ei gwneud yn haws pleidleisio trwy’r post. Yng Nghymru, bydd modd ethol 60 aelod i Senedd Cymru ac ethol y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd, un i bob heddlu yng Nghymru.
Mae Cytûn yn rhan o bartneriaeth o eglwysi ar draws gwledydd Prydain sydd wedi llunio adnoddau i helpu eglwysi a Christnogion unigol i feddwl a gweddïo wrth iddynt baratoi i bleidleisio. Mae’r adnoddau yn cynnwys gwybodaeth am yr etholiadau a’r drefn bleidleisio a gweddi arbennig ar gyfer cyfnod yr etholiad. Ceir hefyd gwybodaeth ddi-duedd am nifer o feysydd polisi allweddol, yn cynnwys cwricwlwm newydd ysgolion Cymru; gofal cymdeithasol; tlodi yng Nghymru; mewnfudo, ceisio lloches a phobl ddu ac ethnig lleiafrifol; adferiad cyfiawn a gwyrdd yn dilyn y pandemig; a materion heddlu a throsedd. Mae’r deunydd ar gyfer Cymru, ynghyd â deunydd cyfatebol ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban a llywodraeth leol yn Lloegr, ar gael hefyd ar: jointpublicissues.org.uk/elections
Mae Cytûn hefyd yn rhan o bartneriaeth gyda Chynghrair Efengylaidd Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru (EYST) i gynnal sesiwn holi ac ateb arlein gyda Siân Gwenllian (Plaid Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru) a Mai Rees (Ceidwadwyr Cymreig) ar nos Fercher Ebrill 14 am 6.30-8yh. Bydd y Tra Pharch. Ddr Sarah Rowland-Jones, Deon Tyddewi, yn cadeirio. Gellir cadw lle arlein yma.
Cyhoeddodd Cytûn arweiniad i grwpiau lleol sydd am gynnal cyfarfodydd tebyg yn eu hetholaeth neu ranbarth. Gallwn roi cyhoeddusrwydd i’r rhain o dderbyn y manylion trwy gethin@cytun.cymru
DARLITH GOFFA GETHIN ABRAHAM-WILLIAMS
Yn dilyn ei gyfnodau sabothol yn ystod 2020 pan fu’n astudio newid hinsawdd, fe wahoddwyd Swyddog Polisi Cytûn, y Parch. Gethin Rhys, i draddodi Darlith Goffa Gethin Abraham-Williams ar nos Iau Mai 20 am 5-6.30yh. Cynhelir y ddarlith hon arlein.
Teitl y ddarlith fydd Diwedd y Byd? Apocalyptic Cristnogol ac ymatebion i newid hinsawdd. Fe’i traddodir yn ddwyieithog, gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg, a bydd cyfle i holi cwestiynau ar y diwedd. Gellir cadw lle arlein yma.
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru
Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860
E-bost: post@cytun.cymru www.cytun.co.uk @CytunNew
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English