Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon
Nifer o eglwysi, Un Pwrpas: Gwasanaethu eglwysi Prydain ac Iwerddon ar y daith gyffredin tuag at undod gweladwy llawn yng Nghrist.
Mae llawer o wahanol eglwysi ac enwadau Cristnogol, ond mae gan bob un yr un alwad sylfaenol – i addoli Duw, i rannu’r newyddion da am Iesu Grist ac i weithio er lles pawb. Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon yw’r sefydliad ymbarél sy’n helpu i ddod â’r eglwysi Cristnogol hyn at ei gilydd o dan undod Cristnogol.
Yn dilyn cyhoeddi Datganiad Swanwick yn 1987, esblygodd Cyngor Eglwysi Prydain i fod yn Gyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon, gan ddatblygu ochr yn ochr ag offerynnau eciwmenaidd cenedlaethol ym mhob un o genhedloedd y DU – Action for Churches Together in Scotland, CYTÛN : Eglwysi ynghyd yng Nghymru, Eglwysi Ynghyd yn Lloegr a Chyngor Eglwysi Iwerddon – er mwyn helpu cofleidio eglwysi Cristnogol eraill mewn cymunedau llai. Wedi hynny newidiodd enw Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon i fod yn Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon.
Mae’r adnoddau a gynhyrchwyd gan CTBI ar gyfer Wythnos Weddi am Undod Cristnogol 2024 i’w cael yma.
Mae’r adnoddau a gynhyrchwyd gan CTBI ar gyfer Sul cyd-raddoldeb hiliol 2024 i’w cael yma.