Galw ar eglwysi i weithredu 90 diwrnod cyn cynhadledd ryngwladol yr hinsawdd

Gyda dim ond 90 diwrnod i fynd tan COP26 – y trafodaethau hinsawdd rhyngwladol tyngedfennol y bydd Llywodraeth y DU yn eu cadeirio yn Glasgow ym mis Tachwedd – mae clymblaid eang o enwadau ac elusennau Cristnogol yn galw ar bob eglwys i gynnal Sul yr Hinsawdd yn lleol ac ymrwymo i weithredu’n effeithiol eu hunain, cyn i’r trafod ddechrau. Hyd yn hyn, mae mwy na 1,700 o eglwysi ledled yr Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon yn cymryd rhan ac mae cannoedd yn rhagor yn bwriadu gwneud hynny.

Mae ehangder y fenter ar draws amrywiol draddodiadau eglwysig yn dangos ymrwymiad cynyddol  eglwysi i weithredu ar newid hinsawdd, ac i fynnu bod llywodraethau’n gweithredu hefyd. Mae menter Sul yr Hinsawdd am weld Llywodraethau’r DU a Chymru yn cryfhau polisïau domestig cyn y gynhadledd, er mwyn sicrhau bod y DU yn ôl ar y trywydd iawn gyda’i thargedau allyriadau ei hun. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU, yn ei rôl fel cadeirydd COP26, i geisio toriadau allyriadau byd-eang yn gyflymach ac yn ddyfnach a darparu cyllid a addawyd ers tro i helpu gwledydd tlotach i addasu i’r effeithiau andwyol maent eisoes yn eu profi trwy newid hinsawdd.

Menter Dydd Sul yr Hinsawdd yw’r ymateb eglwysig ehangaf i’r argyfwng hinsawdd yn y DU yn y cyfnod yn arwain at COP26. Gofynnir i’r eglwysi sy’n cymryd rhan wneud tri pheth:

  • – cynnal oedfa sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd i archwilio’r wyddoniaeth a’r ddiwinyddiaeth o ran mynd i’r afael â phroblemau’r hinsawdd a achosir gan bobl, a’i chofrestru cyn Medi 5;
  • – ymrwymo i gymryd camau ymarferol parhaus eu hunain. Mae’r rhan fwyaf o eglwysi yng Nghymru yn ymrwymo i symud ymlaen trwy EcoChurch neu LiveSimply (y naill wedi ei gynnal gan Arocha UK a’r llall gan CAFOD, y ddau fudiad yn aelodau gyda Cytûn);
  • – llofnodi galwad ar y cyd i’r Llywodraeth weithredu – Datganiad Nawr yw’r Amser.

Mae gwefan Sul yr Hinsawdd yn cynnwys llu o adnoddau am ddim, ac yn galluogi eglwysi i gofrestru eu hymrwymiad. Mae llawer yn codi llais am y tro cyntaf wrth ymuno â degau o filoedd o aelodau eraill o’r cyhoedd, sefydliadau a grwpiau ffydd eraill i arwyddo’r datganiad Amser yw Nawr. Mae llawer hefyd yn ychwanegu eu henwau at alwad Climate.Cymru i fynd â 10,000 o leisiau o Gymru i COP26.

Carreg filltir allweddol yn yr ymgyrch cyn COP26 fydd oedfa Sul yr Hinsawdd y cenhedloedd yn Eglwys Gadeiriol Glasgow ddydd Sul 5 Medi 2021. Bydd hon yn dathlu’r ymrwymiadau a wnaed gan eglwysi hyd yn hyn, ac yn cyflwyno rhestr o’r holl ymrwymiadau a’r eglwysi sydd wedi llofnodi’r Datganiad Nawr yw’r Amser i’r llywodraethau. Bydd cyfanswm terfynol yr eglwysi a’r ymrwymiadau yn cael ei gyflwyno i’r llywodraethau yng nghynhadledd COP ei hun.

AIL-SEFYDLU GRŴP TRAWSBLEIDIOL SENEDD CYMRU AR FFYDD

Llun: Darren Millar AS (gyda chaniatâd y sawl a welir yn y llun)

Ar ddechrau pob Senedd, mae’n rhaid i’r grwpiau trawsbleidiol ail ymsefydlu, ac ymhlith y cyntaf i wneud ar gyfer Senedd 2021-26 oedd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd. Etholwyd Darren Millar AS yn Gadeirydd a Mike Hedges AS yn is-Gadeirydd, a roedd yn braf gweld ASau o’r pedair plaid a gynrychiolir yn y Senedd yn bresennol. Yn eu plith (ar chwith y rhes ganol yn y llun achos) oedd Peredur Owen Griffiths AS, a fu yn aelod o staff Cytûn tan ei ethol yn aelod rhanbarthol Plaid Cymru dros Dde-Ddwyrain Cymru yn etholiad mis Mai. Roedd sawl AS newydd etholedig arall yn bresennol neu wedi danfon eu hymddiheuriadau, ac felly gobeithir gweld y Grŵp Trawsbleidiol yn mynd o nerth i nerth.

Yn siarad yn y cyfarfod agoriadol hwn oedd Mari McNeill, Pennaeth Cymru Cymorth Cristnogol (pedwerydd ar y rhes waelod ond un yn y llun). Ei phwnc oedd Duw a’r argyfwng hinsawdd: Cymunedau ffydd a stiwardiaeth amgylcheddol, a chytunai pawb oedd yn bresennol fod hwn yn fater creiddiol i waith pob cymuned ffydd dros y blynyddoedd nesaf. Gwelir mwy am y pwnc hwnnw ar dudalennau eraill y Bwletin hwn.

Mae cyfarfodydd y Grwp Trawsbleidiol ar Ffydd (fel grwpiau trawsbleidiol eraill) yn agored i’r cyhoedd, gan gynnwys pawb beth bynnag fo eu cred. Ysgrifennydd y grwp yw Jim Stewart a gellir cysylltu ag ef drwy jimstewartwales@gmail.com Er nad oes gan grwpiau trawsbleidiol rôl ffurfiol yng ngweithgareddau’r Senedd na Llywodraeth Cymru, maent yn fodd i alluogi gwleidyddion o bob plaid i dderbyn mewnbwn, cyd-drafod a (weithiau) cyhoeddi adroddiadau neu ysgrifennu at y Llywodraeth am faterion o bwys iddynt. Mae presenoldeb aelodau o’r cyhoedd fel cyfranogwyr llawn yn y drafodaeth yn sicrhau fod ystod eang o leisiau i’w clywed. Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd, er enghraifft, yn cynnwys nid yn unig pobl o’r ystod cyfan o eglwysi Cristnogol, ond hefyd cynrychiolaeth o Gyngor Rhyng-ffydd Cymru a selogion nifer o grefyddau gwahanol yng Nghymru.

Mae Cytûn hefyd yn sicrhau cynrychiolaeth gan eglwysi ar nifer o grwpiau trawsbleidiol eraill perthnasol i’n gwaith, gan gynnwys y Grŵp Trawsbleidiol am Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol. Yn y Senedd ddiwethaf roeddem hefyd yn ymwneud â grwpiau trawsbleidiol am Brofedigaeth ac Angladdau; Tlodi; a Gamblo Problemus, ond nid yw’r grwpiau hynny wedi eu hail-sefydlu hyd yma yn y Senedd newydd.

Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfleusterau cymunedol gan gynnwys dwy ganolfan eglwysig

Dyrannwyd £1.4m o gyllid fis Mehefin i 12 prosiect cymunedol gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Mae’n helpu cyfleusterau cymunedol sy’n cael eu defnyddio’n dda i wella eu cynaliadwyedd hirdymor, gan roi cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Y prosiectau diweddaraf sy’n derbyn hyd at £250,000 mae Cymdeithas Islamaidd Ddiwylliannol Cymru, Abertawe, ar gyfer adnewyddu adeilad i greu ystafelloedd dosbarth newydd; Cymdeithas Gymunedol y Mwmbwls, Abertawe, Neuadd Bentref a Maes Hamdden Aberporth, Ceredigion; Cwmni’r Frân, Gwynedd a’r Ganolfan ar gyfer Entrepreneuriaeth Affricanaidd, Abertawe.

Ymhlith y rhai sy’n derbyn £25,000 mae Eglwys yr Holl Seintiau Y Drenewydd, Powys, ar gyfer estyniad newydd i’r eglwys i ddarparu toiledau hygyrch, cegin a gwell mynediad i’r prif adeilad i greu hwb cymunedol; ac Ardal Genhadaeth Valle Crucis, Sir Ddinbych, ar gyfer toiledau hygyrch, cegin newydd, drysau mynediad thermol ac uwchraddio’r system wresogi i alluogi’r ganolfan i fod yn fwy effeithlon o ran ynni.

Cronfa newydd y DU i gyfleusterau cymunedol Cymru

Bydd cronfa gwerth £7m yng Nghymru yn rhoi cyfle i grwpiau lleol ddod yn berchnogion o dafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl drwy lansio Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, a fydd yn gweld dros £7m yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru.

Mae’r gronfa £150m yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailgodi’n gryfach yn dilyn y pandemig drwy roi’r pŵer i gymunedau achub y sefydliadau lleol sy’n meithrin ymdeimlad o gymuned.

Cyhoeddwyd manylion ar 15 Gorffennaf ynghylch sut y bydd mudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru a gweddill y DU yn gallu gwneud cais am hyd at £250,000 o arian cyfatebol i brynu neu gymryd drosodd asedau lleol a’u rhedeg.

Mewn achosion eithriadol, bydd hyd at £1 miliwn ar gael i sefydlu clybiau chwaraeon neu i helpu i brynu meysydd chwaraeon sydd mewn perygl o gael eu colli heb ymyriad – sy’n golygu y gallai grŵp o gefnogwyr ddod yn Gadeirydd ac yn fwrdd eu tîm lleol.

Mae cyfanswm o £7.1 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru, boed hynny’n gyfleusterau chwaraeon a hamdden, sinemâu a theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, amgueddfeydd, orielau, parciau, tafarndai, swyddfeydd post a siopau.

Dywedodd Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Bydd yr arian yn chwarae rhan bwysig yn codi’r gwastad ac yn cryfhau ein Hundeb wrth i ni adeiladu’n ôl yn well yn dilyn y pandemig. Rwy’n annog pobl a chymunedau ledled Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn eu darparu yn eu hardaloedd lleol.”

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn buddsoddiad mawr a chamau gweithredu gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyfleoedd a ffyniant ar draws pob rhan o’r DU, gan gynnwys drwy’r Gronfa Codi’r Gwastad (Levelling Up Fund) a’r Gronfa Adfywio Cymunedol gwerth £220 miliwn.

Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth gyda chymunedau, y Sector Gwirfoddol a Chymunedol ac awdurdodau lleol. Bydd y gronfa’n rhedeg dros bedair blynedd (tan 2024-2025). Bydd nifer o rowndiau bidio. Bydd y cyntaf yn agor ar 15 Gorffennaf ac yn cau ar 13 Awst.

Mae prosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gael yma.

Rhoi gwybod i’ch cymdogaeth am weithgarwch cymunedol

Infoengine yw’r cyfeirlyfr arlein ar gyfer gwasanaethau trydydd sector yng Nghymru. Mae infoengine yn tynnu sylw at amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth fel y gall unrhyw un sy’n chwilio wneud dewis gwybodus.

Darperir Infoengine gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Fe fydd yn arbennig o ddefnyddiol i eglwysi lleol sydd am hysbysebu grwpiau neu weithgareddau penodol sydd ar gael i’r cyhoedd – megis clwb gofalwyr, grŵp cefnogi pobl mewn profedigaeth, banciau bwyd, gwasanaethau ar gyfer pobl mewn dyled, a chant a mil o weithgareddau eraill. Mae’r wybodaeth ar gael i bawb trwy’r wefan ddwyieithog, a thrwy’r chwaer wasanaeth dewis.cymru mae’r holl wybodaeth ar gael i weithwyr yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y gall pobl sydd mewn angen gyrchu’r wybodaeth eu hunain neu gael eu cyfeirio gan rywun arall.

Mae nifer o wasanaethau a gynigir gan eglwysi a chymunedau ffydd eraill eisoes ar Infoengine, a hefyd gweithgareddau gan fudiadau eraill a gynhelir mewn eglwysi ac addoldai eraill. Ond mae yna lawer mwy nad ydynt wedi eu cynnwys hyd yma! Gallwch fynd i’r wefan a chyflwyno’ch gwybodaeth eich hunain. Fe fydd yn cael ei gwirio cyn ei chyhoeddi. Gallwch ei diweddaru ar unrhyw adeg, a bydd gofyn i chi gadarnhau pob chwe mis ei bod o hyd yn gywir.

Stopio cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru

Bydd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn dod i rym ddydd Llun 21 Mawrth 2022. O dan y gyfraith, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy’n gweithredu fel rhiant bellach yn gallu cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu fideo sy’n esbonio’r ddeddfwriaeth. Mae adnoddau defnyddiol eraill ar ei gwefan, gan gynnwys nodyn briffio i randdeilaid a llinellau amser a gwybodaeth am ddatblygiadau mewn gwledydd eraill.

Mae ymgyrch gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’r gyfraith newydd ar y gweill. Mae hysbysebu ar-lein wedi cychwyn a bydd hysbysebu allanol – fel hysbysebu ar fysiau, mewn gorsafoedd gwasanaeth a fan hysbysebu mewn ardaloedd gwyliau – yn rhedeg yn ystod gwyliau ysgol yr haf. Yna yn ystod mis Medi bydd hysbysebu teledu a radio cyn i’r ymgyrch gyrraedd uchafbwynt yn ystod mis Ionawr a mis Mawrth 2022. Bydd gwaith ymgysylltu yn parhau trwy gydol yr amser yma.

Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn ategu’r ddeddfwriaeth drwy hyrwyddo technegau magu plant cadarnhaol, gyda chyngor gan ymarferwyr rhianta, gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr ar reoli ymddygiad yn gadarnhaol a heb orfod troi at gosb gorfforol. Mae hefyd wedi datblygu cynnwys ychwanegol i gefnogi rhieni, yn enwedig drwy gyfyngiadau Covid. Gallwch ddilyn Magu Plant. Rhowch amser iddo ar Facebook ac Instagram.

LLOND DWRN O DDEDDFAU YN SENEDD CYMRU – OND LLU OHONYNT YN SAN STEFFAN

Pan gyflwynodd Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, raglen deddfu Llywodraeth Cymru i’r Senedd ar Orffennaf 6, cyhoeddodd dim ond pedair deddf gwbl newydd i Gymru i’w cyflwyno yn ystod y flwyddyn 2021-22. Y pedair yw:

Fe fydd yna hefyd Fil i gydgrynhoi deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru o ran yr amgylchedd hanesyddol (gan gynnwys adeiladau rhestredig). Gan fod hwn yn faes sy’n effeithio ar lawer o eglwysi, fe fydd Cytûn a swyddogion eiddo ein haelod enwadau yn cadw golwg manwl arno.

Esboniodd Mr Antoniw fod dau reswm pam fod y rhestr mor fer. Yn gyntaf, mae swyddogion cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn gorfod treulio llawer o amser yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth. Mae peth o honno yn ymwneud â chanlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a Choronafeirws. Mae hefyd angen gweithredu pedair deddf sylweddol a basiwyd gan seneddau blaenorol sy’n gofyn am is-ddeddfwriaeth helaeth, sef:

Y rheswm arall a roddwyd yw bod cymaint o ddeddfwriaeth San Steffan ar hyn o bryd yn ymwneud â materion sydd (yn gyfan neu’n rhannol) yn ddatganoledig i Gymru. Mae hyn yn golygu fod angen i Lywodraeth Cymru graffu’n fanwl i archwilio’r effaith ar ddeddfau datganoledig, a bod angen i Senedd Cymru ystyried y ddeddfwriaeth honno a phenderfynu a ydynt yn cydsynio iddi ai peidio (er y gall Senedd y DU barhau i ddeddfu hyd yn oed heb y cydsyniad hwnnw). Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi argymell i Senedd Cymru na ddylent gydsynio i rannu o bump deddf arfaethedig sydd yn cael eu hystyried yn San Steffan ar hyn o bryd:

  • Y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, gan y byddai’n rhoi hawl unochrog i Ysgrifennydd Gwladol y DU ar Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i gyfeirio cymorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru i fusnesau i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i’w harchwilio.
  • Y Bil Sgiliau ac Addysg ôl-16, gan y bydd yn gosod dyletswyddau ar sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a fu cyn hyn dan awdurdod datganoledig yn unig, os ydynt yn derbyn myfyrwyr o Loegr.
  • Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, gan ei fod yn tynnu’n ôl i San Steffan rymoedd presennol Senedd a Llywodraeth Cymru o ran ymchwil a dyfeisio blaengar, ac na fydd hawl gan Lywodraeth Cymru benodi unrhyw aelodau i’r Asiantaeth newydd fydd yn gyfrifol am y maes hwn.
  • Y Bil Cymwysterau Proffesiynol, gan ei fod yn cyfyngu ar rymoedd presennol y Senedd a Llywodraeth Cymru o ran cymwysterau proffesiynol mewn meysydd datganoledig (megis addysg), trwy eu cysylltu â phwerau San Steffan o ran masnach ryngwladol (sydd heb ei datganoli).
  • Bil yr Heddlu, Dedfrydu, Troseddu a’r Llysoedd, am ei fod yn cyfyngu ar hawliau protestio ac ar wersylla heb ganiatâd – cymalau a all gael effaith sylweddol iawn ar sipsiwn a theithwyr. Mae’r Crynwyr ym Mhrydain a nifer o fudiadau eraill yn ymgyrchu yn erbyn y cymalau hyn.

Ar yr un pryd ag ystyried y biliau hyn, mae Aelodau Senedd San Steffan yn ystyried nifer o filiau eraill sy’n cyffwrdd â materion y mae eglwysi yn teimlo’n gryf yn eu cylch. Yn eu plith mae:

  • Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sy’n gweithredu cynllun newydd Llywodraeth y DU ar gyfer mewnfudo. Mae hyn, ymhlith pethau eraill, yn cyfyngu ar hawliau ceiswyr lloches, yn enwedig os cyrhaeddant y DU drwy lwybrau answyddogol. Mae nifer o aelod eglwysi Cytûn yn pryderu am y bil yma. Mae’r Crynwyr, er enghraifft, yn rhan o glymblaid Together with Refugees; mae’r Methodistiaid, Bedyddwyr Prydain a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig wedi cyhoeddi papur briffio; a mae’r Eglwys yng Nghymru hefyd yn gweithio yn y maes.
  • Bil yr Amgylchedd, sy’n sefydlu trefn newydd ar gyfer llywodraethiant amgylcheddol yn y DU wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Er bod yr amgylchedd yn faes datganoledig, nid yw rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer Senedd 2021-26 yn nodi bwriad i sefydlu trefn ddatganoledig, felly ymddengys y bydd trefn newydd y DU yn weithredol yng Nghymru hefyd.
  • Y Bil Diwygio Cyfraith Lesdaliad (Rhent Tir) fydd yn atal codi rhent tir ar gartrefi newydd, gan gyflawni addewid a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith yn 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai Senedd Cymru gydsynio â’r bil hwn, ond ni fydd hyn yn effeithio cartrefi sydd eisoes yn talu rhent tir – hen asgwrn cynnen yng Nghymru ers cenedlaethau.

Mae swyddogion cyflogedig a gwirfoddol eglwysi a mudiadau Cristnogol Cymru sy’n gweithio ym maes materion cyhoeddus yn cwrdd yn rheolaidd yn y Grŵp Laser i fonitro’r holl ddeddfwriaeth yma, a mae’r grŵp wedi nodi y bydd angen rhoi mwy o sylw i ddatblygiadau yn San Steffan yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae grŵp cyfatebol o swyddogion cyflogedig eglwysi gwledydd Prydain, y grŵp Radar, yn cyfarfod yn fisol. Rhannu gwybodaeth yw bwriad y ddau grŵp; mater i enwadau a mudiadau unigol yw penderfynu a ydynt am ymgyrchu ar faterion penodol.

Dyletswydd newydd ar eglwysi i ddiogelu’r cyhoedd?

Ymatebodd nifer o aelod eglwysi Cytûn i ymgynghoriad ynghylch Dyletswydd Gwarchod newydd ar y sawl sy’n gyfrifol am safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd i warchod y cyhoedd rhag peryglon terfysgaeth, gan nodi’r anawsterau y gallai dyletswydd feichus eu hachosi i addoldai. Mewn ateb ysgrifenedig yn San Steffan, cydnabu Kevin Foster, gweinidog yn y Swyddfa Gartref y sylwadau hyn, a dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn cymryd y pwyntiau wnaed i ystyriaeth.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL
Yn ystod cyfnod yr argyfwng, yn gweithio gartref. Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2021. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 27 Medi 2021.