YDY LLYWODRAETH YN YMWNEUD Â DUW?

Ym mis Ebrill, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU adroddiad swmpus gan Colin Bloom, Ymgynghorwr Annibynnol Llywodraeth y DU ar Ymwneud â Ffydd. Comisiynwyd yr adroddiad yn 2019 gan Boris Johnson AS pan oedd ef yn Brif Weinidog.

Gan mai galwad am dystiolaeth o Loegr yn unig a gafwyd, ni fu i Cytûn nac enwadau Cymru gyfrannu i’r adroddiad. Ond mewn gwirionedd mae’n rhychwantu holl gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, gan gynnwys ei gwaith yng Nghymru. Yn wir, mae gan Mr Bloom bethau diddorol i’w dweud ac – fel y mae ef ei hun yn nodi – mae nifer o’i gasgliadau hefyd yn berthnasol i’r llywodraethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Er i adroddiadau yn y wasg ganolbwyntio ar sylwadau Mr Bloom am derfysgaeth ag iddi gysylltiadau crefyddol, mae rhan fwyaf yr adroddiad yn mynd i gyfeiriadau mwy cadarnhaol. Mae pennod 2 yn adolygu ymwneud Llywodraeth y DU â chymunedau ffydd, yn nodi sut y bu i’r ymwneud hwnnw wella yn ystod pandemig Covid 19, ac yn galw am ddysgu o’r gwaith trafod dwys a wnaed bryd hynny. Mae Mr Bloom yn argymell penodi Ymgynghorydd Annibynnol ar Ffydd, gan nodi i Eglwys Loegr yn draddodiadol gyflawni rôl felly, ond bod natur grefyddol poblogaeth bresennol Lloegr yn golygu nad yw hynny yn addas bellach. Byddai nifer am ddweud ei bod hyd yn oed llai addas yng Nghymru.

Mae hefyd yn argymell y dylai pawb yn y gwasanaethau cyhoeddus dderbyn hyfforddiant llythrennedd crefyddol, fyddai’n cynnwys hyfforddiant am ryddid crefydd neu gred a ymgorfforir yn Neddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010, gwell dealltwriaeth o arferion ffydd-benodol gan gynnwys y mynegiant cyhoeddus o gred grefyddol, ymwybyddiaeth o faterion rhyng-ffydd a materion sensitif fel priodasau dan orfodaeth, a ffurfiau ariannol a ffurfiau eraill ar gymryd mantais ar sail ffydd. (argymhelliad 4, cyfieithiad Cytûn). Byddai hyn yn helpu gyda’r hyn mae Mr Bloom yn ei ddisgrifio fel tuedd gan wleidyddion i fynd at nifer fach o arweinyddion crefyddol ‘go-to’, nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli rhychwant eu cymunedau. Gellid dadlau fod y duedd hon i’w gweld o fewn Llywodraeth a Senedd Cymru yn ogystal ag o fewn Llywodraeth a Senedd y DU.

Mae Pennod 4 yn canolbwyntio ar ffydd yn y gwasanaethau carchardai a phrofiant. Mae Mr Bloom yn canmol caplaniaid carchardai am eu gwaith, ond yn nodi fod y gwasanaeth profiant wedi ei chael hi’n anos i fynd i’r afael ag amrywiaeth grefyddol ein hoes, gan nodi y bu yna ormod o ddibyniaeth ar Eglwys Loegr yn y cyd-destun hwn. Mae Pennod 5 yn nodi bodlonrwydd cyffredinol â chaplaniaethau’r lluoedd arfog, gyda deiliaid crefyddau eraill yn dweud eu bod yn fodlon iawn gyda’r gwasanaeth gynigid iddynt gan gaplaniaid Cristnogol.

Mae Pennod 8 yn ymdrin â phriodasau crefyddol. Mae’n nodi fod Comisiwn y Gyfraith newydd argymell newidiadau sylweddol i’r fframwaith gyfreithiol ar eu cyfer yng Nghymru a Lloegr. Mae yn dweud ei fod o hyd yn gofidio am briodasau crefyddol nas cydnabyddir yn gyfreithiol, ac arferion gorfodi priodas o fewn rhai crefyddau, er yn rhyfedd nid yw’n cyfeirio at yr adroddiad luniwyd gan Mona Siddiqui ar gyfer Llywodraeth y DU yn 2018 sy’n mynd i’r afael â’r un cwestiynau yng nghyd-destun cyfraith shari’a, a heb eto ei weithredu.

Mae yna lawer yn yr adroddiad hwn i lywodraethau’r DU a Chymru, a’r cymunedau ffydd, gnoi cil arnynt, a bydd Cytûn yn codi rhai o’r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru maes o law.

CYMUNEDAU FFYDD AC YMCHWILIADAU COVID 19

Mae ymchwiliad Covid 19 y DU, dan arweiniad y Farwnes Hallett, wedi dechrau ar ei waith. Fe fydd y gwrandawiadau cyhoeddus cyntaf, yn ymchwilio i ba mor barod oedd y DU ar gyfer y pandemig, yn dechrau ar Fehefin 13 yn Llundain. Ceir manylion llawn ar y wefan https://covid19.public-inquiry.uk/cy/

Mae’r ymchwiliad yn rhannu ei waith yn ‘fodiwlau’ ar wahân sy’n ymdrin â gwahanol bynciau. Dyma’r modiwlau a gyhoeddwyd hyd yma:

1. Pa mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig.

2. Llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau ar gyfer y DU. Bydd yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau’r llywodraeth ganolog, perfformiad y gwasanaeth gwleidyddol a sifil yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas â llywodraethau yn y gweinyddiaethau datganoledig a’r sectorau lleol a gwirfoddol. Bydd Modiwl 2 hefyd yn asesu’r penderfyniadau a wneir am fesurau nad ydynt yn rhai fferyllol (cyfnodau clo a chyfyngiadau eraill) a’r ffactorau a gyfrannodd at eu gweithredu.    
O fewn Modiwl 2, bydd Modiwl 2B yn canolbwyntio’n arbennig ar Gymru. Bydd gwrandawiadau llafar yn cychwyn yn Chwefror 2024; bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig mewn da bryd cyn hynny.

3. Ymateb y llywodraeth a chymdeithas i Covid-19 a’r effaith a gafodd y pandemig ar systemau gofal iechyd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys llywodraethu gofal iechyd, gofal sylfaenol, ôl-groniadau’r GIG, effeithiau rhaglenni brechu ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ogystal â diagnosis a chymorth Covid Hir.

Bydd modiwlau pellach yn cwmpasu:

• Brechlynnau, therapiwteg a thriniaethau gwrthfeirysol

• Y sector gofal

• Caffael gan y llywodraeth a PPE

• Profi ac olrhain

• Ymatebion busnes ac ariannol y Llywodraeth

• Anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19

• Addysg, plant a phobl ifanc

• Gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys darpariaeth rheng flaen gan weithwyr allweddol

Mae’n rhaid i sefydliadau sydd am gyflwyno gwybodaeth gael caniatâd yr Ymchwiliad. Mae’r Ymchwiliad wedi cytuno derbyn gwybodaeth gan grwpiau ffydd yng Nghymru ar gyfer Modiwl 2B (gweithrediadau a rheoliadau Llywodraeth Cymru a’u heffaith) trwy gyfrwng Cytûn a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.Mae’n ymddangos yn annhebygol iawn y bydd enwadau neu grwpiau ffydd unigol yn cael caniatâd i gyflwyno tystiolaeth yn uniongyrchol.

Er mwyn ei gyflwyno yn amserol i’r Ymchwiliad, fe fydd angen i Cytûn dderbyn tystiolaeth gan enwadau a mudiadau am y materion ym Modiwl 2B erbyn 15 Medi 2023 fan bellaf. Fe all hyn gynnwys astudiaethau achos gan gynulleidfaoedd unigol, gan y bydd hynny yn darlunio realiti ar lawr daear yn well na datganiadau cyffredinol.Fe fydd cyfleon eraill yn y dyfodol i gyflwyno tystiolaeth i Fodiwlau eraill – megis ein cyfraniad i helpu pobl yn ymarferol yn ystod y pandemig. Os yw hi’n rhwyddach i chi ddanfon eich tystiolaeth mewn un swp, fe all Cytûn drefnu ei ddosbarthu yn gywir rhwng y modiwlau. Defnyddiwch y cyfeiriad gethin@cytun.cymru ar gyfer unrhyw beth y dymunwch ei gyflwyno.

Mae Cytûn mewn cyswllt rheolaidd â thîm yr Ymchwiliad, y swyddogion perthnasol yn Llywodraeth Cymru a mudiadau gwirfoddol eraill sy’n cyflwyno tystiolaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn achub ar bob cyfle i weld bod persbectif a phrofiad cymunedau ffydd yn dod i sylw’r Ymchwiliad.

Gall unigolion (ond nid sefydliadau) sydd am rannu profiad personol â’r Ymchwiliad wneud hynny trwy gyfrwng eu rhaglen Every Story Matters (dogfen Saesneg yn unig). Mae yna ddolen arlein i chi gael cyflwyno eich hanesion a’ch sylwadau yma – https://covid19.public-inquiry.uk/cy/share-your-experience/ – a gellir gwneud hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg. Fe fydd yr Ymchwiliad yn cychwyn ymgyrch codi ymwybyddiaeth am y cyfle hwn yn ystod mis Mehefin.

Er nad oes bwriad cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus o’r un fath yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, ar Fai 16 fe bleidleisiodd Senedd Cymru yn unfrydol o blaid sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19 gyda’r cylch gorchwyl canlynol:

i) Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiadau yn y camau unigol o Ymchwiliad Covid-19 y DU … yn cynnig i’r Senedd, … unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.

ii) Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, cynnal adolygiad o’r meysydd hynny a nodwyd ar gyfer archwilio pellach.

iii) Cyhoeddi adroddiadau a gwneud argymhellion yn unol â hynny.

Fe fydd Cytûn yn barod i gynnig tystiolaeth i’r Pwyllgor hwnnw, yn y lle cyntaf am unrhyw fylchau a welwn yn Ymchwiliad Covid-19, ac wedyn ar gyfer unrhyw adolygiad y bydd y Pwyllgor Seneddol hwn yn ymgymryd ag ef.

COED AC AROLWG AR GYFER CENEDLAETHAU’R DYFODOL

Llun: Y Gymuned Garbon

Mae tîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi gweithio gyda’r Gymuned Garbon i blannu 100 o goed, un ar gyfer pob un o’r 100 o Ysgogwyr Newid a enwyd gan y cyn-Gomisiynydd Sophie Howe fis Ionawr. Gwelir isod llun o’r goeden a blannwyd yn enw Swyddog Polisi Cytûn gan y Gymuned Garbon yn y goedwig yng Nghynghordy, Sir Gaerfyrddin. Yn y goedwig hon maen nhw’n archwilio’r ffordd orau o helpu coed a phridd i gael gwared ar garbon o’r aer, a fydd, gobeithio, yn llywio’r holl waith ailgoedwigo yn y DU a thu hwnt.

Wrth i’r Comisiynydd newydd, Derek Walker, gychwyn ar ei waith, mae ar hyn o bryd yn gwneud gwaith (Ffocws ein Dyfodol) i lunio blaenoriaethau ar gyfer y saith mlynedd nesaf. Mae wedi lansio arolwg fel rhan o’r gwaith hwn i gasglu adborth ar yr hyn sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn ystod y saith mlynedd gyntaf ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod yn gyfraith, beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer gwaith y tîm yn y dyfodol a’r dull gorau i gyflawni cymaint ag yn bosibl o fewn ei adnoddau.

Mae’r arolwg yn fyw tan y 3ydd o Orffennaf, ac fe all unrhyw un ei gwblhau a’i rannu
Arolwg Saesneg: bit.ly/ourfuturefocus      Arolwg Cymraeg: bit.ly/ffocwseindyfodol

CYFIAWNDER HINSAWDD I GYMRU A’R BYD

Llun: Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru

Mae Cytûn – ar y cyd â’n haelod fudiadau Cymorth Cristnogol a CAFOD a nifer o fudiadau eraill – yn ymwneud a chlymblaid Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru (AAHC), sy’n pwyso ar lywodraethau’r DU a Chymru i wneud popeth o fewn eu gallu i gyflymu’r ymateb i newid hinsawdd a hynny mewn ffordd gyfiawn a theg.

Ar Fai 16, lansiwyd adroddiad polisi cynhwysfawr AAHC yn Senedd Cymru, wedi ei noddi gan Delyth Jewell AS (Plaid Cymru), a ddangosir yn y llun gyda nifer o’r ymgyrchwyr a Peredur Owen Griffiths AS, cyn aelod o staff Cytûn. Cafwyd cefnogaeth gan ASau o bleidiau eraill, a chafwyd hanner awr o sgwrsio agored a difyr gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, Julie James AS. Mae Llywodraeth Cymru trwy ei chytundeb partneriaeth â Phlaid Cymru wedi sefydlu Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035, dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, i ymchwilio i’r heriau a’r cyfleoedd o gyflymu’r llwybr i Sero Net a cheisio cyrraedd y nod erbyn 2035 yn hytrach na’r targed bresennol o 2050, a roedd cryn frwdfrydedd ymhlith y rhai oedd yn bresennol i weld y gwaith hwnnw yn dwyn ffrwyth.

NEWYDDION GAN AELOD FUDIADAU CYTÛN

Trwy’r To

Rydym yn ddiolchgar iawn i Dduw am y cyllid prosiect a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Benefact sydd wedi ein galluogi i recriwtio tîm o bobl i helpu i ehangu ein rhaglen Gwirfoddolwyr Torri’r To (lladmeryddion anabledd) i ymestyn allan ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU. Rwy’n falch i allu canolbwyntio ar ymgysylltu ag eglwysi yng Nghymru, yn ogystal ag estyn allan at y rheini yng Ngorllewin a De Orllewin Lloegr.

Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad Allgymorth Caerdydd Trwy’r To: Anabledd a’r Eglwys ABC: Comisiwn Mynediad Perthyn: 24 Mehefin 2023. Nod yr achlysur hwn yw rhoi lle i bobl ag amrywiaeth o anableddau ac anghenion mynediad rannu profiad ac arfogi a helpu’r eglwys leol i groesawu mwy o bobl anabl . Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y digwyddiad yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/disability-and-the-church-abc-access-belonging-commissioning-tickets-629219441287

Un o’r adnoddau newydd rydym buom yn gweithio arno yw tudalen sy’n cyfeirio eglwysi at ffynonellau cyllid, yn benodol i wella mynediad i eglwys. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma: https://throughtheroof.org/2023/05/04/news-release-finding-funding-for-an-accessible-church/

Rwy’n edrych i gysylltu ag eglwysi ledled Cymru. Os gallwn eich gwasanaethu chi a chymuned eich eglwys trwy ddarparu mwy o wybodaeth, cyngor, adnoddau hyfforddi neu siaradwr ar gyfer digwyddiad, cysylltwch â mi. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych. Fy e-bost uniongyrchol yw katie@throughtheroof.org.uk

Katie Mobbs

Mae Teuluoedd Diogel yn credu na ddylai unrhyw un deimlo’n unig. Rydym yn bodoli i greu perthynas a chyswllt am fod pawb yn haeddu perthyn. Rydym yn fudiad Cristnogol sy’n ymgysylltu â rhai o deuluoedd mwyaf ynysig ein cymuned, gan gynnig cyfeillgarwch, gobaith a pherthyn trwy a chyda’r eglwys leol. Yr Eglwys yw’r gymuned fwyaf trawsnewidiol yn ein byd, ac rydym am weld ei chynnig i berthyn yn ymestyn i’n strydoedd, ein trefi a’n dinasoedd ar draws De Cymru. Mae’r perthyn hwn trwy gyfeillgarwch â rhieni, cyfnodau chwarae gyda phlant neu hyd yn oed helpu teulu i dacluso a rhoi trefn ar bethau. Credwn yn fwy nag erioed bod cyswllt a pherthynas yn hanfodol.

Ar hyn o bryd mae Teuluoedd Diogel Cymru yn gweithio gyda theuluoedd yng Nghaerdydd a Chastell-nedd Port Talbot. Isod mae ein ffigurau hyd yma:

Allech chi neu un o’ch cydnabod wneud gwahaniaeth i deuluoedd trwy Deuluoedd Diogel?

Rydym yn cynnig 3 ffordd o ymateb: Gwirfoddoli, Rhoi a Gweddi.

I gael gwybod mwy ewch i’n gwefan: https://safefamilies.uk/church/  neu sganiwch y cod QR uchod.

Samantha Whittington

ARocha UK

Mae cofrestriadau capeli ac eglwysi yng Nghymru gyda’r cynllun EcoChurch yn cynyddu’n rheolaidd. Ar adeg ysgrifennu roedd tua 365 o eglwysi wedi’u cofrestru, ond y nifer yn cynyddu bob wythnos, ac mae tua 123 o’r rhain wedi cofrestru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ar hyn o bryd mae 35 o eglwysi Gwobr Arian yng Nghymru, a dwi’n llwyr ddisgwyl i’r eglwys gyntaf dderbyn Gwobr Aur ymhen misoedd! Mae’n arbennig o galonogol gweld mwy o enwadau bellach yn ymgysylltu â’r cynllun ac yn gwneud gofalu am y cread a gweithgareddau amgylcheddol yn rhan ganolog o’u cenhadaeth. Rwyf wedi bod yn parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr o bob enwad ledled Cymru a meithrin perthynas â hwy, ac mae’n ymddangos bod sesiynau gwybodaeth ecwmenaidd penodol yng ngogledd-orllewin Cymru ym mis Chwefror wedi dwyn ffrwyth.

Byddaf yn mynychu digwyddiadau neu gynadleddau’r haf nifer o enwadau yn ogystal ag Eisteddfod yr Urdd a Sioe Frenhinol Cymru mewn partneriaeth â Cytûn. Os oes gennych chi unrhyw ddigwyddiadau/cyfarfodydd rhanbarthol neu genedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i mi eu mynychu (gan gynnwys grwpiau Eglwysi Ynghyd lleol), rhowch wybod i mi. Er gwaethaf y twf anhygoel mewn niferoedd, mae wastad lle i fwy ac felly, anogwch eich eglwysi i edrych ar y cynllun Eco-Eglwys ar ein gwefan yma: https://ecochurch.arocha.org.uk/

Mae ein prosiect Wild Christian yn parhau i dyfu (dros 6,000 o aelodau ar draws y DU ar hyn o bryd). Mae ar gyfer unigolion a theuluoedd sydd eisiau mwynhau a dysgu am natur gyda’i gilydd, cymryd camau ymarferol gartref ac yn eu hardal leol, ac ymuno â lleisiau eraill a chreu argraff yn genedlaethol – oll yng nghyd-destun eu ffydd Gristnogol. https://arocha.org.uk/wild-christian/

Mae gwaith ein Partneriaid ar Waith hefyd yn tyfu ac mae gennym bellach 39 o bartneriaid ledled y DU. Mae’r rhain yn brosiectau cadwraeth natur ymarferol sy’n cael eu perchnogi a’u rheoli’n lleol, ond y mae A Rocha UK yn darparu arbenigedd ac adnoddau ar eu cyfer i helpu i gefnogi a gweithredu gweledigaeth y perchnogion i reoli’r tir yn y ffyrdd mwyaf cynaliadwy. https://arocha.org.uk/what-we-do/partners-in-action/

Delyth Higgins

… a chan fudiadau eraill

Mae God and the Big Bang yn cynnal gweithdai rhyngweithiol gyda myfyrwyr o Flwyddyn 5 – 13, gan roi’r cyfle i ddarganfod, trafod a dadlau am gydnawsedd gwyddoniaeth a ffydd. Mae’r digwyddiadau’n arfogi pobl ifainc â’r hyn sydd ei angen arnynt i ffurfio eu barn eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaeth resymegol, gyffrous, wedi’i seilio’n gadarn ac sy’n procio’r meddwl am y rhan y mae gwyddoniaeth yn ei chwarae ym myd Duw. Mae God and the Big Bang yn tyfu ac yn datblygu eu darpariaeth Gymraeg ar hyn o bryd.

I ddarganfod mwy neu i archebu sesiwn, ewch i www.gatbb.co.uk neu cysylltwch â Steph Bevan, stephanie.j.bevan@durham.ac.uk

Mae mudiadau o bob cwr o Gymru wedi dod ynghyd i sefydlu Heddwch ar Waith, rhwydwaith ymgyrchu newydd dros heddwch a chyfiawnder. Mae Cymdeithas y Cyfeillion (y Crynwyr) ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n aelodau o Cytûn, ymhlith yr aelodau cychwynnol, ynghyd ag Undodiaid Cymru ac eraill.

Mae Heddwch ar Waith (Peace Action Wales) wedi ei ariannu trwy Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree gyda’r bwriad o gynyddu y cydweithio rhwng mudiadau heddwch a chyfiawnder er lles pobl a chymunedau Cymru a’r byd. Yn rhan o’r gwaith bydd mapio hyd a lled militariaeth yng Nghymru, sefydlu dulliau o ddosbarthu a lledu gwybodaeth ar ddidreisedd ac adeiladu rhwydwaith o lobïwyr dros gyfiawnder. Un o brif amcanion Heddwch ar Waith fydd cyd-weithio gyda Llywodraethau Lleol a Chymru tuag at y nod o wneud Cymru’n Genedl Heddwch.

Am fwy o wybodaeth neu os hoffwch fod yn rhan o Heddwch ar Waith, cysylltwch a heddwchArWaith@gmail.com

MASNACHU’N DEG WEDI TRAIDCRAFT

Ym mis Mai fe gynhaliodd Cytûn weminar ‘Wedi Traidcraft: Beth nesaf?‘ mewn partneriaeth gyda Chymru Masnach Deg. Gallwch bellach wylio’r tri chyflwyniad bywiog a llawn gwybodaeth gan Kate Dixon o Transform Trade, Lenshina Hines o BAFTS Fair Trade Network UK a pherchennog siop Masnach Deg Fair and Fabulous yng Nghastell Newydd Emlyn, a Tracy Mitchell o’r cyflenwyr Masnach Deg JTS trwy glicio yma. (Fe gyflwynir y fideo yn Gymraeg ond mae’r cyflwyniadau yn Saesneg)

Mae yna lwyth o gefnogaeth ar gael i wneud yn siŵr bod eglwysi yn gallu parhau i hyrwyddo Masnach Deg a ffordd amgen o fasnachu. Os hoffech dderbyn y diweddaraf am Fasnach Deg gan Fasnach Deg Cymru, gallwch gofrestru am eu cylchlythyr yma.

Fe gynhelir dathliad yn Senedd Cymru o 15 mlynedd o Gymru yn Genedl Masnach Deg ar Ddydd Mawrth Gorffennaf 11 am 11-2.

Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

 Ydy Cymru yn colli ei ffydd? Myfyrdodau ar gyfrifiad 2021

Siaradwr gwadd: Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru

Dydd Mercher 21 Mehefin 2023, 12.00 – 13.00

Ystafell Gynadledda A, Tŷ Hywel

Cyfarfod yn y cnawd fydd hwn, gyda chyfleusterau hybrid ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Jim Stewart drwy jimstewartwales@gmail.com

Cofrestru gweithwyr ieuenctid

Yn dilyn ymgynghori llynedd, y bu Cytûn a nifer o enwadau yn rhan ohono, fe ddaeth rheoliadau i rym ar Fai 22, sy’n golygu fod rhaid i bob gweithiwr ieuenctid cymwysedig neu weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig cyflogedig (a’r sawl sy’n gweithio tuag at gael eu cymhwyso) gofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru yn flynyddol. Dylai pob enwad ac eglwys leol sy’n cyflogi gweithwyr o’r fath, felly, sicrhau fod eu gweithwyr wedi eu cofrestru. Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru weithio tuag at gofrestru gweithwyr ieuenctid cyflogedig anghymwysedig, ac o bosibl rhai gwirfoddolwyr yn y maes hefyd, ond gan i gryn wrthwynebiad gael ei fynegi i hynny yn yr ymgynghoriad, bydd ymgynghori pellach cyn cymryd y cam hwnnw.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Mai 24 2023. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Orffennaf 20 2023.