Gwybodaeth Covid ar gyfer eglwysi

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth hon, ond ni ddylid dibynnu arno at ddibenion cyngor cyfreithiol

Ble ydyn ni erbyn hyn?

Ar 30 Mai 2022 daeth rheoliadau Covid-19 a wnaed gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1984 i ben. O ganlyniad, mewn termau cyfreithiol pur, mae cyfrifoldebau pob cyflogwr, rheolwyr ac ymddiriedolwyr mangreoedd a threfnyddion digwyddiadau – gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig ag addoldai a chymunedau ffydd – wedi dychwelyd i’r hyn oedd yn gymwys cyn y pandemig (ym mis Chwefror 2020). Mae crynodeb Llywodraeth Cymru o’r sefyllfa gyfreithiol honno i’w weld yma.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor ar gyfer byw gyda choronafeirws endemig (yn hytrach na phandemig). Mae hyn yn rhagweld dwy sefyllfa fras:

  • Covid Sefydlog: Rydym yn dal i ddisgwyl dod ar draws tonnau ychwanegol o haint. Rydym yn disgwyl i amrywiolion newydd ddod i’r amlwg, a gall rhai ddod yn amrywiolion mwyaf cyffredin. Ond ni fydd y tonnau hyn yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Disgwylir i frechlynnau ac ymyriadau fferyllol eraill barhau i fod yn effeithiol wrth atal salwch difrifol. Rydym o’r farn mai dyma’r sefyllfa fwyaf tebygol.
  • Covid Brys: Mae hwn yn bosibilrwydd y mae angen inni gynllunio ar ei gyfer. Gallai amrywiolyn newydd ddod i’r amlwg sydd â lefel uchel sy’n dianc rhag effaith y brechlynnau neu fanteision eraill sy’n rhoi nifer fawr o bobl mewn perygl o salwch difrifol, er enghraifft yn debyg i’r lefelau a welsom yn ystod y don Alffa ym mis Rhagfyr 2020. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i gymryd camau i ddiogelu eraill.  

Bernir mai Covid Sefydlog yw’r sefyllfa gyfredol. Fodd bynnag, mae Covid yn parhau i fod yn gyffredin yng Nghymru ac mae dealltwriaeth ac agweddau llawer o’r cyhoedd tuag at y risg o ddal salwch heintus wedi newid oherwydd profiad y pandemig. Mae gweithredu dyletswyddau cyfreithiol a moesol, felly, bellach yn digwydd mewn cyd-destun gwahanol i’r hyn a oedd yn bodoli ym mis Chwefror 2020, ac efallai na fyddai dychwelyd yn ddisymwth at arferion y cyfnod hwnnw yn ddymunol nac yn briodol.

Mater i gorff llywodraethu/rheoli priodol pob man addoli yw deall ei sefyllfa gyfreithiol. Dylai cynulleidfaoedd sy’n rhan o enwad geisio cyngor gan eu hawdurdodau enwadol yn y lle cyntaf. Efallai y bydd angen i’r rhai nad ydynt yn rhan o gorff o’r fath geisio eu cyngor proffesiynol eu hunain. Cyhoeddir y papur hwn fel gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni all gwmpasu’r holl amgylchiadau na threfniadau llywodraethu posibl.

Beth yw cyfrifoldebau cyflogwyr, rheolwyr mangreoedd ac ymddiriedolwyr, a threfnwyr digwyddiadau?

Yn gyffredinol, mae’r prif gyfrifoldebau cyfreithiol yn perthyn i bedwar categori sy’n gorgyffwrdd. Cyfeiriwyd at y cyfrifoldebau ymhob un o’r categorïau hyn yng nghyfundrefn reoleiddio Covid-19 yng Nghymru, ac effeithiwyd arnynt gan y rheoliadau. Maent bellach wedi dychwelyd, mewn termau cyfreithiol pur, i’r sefyllfa ym mis Chwefror 2020.

1. Iechyd a diogelwch: Mae’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch safonol, fel yr oedd cyn Chwefror 2020, yn berthnasol yn arbennig i gyflogwyr mewn perthynas â’u gweithwyr (gan gynnwys y rhai sy’n gweithio o bell) ac aelodau’r cyhoedd sy’n dod i’w heiddo, a gellir dod o hyd i fanylion llawn ar wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae canllaw cryno Cymraeg HSE yn fan cychwyn defnyddiol. Mewn rhai amgylchiadau mae’r dyletswyddau cyfreithiol hyn yn ymestyn i weithwyr eraill (fel clerigion, sydd fel arfer yn ddeiliaid swydd yn hytrach na gweithwyr cyflogedig) ac i wirfoddolwyr. Hyd yn oed lle nad oes dyletswydd gyfreithiol uniongyrchol, mae cyfrifoldeb moesol i sicrhau iechyd a diogelwch y bobl hyn ac eraill. Er nad yw asesiadau risg Covid penodol yn orfodol bellach, mae Covid yn parhau i fod yn risg i iechyd y cyhoedd a gellir dod o hyd i gyngor HSE ar gyfer gweithleoedd yma (Saesneg yn unig).

2. Diogelu plant ac oedolion bregus: Mae rhwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau bod plant ac oedolion bregus yn cael eu cadw’n ddiogel ar dir ac yn ystod gweithgareddau cymunedau ffydd. Mae cyfrifoldebau diogelu ac asesiadau risg yn cynnwys cadw plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn ddiogel rhag clefydau trosglwyddadwy, ac roedd canllawiau Covid Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y risg o drosglwyddo Covid i blant, oedolion agored i niwed a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael ei ychwanegu at y risgiau i’w hasesu. Pe bai eglwysi yn dychwelyd i ddefnyddio eu templedi asesu risg cyn-Covid yn unig, ni fyddai hyn yn parhau. Fel arfer gall cynghorwyr diogelu enwadol, neu’r corff ymbarél a ddefnyddir gan gynulleidfaoedd i drefnu gwiriadau DBS, roi cyngor ar sefyllfaoedd a gofynion penodol. Ceir canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru am gadw trefniadau gofal plant a chynlluniau chwarae yn ddiogel rhag Covid yma.

3. Diogelwch tân: Mae gan bob rheolwr eiddo ac ymddiriedolwr rwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau bod risgiau tân yn cael eu lleihau a’u lliniaru ar eu heiddo. Roedd asesiad risg tân wedi’i gynnwys yn benodol yn rheoliadau Covid Llywodraeth Cymru, fel bod angen i bob eiddo a oedd angen gwneud asesiad risg Covid hefyd wneud asesiad risg tân. Roedd hyn er mwyn ceisio osgoi’r sefyllfa lle’r oedd systemau awyru ychwanegol neu systemau un ffordd yn cael eu creu drwy gadw drysau tân ar agor, gan ddisodli un risg ag un arall.

4. Diogelu data: Mae Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) yn gosod rhwymedigaethau ar bawb sy’n casglu data am unigolion i’w gasglu, ei brosesu a’i gadw’n ddiogel, a’i ddinistrio pan nad oes ei angen mwyach. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar gasglu data i gynorthwyo’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru (sy’n dal yn weithredol).
Dylai addoldai a chymunedau ffydd fod yn ymwybodol bod y sail gyfreithiol a ddarperir gan reoliadau Covid ar gyfer casglu enwau a manylion cyswllt pawb sy’n mynychu addoliad neu ddigwyddiadau eraill bellach wedi dod i ben, ac oherwydd bod ymlyniad crefyddol a statws iechyd yn cael eu hystyried yn sensitif o dan reolau diogelu data, mae’n arbennig o bwysig bod casglu, cadw a dinistrio data o’r fath yn y dyfodol yn cael eu rheoli’n dda. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar gasglu data sy’n parhau. Mae hyn yn cynnwys data a gasglwyd i gyflawni cyfrifoldebau 1-3 uchod. Ni fydd gofyn i bobl lofnodi rhestr lle mae enwau a manylion cyswllt pobl eraill i’w gweld yn gyhoeddus yn cydymffurfio â rheoliadau diogelu data.

Mae rhwymedigaethau cyfreithiol eraill sy’n berthnasol mewn amgylchiadau penodol. Mae llawer o enwadau yn rhoi cyngor a chefnogaeth i’w cynulleidfaoedd ar gyflawni’r dyletswyddau hyn. Dylai cynulleidfaoedd nad ydynt yn rhan o enwad sicrhau eu bod yn ceisio ffynonellau gwybodaeth da a chywir, a chael cyngor proffesiynol pan fo angen.

Asesiadau risg

Agwedd allweddol ar bob un o’r categorïau cyfrifoldeb a restrir uchod yw nodi, asesu a lleihau unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â hwy, a lliniaru effeithiau’r risgiau sy’n parhau.

Mae gwefan Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn darparu canllaw defnyddiol ar gyfer cynnal asesiadau risg iechyd a diogelwch yn y gweithle (Saesneg yn unig), a gellir cymhwyso’r egwyddorion i safleoedd eraill a chategorïau risg eraill hefyd – megis diogelwch tân.
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol o fesurau iechyd y cyhoedd y gallai’r rhai sy’n rheoli mangreoedd ddymuno eu hystyried yn dilyn asesiad risg.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cynhyrchu templed asesu risg yn benodol ar gyfer eglwysi ac ar gyfer gwasanaethau cymun (Saesneg yn unig). Bydd angen i eglwysi o enwadau eraill addasu ambell ran ohonynt.

Mae cyrff ymbarél diogelu ac enwadau yn cynhyrchu templedi ar gyfer asesiadau risg Diogelu.

Mae adnodd asesu risg Covid-19 Llywodraeth Cymru wedi’i anelu at y gweithlu, ond mae’n ffordd ddefnyddiol i bob unigolyn adolygu ei risg bersonol ei hun, a all wedyn lywio sgwrs am yr hyn y maent yn barod ac yn gallu ei wneud ac unrhyw addasiadau y gellid eu gwneud i’r gweithgaredd neu amgylchedd gwaith/gwirfoddoli. Os caiff yr offeryn hwn ei argymell i unigolion, dylid bod yn ofalus bod unrhyw wybodaeth a ddatgelir o ganlyniad yn cael ei thrin yn barchus, yn gyfrinachol ac yn unol â rheoliadau diogelu data.

Beth am barhad coronafeirws?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor iechyd y cyhoedd i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau (gan gynnwys mannau addoli a grwpiau ffydd) am ddiogelu pobl rhag coronafeirws a chlefydau trosglwyddadwy eraill a rhestr wirio o gamau gweithredu posibl i roi’r cyngor hwnnw ar waith. Er nad yw’r canllaw ynddo’i hun yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol, mae’n rhoi cyngor defnyddiol i ymddiriedolwyr, rheolwyr a threfnwyr digwyddiadau ar gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol yn hyn o beth.

Mae ein sylw dyfal i hylendid dwylo, cadw pellter cymdeithasol ac yn y blaen wedi lleihau heintiau dros y ddwy flynedd ddiwethaf nid yn unig o ran Covid 19 ond o ran ffliw a firysau eraill hefyd. Ni fydd llawer am golli’r enillion a gafwyd drwy hynny o ran iechyd y cyhoedd.

Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn ymdrin â 7 mesur penodol o ran rheoli iechyd y cyhoedd y dylid eu hystyried mewn unrhyw asesiad risg ffurfiol neu anffurfiol. Dilynwch y ddolen am y cyngor llawn – isod mae sylwadau ar faterion a all fod o bwysigrwydd arbennig i addoldai a gweithgareddau a drefnir gan gymunedau ffydd.

Awyru digonol

Daeth gwella awyru yn ofyniad penodol yn ystod y pandemig. Dylid nodi bod awyru digonol yn rhwymedigaeth gyfreithiol beth bynnag ym mhob gweithle, a gallai profiadau’r pandemig helpu i sicrhau awyru gwell yn barhaol. Dylid nodi na ddylid sicrhau gwell system awyru ar draul cynnydd yn y risg o dân, a dyna pam ei bod yn bwysig bod asesiad risg yn cwmpasu pob risg (nid coronafeirws yn unig). Dylid hefyd ystyried, yng nghyd-destun awyru, cadw adeiladau’n gynnes, yn enwedig pan fo pobl fregus yn debygol o fod yn bresennol.

Arferion cadarn o ran glanhau, hylendid personol a golchi dwylo

Daeth y materion hyn hefyd yn fwy hysbys yn ystod y pandemig. Gall fod yn ddefnyddiol i addoldai a chanolfannau cymunedol adolygu eu trefniadau glanhau yn barhaol, er mwyn sicrhau diogelwch y glanhawyr a defnyddwyr y safle. Dylai rheolwyr eiddo hefyd sicrhau bod eu cyfleusterau toiledau ac ystafelloedd ymolchi bob amser yn lân a chyda digon o sebon, dŵr, tywelion, papur toiled, unedau gwaredu hylan, ac ati. Mewn adeiladau bach heb ystafelloedd ymolchi, byddai’n ddoeth parhau i ddarparu hylif diheintio dwylo. Lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini, mae angen cymryd gofal arbennig yn hyn o beth a dylid deall a dilyn rheoliadau a chanllawiau hylendid bwyd.

Dylid rhoi ystyriaeth ofalus wrth asesu risg a ddylid parhau â’r arfer o ddiheintio dwylo cyn (er enghraifft) cymryd rhan mewn bedydd, trin elfennau’r cymun, ordeinio neu arddodi dwylo.

Hyfforddiant

Mae’r asesiad risg gorau yn ddiwerth oni bai ei fod yn cael ei weithredu ar bob achlysur gan bobl sydd wedi ei ddarllen a’i ddeall ac sy’n gwybod sut i’w weithredu. Nid oes angen i hyfforddiant fod yn ffurfiol ac wedi’i ardystio (er efallai y bydd angen hynny yn yr addoldai a’r canolfannau cymunedol mwyaf) ond gall fod yn fater o ‘gerdded trwy’r safle a’r gweithdrefnau ar gyfer derbyn, eistedd, arwain a ffarwelio â defnyddwyr. Mae angen i bawb sy’n debygol o gael eu hystyried gan y cyhoedd fel rhai “cyfrifol” (megis arweinyddion yr addoli, stiwardiaid wrth y drysau, ac ati) ddilyn yr hyfforddiant hwn, cael gwybod am unrhyw newidiadau, a diweddaru eu gwybodaeth eu hunain yn rheolaidd.

Gall gair i’r gynulleidfa i’w hatgoffa am faterion o’r fath ychydig cyn unrhyw achlysur, gan gynnwys oedfa, barhau fel nad ydym yn colli’r hyn a ddysgwyd o brofiad Covid. Gellir gwneud hyn ar lafar neu drwy ddefnyddio taflen hysbysiadau o ryw fath.

Cadw pellter corfforol

Roedd hwn yn fesur newydd i’r rhan fwyaf o bobl yn ystod y pandemig, ond mae’n debygol y bydd llawer yn parhau am gryn amser i fod yn swil ynghylch cyswllt corfforol agos y tu allan i’w cylch agos, ac y byddwn yn llai goddefgar o fod yng nghyffiniau pesychu, yn tisian. neu’n amlwg yn sâl. Mae hyn yn rhannol yn fater o gyfrifoldeb personol a gofal am ein gilydd, ond efallai y bydd rheolwyr mangre am ystyried (er enghraifft) lleihau’r niferoedd a ganiateir mewn ystafelloedd cyfarfod islaw’r uchafswm a ganiateir gan asesiad risg tân; gosod y seddau ychydig ymhellach oddi wrth ei gilydd nag o’r blaen; cynnig gwasanaeth wrth y bwrdd mewn digwyddiadau arlwyo i osgoi ciwio’n agos; ac mewn addoldai a chanolfannau cymunedol mawr, cadw adran o’r eisteddle ar gyfer y sawl sy’n dymuno cadw pellter corfforol.

Gweithio gartref

Gwelodd y pandemig ehangu’r posibiliadau ar gyfer cyflawni gwaith a gweithgaredd gwirfoddol – yn enwedig mynychu cyfarfodydd – o’r cartref. Fodd bynnag, bydd eglwysi’n ymwybodol nad yw pawb yn gallu neu’n fodlon gwneud hynny, a bod rhai anableddau a chyflyrau iechyd yn ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl cymryd rhan ar-lein (tra bod anableddau a chyflyrau iechyd eraill yn ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl cymryd rhan yn bersonol). Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru y dylai 30% o waith cyflogedig barhau i gael ei wneud o bell (o’r cartref neu o ganolfannau gweithio o bell). Mae llawer o glerigwyr a gweithwyr eglwysig bob amser wedi gweithio gartref ac mae ganddynt brofiad gwerthfawr i’w gyfrannu i eraill sy’n ystyried gweithio fel hyn yn barhaol. Mae gwirfoddolwyr ar gyfer swyddi gweinyddol (megis ysgrifennydd neu drysorydd) hefyd yn aml yn gwneud hynny gartref. Fodd bynnag, mae llawer o wirfoddoli o reidrwydd yn golygu rhyngweithio wyneb yn wyneb ag eraill. P’un ai ydynt yn cyfrannu o bell neu mewn addoldy, canolfan gymunedol neu swyddfa, mae gan weithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr hawl i ystyried eu hiechyd, diogelwch a lles wrth wneud hynny, a dylid cynnal asesiad risg.

Eithrio unigolion symptomatig ac unigolion sydd â chlefydau trosglwyddadwy

Mae presenoldeb bwriadol unigolion heintus mewn addoldy, canolfan gymunedol neu weithle, hyd yn oed pan fo’n gyfreithlon, yn cael ei ystyried yn fwyfwy fel ymddygiad anystyriol a gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn debygol o barhau i fod yn wir, boed y salwch yn Covid-19 neu rywbeth arall fel annwyd neu ffliw. Dylid cymryd hyn i ystyriaeth mewn asesiadau risg, a gall fod yn briodol gofyn i unrhyw un sy’n sâl gadw draw – neu gweithio, gwirfoddoli neu gymryd rhan o bell os yn bosibl. Yn yr un modd, ni ddylid defnyddio’r ffaith bod gweithio neu wirfoddoli o bell bellach yn haws nag yr oedd fel rheswm i roi pwysau ar unigolion i barhau i weithio neu wirfoddoli pan fyddant yn teimlo’n sâl neu mewn cyflwr meddygol anaddas i wneud hynny. Dylid ystyried hyn hefyd wrth asesu risg.

Gan mai dim ond unigolion â symptomau penodol sy’n gallu archebu profion llif unffordd am ddim ar hyn o bryd, efallai na fydd yn briodol mynnu bod profion o’r fath yn cael eu defnyddio cyn mynychu addoliad neu ddigwyddiad arall, ond gellir argymell gwneud hynny. Nid oes sail gyfreithiol bellach i’w gwneud yn ofynnol i bobl ddangos canlyniad prawf llif unffordd (neu unrhyw brawf meddygol arall) cyn cael mynediad i fangre. O ganlyniad, ni argymhellir hynny mwyach, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig iawn (megis gweithio gydag unigolion sy’n arbennig o agored i’w heintio). Os gofynnir am unrhyw wybodaeth feddygol, neu os darperir gwybodaeth o’r fath yn wirfoddol, rhaid ei storio a’i dinistrio yn unol â gofynion diogelu data ac ni ddylid byth ei throsglwyddo i neb arall heb ganiatâd y person dan sylw. (Gweler canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch rhannu gwybodaeth â’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu).

Brechu

Cefnogodd llawer o addoldai strategaeth frechu Llywodraeth Cymru yn ystod 2021, a bydd rhai yn dymuno parhau i wneud hynny yn ystod 2022, boed hynny drwy annog unigolion i gael eu brechu, arddangos posteri a deunydd addysgiadol, neu darparu mangre fel canolfan frechu. Efallai y bydd rhai addoldai am ystyried rhoi cyhoeddusrwydd neu cymryd rhan mewn brechu rhag clefydau trosglwyddadwy eraill hefyd.

Fodd bynnag, byddai polisi o frechu gorfodol ar gyfer staff a/neu wirfoddolwyr yn eithrio’r rhai sy’n methu â bodloni’r gofyniad am ba bynnag reswm. Oni bai bod achos cryf a chlir, mae hwn yn debygol o fod yn arfer fydd yn creu drwgdeimlad ac yn amharu ar breifatrwydd staff/gwirfoddolwyr.

Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn ymdrin â thri phwnc ychwanegol:

1. Y rhai sy’n hynod agored i niwed yn glinigol (y rhai oedd gynt ar y rhestr cleifion a warchodir): Er bod y cyngor i ‘warchod’ wedi’i oedi yng Nghymru ar 1 Ebrill 2021, mae angen i rai pobl gymryd gofal ychwanegol o hyd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu canllawiau manwl ar gyfer y grŵp hwn o bobl. Lle bo trefnwyr addoldai neu ddigwyddiadau yn ymwybodol bod rhai o’r rhai sy’n mynychu yn perthyn i’r grŵp hwn, dylent ymgynghori â nhw ynghylch mesurau diogelwch, a byddant yn dymuno cymryd gofal arbennig gan sicrhau bod rhagofalon priodol yn eu lle.

2. Cadw cofnodion staff neu ymwelwyr: Gweler yr adran ar Ddiogelu Data uchod

3. Gwisgo gorchuddion wyneb: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog gwisgo gorchuddion wyneb, yn enwedig mewn mannau dan do lle mae llawer o bobl wedi ymgasglu, er nad yw bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl y mae eu himiwnedd yn fregus neu sydd â chyflyrau anadlol fel asthma yn cael eu cynghori’n feddygol, neu yn dymuno, parhau i wisgo gorchuddion wyneb i amddiffyn eu hunain. Yn yr un modd, efallai y bydd y rhai sy’n teimlo’n sâl ond yn mynychu digwyddiadau neu weithleoedd yn dymuno gwisgo gorchuddion wyneb er mwyn amddiffyn eraill. Er nad oes unrhyw sail gyfreithiol i’w gwneud yn ofynnol i wisgo gorchuddion wyneb, gellir annog gwneud hynny o hyd trwy gyfrwng hysbysiadau gweledol neu lafar, a dylai unrhyw un sy’n dewis gwneud hynny dderbyn cefnogaeth o ran y dewis hwnnw. Dylai cynulleidfaoedd ystyried parhau i ddarparu stoc o orchuddion wyneb untro, ynghyd â hylif diheintio dwylo, wrth fynedfa’r adeilad. Wrth groesawu, gellir annog unrhyw un sy’n pesychu neu’n tisian i wisgo gorchudd wyneb er cysur a diogelwch eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell defnyddio gorchudd wyneb tair haen (yn hytrach na gorchudd dros dro fel sgarff), a dylid eu gwisgo’n gywir a’u ffitio’n dda.

“Covid hir”

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at “Covid hir”. Mae llawer o bobl sydd wedi cael Covid – hyd yn oed yn ysgafn – yn profi symptomau megis syrthni, blinder, poen yn y cyhyrau ac eraill sydd yn parhau am amser hir. Bydd eglwysi’n dymuno cynnig gofal bugeiliol i bobl o’r fath, ac yn ystyriol o’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd gweithio neu gwirfoddoli neu sydd angen torri’n ôl ar eu cyfraniad, efallai am gyfnod hir. Efallai y bydd cyflogwyr am adolygu dichonolrwydd eu polisïau absenoldeb salwch a thâl salwch gan ystyried pa mor gyffredin yw’r cyflwr hwn.

Ymchwiliad Covid-19 y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu ymchwiliad annibynnol dan arweiniad y Farwnes Hallett. Cyhoeddwyd cylch gorchwyl yr ymchwiliad ar Fehefin 28, ac mae wedi dechrau ar ei waith. Mae’r cylch gorchwyl yn cynnwys cyfeiriadau penodol at addoldai ac at gyfraniad y sector gwirfoddol yn ystod y pandemig.

Ffynonellau eraill o wybodaeth ac arweiniad

Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd.

Gethin Rhys  21.09.2022