Yr Hinsawdd ac Adeiladau
Yma gallwch ganfod adnoddau i’ch cynorthwyo i leihau effaith amgylcheddol eich eglwys a neuadd yr eglwys, deall sut mae hynny’n cydblethu â’ch addoli a’ch gofal am y greadigaeth, ac uno gydag eraill i alw am newid. Paratowyd yr adnodd hwn gan Catherine Ross a Jo Chamberlain o Raglen Amgylcheddol Eglwys Loegr.
Gwasanaeth sy’n Canolbwyntio ar yr Hinsawdd:
Syniadau ar gyfer meddwl am reoli adeilad eich eglwys yng nghyd-destun addoli a gofalu am y greadigaeth
Gwyddom fod gofalu am y cread yn rhan annatod o’n haddoliad a’r ffordd rydym yn byw yn unol â’n ffydd fel Cristnogion unigol ac fel eglwysi. Gwyddom fod angen i ni leihau ein hallyriadau carbon fel rhan o’r mynegiant hwn o’n ffydd – ein hallyriadau unigol a’n rhai corfforaethol. Yr ynni a ddefnyddir i wresogi a goleuo eich eglwys a neuadd yr eglwys yw’r elfen fwyaf yn ôl troed carbon corfforaethol eich eglwys, felly mae’n hollbwysig sicrhau ein bod yn defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl, a heb wastraffu dim ohono. Mae llawer o gyngor ac arweiniad ymarferol ynghylch hynny isod.
Ond sut mae ymgorffori hyn mewn gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd? Nid yw cynnwys ein hadeiladau eglwysig mewn gwasanaeth yn hawdd ar hyn o bryd, pan gyfyngir ar y defnydd o’n hadeiladau. Allwn ni ddim symud o gwmpas os ydyn ni mewn gwasanaeth ar y safle, ac mae llawer ohonom yn addoli gartref. Felly, gellid gweithredu rhai o’r syniadau hyn yn rhithwir, gan ddefnyddio ffotograffau os oes gennych chi rai neu ddelweddau stoc os nad oes gennych luniau eich hun, neu gan ddefnyddio ond eich dychymyg.
Meddyliwch am wahanol rannau eich adeilad a’r hyn maent yn cael eu defnyddio ar ei gyfer. Dechreuwch gyda’r mannau a ddefnyddir ar gyfer lletygarwch. Gallai hynny fod y lle cyntaf mae pobl yn dod iddo pan fyddant yn dod i mewn i’r adeilad – neu’r gegin, y lolfa goffi, neu’r ardal groesawu. Sut ydych chi’n gwneud i bobl deimlo bod croeso iddynt? Sut, fel eglwys, ydych chi’n adeiladu cymuned? Ydych chi wedi meddwl am y bwyd rydych chi’n ei weini? Edrychwch ar yr adnoddau ar yr hinsawdd a bwyd. Gweddïwch dros y bobl sy’n ymuno â’ch cymuned a gweddïwch y byddwch yn eglwys groesawgar. Roedd Iesu’n eglur bod croesawu pobl nad ydym yn eu hadnabod yn arwydd o’n cariad tuag ato yntau (Mathew 25:31-46).
Meddyliwch am y brif ystafell yn eich eglwys, lle mae’r bobl yn eistedd ar gyfer y gwasanaethau. Beth ynglŷn â’r lle hwnnw sy’n eich cynorthwyo i addoli? Adeiladwyd llawer o eglwysi i ysbrydoli parchedig ofn a rhyfeddod, neu maent wedi cyflwyno elfennau i gyflawni hynny. Dangoswyd bod treulio amser yng nghanol natur yn peri i ni werthfawrogi natur yn fwy, ac mae natur ei hun yn ysbrydoli rhyfeddod at ogoniant Duw (Salm 19:1). Rydym yn aml yn dod â natur i mewn i’n heglwysi ar ffurf blodau, ond efallai y byddwch yn gallu meddwl am ffyrdd eraill o wneud hynny. Neu efallai fod gan eich adeilad gofebau i’r rhai sydd wedi rhedeg yr yrfa o’n blaenau, gan ein hannog ninnau i ddyfalbarhau (Hebreaid 12:1). Pwy yw eich ysgogwyr amgylcheddol chithau?
Pa ran o’r eglwys ydych chi’n ei defnyddio ar gyfer pregethu, darllen o’r Beibl ac arwain gweddi? Wrth i chi feddwl am y pulpud, y ddarllenfa, neu unrhyw fannau cyffelyb, gweddïwch dros y rhai sy’n pregethu ac yn arwain yn eich eglwys. A gofynnwch i chi’ch hun, pa mor aml ydych chi’n clywed am newid yn yr hinsawdd, neu’r amgylchedd, neu fioamrywiaeth yn y pregethau, y darlleniadau a’r gweddïau yn eich eglwys. A allai hynny ddigwydd yn amlach?
A oes gennych chi fan arbennig yn eich adeilad lle rydych chi’n paratoi ac yn derbyn y bara a’r gwin? I lawer o Gristnogion, dyma’r lle mwyaf sanctaidd yn eu hadeilad. Dyma hefyd y man lle mae teulu cyfan Duw yn dod ynghyd yn symbolaidd fel corff Crist. Ein haddoliad dilys a phriodol yw cyflwyno ein cyrff fel aberth byw (Rhufeiniaid 12:1). Gallai hynny fod yn foment i ailymrwymo i wneud popeth a allwn yn ystod ein bywydau beunyddiol i ddangos gwerthfawrogiad o’r greadigaeth fel rhodd Duw ac i’w meithrin.
Yn olaf, meddyliwch am y drws yn eich eglwys, yr allanfa. Ar ddiwedd gwasanaeth, cawn ein hanfon allan i weddill y byd i barhau â’n bywydau fel tystion a disgyblion. Meddyliwch beth allai eich camau nesaf fod i ofalu am y greadigaeth yn well. Fel cymuned, penderfynwch sut y byddwch yn gweithio ynghyd i sicrhau bod y ffordd rydych yn gofalu am eich adeilad yn rhan o hynny. Efallai y gellir comisiynu grŵp bach i ddatblygu hyn a gweithio ar y syniadau ymarferol isod. A gweddïwch dros y grŵp hwnnw hefyd.
Gweddi:Ymrwymo i ofalu am y greadigaeth
‘Tra bo’r holl greaduriaid yn sefyll yn ddisgwylgar, beth fydd canlyniad ein rhyddid?’ (Thomas Traherne)
Wrth i’r greadigaeth gyfan ddisgwyl mewn hiraeth eiddgar am waredigaeth y ddynoliaeth,
ymrwymwn o’r newydd i’r Duw a’n creodd,
y Tad, ffynhonnell popeth sy’n bod,
y Mab, y gwneir popeth drwyddo,
a’r Ysbryd Glân, rhoddwr bywyd, sy’n adnewyddu wyneb y ddaear.
Safwn i gadarnhau ein hymrwymiad i ofalu’n ymarferol am greadigaeth Duw.
Pawb: Arglwydd bywyd a’r un sy’n rhoi gobaith,
ymrwymwn i ofalu am y greadigaeth,
i leihau ein gwastraff,
i fyw’n gynaliadwy,
ac i werthfawrogi amrywiaeth gyfoethog bywyd.
Bydded i‘th ddoethineb ein tywys,
fel y bydd i fywyd o bob math ffynnu
a lleisio’n ffyddlon foliant y cread.
Bydded i ni fyw yn gyson â’r ymrwymiad a wnaethom heddiw.
Pawb: Amen. Amen. Amen.
Hawlfraint ⓗ Cyngor yr Archesgobion 2020.
Ymrwymo: Adnoddau i’ch cynorthwyo i ymrwymo i newid fel cymuned
Daw’r adnoddau hyn o’n profiad o geisio cyrraedd sero-net yn Eglwys Loegr, ond mae’r egwyddorion yn berthnasol i’ch adeiladau beth bynnag fo’ch enwad.
Am beth ydym yn sôn? Cliciwch ar y ddolen i weld sut allai eglwys carbon sero-net edrych.
Ewch ar daith o amgylch eglwys carbon sero-net ar wefan Eglwys Loegr yma. Fe welwch nodweddion allanol, o reseli beiciau i baneli solar, a nodweddion mewnol megis gwresogi carbon isel a goleuo deuodau allyrru golau (LED), a gallwch archwilio’r chwe egwyddor sy’n sail i ddod yn sero-net.
Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Defnyddiwch restr wirio hunanarweiniol y Llwybr Ymarferol tuag at Sero-net.
Gallwch lawrlwytho’r nodyn cyfarwyddyd dwy dudalen ymarferol iawn ynghylch y Llwybr Ymarferol tuag at Sero-net o wefan Eglwys Loegr yma. I’w gwneud yn hawdd i chi adolygu eich adeiladau eich hun, fe welwch hefyd restr wirio hunanarweiniol. Mae fersiwn i’w chwblhau ar y sgrin neu mae fersiwn argraffadwy y gallwch gerdded o amgylch eich eglwys gyda hi. Y naill ffordd neu’r llall, cyflawnwch yr adolygiad ac yna trafodwch y canlyniadau yn eich cyngor eglwys, eich cyngor plwyfol eglwysig neu gyfarfod eglwysig arall.
Er bod yr egwyddorion sy’n gysylltiedig â chyrraedd sefyllfa sero-net yn berthnasol i bob adeilad eglwysig, bydd angen i chi geisio cyngor enwadol ar y gweithdrefnau cywir i’w dilyn cyn i chi gyrraedd y pwynt o geisio caniatâd i wneud gwaith ar yr adeilad, yn enwedig os yw’n adeilad hanesyddol – mae’r Llwybr Ymarferol tuag at Sero-net yn eich tywys drwy weithdrefnau Eglwys Loegr yn unig. Os nad yw eich eglwys yn rhan o enwad, yna dylech gysylltu â swyddog cynllunio eich awdurdod lleol ar gyfer y cyngor hwn.
Fe welwch yn y Llwybr Ymarferol mai’r peth gorau yw dechrau gyda’r gwaith cynnal a chadw sylfaenol sy’n cadw’r glaw allan o’ch eglwys: atgyweirio’r to, clirio’r landeri a thrwsio ffenestri sydd wedi torri. Mae gan y rhan fwyaf o eglwysi gwledig bychain ôl troed carbon isel iawn eisoes, gan mai ond am ychydig oriau’r wythnos y bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio, felly mewn eglwys o’r fath unwaith y byddwch wedi gwneud y pethau sylfaenol ac wedi newid i dariff trydan adnewyddadwy byddwch yn agos at sero-net.
Am wybod eich man cychwyn? Defnyddiwch yr offer ar-lein i gyfrifo eich ôl troed carbon.
Gall pob enwad ddefnyddio’r offeryn 360°carbon i ganfod eu hôl troed carbon o’u defnydd o ynni, eu teithio, eu defnydd o fwyd, eu gwariant a’u gwastraff. Rydych yn casglu gwybodaeth am bob un o’r meysydd hyn ac yna’n ei mewnbynnu ar-lein i ddarganfod eich ôl troed carbon, ac yna gallwch ddewis clicio ymlaen at wybodaeth gwrthbwyso gyda Climate Stewards.
Ydych chi’n meddwl ei fod yn amhosibl? Gall astudiaethau achos yn y byd go iawn eich ysbrydoli
Cliciwch drwy’r astudiaethau achos yma a byddwch yn clywed am eglwysi sydd wedi gwneud newidiadau, gan gynnwys dwy sydd bellach yn gwbl sero-net.
Eglwysi yw’r rhain fel eich eglwys chi, a gymerodd gamau megis: lleihau colli gwres, newid goleuadau i LEDs, newid i drydan 100% adnewyddadwy a/neu osod paneli solar, ac – yn bwysicaf oll – newid eu systemau gwresogi fel nad ydynt yn llosgi tanwydd ffosil. Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o straeon gan eglwysi go iawn ar wefan Eco Church yma.
Am ddeall sut? Mae gweminarau a chyngor ar gael ar-lein AM DDIM
Mae llawer o weminarau a chyngor ar gael i’ch helpu. Mae gweminarau sero-net Eglwys Loegr wedi’u cynllunio i gynorthwyo pobl ym mhobman i ddysgu am y camau sydd angen eu cymryd. Gallwch ddod o hyd i sesiynau ar gynllunio gweithredu, ffurfio eich tîm, paneli solar, gwresogi, goleuo, a mwy. Does dim angen i chi fod yn perthyn i Eglwys Loegr i ymuno, ac mae’r gweminarau i gyd am ddim.
Mae sefydliadau treftadaeth hefyd yn cyhoeddi canllawiau ardderchog ynghylch perfformiad eich adeilad. Gallwch ganfod cyngor gan Historic England a Historic Environment Scotland, ac mae CADW yma yng Nghymru wedi cyhoeddi cyngor defnyddiol ynghylch gosod systemau microgynhyrchu mewn adeiladau hanesyddol.
Codi llais: Adnoddau i’ch cynorthwyo i ymuno ag eraill i alw am weithredu
Ysgrifennwch at eich cyngor
A yw eich cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd? Gallwch ganfod yr ateb yma.
Os ydyw, beth am ysgrifennu at eich cynghorwyr lleol yn mynegi eich cefnogaeth ac yn gofyn pa grantiau a chyngor mae’r cyngor yn eu cynnig i adeiladau cymunedol hanfodol fel eich un chi? Gallech holi ynghylch eu polisïau cynllunio, os oes newidiadau yr hoffech eu gwneud.
Os nad ydyw, ysgrifennwch at eich cynghorwyr lleol yn mynegi syndod ac yn dweud pa mor bwysig yw hi eu bod yn gwneud ymrwymiad cyhoeddus cyn COP26 ym mis Tachwedd.
Ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol neu Aelod Senedd Cymru ynghylch cyllid
Ar hyn o bryd, mae cyllid ar gael i berchnogion cartrefi a landlordiaid wneud newidiadau, drwy’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, ac mae cyllid ar gyfer y sector cyhoeddus, drwy gronfa Datgarboneiddio’r Sector Cyhoeddus a Salix, ond dim cynllun cyllid grant o bwys ar gyfer adeiladau cymunedol.
Beth am ysgrifennu at eich Aelod Seneddol neu Aelod Senedd Cymru a thynnu sylw at hyn? Eglurwch fod eglwysi fel eich un chi’n dymuno gwneud newidiadau, ond bod angen cymorth ariannol arnynt. Nodwch y gall pethau syml fel newid i oleuadau LED dalu am eu hunain yn gyflym, felly a ellid cyflwyno benthyciadau gwyrdd rhad? Mae newid o ddefnyddio boeler olew/nwy i system wresogi newydd yn ddrud, felly a ellid cyflwyno grantiau? Gofynnwch roi gwybod i chi am y cynnydd gyda’r materion hyn.
Galwch ar gymuned eich eglwys i wneud newidiadau
Yn ogystal â gwneud newidiadau yn yr eglwys, a allwch annog aelodau o gymuned yr eglwys i wneud newidiadau yn eu bywydau eu hunain? Ffordd wych o wneud hynny yw defnyddio Count Us In, sy’n nodi mewn ffordd eglur iawn yr un cam ar bymtheg mwyaf effeithiol y gall unigolyn eu cymryd.