
Bob blwyddyn mae gan Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru stondin sylweddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny mewn cydweithrediad â chapeli ac eglwysi’r fro. Mae’n braf cael croesawu rhai miloedd o bobl a phlant i mewn atom yn flynyddol dros yr 8 diwrnod, i fwynhau’r arlwy ac amrywiaeth o weithgareddau.

O fewn y gofod, sy’n cael ei staffio gan staff Cytûn a nifer o wirfoddolwyr o’r eglwysi lleol, mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael. Bydd llawer yn troi i mewn atom am seibiant o fwrlwm y maes i fwynhau panad a theisen gri, a chyfle i eistedd a sgwrsio. I blant mae cyfle i chwarae Lego, Connex, Jenga, Connect 4 heb sôn am gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd crefft, gwneud bathodyn, paentio wyneb neu ewinedd.

Bob dydd am 11.00 cynhelir gwasanaeth byr, gydag emynau, darllen, myfyrdod a gweddi. Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd, gan gynnwys lansiadau, sgyrsiau, cyflwyniadau a chanu. Ceir nifer o arddangosfeydd yn dangos gwaith yr eglwysi a mudiadau Cristnogol, gyda chyfle i sgwrsio a thrafod. Mae dewis da o lyfrau ar gael, a hynny i blant, rhieni, heb sôn am athrawon ysgol ac Ysgol Sul. Noddir y gwaith hwn gan yr enwadau a’r mudiadau sy’n rhan o waith Cytûn.

Mae croeso i’r holl fudiadau ac enwadau sy’n rhan o Cytûn i fod yn rhan o’r trefniadau. Cysylltwch gyda ni i wybod mwy am drefniadau ar gyfer eleni trwy aled@ysgolsul.com.
