CYTÛN YN Y COP
Mae’n hawdd i uwchgynadleddau rhyngwladol gael eu cyflwyno fel pethau pwysicach nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Ond mae Cynhadledd Ryngwladol Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, sydd i’w gynnal yn Glasgow ar Hydref 31 – Tachwedd 12 yn wirioneddol bwysig.
Mae’r newidiadau i’r hinsawdd a achosir gan weithgarwch dynol ar y Ddaear eisoes yn newid bywydau pobloedd lawer er gwaeth. Teimlir yr effeithiau cyntaf waethaf mewn gwledydd sy’n agos at y môr (a effeithir gan lefel y môr yn codi) a gwledydd poeth (lle mae hyd yn oed codiad bychan yn y tymheredd yn ddigon i olygu nad yw’r tir bellach yn gynhyrchiol neu hyd yn oed nad oes modd byw yno). Mae’r gwledydd hyn yn dueddol o fod ymhlith y tlotaf ar wyneb daear.
Rydym ninnau yng Nghymru eisoes yn ymwybodol o gynnydd mewn stormydd, llifogydd, tywydd crasboeth ac ati. Mae’r Panel Rhyng-lywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), yn ei adroddiad diweddaraf gyhoeddwyd fis Awst yn barod at COP26, yn dweud y teimlir effeithiau difrifol cyn bo hir ymhob rhan o’r byd, ac y bydd rhain yn gwaethygu os na gymerir camau cyflym i leihau allyriadau carbon y byd.
Mae aelod fudiadau Cytûn Cymorth Cristnogol a CAFOD eisoes wedi gorfod ailgyfeirio peth o’u hariannu – llawer ohono wedi ei gyfrannu gan aelodau’r eglwysi yn y DU – i helpu pobl i addasu i’r newidiadau yn yr hinsawdd. Ynghyd ag asiantaethau datblygu eraill, byddant yn bresennol yn COP26.
Mae’r asiantaethau hyn, gyda Cytûn a llawer o eglwysi ledled Prydain ac Iwerddon, yn rhan o fenter Sul yr Hinsawdd. Fe gynullwyd y glymblaid hon gan Rwydwaith Materion Amgylcheddol Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI), a bu’n gweithio gyda chynulleidfaoedd o bob traddodiad Cristnogol i drefnu oedfaon yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, i wneud eu hymrwymiadau lleol eu hunain trwy EcoChurch neu LiveSimply, ac i godi llais dros newid cyfeiriad yn COP26.
Cynhaliwyd oedfa Sul yr Hinsawdd y cenhedloedd yng Nghadeirlan Glasgow ar Fedi 5. Cymerwyd rhan gan weinidogion, elusennau Cristnogol a phobl ifainc, gyda’r nod o gyflwyno ymrwymiadau amgylcheddol wnaed gan fwy na 1,950 o gynulleidfaoedd gerbron gwleidyddion a’r eglwys ehangach. Roedd llawer o’r sawl oedd yn rhan o’r achlysur yn ‘codi llais’ am y tro cyntaf, gan ymuno â miloedd sydd wedi arwyddo Datganiad ‘Nawr yw’r Amser’ sy’n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’n ehangach ac yn gyflymach cyn croesawu’r byd i gynhadledd COP26. Ar ddechrau’r oedfa, canwyd cloch y gadeirlan, i groesawu a galw am gyfiawnder hinsawdd, yn cysylltu â’r traddodiad Celtaidd o glychau yn galw i gyfrif. Roedd y gerddoriaeth yn cynnwys emynau gan y cyfansoddwyr blaenllaw cyfoes Keith a Kristyn Getty. Caewyd yr oedfa drwy weddïo dros COP26 (gan gynnwys yn y Gymraeg a’r Gaeleg) ac ymrwymo eglwysi’r cenhedloedd i barhau i weithredu am yr hinsawdd. Gellir gwylio’r oedfa arlein, a felly hefyd cyflwyniad fideo o ddetholiad bychan o’r gwaith yn y maes gan eglwysi a mudiadau Cristnogol ledled Prydain ac Iwerddon.
Nid yw’n rhy hwyr i eglwysi lleol o bob traddodiad ddefnyddio’r ystod o adnoddau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, sydd ar gael ar gyfer addoli ac i fynd i’r afael ag agweddau penodol ar ymateb Cristnogol i newid yn yr hinsawdd sydd ar gael ar wefan Sul yr Hinsawdd.
Dywedodd y Parchg Ganon Carol Wardman, Cynghorydd Esgobion yr Eglwys yng Nghymru am Eglwys a Chymdeithas: “Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn o weithredu ar newid hinsawdd i’r Eglwys yng Nghymru, ac rydym yn falch o fod yn rhan o Wasanaeth Sul yr Hinsawdd y cenhedloedd cyn cyfarfod hanfodol COP26 yn Glasgow. Eleni, mae pob esgobaeth wedi cofrestru gyda chynllun EcoChurch A Rocha UK, rydym wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, penodi Hyrwyddwr Hinsawdd, gwneud y penderfyniad i ddad-fuddsoddi o danwydd ffosil, ac ymrwymo i ddod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Mae newid hinsawdd yn llythrennol yn fater o fyw neu farw, a gweddïwn y bydd gan lywodraethau gartref ac ar draws y byd y dewrder i weithredu cyn ei bod yn rhy hwyr. ”
Meddai’r Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Sul yr Hinsawdd sydd wedi llwyddo i ddod â chymaint o enwadau ac asiantaethau ynghyd er mwyn ceisio amddiffyn ein planed. Gobeithiwn y bydd y cyd-weithredu hwn yn helpu i sicrhau targedau uchelgeisiol a beiddgar yn COP26 pan ddaw, gan alluogi gwneud newidiadau byd-eang a lleol er mwyn diogelu’r greadigaeth a bywydau ein brodyr a’n chwiorydd sydd eisoes yn profi cost real iawn newid hinsawdd.”
Bydd Sul yr Hinsawdd a’i aelod-sefydliadau ac eglwysi yn bresennol yn COP26 yn Glasgow. Bydd Cytûn yn cael ei gynrychioli gan y Parchg Gethin Rhys. Ar Dachwedd 1, bydd gan Sul yr Hinsawdd stondin yn y parth arddangos lle gallwn gwrdd â chynrychiolwyr. Trwy gydol COP26, bydd gennym gyflwyniad fideo yn y Parth Gwyrdd digidol, ar gael yn unrhyw le. Byddwn hefyd yn cefnogi’r llu o weithgareddau addoli, ymrwymo ac ymgyrchu y mae aelodau clymblaid Sul yr Hinsawdd yn eu trefnu yn Glasgow ac ar-lein. Bydd mwy o fanylion ar gael ar ein cyfryngau cymdeithasol Twitter @CytunNew a Facebook.
Nid pawb fydd yn gallu cyrraedd Glasgow yn bersonol, felly ddydd Sadwrn Tachwedd 6 bydd Diwrnod Gweithredu Byd-eang lle gall pobl leisio’u barn ble bynnag y bônt. Mae Cytûn, CAFOD a Chymorth Cristnogol yn rhan o Climate.Cymru ac Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, sy’n dwyn ynghyd ystod o sefydliadau ledled cymdeithas Cymru sy’n ymwneud â’r argyfwng hinsawdd. Maent yn cydlynu’r Diwrnod Gweithredu yng Nghaerdydd ac mewn rhannau eraill o Gymru, a bydd manylion y gweithgareddau hyn hefyd ar gael ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Diwrnod i gofio a myfyrio
Yn dilyn y gwerthfawrogi ar y diwrnod cofio cyntaf yn 2021, mae elusen Marie Curie yn trefnu Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod drachefn ar 23 Mawrth 2022 (ail benblwydd y cyfnod clo cyntaf) i gofio pawb fu farw ym mhandemig Covid-19 a rhoi cyfle i oedi a myfyrio. Cefnogir y diwrnod gan aelodau clymblaid Cymru Garedig (Compassionate Cymru), y mae Cytûn yn aelod gweithgar ohono.
Er mwyn paratoi at ddiwrnod 2023, mae Marie Curie yn annog pawb i blannu bylbiau fydd yn blodeuo yn y gwanwyn i gyfrannu at y diwrnod. Fe fyddai hwn yn weithgaredd y gallai eglwysi, cymdeithasau ac Ysgolion Sul neu glybiau plant fod yn rhan ohono. Ceir manylion pellach yma.
Sut y gall addoldai helpu gyda’r argyfwng cartrefi?
Mewn ymateb i’r argyfwng cartrefi yng Nghymru, ffurfiwyd cynghrair newydd rhwng cymdeithasau tai a’r elusen ddigartrefedd genedlaethol, Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn. Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth newydd hon yn cynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy sy’n cael eu hadeiladu trwy ei rhaglen ‘Faith in Affordable Housing’, sy’n trawsnewid tir ac adeiladau eglwysig dros ben yn dai rhent gwirioneddol fforddiadwy o ansawdd uchel.
Er 2016 mae’r rhaglen Ffydd mewn Tai Fforddiadwy wedi dwyn ynghyd cymdeithasau tai ac eglwysi o wahanol enwadau i drawsnewid tir ac adeiladau segur yn dai fforddiadwy. Hyd yma mae’r rhaglen wedi hwyluso creu bron i 100 o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru. Mae rhai prosiectau yn adeiladau newydd, mae rhai yn addasiadau ar adeiladau sydd yno eisoes, ac mae pob un yn unigryw.
Ym mis Gorffennaf 2020, daeth adolygiad o’r prosiect i’r casgliad, er mwyn cynyddu’n sylweddol faint o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy y gellid eu cynhyrchu, y byddai angen mireinio’r rhaglen, gan weithio gyda nifer llai o gymdeithasau tai dethol. Dywedodd Bonnie Navarra, Cyfarwyddwr Housing Justice Cymru, “Rydyn ni eisiau gweithio gyda’r cymdeithasau tai sydd â’r gallu a’r sgiliau ariannol i adeiladu tai o ansawdd uchel ond, a mae hyn yn bwysig, sydd hefyd yn rhannu gwerthoedd ein helusen o ran helpu’r rhai mewn angen a mynd i’r afael â’r argyfwng cartrefi.” Yn dilyn y broses werthuso, mae Housing Justice Cymru wedi cyhoeddi eu partneriaid strategol newydd: Cymdeithas Tai First Choice, Adra, Grŵp Cynefin, Grŵp Pobl, Cymdeithas Tai Sir Fynwy a chonsortiwm dan arweiniad Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (gan gynnwys FCHA, Melin, Newydd a Valleys to Coast).
Dywedodd Cadeirydd Housing Justice Cymru, yr Esgob John Davies, “Mae hwn yn gyfle gwych i eglwysi a chymdeithasau tai gyd-weithio i fynd i’r afael ag un o broblemau cymdeithasol mawr ein hoes. Mae pawb yn haeddu cartref gweddus sy’n diwallu eu hanghenion, a gobeithiwn y bydd cam nesaf y rhaglen yn cynhyrchu mwy o gartrefi i’r bobl fwyaf anghenus. “
Enghraifft o’r rhaglen: Eglwys S. Mathew yng Nghasnewydd
Mae Housing Justice Cymru yn gyffrous am botensial y partneriaethau newydd hyn, ac yn credu bod hwn yn gam hanfodol i rymuso grwpiau eglwysig a ffydd ledled Cymru i gyfrannu at ddatblygu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel a chymunedau bywiog. Bydd Housing Justice Cymru yn parhau i gefnogi eglwysi a chapeli trwy’r broses ailddatblygu, i helpu grwpiau ffydd i ryddhau cyfalaf ar gyfer adnewyddiadau, aildrefnu a phrosiectau cenhadaeth neu etifeddiaeth ychwanegol, gan helpu ar yr un pryd i ddatrys yr argyfwng cartrefi.
Ar ôl gweithio’n agos gyda chynulleidfaoedd lleol a phobl broffesiynol yn y maes am y 5+ mlynedd ddiwethaf, mae Housing Justice Cymru yn gwybod bod gan bob enwad ei drefn ei hun ar gyfer gwerthu / prydlesu asedau, a diolch i’w harbenigedd a’u profiad ar draws y sector tai, maent yn gallu cynorthwyo eglwysi i wireddu potensial llawn pob prosiect.
Os am wybod mwy, ewch i www.housingjustice.org.uk/cymru/fiah neu er mwyn trafod capel /eglwys penodol, cysyllter â chydlynydd y cynllun, Sian Bradley s.bradley@housingjustice.org.uk
SUT Y GALL EGLWYSI HELPU FFOADURIAID AFGHANISTAN?
Ers i heddluoedd a phersonél Prydain, America ac Ewrop gael eu tynnu allan o Afghanistan, gan arwain at ymadawiad llu o ddinasyddion Afghanistan a oedd wedi gweithio gyda nhw, neu yr ystyriwyd eu bod mewn perygl arbennig o dan drefn Taliban, bu pryder aruthrol. ynglŷn â sut i helpu a chroesawu’r ffoaduriaid hyn – grwpiau teuluol yn bennaf – i’n gwlad. Fel Cenedl Noddfa, mae Cymru a’i chymunedau ffydd yn awyddus i chwarae eu rhan yn y broses hon.
• Llety
Mae holl Awdurdodau Lleol Cymru wedi nodi y byddant yn cymryd rhan yn y cynllun ailsefydlu, ond mae diwallu anghenion llety yn parhau i fod yn dasg heriol. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn yn arbennig am eiddo 3 ystafell wely, y gellid eu darparu, os yn bosibl, am hyd at flwyddyn. Yr Awdurdod Lleol fydd yn delio â threfniadau’r gosod ac ariannol.
Er ei bod yn ddiolchgar iawn am garedigrwydd y rhai sydd wedi cynnig ystafelloedd yn eu cartrefi eu hunain, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori nad yw hyn yn cael ei geisio ar hyn o bryd.
Os efallai y gallwch gynnig llety priodol, cysylltwch â’ch Adran Tai Awdurdod Lleol neu ffoaduriaid@gov.wales
• Gwybodaeth Bellach
Gellir gweld manylion cynlluniau’r Swyddfa Gartref ar gyfer ailsefydlu ffoaduriaid Afghanistan yma.
Mae cyngor arbennig gan Lywodraeth Cymru yma ac mae datganiad gan Jane Hutt MS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru yma.
• Adnoddau Ffydd
Mae Eglwys Loegr wedi postio peth gwybodaeth ar ei gwefan, a mynediad at adnoddau o amrywiol leoedd i gynorthwyo gydag astudio, myfyrio ac ymgysylltu ar faterion ffoaduriaid a mudo, gan gynnwys eiriolaeth ac ymgyrchu. Daw’r wybodaeth i raddau helaeth o safbwynt Lloegr, ond mae cyfeiriad at rai sefydliadau Cymreig. Gan fod materion mewnfudo a lloches yn cael eu rheoli gan Swyddfa Gartref y DU, mae’r sefyllfa gyffredinol yn debyg iawn.
Canon Carol Wardman, Cynghorydd Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ar Eglwys a Chymdeithas
CEFNOGI GOFALWYR DI-DÂL YNG NGHYMRU
Mae Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cefnogi rhaglen i’w lansio gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid yw llawer o ofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’u hawliau; ar ben hynny, mae llawer eto i’w nodi fel gofalwr di-dâl.
Gan adeiladu ar ymgyrch hawliau gofalwyr 2019 Llywodraeth Cymru, gan ddechrau ddydd Llun 11 Hydref, a rhedeg am bedair wythnos, byddwch yn clywed ac yn gweld galwad i bobl ddod ymlaen i ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt fel gofalwyr di-dâl. Bydd yr alwad i bobl fynd i dudalen bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru neu i gysylltu â’u hawdurdod lleol (neu sefydliad trydydd sector perthnasol).
Yn ystod yr ymgyrch fe welwch yr hashnod #makeyourselfknown felly rhannwch a chysylltwch.
Ydych chi eisiau helpu rhywun i gael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn?
Mae Housing Justice Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i weithio gyda phobl sy’n symud ymlaen o ddigartrefedd ac a allai fod angen help gyda thasgau gweinyddol (ee agor cyfrif banc), cefnogaeth emosiynol (ee coffi a sgwrs), neu gymorth ymarferol (ee. gosod silff).
Os ydych chi’n garedig, yn ofalgar ac yn dosturiol, yna byddai Housing Justice Cymru wrth ei fodd yn clywed gennych. Siaradwch â Tom am wirfoddoli heddiw: t.nevitt@housingjustice.org.uk neu dysgwch fwy yma: www.housingjustice.org.uk/cymru/citadel Mae lleoedd ar gael yn Wrecsam, Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.
‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ – #Byw HebOfn
Ymgyrch Llywodraeth Cymru am Gam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Rheolaeth drwy Orfodaeth
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru #BywHebOfn yn anelu at roi gwybod i bawb sydd mewn perygl oherwydd cam-drin domestig, trais rhywiol a rheolaeth drwy orfodaeth fod cymorth ar gael, 24 awr y dydd, bob dydd.
Mae yna nifer o ffyrdd i gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn am gymorth a chefnogaeth – trwy’r ffôn 0808 8010800, hefyd sgwrsio byw, neges testun neu ebost – ewch i’n gwefan am wybodaeth.
Mae cyfnod presennol yr ymgyrch yn cynnwys hysbysebu ar y teledu (ITV, Sky AdSmart ac S4C), radio rhanbarthol a chymunedol, cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cael ei hysbysebu ar fagiau meddyginiaeth gan fferyllfeydd. I ddarganfod mwy ewch i: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cadw-eich-hun-yn-ddiogel-yn-ystod-argyfwng-y-coronafeirws
CYFRANNU AT GWRICWLWM YSGOLION CYMRU
Mae Cytûn yn parhau i gadw ein haelod eglwysi a mudiadau mewn cyswllt â datblygiad cwricwlwm ysgolion newydd Cymru. Ni fu modd i’r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol, yr ydym yn aelodau ohono ar ran Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru, gyfarfod yn ystod y pandemig, ond fe barhaodd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (lle’n cynrychiolir gan Siân Rees o’r Gynghrair Efengylaidd) â gweinidogion yr adran addysg. Mae Cytûn hefyd yn rhan o weithgor newydd fydd yn llunio llwybr swyddogol i fudiadau y tu allan i’r sector addysg gyfrannu adnoddau a deunydd i ysgolion all eu helpu i lunio eu cwricwlwm lleol newydd, yn unol â gofynion y drefn newydd.
Mae Cytûn hefyd wedi bod yn rhan o grŵp fu’n trafod yr arweiniad ar gyfer meysydd llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (yr arferid ei law yn Addysg Grefyddol) a Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac rydym yn disgwyl ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar y meysydd hyn yn ystod yr haf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am amserlen gweithredu’r cwricwlwm. Bydd ysgolion cynradd yn cyflwyno eu cwricwlwm lleol newydd ym Medi 2022 ac ysgolion uwchradd ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 ym Medi 2023 a blynyddoedd uwch wedi hynny. Ceir gwybodaeth gyflawn am y cwricwlwm newydd ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru.
EWROP AC EGLWYSI CYMRU
Yn dilyn y refferendwm am yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, sefydlodd Cytûn – ar gais ei aelod-eglwysi – Weithgor Cymru ac Ewrop i fonitro datblygiadau wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, a – lle bo’n briodol – i ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a’r DU a chymryd rhan mewn trafodaethau gyda sefydliadau cymdeithas sifil eraill.
Mae’r Gweithgor wedi bod yn weithgar am fwy na phum mlynedd, ac yn 2017 fe gyfarfu – ynghyd ag ysgrifenyddion cyffredinol cynghorau eciwmenaidd Cristnogol o bob rhan o gyfandir Ewrop – gyda Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar y pryd (llun uchod). Mae’r Gweithgor hefyd wedi cymryd rhan weithredol yn Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit a gynullwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC/WCVA) a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cydlynydd y Fforwm, Charles Whitmore, wedi bod yn aelod cydwybodol o’r Gweithgor, ynghyd â chynrychiolwyr aelod-eglwysi a sefydliadau Cytûn.
Nawr bod y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i chwblhau, mae’r Gweithgor yn troi ei sylw at y cysylltiadau niferus sydd gan Cytûn a’i aelod-eglwysi, nid yn unig â’r Undeb Ewropeaidd, ond ar draws cyfandir Ewrop. Mae rhai o’r cysylltiadau hyn yn eciwmenaidd (megis trwy Gynhadledd Eglwysi Ewrop, Comisiwn yr Eglwysi am Fudwyr yn Ewrop neu Gymundeb yr Eglwysi Protestannaidd yn Ewrop), tra bod eraill yn gysylltiedig ag un traddodiad neu enwad penodol (megis yr Esgobaeth yn Ewrop, Cyngor Cynadleddau Esgobol Ewrop neu Gyngor y Crynwyr am Faterion Ewropeaidd). Mae’r Gweithgor yn awyddus i lunio rhestr o’r holl gysylltiadau hyn er mwyn i eglwysi a sefydliadau Cristnogol, o fewn eu hadnoddau cyfyngedig, gefnogi ei gilydd ac osgoi dyblygu diangen. Rydym felly yn gwahodd ein holl aelodau i roi gwybod i ni am y cysylltiadau sydd ganddynt a darparu manylion cyswllt cyhoeddus neu gyfeiriadau gwe inni, fel y gall yr ystod eang o gysylltiadau traws-Ewropeaidd fod o gymaint o fudd â phosibl. Cysylltwch â Gethin Rhys (manylion isod) gydag unrhyw wybodaeth yr ydych am ei rhannu.
Fe gynrychiolir y Gweithgor mewn gweminar a drefnir gan Ffydd yn Ewrop ar Hydref 21, sy’n anelu at gyfrannu at Gynhadledd yr Undeb Ewropeaidd am Ddyfodol Ewrop. Er ei bod yn cael ei threfnu gan sefydliadau’r UE, mae’r gynhadledd hon yn ystyried materion y tu hwnt i ffiniau’r UE a hefyd – yn bwysig – perthynas yr UE â gwledydd y tu allan i’r UE. Mae hyn yn bwysig nid yn unig i Gymru a’r DU, ond hefyd i fudiadau fel Masnach Deg, gan fod mynediad i farchnad yr UE yn hanfodol iddynt. Efallai bod ychydig o leoedd ar gael o hyd yn y gynhadledd hon, a gwahoddir darllenwyr y Bwletin a hoffai fod yn bresennol i gysylltu â Gethin Rhys (manylion isod) neu i gofrestru eu diddordeb ar wefan Ffydd yn Ewrop yma.
CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales
Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL
Yn ystod cyfnod yr argyfwng, yn gweithio gartref. Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru www.cytun.co.uk @CytunNew
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2021. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 29 Tach 2021.