CYMRU A’R EGLWYSI YN CODI EU LLAIS YN COP26

Adroddiad a lluniau gan Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, fu yn y gynhadledd

Ar adegau, roedd cynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn teimlo fel gŵyl grefyddol. Roedd nifer o eglwysi dinas Glasgow wedi croesawu mudiadau megis aelodau Cytûn, Cymorth Cristnogol, CAFOD ac ARocha UK, i sefydlu gofod swyddfa ar gyfer y trafodaethau, lle i gynnal digwyddiadau cyhoeddus a man i’r cyhoedd addoli a gweddïo wrth i’r trafodaethau fynd yn eu blaen. Doedd dim amheuaeth fod miloedd o bobl o bob rhan o’r byd yn credu mai trafod Cread Duw oedd y gynhadledd, ac nid yn unig materion gwyddonol, economaidd a gwleidyddol.

Roedd y prif drafodaethau yn digwydd yn y ‘Parth Glas’ (Campws Digwyddiadau Glasgow fel arfer), a oedd dan reolaeth y Cenhedloedd Unedig. Nid oedd gan Cytûn fynediad yno, ond roedd nifer o’n haelod fudiadau yn bresennol, a Chyngor Eglwysi’r Byd. Ar ochr arall Afon Clud roedd y ‘Parth Gwyrdd’ (Canolfan Wyddoniaeth Glasgow) lle cynhaliwyd digwyddiadau ac arddangosfeydd cyhoeddus.

Ar y diwrnod cyntaf, Tachwedd 1, roedd stondin yno gan glymblaid Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, Sul yr Hinsawdd. Dangoswyd deunydd fideo gan ein partneriaid a lluniau o nifer o’r 2,200 a mwy o oedfaon Sul yr Hinsawdd a gynhaliwyd dros y 18 mis diwethaf ledled Prydain ac Iwerddon. Roedd gennym restr gyfan o’r rhain a roedd nifer o bobl yn falch o weld enw eu heglwys yno. Dangoswyd y fideo hefyd yn y ‘Parth Gwyrdd Digidol’ a ddarlledwyd yn fyd-eang drwy gydol y gynhadledd, ac yn eu plith fideo Cymraeg Sul yr Hinsawdd a luniwyd ar ein cyfer gan Rhodri Darcy o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn y llun uchod dangosir stondin Sul yr Hinsawdd ynghyd â’n cymdogion o Weriniaeth Palau, ynysoedd yn y Môr Tawel sydd ymhlith y gwledydd sy’n dioddef waethaf eisoes o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd. Yn wir, yn y trafodaethau swyddogol Ar Dachwedd 2, fe ddywedodd eu Harlywydd, Surangel Whipps Jr, “Nid oes dim urddas mewn marwolaeth araf a phoenus. ‘Run man i chi fomio ein hynysoedd yn hytrach na gwneud i ni ddioddef a gwylio ein tranc araf.” Ac eto, bu cynrychiolwyr yr ynysoedd hyn – y mwyafrif llethol yn Gristnogion – yn gymdogion llawen ac urddasol i ni yn y neuadd arddangos.

Roedd gan Gymru hefyd ei lladmeryddion, yn fwyaf arbennig Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru a oedd yn bresenoldeb llafar a huawdl mewn sawl digwyddiad. Yn y llun uchod gwelir nifer ohonynt gyda chadair debyg i gadair Eisteddfod a luniwyd i helpu pobl i adrodd ac ymdeimlo â hanes newid hinsawdd. Defnyddiwyd y gadair mewn sesiwn drefnwyd gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, dan yr enw Hinsawdd, yn yr Ystyr Ddirdynnol: Hanes sy’n parhau mewn tair Act. Gellir gwylio’r sesiwn arlein. Bydd y gadair nawr yn mynd i ystafell Cabinet Llywodraeth Cymru, i atgoffa aelodau’r Llywodraeth fod yr argyfwng hinsawdd yn gyd-destun i’w holl drafodaethau.

Yn y ddinas y gwelwyd presenoldeb amlycaf yr eglwysi. Yn nifer o eglwysi Glasgow gellid gweld y llongau papur a luniwyd gan gefnogwyr Cymorth Cristnogol, ac mewn oedfa ddirdynnol yn Eglwys Sant Siôr, Tron, ar Dachwedd 2 fe ymunodd y llongau bach hyn gyda’r llong fwy o faint a deithiodd gyda phererinion Rhwydwaith Cristnogol Ifainc yr Hinsawdd o gynhadledd G7 yn Truro fis Mehefin i Glasgow. Y bwriad oedd cyflwyno’r rhain ac ymrwymiadau gan fudiadau tebyg o gwmpas y byd i Lywydd COP26, Alok Sharma AS. Yn anffodus, nid oedd yn bresennol, ond clywyd neges fideo gan un o’i swyddogion.

Bu’r glymblaid arall y mae Cytûn yn aelod ohono, Climate Cymru, hefyd yn weithgar trwy gydol y gynhadledd. Ar nos Sul Tachwedd 7 fe osodwyd ganddynt gerflun calon iâ ar hen ddoc sych Glasgow, gyferbyn â’r Parth Glas. Cynrychiolwyd Cytûn yn y dadorchuddio, ac fe fu’r iâ yn toddi’n raddol yn ystod ail wythnos y gynhadledd – fel yr iâ o gwmpas y byd sy’n cynhesu a diflannu. Defnyddiwyd cerflun tebyg ar risiau Senedd Cymru ychydig ddiwrnodau cyn dechrau’r gynhadledd.

Cefais i gyfle i gnoi cil ar hynt a helynt y gynhadledd ar Newyddion S4C (llun isod o noson olaf ond un y gynhadledd) ac ar Dros Frecwast a Bwrw Golwg ar Radio Cymru. Crynodeb Alok Sharma ei hun o’r canlyniad oedd fod yr ymrwymiadau a wnaed yn ystod y gynhadledd yn ddigon i gadw rhyw obaith yn fyw o gadw’r cynhesu byd-eang i 1.5 gradd yn uwch na’r tymheredd cyn y Chwyldro Diwydiannol – lefel a ystyrir yn gymharol ddiogel i ran fwyaf y byd (ond nid o reidrwydd i Palau ac ynysoedd eraill y Môr Tawel). Ond, meddai Mr Sharma am y gobaith hwnnw, “mae curiad ei galon yn wan”.

Cyhoeddodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Eglwysi’r Byd ddatganiad ar ddiwedd y gynhadledd yn mynegi “siom a gofid am ganlyniad annigonol” y gynhadledd. Wrth i COP26 ddod i ben fe ymdeithiodd cynrychiolwyr cymdeithas sifil drwy’r neuadd gynadledda, dan arweiniad pobl frodorol o America Ladin – pobloedd a oedd yn amlwg mewn llawer o’r digwyddiadau a gynhaliwyd, gan gynnwys oedfa Cymorth Cristnogol yn Eglwys Henderson, Sandyford, ar Dachwedd 9 (llun isod), a oedd yn cynnwys llif fideo byw o’r Amason.

Meddai datganiad Cyngor Eglwysi’r Byd, “Mae gwyddoniaeth newid hinsawdd yn ddigymrodedd, nid oes modd ei newid trwy drafod, ac nid yw’n maddau gwleidyddiaeth byrdymor. Dyma’r ddegawd dyngedfennol olaf ar gyfer gweithredu am yr hinsawdd i osgoi’r drychineb a ragwelwyd gyhyd. Yn Glasgow mae ein harweinyddion gwleidyddol unwaith eto wedi oedi cymryd y camau y mae’r argyfwng hinsawdd yn eu hawlio ac wedi lleihau y cyfwng bychan sydd i gymryd y camau hynny.” Apeliodd y Pwyllgor Gwaith am “dröedigaeth sylfaenol – metanoia – ymhob un o’n gwledydd, cymdeithasau, eglwysi a chymunedau, oddi wrth lwybr dinistriol ymelwa sydd wedi ein harwain i ymyl y dibyn hwn, tuag at ddyfodol cyfiawn a chynaliadwy.”

Cyhoeddodd Sul yr Hinsawdd hefyd ddatganiad ar ddiwedd y gynhadledd, yn dweud, “Er y daethpwyd i rai cytundebau i’w croesawu yn Glasgow yn COP26, roedd canlyniadau’r gynhadledd ar y cyfan islaw’r hyn oedd ei angen i gadw cynhesu bydeang yn is na 1.5 gradd.

“Mae clymblaid Sul y Hinsawdd yn annog Llywodraeth y DU i ddangos arweinyddiaeth foesol ac i gymryd camau mwy beiddgar gartref am yr argyfwng hinsawdd yn dilyn COP26. Gyda’r tebygrwydd y gofynnir i wledydd wella eu haddewidion i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr o fewn blwyddyn – yn lle aros am bum mlynedd arall – mae’n fater brys bod gwledydd cyfoethog yn cynyddu eu gweithredoedd domestig cyn hynny i fod mewn sefyllfa i ymrwymo’n fwy yn rhyngwladol .. Mae’r glymblaid yn annog eglwysi i ddal ati gyda’u hymrwymiadau i weithredu amgylcheddol, ac i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau i’r hinsawdd.” Eglura Andy Atkins, Cadeirydd Sul yr Hinsawdd a Phrif Weithredwr A Rocha UK (sy’n cynnal rhaglen EcoChurch) “Mae’n hanfodol ein bod yn gweld COP26 nid fel diwedd ymdrechion byd-eang i osgoi trychineb hinsawdd, ond fel cam ar hyd y ffordd, gyda llawer mwy eto i’w wneud . Mae gan eglwysi lawer i’w gynnig i fynd i’r afael â’r her hon, a rhaid inni ddefnyddio ein holl adnoddau – adeiladau, tir, dylanwad lleol a llais genedlaethol – i ymateb. Gyda’n gilydd, mae eglwysi sy’n cymryd rhan yn Sul yr Hinsawdd wedi cyflawni llawer, ond rydyn ni ond megis dechrau.” Cynhaliodd Sul yr Hinsawdd weminar yr wythnos ar ôl COP26 yn rhannu profiadau’r gynhadledd, a gellir gweld hwnnw arlein.

Cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad sy’n dweud, “Mae Cristnogion yng Nghymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â fforio am olew a nwy i ben o fewn y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn canmol ei phenderfyniad i ymuno â’r Beyond Oil and Gas Alliance (BOGA). Mae BOGA yn gynghrair o 10 cenedl a rhanbarth yn cynnwys Denmarc, Costa Rica, Ffrainc ac Iwerddon sydd wedi ymrwymo i ddod â’r holl fforio am olew a nwy i ben erbyn 2035.”

Dywedodd Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi a chadeirydd CHASE, grŵp hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru: “Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir ar gyfer Cymru a rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dangos cymaint o weledigaeth. Mae’n enghraifft o’r gweithredu hanfodol sydd ei angen ar bob lefel o gymdeithas i atal newid trychinebus yn yr hinsawdd.”

Yn gynharach eleni, ymrwymodd Corff Llywodraethol yr Eglwys i fod yn garbon sero net erbyn 2030. Gall eglwysi ddilyn y camau syml a rhwydd yn llyfryn ‘Llwybr ymarferol i sero net’ yr Eglwys yng Nghymru i’w gosod eu hunain ar eu llwybr sero net eu hunain. Mae’r llyfryn ar gael ar dudalen gwefan Newid Hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru. Caiff eglwysi eu hannog hefyd i:

  • barhau i ddefnyddio adnoddau rhagorol Sul yr Hinsawdd a gwahodd eglwysi eraill o bob enwad i gydweithio ar gyfer gweddi, cefnogaeth ac annog eich gilydd, a
  • chofrestru ar gyfer cynllun Eco-Eglwys. A fedrai Eco-Eglwys fod yn Brosiect Adfent i’ch eglwys eleni? A gallech anelu i ennill y wobr Efydd erbyn Sul y Cread fis Medi nesaf.

Mae Sul yr Hinsawdd yn cymell ei gefnogwyr i wneud tri pheth dros yr wythnosau nesaf:

EHANGU RHAGLEN LYWODRAETHOL CYMRU

Ar Dachwedd 22, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru Gytundeb Cydweithio ar gyfer y tair blynedd nesaf yn Senedd Cymru. Esboniodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, y bydd Plaid Cymru yn cael llais yng ngweithredu’r polisïau a gytunwyd ac wrth lunio cyllidebau Llywodraeth Cymru, ac maent yn addo cefnogi’r cyllidebau a gytunir; ond ni fydd gan Blaid Cymru weinidogion yn y Llywodraeth, a byddant yn parhau yn wrthblaid yn Senedd Cymru.

Mae 46 ymrwymiad, rhai yn ail-adrodd addewidion a wnaed yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ym Mehefin 2021, yn blaenoriaethu o fewn polisïau cyfredol, neu yn brosiectau ymchwil. Ymhlith yr ymrwymiadau newydd (gyda dyfyniadau o’r ddogfen mewn print italaidd) mae:

  • Comisiynu cyngor annibynnol i ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050.
  • Gweithio tuag at greu Ynni Cymru, cwmni … o dan berchnogaeth gyhoeddus, dros y ddwy flynedd nesaf, i ehangu’r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned.
  • Gweithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol a thrwy amaeth-goedwigaeth….Byddwn yn ystyried ffyrdd o…sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.
  • Cyflwyno cyfnod pontio … fel y bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod tymor y Senedd hon a’r tu hwnt.
  • Sefydlu grŵp arbenigol i … greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, gan barhau fel gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn yn cytuno ar gynllun gweithredu erbyn diwedd 2023.
  • Gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn ail gartrefi a thai anfforddiadwy, … yn cynnwys gosod terfyn ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau; mesurau i ddod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin; cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau; mwy o bwerau i awdurdodau lleol osod cyfraddau premiwm y dreth gyngor a chynyddu trethi ar ail gartrefi.
  • Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i helpu cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
  • Ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd,
  • Ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu ac atgyfnerthu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu opsiynau ar gyfer model mwy cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi, …a rhoi fframwaith ar waith i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal.
  • Cyllido mentrau presennol a newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â diffyg gwybodaeth.
  • Ail-gychwyn pennu Safonau’r Gymraeg ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, rheoleiddwyr yn y sector iechyd, cyrff cyhoeddus sy’n dal y tu allan i’r gyfundrefn safonau ar hyn o bryd a chwmnïau dŵr; a dechrau’r gwaith o weithredu safonau ar gyfer cymdeithasau tai.

Tri yn unig o’r ymrwymiadau sy’n cyfeirio at gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol newydd, sef:

  • Bil ar ddiwygio’r Senedd, yn seiliedig ar 80 i 100 o Aelodau; system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol – neu’n fwy cyfrannol – na’r un bresennol, gyda chwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith.
  • Bil Addysg y Gymraeg, … yn cryfhau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg; yn pennu uchelgeisiau a chymhellion newydd i ehangu cyfran y gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg; yn sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg a’i weithredu; yn galluogi ysgolion presennol i symud i gategori Cymraeg uwch ac yn ysgogi cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob lleoliad addysg.
  • Cyflwyno ardollau twristiaeth lleol gan ddefnyddio deddfwriaeth diwygio cyllid llywodraeth leol, a chyfeirir hefyd at ddiwygio’r Dreth Gyngor.

Addewir hefyd Papur Gwyn a fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer hawl i gartref digonol, y rôl y gallai system rhenti teg (rheoli rhenti) ei chwarae o ran gwneud y farchnad rhentu preifat yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm lleol a dulliau newydd i wneud cartrefi’n fforddiadwy.

FESUL CAM GYDA’R CWRICWLWM NEWYDD

Mae Cytûn a’i aelod eglwysi wedi bod yn rhan weithgar o’r cynllunio ar gyfer cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru o Fedi 2022. Yn ystod mis Tachwedd cymerwyd dau gam pellach tuag at siapio’r cwricwlwm ar gyfer cenhedlaeth nesaf ein plant:

  • Gosodwyd gerbron Senedd Cymru gôd drafft newydd ar gyfer dysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Bydd angen cymeradwyaeth y Senedd i’r côd cyn gwyliau’r Nadolig, ac os ceir hynny fe fydd canllawiau statudol ar ei weithredu hefyd yn cael eu cyhoeddi. Mae llais cymunedau ffydd wedi cyfrannu at lunio’r côd a’r canllawiau, ynghyd â llawer o leisiau eraill. Cafwyd ymateb mawr i’r ymgynghoriad diwethaf ar y pwnc a gellir darllen dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yma.
  • Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu cynigion ar gyfer meysydd llafur TGAU ar gyfer y cwricwlwm newydd, i’w harholi o 2027 ymlaen, o dan yr enw Cymwys ar gyfer y Dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cyfuno’r gwyddoniaethau mewn un cymhwyster TGAU newydd, ac felly hefyd iaith a llên Saesneg. Gohiriwyd penderfyniad ynghylch TGAU iaith a llên Cymraeg, ond fe addewir y cedwir TGAU ar wahân mewn Astudiaethau Crefyddol.

Wrth fynd â’r Bwletin i’r wasg, rydym yn dal i ddisgwyl canlyniad yr ymgynghoriad am Fframwaith drafft ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd.

Ad-dalu Cymunedol – cyfle i eglwysi a chymunedau

Mae gwaith Ad-dalu Cymunedol (Community Payback) yn ddedfryd gan lys barn sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl wneud rhwng 40 a 300 awr o waith er budd cymunedau lleol. Mae’r nifer o oriau i’w cwblhau yn cael eu gosod gan y Llys. Cosb yn bennaf yw’r Ad-dalu sy’n cyfyngu ar amser rhydd unigolyn, ond mae hefyd yn ailsefydlu ac yn galluogi pobl i dalu’n ôl am eu troseddu, adeiladu hunan-barch a dysgu sgiliau newydd.

Gall Ad-dalu Cymunedol Cymru helpu mudiadau trwy ddarparu llafur am ddim i ymgymryd ag amrywiol brosiectau i gefnogi eu cymunedau lleol. Nid yw’n peryglu nac yn disodli cyflogaeth â thâl, yn hytrach mae’n cefnogi cwblhau gwaith na fyddai’n digwydd fel arall. Gall gynnwys (ymysg pethau eraill):

  • • Cynnal a chadw tir / garddio neu waith amgylcheddol
  • • Glanhau graffiti, casglu sbwriel neu clirio sbwriel a daflwyd yn anghyfreithlon
  • • Mân waith adeiladu neu addurno

Fel rheol, darperir prosiectau gan oruchwyliwr Ad-dalu Cymunedol a fydd yn goruchwylio gwaith hyd at 8 o bobl. Ond lle bo hynny’n bosibl, gall mudiadau oruchwylio grwpiau ar ein rhan.

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae timau Ad-dalu Cymunedol wedi bod yn gyfyngedig yn nifer yr oriau Gwaith Di-dâl y maent wedi gallu eu cyflawni ac, o ganlyniad, mae ôl-groniad sylweddol o oriau ledled Cymru. Mae Eglwys Llanbeblig, Caernarfon, eisoes wedi elwa o’r cynllun hwn, a mae’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru yn awyddus i ymgysylltu â sefydliadau trydydd sector a fyddai â diddordeb mewn elwa o rai o’r oriau Gwaith Di-dâl sydd ar gael, ac wedi sefydlu blwch e-bost pwrpasol (WalesPS.UPWNominations@justice.gov.uk) i dderbyn ymholiadau.

PA DDYFODOL I ADEILADAU EGLWYSIG CYMRU?

Cwestiwn mawr wedi Covid ar gyfer cornel fach yn y Bwletin! Tynnwn eich sylw at dri pheth:

  • Adroddiad newydd a thrafodaeth gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol The future of the UK’s Church Buildings, sy’n darlunio’r amrywiaeth eang o ddefnydd cyfredol a phosibl.
  • Arolwg Cymraeg gan Fywydau Creadigol am y cwestiynau sy’n wynebu grwpiau creadigol a lleoliadau wedi Covid – llawer o’r lleoliadau hynny yn addoldai neu’n neuaddau cymunedol eglwysig. Mae’r arolwg yn cau ar Ragfyr 17eg.
  • Gall rhaglen Ffydd mewn Tai Fforddiadwy Housing Justice Cymru gynnig cyngor a chymorth i droi y cyfan neu ran o dir neu adeiladau eglwysig cyfredol yn gartrefi fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol, ac felly cwrdd â pheth o’r angen sy’n cymryd lle blaenllaw yn y Cytundeb Cydweithio newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru (gweler uchod).

CYFLEOEDD I RANNU BARN A PHROFIAD

Cawn wybod yn Cytûn yn rheolaidd am amrywiol gyfleoedd i unigolion ac eglwysi a mudiadau eraill rannu eu barn a’u profiad am wahanol faterion. Fe ddosberthir rhestr o’r cyfleoedd hyn i enwadau (trwy eu swyddogion eglwys a chymdeithas) yn rheolaidd. Daeth dau gyfle penodol i’n sylw yn ddiweddar a all fod o ddiddordeb i ddarllenwyr y Bwletin:

Mae Trafnidiaeth i Gymru wedi creu cymuned ar-lein newydd o’r enw Sgwrs i roi cyfle i gwsmeriaid ddweud eu dweud ar sut rydyn ni’n datblygu ac yn darparu gwasanaethau.

Byddant yn gofyn i gyfranogwyr eu helpu gyda phethau fel arolygon a chymryd rhan mewn sgyrsiau byw i ddeall eu barn ar ystod o bynciau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

I ddweud diolch bydd gan gyfranogwyr fynediad at gynnwys i aelodau yn unig; cyfle i gymryd rhan mewn loterïau neu gystadlaethau misol, a gwobrau pellach i aelodau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol.

Darganfyddwch fwy yma.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Yn ystod cyfnod yr argyfwng, yn gweithio gartref. Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2021. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 27 Ionawr 2022.