Ar y dudalen hon byddwn yn crynhoi adnoddau i helpu eglwysi i ymwneud (mewn ffordd amhleidiol) ag Etholiad Cyffredinol 2024. Gallwch eu darllen arlein neu eu lawrlwytho. Yr adnoddau sydd ar gael hyd yma yw:

  • CYNNAL CYFARFOD HYSTINGS
  • Syniadau a chyngor i eglwysi am gynnal seiat holi neu gyfarfod hystings ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol (PDF) (SGROLIWCH I LAWR)

PWYSIG: ANGEN DOGFENNAU ADNABOD YN ETHOLIADAU 2024

Dau etholiad i’w cynnal yn ystod 2024 fydd y cyntaf yng Nghymru lle bydd angen i bleidleiswyr ddod â dogfen adnabod gyda llun i’r orsaf bleidleisio er mwyn bwrw pleidlais. Mae gan y Comisiwn Etholiadol fanylion ar ei wefan am y dogfennau adnabod sy’n dderbyniol, a sut y gall pleidleiswyr heb y dogfennau gofynnol wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Mae rhai o’n henwadau wedi paratoi deunydd i eglwysi (Saesneg yn unig) roi gwybod am hyn.

Y cyntaf o’r etholiadau hyn yw etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Fai 2. Nid oes gan ymgeiswyr yn yr etholiadau hyn yr un hawliau ag ymgeiswyr mewn etholiadau eraill i bostio deunydd yn rhad ac am ddim i bob pleidleisiwr, felly nid oes cymaint o ddealltwriaeth o’r etholiadau hyn, a gall y nifer sy’n pleidleisio fod yn isel, oni bai eu bod yn cyd-daro ag etholiad arall.

Ar adeg cyhoeddi’r Bwletin hwn, mae’n bosibl y gellir cynnal Etholiad Cyffredinol y DU ar Fai 2. Os na, rhaid ei gynnal cyn 28 Ionawr 2025. Bydd yr un rheolau ar gyfer dogfennau adnabod yn berthnasol. Roedd ein Bwletin Polisi Chwef/Mawrth 2024 yn cynnwys gwybodaeth am nifer o glymbleidiau a sefydlwyd gan, neu yn cynnwys, aelodau o Cytûn sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth am faterion fydd yn codi yn yr etholiad. Mae gwefan Prydain ac Iwerddon churcheselection.org.uk bellach yn fyw ac yn cael ei diweddaru’n rheolaidd, a bydd tudalen we etholiadol Cytûn yn cyhoeddi adnoddau dwyieithog gan aelod eglwysi a sefydliadau wrth iddynt ddod ar gael.

Llun: Comisiwn Etholiadol

CYNNAL CYFARFOD HYSTINGS
Syniadau a chyngor i eglwysi am gynnal seiat holi neu gyfarfod hystings ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol

Chwefror 2024

Yn y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol, bydd eglwysi a mudiadau cymunedol yn aml yn trefnu cyfarfodydd etholiad (a elwir weithiau yn hystings) lle gall aelodau’r cyhoedd wrando ar yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad, a holi cwestiynau. Maent yn gwneud hyn fel gwasanaeth cyhoeddus, i gefnogi’r broses ddemocrataidd, i hwyluso trafodaeth gyhoeddus, ac fel cyfraniad i’r lles cyffredin. Mae’r cyfle hwn i gael trafodaeth barchus mewn gofod niwtral yn cael ei werthfawrogi’n aml gan yr ymgeiswyr yn ogystal â’r pleidleiswyr.

Bwriad y canllaw hwn yw helpu eglwysi i drefnu digwyddiadau diogel a llwyddiannus sydd yn cydymffurfio â’r gyfraith. Fe’i cynhyrchwyd gan Dîm Materion Cyhoeddus Eglwysi’r Bedyddwyr, y Methodistiaid a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig ar y Cyd, trwy gydweithrediad â’r cyrff eciwmenaidd a’r Eglwysi a restrir isod.

Mae pedwar rhan i’r canllaw:

1.   Cychwyn

2.   Gwahanol fformatiau cyfarfodydd etholiad

3.   Y rheolau ynghylch cynnal digwyddiad hystings

4.   Cynllunio ymarferol

1.   Cychwyn

Ffurfio grŵp cynllunio

A oes eglwysi, grwpiau ffydd neu gymunedol eraill y gallwch weithio mewn partneriaeth â hwy?

Mae’n hollbwysig ffurfio grŵp bychan o bobl fydd yn gallu cynllunio a gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd. Efallai y bydd gennych grŵp eisoes ers etholiad blaenorol fyddai’n medru cydweithio eto. Os mai dyma’r tro cyntaf i chi geisio gwneud hyn, a oes eglwysi, grwpiau ffydd neu gymunedol eraill y gallwch eu gwahodd i gydweithio â chi?

Unwaith y bydd gennych dîm, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i roi cychwyn ar bethau yn fuan.

Adnabod eich etholaeth

Mae ffiniau etholaethau wedi newid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol hwn, felly efallai y gwelwch nad ydych yn yr etholaeth a ddisgwyliwch! Gallwch fewnbynnu eich cod post i ddarganfod sut mae’r ffiniau wedi newid, a beth fydd eich etholaeth newydd, yn jpit.uk/constituency  

Does dim rhaid i gyfarfodydd hystings a chydag ymgeiswyr fod gydag ymgeiswyr o un etholaeth yn unig.

Pryd dylem ni gynnal y cyfarfod?

Mae’n syniad da cynnal eich cyfarfod etholiad o leiaf wythnos cyn diwrnod y bleidlais, os oes modd. Mae unrhyw adeg rhwng nawr a’r etholiad yn bosib, ond yr amser gorau, fwy na thebyg, yw rhyw bythefnos cyn diwrnod yr etholiad.

Bydd y dyddiad yn dibynnu ar a fydd yr ymgeiswyr ar gael, ac a oes neuadd, ystafell neu eglwys hwylus.

Dengys profiad fod ymgeiswyr yn aml yn ymateb yn gadarnhaol i wahoddiadau i gyfarfodydd a gynhelir ar nosweithiau Sul.

Bydd cynnal eich cyfarfod etholiad o leiaf wythnos cyn diwrnod yr etholiad hefyd yn caniatáu i’r sawl sydd â phleidleisiau post neu brocsi i ddod i’r cyfarfod cyn iddynt fwrw pleidlais.

Pwy ddylai gadeirio’r digwyddiad?

Mynnwch rywun diduedd ac uchel ei b/pharch o’r gymuned i gadeirio’r cyfarfod. Gallai fod yn rhywun o’r eglwys, arweinydd cymuned, neu rywun arall sy’n gyfarwydd â siarad yn gyhoeddus a chadw trefn. Ni ddylai berthyn i blaid wleidyddol na bod yn adnabyddus fel cefnogwr i blaid. Mae’n bwysig hefyd y gall gynnal y cyfarfod yn gadarn, gan sicrhau fod pob barn yn cael llais.

Bydd angen iddi/o gael yr holl wybodaeth am sut i redeg y cyfarfod, felly mae’n bwysig cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb ag ef/hi cyn y digwyddiad. Gall fod yn fuddiol rhoi copi o’r canllaw hwn ac unrhyw ddeunydd perthnasol arall.

2.   Gwahanol fformatiau cyfarfodydd etholiad

Dylai eich grŵp cynllunio lleol benderfynu ar amserlen a fformat y cyfarfod. Dyma bum syniad:

  • Hystings cyflym
  • Hystings traddodiadol
  • Fersiwn ar-lein o hystings traddodiadol
  • Cyfarfod etholiad ‘gwleidyddiaeth y bobl’
  • Hystings heb fod ar-lein

Hystings sydyn

Gan ddilyn fformat ‘clicio cyflym’, mae’r math hwn o hystings yn hwyluso deialog rhwng ymgeiswyr a’r gynulleidfa.

Bydd y gynulleidfa wedi ei dosbarthu o gwmpas y neuadd wrth fyrddau, neu mewn grwpiau bychain, neu mewn ystafelloedd ar wahân.

Ar ôl croesawu a chyflwyno, bydd ymgeiswyr unigol yn treulio amser wrth bob bwrdd yn ei dro, fel y gall y sgwrs lifo, heb i’r ymgeiswyr allu annerch ei gilydd yn uniongyrchol. Gallant wneud datganiad cychwynnol byr, ac yna ymateb i gwestiynau o’r grŵp, cyn symud ymlaen at y grŵp nesaf ar ôl cyfnod penodedig o amser.

Gellir gwahodd yr ymgeiswyr i grynhoi gyda datganiad byr i’r ystafell gyfan ar derfyn y noson.

Hystings traddodiadol

Mae’r cyfarfodydd hyn ar ffurf ‘seiat holi’, lle gwahoddir ymgeiswyr i ymateb i gwestiynau o’r llawr.

Efallai y dymunwch ystyried y strwythur isod:

  • Y cadeirydd yn croesawu pobl ac yn cyflwyno’r ymgeiswyr yn gryno, yn ôl enw a phlaid
  • Gwahodd pob ymgeisydd i wneud datganiad byr (dim mwy na chwpl o funudau)
  • Cwestiynau o’r llawr ar bynciau gwleidyddol, gyda phob ymgeisydd yn cael yr un faint o amser i ymateb
  • Ychydig o frawddegau i gloi gan bob ymgeisydd.

Gan gadw mewn cof y gall fod gennych chwech neu fwy o ymgeiswyr, bydd angen i chi wneud yn siŵr fod y datganiadau a’r atebion yn cael eu cadw’n bendant o fewn terfynau amser. Mae’n debyg y bydd arnoch angen cael rhywun gyda stopwats yng nghefn yr ystafell a all godi cerdyn pan fydd amser y siaradwr bron ar ben (e.e. 30 eiliad i fynd) ac eto pan fydd yr amser ar ben. Mae rhai pobl yn defnyddio cloch i nodi fod yr amser i ateb ar ben – neu hyd yn oed uchelseinydd!

Mae’n wastad yn syniad da trefnu i rywun ofyn y cwestiwn cyntaf – gall pobl fod yn gyndyn i dorri’r garw, ond buan iawn y bydd pethau’n twymo.

Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu rhedeg gan yr eglwysi – ond nid er eu mwyn. Dylid annog pobl o bob carfan o gymdeithas i fod yn bresennol a chymryd rhan.

Penderfynwch sut yr ydych am drin cwestiynau – a ddylid cyflwyno cwestiynau i’r cadeirydd er mwyn sicrhau bod ystod o faterion yn cael eu trin, neu a ydych yn hapus i wneud dim ond cymryd cwestiynau o’r llawr? Beth bynnag fydd eich penderfyniad, dylid gwneud hyn yn hollol glir wrth y gynulleidfa ar ddechrau’r cyfarfod (a darparu papur os ydych eisiau i’r cwestiynau fod yn ysgrifenedig). I gyflwyno cwestiynau heb fod ar bapur, gallech wahodd pobl i ddefnyddio eu ffonau clyfar a gwasanaeth fel  Slido (gweler slido.com <https://www.slido.com/>) neu bostio ar dudalen grŵp Facebook.

Efallai yr hoffech atgoffa pobl mai etholiad i senedd y DU yw hwn, a’u hannog i ganolbwyntio ar faterion sydd o fewn pwerau Senedd San Steffan (er enghraifft, mae cwestiynau am y GIG neu addysg yn yr Alban yn faterion i Senedd yr Alban, ac yng Nghymru i’r Senedd, ac i’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon).

Penderfynwch hefyd a fyddwch yn caniatáu cwestiynau ategol neu beidio: cofiwch, hyd yn oed oes bydd pob un o chwe ymgeisydd yn cael dim ond dwy funud i ateb, y cymer pob cwestiwn ddeuddeg munud.

Gall y cadeirydd gymryd tri chwestiwn ar y tro. Efallai hefyd y bydd yn rhaid i’r cadeirydd ffrwyno’r holwyr – wedi dod i wrando ar yr ymgeiswyr, nid yr holwyr, y mae pobl!

Fersiwn ar-lein o hysting traddodiadol

Mae hyn yn dilyn yr un fformat â hystings traddodiadol, ond yn cael ei gynnal ar-lein ar lwyfan fideo-gynadledda. Gall hyn ganiatáu i fwy o bobl gymryd rhan, a bydd yn arbennig o briodol mewn etholaeth fawr neu os oes unrhyw bryderon am ddiogelwch y cyhoedd.

Mae’n bwysig dod i benderfyniad yn gynnar ynghylch y fformat a llwyfan cynnal y digwyddiad. Dyma rai llwyfannau ar-lein posib: Zoom, Meetings, Google Meet, Go To Meeting, a Microsoft Teams ymysg eraill. Mae i bob un ei wahanol gostau, ac y mae dewisiadau am ddim ar gael hefyd. Bydd ar y math hwn o ddigwyddiad angen o leiaf un ‘gwesteiwr technegol’ sy’n gyfarwydd â’r llwyfan a ddewiswyd, yn ogystal â chadeirydd. Gan y gwesteiwr technegol y mae rheolaeth dros fudo cyfranogwyr a dylai fod yn barod i ddefnyddio’r pŵer hwnnw os bydd angen.

Mae modd trin digwyddiad ar-lein mewn gwahanol ffyrdd, a dylech ystyried beth sydd fwyaf dichonadwy a phriodol i’ch cyd-destun chi. Mae dau awgrym isod, ond gall digwyddiad hybrid, neu fformat amgen hollol wahanol, weithio’n well i chi.

  • Cyfarfod byw sy’n gyfan gwbl ar-lein: Dyma’r dewis symlaf, o bosib, ac y mae’n cael ei gynnal yn debyg iawn i hystings wyneb-yn-wyneb traddodiadol, gyda’r cadeirydd a’r ymgeiswyr wedi eu ‘pinio’ fel mai hwy yw canolbwynt sgrin y gynulleidfa, fel panel. Gall y gynulleidfa gyflwyno cwestiynau trwy’r cyfleuster sgwrsio, nodweddion holi ac ateb, Sli.do, neu, os yw’r cadeirydd yn hapus, trwy gyfraniadau llafar (dylai’r darpar holwr godi llaw rithiol i nodi hyn).
  • Ffrydio panel yn fyw: Mae’r ymgeiswyr a’r cadeirydd yn bresennol gyda’i gilydd mewn un lle (e.e., mewn adeilad eglwys) gyda’r gynulleidfa yn ymuno ar-lein. Fel gyda’r dewis cyntaf, gellir cyflwyno cwestiynau o’r gynulleidfa trwy’r cyfleuster sgwrsio. Efallai y bydd ymgeiswyr yn fwy cyfforddus gyda’r fformat hwn, a gall y sgwrs lifo’n well gan y gall yr ymgeiswyr siarad â’i gilydd yn y fan a’r lle.

Pa bynnag fformat a ddefnyddir ystyriwch y cwestiynau isod:

Niferoedd: faint o bobl fydd yno? A oes gan y llwyfan ar-lein yr ydych yn ddefnyddio derfyn ar nifer y cyfranogwyr a ganiateir mewn unrhyw gyfarfod penodol?

Tanysgrifiadau a therfynau amser: A fydd arnoch angen tanysgrifiad neu aelodaeth ar gyfer y llwyfan ar-lein a ddewiswyd gennych? Er enghraifft, ar Zoom, bydd ar y gwesteiwr angen cyfrif taledig i redeg cyfarfod sy’n para mwy na 40 munud, felly ystyriwch a oes cyfrif taledig gan eglwys neu gymuned y gallwch ddefnyddio neu brynu. Os bydd symud ar-lein yn caniatáu i chi gydweithredu ar draws ardal ehangach, efallai y bydd modd cronni adnoddau er mwyn cael digwyddiad mwy proffesiynol neu effeithiol.

Streaming: Er bod hyn fymryn yn fwy cymhleth, mae modd ffrydio cyfarfodydd ar-lein i lwyfannau megis Facebook ac YouTube. Fel hyn, gallwch gynnwys y panel yn unig ar eich galwad fideo-gynadledda, gyda phawb arall yn gwylio trwy’r llwyfannau hyn, ac yn cyflwyno cwestiwn trwy’r sylwadau byw ar y llwyfan, a hyn yn cael ei fonitro gan gymedrolwr, ac yn adrodd yn ôl i’r cadeirydd.

Cyfleusterau: Os ydych yn ystyried cymryd agwedd hybrid, oes gennych chi adeilad gyda chyfleusterau ffilmio neu ffrydio byw, a chyswllt dibynadwy i’r rhyngrwyd?

Cofrestru: Pa mor eang ydych chi am i’ch digwyddiad gael ei rannu? Efallai y byddwch am greu tudalen gofrestru ar gyfer eich digwyddiad, fel y gall pobl gofrestru i dderbyn manylion y cyfarfod. Bydd hyn yn rhoi mwy o ddiogelwch gan y gallwch reoli rhannu cyfrinair eich cyfarfod. Mae modd gwneud tudalennau cofrestru ar Eventbrite neu wefannau eraill a all ddarparu tudalennau cofrestru yn rhwydd.

Gwesteio: Mae’n rhaid penodi rhywun i fod yn westeiwr technegol. Gall y person hwn reoli’r mynychwyr, monitro cyfleuster sgwrsio, ymateb i unrhyw broblemau TG a chadw ar ben cwestiynau neu sylwadau. Mae hyn yn rhyddhau’r cadeirydd i ganolbwyntio ar reoli’r sgwrs ac ymwneud â’r ymgeiswyr.

Cadw amser: Bydd creu rhaglen y mae’r gwesteiwr a’r cydlynydd yn ymwybodol ohoni yn helpu i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn rhwydd, a bod yr holl ymgeiswyr yn cael yr un faint o amser i siarad. Gofalwch fod yr ymgeiswyr yn gwybod pa mor hir y bydd y cyfarfod yn para, ac amlinellwch hyn i’r sawl sy’n bresennol ar y dechrau. Os byddwch yn bwriadu cymryd cwestiynau gan y gynulleidfa, gwnewch yn siŵr eich bod yn amlinellu sut y caiff y rhain eu cyflwyno – trwy’r nodwedd sgwrsio, etc. – a phryd yr ymdrinnir â hwy.

Moesau ar-lein: Er bod llawer ohonom bellach yn hen gyfarwydd â moesau cyfarfodydd ar-lein, mae’n werth cytuno ymlaen llaw ar gyfres o reolau tŷ i’w rhannu gyda’r sawl sy’n bresennol ar ddechrau cyfarfod. Gall hyn gynnwys parhau wedi eich mudo, a pha negeseuon sy’n briodol i’w hanfon trwy’r cyfleuster sgwrsio.

Hygyrchedd: Mae gan rai llwyfannau ar-lein gyfleusterau creu penawdau y gellir eu defnyddio i wneud cyfarfodydd yn fwy hygyrch. Os dewiswch rannu recordiadau o’ch cyfarfod, neu gynhyrchu adnodd wedi ei recordio ymlaen llaw, ystyriwch ei is-deitlo er mwyn sicrhau y bydd modd ei ddefnyddio gan gynifer o aelodau o’ch cymuned ag sydd modd.

Cyfieithu: Efallai y dymunwch ystyried cyfieithu’r cyfarfod hystings i iaith ychwanegol a ddefnyddir gan y ddarpar-gynulleidfa neu aelodau’r panel. Yng Nghymru, mae’n arfer da ystyried cyfieithu ar y pryd (sydd ar gael ar Zoom a rhai llwyfannau eraill). Dylai’r cyfieithydd fod yn fedrus ac yn wleidyddol niwtral. Onid oes gwirfoddolwr gyda’r cymwysterau priodol ar gael, dylid caniatáu am hyn yn y gyllideb. Bydd cyfieithu yn galluogi’r ymgeiswyr hynny sydd am siarad yn Gymraeg i wneud hynny fel bod pawb yn eu deall yn syth. Yn yr un modd, mae angen i’r cadeirydd allu delio â chwestiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Diogelwch: Yn dibynnu ar bwy y dosbarthwyd manylion eich cyfarfod iddynt, efallai y bydd gennych broblemau diogelwch gyda mynychwyr annisgwyl neu negeseuon amhriodol. Bydd gwneud yn siŵr fod gennych westeiwr technegol a all ymateb yn sydyn trwy symud pobl neu bostiadau yn sydyn os bydd angen yn helpu i reoli hyn. Ochr yn ochr â rheolau’r tŷ, efallai y dymunwch gytuno ar ‘gynllun gweithredu’ am sut i  reoli unrhyw dorri ar ddiogelwch, er mwyn tarfu cyn lleied ag sydd modd. Mae gosod ‘ystafell aros’ yn golygu bod modd fetio pob un gan westeiwr technegol cyn iddynt ddod i’r brif ardal fideogynadledda.

Recordio a chaniatâd: Fe allwch ddewis recordio eich cyfarfod a’i uwchlwytho i’w rannu gyda phobl nad oedd yn gallu bod yn bresennol. Os bwriadwch rannu recordiadau o unrhyw gyfarfodydd, gwnewch yn siŵr fod hyn yn cael ei esbonio i’r cyfranogwyr, gan ganiatáu i bobl ddiffodd eu camera a’u meicroffon os nad ydynt yn gyfforddus i gael eu recordio.

Cyfarfod etholiad ‘gwleidyddiaeth y bobl’

Tra bod hystings confensiynol yn rhoi’r pwyslais ar glywed gwleidyddion a phleidiau, mae digwyddiad ‘gwleidyddiaeth y bobl’ yn dechrau trwy wrando ar y sawl na chlywir eu lleisiau yn aml yn y disgwrs gwleidyddol, cyn gofyn i ymgeiswyr ymateb.

Dyma fyddai fformat y digwyddiad:

  • Nodi unigolion neu gynrychiolwyr o grwpiau sydd yn aml ar gyrion cymdeithas: gall hyn fod yn rhywun o loches i’r digartref neu ddefnyddwyr banc bwyd, grwpiau gydag anableddau dysgu, gofalwyr ifanc, ceiswyr lloches, neu unrhyw rai eraill a allai fod yn gymwys i’ch cyd-destun lleol sydd yn barod i rannu eu storïau (mae hyd at dri o bobl yn ddelfrydol).
  • Yn y digwyddiad, bydd y cadeirydd yn cyflwyno’r fformat, yr ymgeiswyr a’r rhai a wahoddwyd i rannu eu stori.
  • Mae’r person cyntaf yn rhannu ei stori am dair munud, yna’n gofyn cwestiwn y dymuna i’r ymgeiswyr ateb.
  • Mae pob un o’r ymgeiswyr yn eu tro yn ymateb i’r hyn a glywsant ac yn ceisio ateb y cwestiwn. Dylai hon fod yn sgwrs deirffordd rhwng y cadeirydd, y sawl sy’n rhannu ei stori, a’r ymgeisydd. Nid deialog rhwng yr ymgeiswyr ydyw.
  • Unwaith i’r holl ymgeiswyr wneud hyn, bydd y cadeirydd yn diolch iddynt ac yn diolch i’r person a rannodd ei stori, cyn gwahodd y person nesaf i rannu ei stori.
  • Unwaith i’r holl storïau gael eu clywed, a’r ymgeiswyr roi eu hymatebion, mae gan y cadeirydd y dewis o ofyn i’r holl siaradwyr ddod i flaen y llwyfan a chymryd cwestiynau gan y gynulleidfa (os bydd amser yn caniatáu).

Mae llawer o lwyddiant y digwyddiad hwn yn dibynnu ar hwyluso unigolion i rannu eu storiau. Gall hyn fod yn broses sy’n codi braw ar rai o’r unigolion hynny: yn ddelfrydol fe ddylech dreulio peth amser gyda hwy ymlaen llaw, gan sicrhau eu bod yn gyfforddus gyda’r fformat a’r hyn a ddisgwylir ganddynt. Efallai y bydd rhai am gael eu stori wedi ei hysgrifennu i lawr. I eraill, gall siarad am dair munud fod yn anodd, a than amgylchiadau felly, gall ffurf o gyfweliad rhwng y cadeirydd a’r sawl sy’n adrodd y stori fod yn syniad da.

Gall gwybod pa gwestiwn i’w holi i’r ymgeiswyr fod yn anodd i’r sawl sy’n rhannu eu stori. Os felly, efallai y bydd yn rhaid i chi eu helpu i feddwl am y cwestiwn ymlaen llaw. Does dim rhaid i’r cwestiwn fod yn gymhleth, ac yn aml iawn, mae cwestiynau syml fel “Petaech yn cael eich ethol, beth fyddech chi’n wneud i ddelio â’r mater hwn?” fod yn rymus iawn.

Mae ail ran arwyddocaol y broses yn golygu hwyluso’r drafodaeth rhwng yr ymgeiswyr a’r sawl sy’n adrodd y stori. Yn yr achos hwn, mae’n bwysig fod y cadeirydd yn sicrhau y caiff y naill unigolyn a’r llall gyfrannu’n deg a’u bod yn gwneud hynny mewn modd mesuredig ac adeiladol. Dylid esbonio hyn wrth y cyfranogwyr cyn y digwyddiad.

Hystings heb fod ar-lein

Nid yw’r math hwn o hystings yn mynnu bod yr ymgeiswyr a’r cynulleidfaoedd yn cwrdd yn yr un lleoliad ffisegol ar yr un pryd. Cysylltir â’r ymgeiswyr i roi amrywiaeth o gwestiynau trwy e-bost, ac y mae hyn yn caniatau iddynt yn eu hamser eu hunain, ond gyda therfyn amser a drefnwyd ymlaen llaw. Gall hyn fod yn llesol mewn sefyllfaoedd lle mae llawer iawn o ymgeiswyr, neu mewn ardaloedd gwledig. Gellir gofyn i ymgeiswyr ymateb yn ysgrifenedig, gyda’r atebion yn cael eu cyhoeddi ar wefan neu mewn cylchgrawn cymunedol. Dewis arall fyddai gwahodd ymgeiswyr i wneud fideo ohonynt eu hunain a’i uwchlwytho wedyn i wefan, neu ei ddangos mewn digwyddiad arbennig.

I drefnu’r math hwn o gyfarfod hystings:

  • Cysylltu â’r pleidiau am fanylion cyswllt y rhai fydd yn ymateb i gwestiynau’r hystings
  • Gwahodd awgrymiadau am gwestiynau gan aelodau o’r eglwys a’r gymuned, a’u casglu ynghyd, eu hidlo a’u hanfon at yr holl ymgeiswyr
  • Rhoi terfyn amser i ymateb, ac efallai y bydd angen rhyw ddilyniant wedi hyn
  • Cyhoeddi’r ymatebion.

3.   Y rheolau ynghylch cynnal digwyddiad hystings

Mae hystings yn weithgareddau cyfreithlon i eglwysi, ond rhaid eu cynnal yn unol â’r gyfraith ar elusennau ac etholiadau.

Mae eglwysi yn elusennau, ac felly’n cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR) yn yr Alban, a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon.

Yn ystod cyfnodau etholiad, mae gweithgareddau ymgyrchu hefyd yn dod dan y Comisiwn Etholiadol. Mae hystings yn weithgareddau cyfreithlon i eglwysi yn ystod y cyfnod hwn. Mae canllawiau’r Comisiwn Etholiadol am gynnal hystings i’w gweld yma:  https://www.electoralcommission.org.uk/cy/ydych-chin-cynnal-hustyngau  

Ni ddylai cyfarfod hystings droi’n ymgyrchu, felly byddai’n fuddiol bwrw golwg ar y canllawiau am ymgyrchu i’ch helpu i gadw ar ochr iawn y gwahaniaeth hwn.

Mae canllawiau’r Comisiwn Etholiadol am yr hyn yw ymgyrchu etholiadol i’w gweld yma: www.gov.uk/government/publications/non-party-campaigning-draft-code-of-practice/non-party-campaigning-draft-code-of-practice

Mae canllawiau i elusennau ynghylch gweithgaredd ac ymgyrchu gwleidyddol i’w gweld yma:

Oes rhaid i ni wahodd yr holl ymgeiswyr?

Na – ond os na fyddwch yn gwneud, rhaid i chi fod â rheswm gwrthrychol, diduedd dros beidio â’u cynnwys oll. Y peth symlaf i’w wneud yw gwahodd yr holl ymgeiswyr perthnasol yn yr ardal neu bob plaid wleidyddol sy’n ymgyrchu yn yr etholiad a rhoi’r un cyfle i bawb sy’n bresennol i gymryd rhan.

Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn ymarferol bob tro. Er enghraifft, fe all fod cymaint o ymgeiswyr neu bleidiau yn sefyll fel y byddai’n anodd rheoli cyfarfod. Os penderfynwch beidio â gwahodd yr holl ymgeiswyr, mae rhai argymhellion o ran arfer da y dylech eu dilyn er mwyn sicrhau nad yw eich hystings mewn gwirionedd yn hyrwyddo ymgeiswyr neu bleidiau penodol ar draul y lleill.

 Yn eu mysg mae:

  • Gallu rhoi rhesymau diduedd pam nad ydych wedi gwahodd ymgeiswyr neu bleidiau penodol. Dylech fod yn barod i esbonio eich rhesymau i ymgeiswyr neu bleidiau nad ydych wedi eu gwahodd. Ymysg rhesymau diduedd mae:
    • Amlygrwydd lleol rhai pleidiau neu ymgeiswyr dros eraill.
    • Nifer y cynrychiolwyr etholedig ar lefel leol neu genedlaethol.
    • Canlyniadau etholiadau diweddar yn yr ardal.
    • Adnoddau a materion ymarferol eraill sy’n cyfyngu ar y nifer a wahoddir.
    • Pryderon diogelwch.
  • Gwneud yn siŵr fod yr ymgeiswyr neu’r pleidiau a wahoddwch yn cynrychioli amrywiaeth resymol o farn, o wahanol rannau’r sbectrwm gwleidyddol
  • Rhoi cyfle teg i bob ymgeisydd neu gynrychiolydd plaid i ateb cwestiynau, a lle bo hynny’n briodol, cyfle rhesymol i ymateb i bwyntiau a wnaed yn eu herbyn gan ymgeiswyr neu gynrychiolwyr pleidiau eraill
  • Hysbysu’r gynulleidfa yn y cyfarfod am ymgeiswyr neu bleidiau sy’n sefyll ac nas gwahoddwyd.

Os na fyddwch yn gwahodd yr holl ymgeiswyr, mae’r Comisiwn Etholiadol yn argymell eich bod yn cyfeirio at yr ymgeiswyr hynny ac yn esbonio pam na chawsant wahoddiad, a bod yn ofalus os bydd ymgeiswyr sydd yn bresennol yn beirniadu’r rhai nad ydynt yno. Dylech hefyd wneud yn siŵr fod pob rhan o’r spectrwm gwleidyddol a pholisi yn cael eu cynrychioli gan y sawl sydd yn bresennol. Gweler https://www.electoralcommission.org.uk/cy/ydych-chin-cynnal-hustyngau/hustyngau-annetholus-argymhellion-arfer-da

Os nad ydych eisiau gwahodd ymgeisydd oherwydd nad yw’r eglwys neu eraill sy’n rhan o noddi’r hystings yn cytuno â’i b/pholisïau, nid yw hyn yn rheswm diduedd. Er y gall hyn fod yn gyfreithlon mewn rhai amgylchiadau dan gyfraith elusen, mae iddo ganlyniadau i eglwysi dan gyfraith etholiadau, gan y gall gwariant ar hystings o’r fath gyfrif fel gwariant etholiadol. Mewn sefyllfa o’r fath, rhaid i’r swm a werir ar y digwyddiad gael ei rannu â nifer yr ymgeiswyr ac os yw dros £50 yna rhaid hysbysu’r ymgeiswyr fod yn rhaid iddynt ei gynnwys yn eu cyfrif i’r Comisiwn Etholiadol. Dylech edrych ar ganllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar drefnu Hystings Detholus (https://www.electoralcommission.org.uk/cy/ydych-chin-cynnal-hustyngau/hustyngau-detholus ) gan y bydd hyn yn destun rheoleiddio. Efallai y bydd gofyn i chi gofrestru gyda hwy a sicrhau bod yr ymgeiswyr y byddwch yn eu gwahodd yn datgan eu cefnogaeth iddynt. Oherwydd hyn, argymhellir eich bod yn gwahodd yr holl ymgeiswyr onid oes rheswm diduedd dros beidio â gwneud hynny.

4.   Cynllunio ymarferol

Gwahodd ymgeiswyr

Dylech gysylltu â’r ymgeiswyr am eich etholaeth mor fuan ag sydd modd.

Y terfyn amser ar gyfer enwebu ymgeiswyr i sefyll mewn etholiad yw pedwar ar bymtheg o ddyddiau gwaith cyn y bleidlais. Wedi hyn, bydd swyddog canlyniadau eich etholaeth yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr. Gallwch wedyn gysylltu â hwy trwy’r pleidiau gwleidyddol yn lleol neu’n genedlaethol, y cyfryngau cymdeithasol, neu wefan yr ymgeiswyr.

Dylech ofyn am rifau ffonau symudol ac enw a manylion asiant etholiad yr ymgeisydd er mwyn i chi allu cadw mewn cysylltiad yn y dyddiau cyn y digwyddiad.

Manylion cyswllt y prif bleidiau gwleidyddol

Y Blaid Geidwadol                                    020 7222 9000                  conservatives.com

Y Blaid Werdd (Cymru a Lloegr)               020 3691 9400                  greenparty.org.uk

Y Blaid Lafur                                             0345 092 2299                  labour.org.uk

Democratiaid Rhyddfrydol                        020 7022 0988                  libdems.org.uk

Plaid Reform                                             0800 414 8525                  reformparty.uk

Plaid Werdd yr Alban                                07906 276 270                  greens.scot

Plaid Genedlaethol yr Alban                     0800 633 5432                  snp.org

Plaid Cymru                                              029 2047 2272                  plaid.cymru

Plaid yr Alliance                                        028 9032 4274                  alliance.org

Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd        028 9047 1155                  mydup.com

SDLP                                                         028 9024 7700                  sdlp.ie

Sinn Féin                                                   028 9080 8404                  sinnfein.ie

Plaid Unoliaethwyr Ulster                          028 9047 4630                  uup.org

Beth os na fydd ymgeisydd yn ymateb, yn gwrthod, yn boicotio neu’n methu ag ymddangos?

I drefnwyr, gall hyn fod yn annifyr iawn, ond os byddwch yn rhagweld sut y gwnewch drin y sefyllfa cyn iddi godi, byddwch wedi paratoi yn well. I ddechrau, ceisiwch ddod o hyd i ddyddiad fydd yn hwylus i’r holl ymgeiswyr a wahoddwyd – a thrïwch fod yn hyblyg os aiff pethau o chwith!

Diffyg ymateb – efallai y bydd angen i chi roi gwahoddiad dilynol os na chlywsoch unrhyw beth, yn enwedig gyda’r prif bleidiau Prydeinig. Daliwch ati a cheisiwch gael cyfeiriad e-bost a rhif ffôn i’r ymgeisydd a’i asiant etholiad er mwyn i chi allu cadw mewn cysylltiad.

Gwrthod – os yw ymgeisydd wedi gwrthod dod (oherwydd ymrwymiad arall, er enghraifft) does dim rhaid i chi boeni a yw eich digwyddiad yn ddiduedd neu beidio, gan mai’r gwahoddiad sy’n cyfrif. Os mai ymgeisydd o un o’r prif bleidiau Prydeinig ydyw, ystyriwch a fuasech yn hapus i gael llefarydd gwahanol o’r blaid i gymryd rhan. Efallai y dymunwch wneud datganiad ar ddechrau’r digwyddiad, yn esbonio pam na all yr ymgeisydd fod yn bresennol.

Boicot – mae gan rai pleidiau bolisi o beidio â rhannu llwyfan gyda phleidiau eraill, gan eu bod yn teimlo fod hyn yn rhoi iddynt rywfaint o gyfreithlondeb. Os cewch fod plaid X yn sefyll, na fydd ymgeiswyr o Y na Z yn ymddangos, beth ddylai eich grŵp cynllunio wneud? Byddwch yn barod i ystyried cynnal digwyddiad gwahanol neu beidio â chynnal digwyddiad os na fydd o les i’r gymuned.

Pobl heb droi i fyny – yn amlwg, bydd hyn yn siom i’r grŵp cynllunio a’r gynulleidfa, ond hefyd i ymgeisydd sydd wedi anghofio! Gall etholiadau fod yn amser prysur iawn, felly ceisiwch leihau’r posibilrwydd o ddigwyddiadau annisgwyl trwy gadw mewn cysylltiad ag ymgeiswyr, rhannu rhifau ffôn a chadarnhau’r holl drefniadau ddiwrnod neu ddau cyn y digwyddiad.

Rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod

Ceisiwch roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod i gynifer o bobl ac mewn cynifer o ffyrdd ag sydd modd – a hynny cyn gynted ag sy’n bosib. Does dim byd yn cythruddo ymgeiswyr yn fwy na threulio noson gyda chynulleidfa fach iawn mewn hystings pan allant fod wedi bod allan yn canfasio.

Dewch i gysylltiad â’r holl eglwysi yn yr ardal leol, gan ofyn iddynt hysbysebu’r cyfarfod hystings trwy eu holl sianeli cyfathrebu, a all gynnwys posteri, taflenni, e-lythyrau newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol. Os oes modd, ceisiwch gael aelod o bob cynulleidfa i fod yn gyfrifol am roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod yn eu heglwysi eu hunain.

Gwnewch restr o lefydd lle gellir hysbysebu manylion am y cyfarfod, e.e. llyfrgelloedd cyhoeddus, meddygfeydd, swyddfa’r post, canolfannau cymuned, ffenestri siopau, ffenestri aelodau’r eglwys.

Gallwch hefyd ofyn i’r cyfryngau lleol hysbysebu’r digwyddiad. Mae modd anfon dogfen syml (yn nodi Beth, Pryd, Lle, Pwy a Pham) at y papurau newydd a’r gorsafoedd radio lleol, ond cofiwch roi gwybod i’r ymgeiswyr yn gyntaf.

Os ydych yn hysbysebu’r cyfarfod hystings ar y cyfryngau cymdeithasol a/neu yn postio’n fyw ohono, gallwch ddefnyddio hashnod i gysylltu’r postiadau gyda’i gilydd. Er enghraifft, os yw’r cyfarfod yn cael ei drefnu gan eglwysi yn Aberystwyth, gallai’r hashnod fod yn #HystingsEglwysiAberystwyth

Cofrestru’r digwyddiad

Gallwch gofrestru eich hystings gydag Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI), a fydd yn cadw cronfa ddata y gall pobl ei chwilio i ddod o hyd i ddigwyddiadau lleol am yr etholiad. Gallwch gofrestru eich hystings a chyrchu’r gronfa ddata ar www.churcheselection.org.uk

Paratoi ar gyfer y diwrnod

Meddyliwch ymlaen llaw am sut y byddwch yn cynnal y digwyddiad. Sut byddwch chi’n croesawu’r cadeirydd a’r ymgeiswyr? Ydych chi am ofyn iddyn nhw gyrraedd yn gynnar a chynnig lluniaeth ysgafn? Gallai hyn fod yn gyfle iddynt ymlacio a theimlo’n fwy cyfforddus cyn wynebu’r cyhoedd. Ydych chi am ofyn i’r cadeirydd ddiolch i’r ymgeiswyr am fod yn barod i gymryd rhan yn y broses ac i ateb cwestiynau pobl? Ydych chi eisiau i rywun arall gynnig pleidlais o ddiolch i’r cadeirydd ar derfyn y digwyddiad?

Anfonwch nodyn cyfeillgar i atgoffa’r ymgeiswyr gwpl o ddyddiau cyn y digwyddiad – bydd yn gyfnod prysur iddynt.

Sain: Mae’n bwysig cael system sain effeithiol – gwiriwch hyn ymlaen llaw, ac yna sicrhau bod rhywun sy’n deall sut mae’n gweithio yn gyfrifol amdani ar y noson. Bydd meicroffon symudol (a rhywun i symud o gwmpas gydag ef) yn ei gwneud yn haws o lawer cymryd cwestiynau neu sylwadau gan y gynulleidfa. Dylech wneud yn sicr fod dolen anwytho neu ddull arall wedi’i ddarparu ar gyfer y sawl sydd angen cymorth clyw.

Ffrydio byw: Gall ffrydio byw wneud eich hystings yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach, ac mewn rhai achosion gall y darllediad hefyd gael ei weld wedi i’r digwyddiad orffen. Mae Facebook ac YouTube yn ffyrdd poblogaidd o ffrydio digwyddiadau a chaniatáu i wylwyr ryngweithio’n fyw ac anfon eu cwestiynau eu hunain i mewn. O ran technoleg, y cyfan fydd arnoch ei angen yw dyfais symudol (ffôn/tabled) a chysylltiad da i’r rhyngrwyd – yn yr achos hwn, cadwch y ddyfais yn agos at du blaen yr ystafell fel bod modd gweld a chlywed yn glir. Bydd arnoch hefyd angen cymedrolwr yn yr ystafell, all roi’r cwestiynau a bostiwyd i’r ymgeiswyr ar yr adegau priodol, a thynnu ymaith unrhyw sylwadau diangen y gall gwylwyr o bell gael eu temtio i ychwanegu!

Stiwardio: Y gobaith yw y bydd pobl nad ydynt yn dod yn rheolaidd i wasanaethau’ch eglwys yn dod i’ch digwyddiad hystings. Allwch chi gael tîm at ei gilydd i’w croesawu? Fyddwch chi’n darparu lluniaeth? Oes arnoch unrhyw help gydag arwyddion a hysbysiadau y tu allan i’r adeilad, neu gyda pharcio? Fydd arnoch chi angen pobl allu helpu gyda materion hygyrchedd, neu osod cadeiriau a byrddau i fyny? Ceisiwch gael gwirfoddolwyr o nifer o eglwysi.

Cyfieithu: Yng Nghymru, mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol ac y mae disgwyliad cynyddol y darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, fel y gall ymgeiswyr a chyfranogwyr siarad Cymraeg  a bod pawb yn deall. Gall llawer o gyfieithwyr proffesiynol gynnig y gwasanaeth hwn. Gweler www.cyfieithwyr.cymru/ên/

Ym mhob rhan o’r DU, mae’n werth gofyn a yw eich cymuned yn cynnwys pobl sy’n defnyddio ieithoedd ar wahân i’r Saesneg megis Iaith Arwyddo Brydeinig, Gwyddeleg neu Aeleg yr Alban? Os yw’n berthnasol i’ch cymuned leol, fyddai modd i chi redeg yr hystings gyda chyfieithu i iaith megis Urdu, Sbaeneg neu Bwyleg? Mewn hystings ar-lein a gynhelir dros Zoom, ac ar lwyfannau eraill tebyg, mae’n hawdd gosod cyfieithu, ond rhaid i chi ofalu bod y cyfieithu wedi ei drefnu cyn y cyfarfod. Os nad ydych yn gyfarwydd â hyn, trefnwch ymarferiad rai dyddiau ymlaen llaw gyda’r cyfieithydd a chwpl o bobl all weithredu fel cynulleidfa ac ymgeisydd er mwyn gwneud yn siŵr fod popeth yn gweithio.

Ar derfyn y digwyddiad

Diolchwch i bawb, gan gynnwys yr ymgeiswyr, y gynulleidfa, a’r tîm cynnal.

Byddai’n dda o beth atgoffa pobl am y gofyniad newydd i bobl ddod ag ID â llun wrth bleidleisio, a rhoi gwybodaeth am sut y gallant wneud cais am ID os nad oes ganddynt un eisoes.

Oes angen i ni wneud unrhyw beth wedyn?       

Cofiwch roi gwybod i ni sut hwyl a gawsoch! Buasem wrth ein bodd gwybod lle cynhaliwyd eich digwyddiad, pwy oedd yn bresennol, pa gwestiynau a ofynnwyd ac yn enwedig os ydych wedi rhoi prawf ar fformat newydd o ymwneud. Anfonwch unrhyw luniau atom hefyd.

Yr ydym hefyd eisiau gwybod a oedd y canllaw hwn yn fuddiol, a oedd unrhyw beth oedd angen i chi wybod nad oedd yma neu os na fu ein cyngor mor ddefnyddiol â hynny … Byddwn yn defnyddio eich awgrymiadau i’n helpu i baratoi ar gyfer yr etholiad nesaf, pryd bynnag y bydd hwnnw! 

Anfonwch eich adborth at gethin@cytun.cymru neu ysgrifennu at:
Swyddog Polisi, Cytûn, Yst 3.3, Tŷ Hastings, Plas Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL.

Neu fe allwch gysylltu yn Saesneg ag enquiries@jpit.uk neu ysgrifennu at:
Y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd, 25 Tavistock Place, Llundain WC1H 9SF.

RHESTR WIRIO

  • Ffurfio grŵp cynllunio a phenderfynu ar fformat eich digwyddiad
  • Ymchwiliwch i’ch etholaeth a phwy yw’r ymgeiswyr
  • Gosod dyddiad, amser a lleoliad
  • Gwahodd ymgeiswyr a mynd ar ôl yr ymatebion
  • Gofyn i rywun gadeirio’r cyfarfod
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad
  • Trefnu stiwardiaid a chroeso

Croeso i chi gysylltu gydag unrhyw gwestiynau neu adborth.

Am y newyddion diweddaraf a mwy o adnoddau etholiadol, ewch at:

cytun.co.uk/etholiad-2024/

jpit.uk/election

churcheselection.org.uk