ARIANNU GWASANAETHAU CYHOEDDUS DAN BWYSAU

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024/25 ar 19 Rhagfyr. Er bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU ac o drethi datganoledig wedi cynyddu mewn termau arian parod, mae cyllid ar gyfer llawer o feysydd gwariant cyhoeddus wedi’i leihau hyd yn oed yn y termau hynny – ac ym mron pob maes ar ôl ystyried chwyddiant uchel y 12 mis diwethaf.

Fel y dengys Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ei ddadansoddiad cychwynnol, mae hyn am i Lywodraeth Cymru ddewis cynyddu gwariant yn sylweddol mewn dau faes. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn derbyn cynnydd o £725 miliwn (8%) ar gynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol, gan gyfateb i chwyddiant. Mae gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn cael £111 miliwn ychwanegol (cynnydd o 43% ar gynlluniau blaenorol). Mae’r ddau gynnydd hyn yn amsugno bron ddwywaith y symiau ychwanegol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, gan arwain at ostyngiad mewn gwariant arfaethedig o £422 miliwn ar draws meysydd eraill.

Mae llawer o sefydliadau, gan gynnwys eglwysi, wedi mynegi pryder ynghylch effeithiau’r gostyngiadau hyn. Er enghraifft, mae’r Grant Atal Digartrefedd wedi’i leihau £3m o’i gymharu â chynlluniau blaenorol, ac mae’r Grant Cymorth Tai wedi’i rewi mewn termau arian parod, sef gostyngiad mewn termau real. Mae hyn yn groes i alwadau gan y sector digartrefedd – gan gynnwys eglwysi a mudiadau Cristnogol – am o leiaf gynnal y gwariant presennol. Ymddengys hefyd ei fod yn anghyson â nod polisi Llywodraeth Cymru o roi diwedd ar ddigartrefedd, y daeth ymgynghoriad arno i ben ar Ionawr 16.

Dywedodd Cymorth Cymru, y corff ymbarél ar gyfer y sector tai yng Nghymru, “Mae’r gyllideb ddrafft yn newyddion drwg i wasanaethau digartrefedd a chymorth tai ledled Cymru ac, yn bwysicaf oll, i’r bobl sydd angen eu cymorth. Gwnaethom rybuddio Llywodraeth Cymru y gallai methu â chynyddu’r Grant Cymorth Tai arwain at ganlyniadau dinistriol.… Mewn termau real, mae’r grant hollbwysig, ataliol hwn £24m yn llai nag yr oedd yn 2012. … Os yw Llywodraeth Cymru am roi diwedd ar ddigartrefedd, mae’n rhaid ailfeddwl y gyllideb hon a rhoi’r cynnydd sydd ei angen o ran chwyddiant ar wasanaethau digartrefedd.”

Mynegwyd pryderon tebyg gan sefydliadau sy’n ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb i grwpiau o bobl dan anfantais, y bydd eu cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei leihau dros £1 miliwn o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r Comisiynwyr ar gyfer Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol i gyd yn wynebu toriadau o 5% mewn termau arian parod. Er nad ydynt yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan lai o gyllid, mae eglwysi a chymunedau ffydd eraill yn aml yn camu i’r adwy a adewir gan lai o wasanaethau cyhoeddus, ac mae hyn yn debygol eto yn ystod 2024-25. Bydd eglwysi sydd wedi eu cartrefu mewn adeiladau hanesyddol hefyd yn bryderus iawn am y gostyngiad o fwy nag 20% yng nghyllid Cadw.

Bu Cytûn yn gweithio gyda Thrysorlys Cymru ar wella’r Asesiad Effaith Strategol a gyhoeddir fel rhan o ddogfennau’r gyllideb. Mae’r Asesiad Effaith (tt 26-46) a gyhoeddwyd y tro hwn yn cydnabod rhai o’r effeithiau negyddol. Er enghraifft, er gwaethaf y gofyniad cyfreithiol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ganolbwyntio ar atal, mae gwariant ataliol ar iechyd yn cael ei leihau. Dywed Llywodraeth Cymru y gallai hyn “effeithio ar gapasiti gwasanaethau atal megis rhoi’r gorau i smygu, rheoli pwysau a chymorth ymarfer corff.” (tud. 35) Mae’r ddogfen yn cydnabod y bydd nifer o’r newidiadau yn effeithio’n arbennig ar grwpiau a warchodir gan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Mae’r dogfennau cyllideb helaeth ar gael yma. Mae pwyllgorau pwnc y Senedd yn craffu ar fanylion pob cyllideb ac yn cyhoeddi’r cyflwyniadau a wneir iddynt gan bob adran o’r Llywodraeth, a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fel dogfen gynhwysfawr maes o law.

DYFODOL CYFANSODDIADOL CYMRU?

Ar Ionawr 17, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyd-gadeiriwyd gan y Gwir Barchedig Ddr Rowan Williams a’r Athro Laura McAllister, ei adroddiad terfynol ar opsiynau ar gyfer dyfodol Cymru, yn dilyn sgwrs genedlaethol dwy flynedd gyda phobl Cymru.

Roedd llawer o’r sylw a roddwyd i’r adroddiad – gan gynnwys datganiad y Comisiwn ei hun i’r wasg – yn ymwneud â’i asesiad o dri opsiwn cyfansoddiadol ar gyfer Cymru:

• Mwy o ddatganoli o fewn y setliad presennol, gyda datganoli plismona, cyfiawnder a seilwaith rheilffyrdd, a newidiadau i’r ffordd y caiff Cymru ei hariannu. [Cwblhawyd yr adroddiad cyn iddi ddod yn hysbys i gostau’r datganoli presennol ar rai gwasanaethau rheilffordd godi’n aruthrol – gweler t. 1 o’r Bwletin hwn].

• DU ffederal, yn amodol ar awydd am newid yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

• Cymru annibynnol, a fyddai’n cynnig cyfleoedd sylweddol i lunio dyfodol y wlad, ond hefyd risgiau economaidd sylweddol yn y tymor byr i ganolig.

Cyflwynodd Cytûn dystiolaeth, fel y gwnaeth yr Eglwys Gatholig ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn bennaf am y setliad datganoli presennol a materion yn codi o’r berthynas rhwng llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Danfonwyd hefyd ddogfen gan Gymdeithas y Cyfeillion am wirionedd a didwylledd mewn bywyd cyhoeddus. Trafodir rhai o’r materion hyn ym mhenodau 3-6 yr adroddiad, sy’n cynnwys dadansoddiad manwl o’r ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithio ar hyn o bryd, ac yn adlewyrchu dymuniad yr eglwysi y dylai llywodraethu Cymru – beth bynnag fo’r fframwaith cyfansoddiadol – fod yn gydlynol, yn effeithiol ac yn gweithio er budd ei holl ddinasyddion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf bregus neu ddibynnol ar wasanaethau cyhoeddus.

Cyfeiriodd Dr Williams at rai o’r dulliau mwy arloesol yr oedd y Comisiwn wedi’u defnyddio i gasglu tystiolaeth, gan ddweud: “Sgwrs genedlaethol Cymru yw hon ac … mae ein hadroddiad yn ganlyniad dwy flynedd o drafodaeth agored. Rydym wedi canolbwyntio ar glywed lleisiau gwahanol o bob rhan o gymunedau Cymru, yn ogystal â chyngor arbenigwyr. Mae hon wedi bod yn broses o gyfathrebu’n uniongyrchol â phobl Cymru, casglu tystiolaeth a cheisio deall eu profiadau nhw. Mae’r sgwrs wedi bod yn hynod werthfawr, ond mae llawer mwy o waith i’w wneud. Mae angen inni sicrhau bod gan bawb lais wrth benderfynu ar lwybr eu cenedl yn y dyfodol – mae’n rhaid i’r sgwrs genedlaethol rydyn ni wedi’i dechrau barhau y tu hwnt i oes y comisiwn hwn. Rydym wedi dangos y gall y dull hwn arwain at drafodaethau deallus a chadarn, a democratiaeth addysgedig â lefel uchel o gyfranogiad. … Fel comisiwn, rydym yn galw ar y rhai sydd mewn grym i sicrhau nad yw’r sgwrs genedlaethol yn dod i ben yma, ac i gymryd camau brys i ddiogelu democratiaeth Cymru.”

Un mater o bwys cyfansoddiadol sydd dan drafodaeth yn Senedd Cymru ar hyn o bryd yw’r newidiadau posibl i’r drefn bleidleisio. Mae adroddiad y Comisiwn, ac adroddiad Pwyllgor Biliau Diwygio Senedd Cymru, ill dau wedi codi pryderon am yr awgrym y dylai pleidleiswyr yn etholiadau Senedd Cymru o 2026 ymlaen gael dewis rhwng pleidiau yn unig, heb allu pleidleisio dros (neu yn erbyn) ymgeiswyr unigol. Er nad yw eglwysi Cytûn wedi lleisio barn ar y mater hwn yn benodol, mae gallu sicrhau gwirionedd a didwylledd mewn bywyd cyhoeddus yn gofyn fod unigolion – ac nid pleidiau gwleidyddol yn unig – yn atebol am eu penderfyniadau, eu safiadau moesol a’u hymddygiad wrth eu gwaith.

ETHOLIAD CYFFREDINOL Y DU 2024

Mae’r gyfraith yn mynnu fod rhaid cynnal Etholiad Cyffredinol i’r DU ar neu cyn 28 Ionawr 2025. Gan y byddai dyddiad yn Ionawr 2025 yn golygu ymgyrch dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – a fyddai’n debygol o fod yn hynod amhoblogaidd gyda phleidleiswyr – mae’n ddiogel tybio y bydd etholiad yn ystod 2024.

Yn ôl yr arfer, bydd eglwysi ledled y DU yn annog cynulleidfaoedd lleol i ystyried cynnal cyfarfodydd ag ymgeiswyr (boed hynny fel cyfarfodydd ffurfiol (‘hustings’) traddodiadol neu mewn fformat arall), a byddant yn annog pawb sy’n gymwys i gofrestru i bleidleisio, a phleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i fod yn adeiladol a pharchus yn eu trafodaethau. Bydd gwefan Churches Election ar gael yn fuan gydag adnoddau ar gyfer hyn oll.

Bydd nifer o’r eglwysi a mudiadau Cristnogol sy’n aelodau o Cytûn yn cymryd rhan mewn cynlluniau i ganolbwyntio ar faterion sydd o bryder arbennig i Gristnogion. Ymhlith y rhain mae:

  • Let’s End Poverty, clymblaid eang sy’n ceisio canolbwyntio ar yr heriau cymdeithasol ac o ran llesiant y mae aelwydydd incwm isel yn eu profi – yn cynnwys ynysu cymdeithasol, cyfleoedd cyfyngedig, ac anfanteision o ran gofal iechyd ac addysg. Byddai mynd i’r afael â hyn yn golygu gwella’r system nawdd cymdeithasol, mynediad at waith dibynadwy a chartrefi o ansawdd da, a lliniaru anghydraddoldebau o ran gofal iechyd ac addysg. Roedd tair eglwys sy’n aelod o Cytûn (Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig) yn aelodau cychwynnol o’r glymblaid, ac mae’r Eglwys yng Nghymru, y rhwydwaith Catholig Caritas a sawl mudiad Cristnogol arall wedi mynegi cefnogaeth.
  • Bydd cwrs y Grawys Gweithredu ar Dlodi, a hyrwyddir gan Gymorth Cristnogol, Trussell Trust, Church Action on Poverty a thair eglwys sylfaenol Let’s End Poverty, yn ymestyn y ffocws o dlodi yn y DU i dlodi ledled y byd, gan archwilio materion megis cymorth datblygu rhyngwladol y DU a’i record ar newid hinsawdd. Bydd y deunydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
  • Mae ARocha UK (aelod o Cytûn sy’n gyfrifol am gynllun EcoChurch) yn un o’r aelodau gwreiddiol gyda Nature 2030, clymblaid eang o fudiadau sy’n galw am ddechrau adfer y difrod i fioamrywiaeth y DU erbyn 2030, a mynd i’r afael â llygredd aer a llygredd plastig. Gan gwmpasu cymysgedd o faterion sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru ac a gadwyd yn ôl i San Steffan, mae’r ymgyrch yn bwriadu cynhyrchu adnoddau ar gyfer yr etholiad.
  • Bydd Rhwydwaith Ffoaduriaid yr Eglwysi, a gynhelir gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, yn cynhyrchu adnoddau ar faterion mudo a lloches.

Fe hoffai Cytûn glywed gan ein haelod eglwysi a mudiadau am eu cynlluniau gogyfer â’r etholiad – cysyllter â gethin@cytun.cymru

Grantiau ac Adnoddau gan Gymru Masnach Deg

Mae Masnach Deg Cymru yn cynnig grantiau o hyd at £500 i annog cymunedau i ddathlu Masnach Deg. Eleni, rydym yn dathlu 15 blwyddyn ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg cyntaf y byd, a hynny gyda chefnogaeth llawer o eglwysi a mudiadau Cytûn. Gall cymunedau (sydd yn cynnwys eglwysi, busnesau, grŵp o unigolion, ysgolion ayyb) defnyddio’r grant mewn ffordd hyblyg sy’n dathlu a hyrwyddo Masnach Deg.

Hefyd, mae gan Masnach Deg Cymru lwyth o adnoddau yn ei swyddfa yng Nghaerdydd a gellir danfon neu logi y rhain i eglwysi a chymdeithasau lleol. Mae’r dudalen adnoddau yn cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd, ond ymhlith yr adnoddau mae posteri, sticeri, baneri, gemau ayyb. Os hoffwch archebu unrhyw beth naill ai ebostiwch Kadun Rees – kadun@fairtradewales.org.uk – neu cysylltwch drwy’r wefan https://masnachdeg.cymru/

Cysylltu rhieni yng Nghymru

Dros y 12 mis diwethaf, mae Plant yng Nghymru wedi cynnal rhaglen i alluogi rhieni i gymryd mwy o ran yn llunio polisïau cyrff cyhoeddus Cymru. Tyfodd o’r anhawster sy’n wynebu rhieni prysur o ran cael mynediad at ymgynghoriadau ffurfiol sy’n gofyn am ymatebion ysgrifenedig o fewn amser byr, cyfarfodydd ar-lein yn ystod y diwrnod ysgol ac ati.

Bu Cytûn yn rhan o Fforwm Gweithwyr Proffesiynol y prosiect o’r cychwyn cyntaf, er mwyn sicrhau bod rhieni sy’n arddel ffydd yn clywed eu lleisiau. Mae tîm Plant yng Nghymru wedi gweithio gyda chymunedau ffydd lleol yn ogystal â llawer o rai eraill i ganfasio safbwyntiau a cheisio ymgysylltu.

Bydd cam nesaf y prosiect – yn dilyn dirwyn i ben y grant 12 mis gan Lywodraeth Cymru – yn cael ei lansio mewn gweminar ar Chwefror 27 am 10.00- 11.00yb. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma. Fel rhan o hyn, gwahoddir rhieni i rannu fideos, lluniau a blogiau – gweler y manylion yn y poster uchod.

Help gyda chostau byw

Er gwaetha’r toriadau yn ei chyllideb (tud. 1) mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu gwasanaeth cymorth i’r sawl sy’n ceisio cymorth gyda chostau byw cynyddol. I wybod pa gymorth sydd ar gael gallwch fynd i’r wefan https://www.llyw.cymru/yma-i-helpu-gyda-chostau-byw neu ffonio linell gymorth Advicelink Cymru am ddim ar 0808 250 5700.

Gall gynorthwyo gyda chwestiynau megis:

  • A ydw i’n gymwys am Gredyd Cynhwysol ?
  • Cymorth gyda chostau iechyd
  • Lwfans gofalwr i’r sawl sy’n gofalu, a help gyda gofal personol i’ch hunan
  • Cymhwysedd ar gyfer Credyd Pensiwn i’r sawl sydd dros oedran pensiwn gwladol
  • Cymorth os ydych yn feichiog neu gyda phlentyn dan 4 oed.
  • Prydau ysgol am ddim

Penodi Bonnie Williams yn Brif Swyddog Gweithredol Housing Justice

Mae Housing Justice, sy’n aelod o Cytûn, wedi penodi Bonnie Williams yn Brif Swyddog Gweithredol newydd o fis Ebrill 2024. Bydd Bonnie, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Housing Justice Cymru ers Mawrth 2020, yn cymryd yr awenau gan Kathy Mohan OBE sy’n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr Cymru, mae Bonnie wedi tyfu Housing Justice Cymru, ac wedi cyflwyno ystod o fesurau newydd arloesol i fynd i’r afael â digartrefedd ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys y rhaglen arobryn Citadel sy’n defnyddio gwirfoddolwyr hyfforddedig i gefnogi unigolion sydd mewn perygl o ddigartrefedd neu sy’n ei brofi; Ceisio Noddfa – rhaglen lletya ffoaduriaid; a pharhau i ddatblygu Ffydd mewn Tai Fforddiadwy sy’n helpu eglwysi i ddefnyddio tir diffaith neu wag ar gyfer tai fforddiadwy. Yn ddiweddar mae Bonnie wedi datblygu rhaglen newydd i gefnogi pobl o Wcráin sy’n gadael eu lleoliadau lletya i ddod o hyd i gartrefi newydd yn y sector rhentu preifat.

MARWOLAETH, ANGLADDAU A GALARU

Mae eglwysi yn ganolog i gynnal angladdau a chynorthwyo’r sawl sy’n galaru ledled Cymru. Mae yna dri datblygiad diweddar a fydd o ddiddordeb i’r sawl sy’n ymwneud â’r weinidogaeth hon.

Craffu statudol ar farwolaethau gan archwilwyr meddygol

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion ynghylch diwygiadau ar gyfer ardystio marwolaethau y bydd yn eu cyflwyno o fis Ebrill 2024 ymlaen. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn ddrafft o Reoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) Yn ogystal, mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig.

Bydd y diwygiadau yn rhoi holl rwymedigaethau, dyletswyddau a chyfrifoldebau y system archwilio meddygol ar sail statudol ac yn darparu cyfle cynnar i godi unrhyw bryderon o gylch marwolaeth benodol. Maent yn golygu y bydd pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr o Ebrill 2024 yn cael ei hadolygu’n annibynnol, yn ddieithriad, naill ai gan archwilydd meddygol neu grwner. Fe all y bydd gan hyn mewn rhai achosion oblygiadau i amseru angladd yn dilyn marwolaeth annisgwyl.

Mae Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU yn llunio Tystysgrif Feddygol ddigidol o Achos Marwolaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyflwynir maes o law.

Prosiect Comisiwn y Gyfraith am Gladdu, Amlosgi a Dulliau Angladdol Newydd

Cyfarfu Cytûn a nifer o’n haelod eglwysi â Chomisiwn y Gyfraith yn ystod 2023 i drafod y prosiect hwn. Mae’r Cylch Gorchwyl bellach wedi’i gyhoeddi, gyda thri llinyn:

  • Claddu ac Amlosgi, a fydd yn edrych ar y gyfraith sy’n llywodraethu gwahanol fathau o fynwentydd ac amlosgfeydd, gan gynnwys ailddefnyddio beddau. Mae hyn bellach yn y cyfnod cyn-ymgynghori, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd 2025.
  • Dulliau Angladdol Newydd, a fydd yn ystyried fframwaith rheoleiddio addas i’r dyfodol ar gyfer dulliau newydd o ymdrin â chorff ar ôl marwolaeth, megis compostio dynol a hydrolysis alcalïaidd, a fydd yn rhedeg tan wanwyn 2026.
  • Hawliau a Rhwymedigaethau o ran Dulliau Angladd, Angladdau a Gweddillion, a fydd yn edrych ar faterion gan gynnwys a ddylai dymuniadau unigolion am eu corff ar ôl marwolaeth fod yn gyfreithiol-rwym, pwy ddylai gael yr hawl i wneud penderfyniadau am gyrff, ac angladdau iechyd cyhoeddus. Bydd y llinyn hwn yn rhedeg o ddiwedd 2025 i ddiwedd 2027.

Cymru Garedig (Compassionate Cymru)

Mae Cytûn wedi bod ers blynyddoedd lawer yn ymwneud â Cymru Garedig, a ddechreuwyd yn wreiddiol gan y diweddar Athro Hywel Francis AS fel Byw Nawr (Dying Matters yng Nghymru), gan arwain at Siarter Tosturiol Cymru, 2020 (Saesneg yn unig). Ategwyd hyn gan fuddsoddiad sylweddol gan Macmillan. a ariannodd swydd ganolog a dau gydlynydd yn ne-ddwyrain Cymru, a Llywodraeth Cymru a ariannodd ddau gydlynydd arall yng Ngogledd Cymru.

Rhwystrwyd cynnydd gan y pandemig ac nid cynllun tymor byr yw meithrin Cymru fel Gwlad Garedig. Rydym wedi dysgu ei bod yn fwy cynaliadwy creu cymuned ofalgar, neu fudiad, a arweinir gan bobl gyffredin sy’n esblygu’n organig a lle mae pobl yn cymryd perchnogaeth. Mae mudiad o’r fath wedyn yn cael ei yrru a’i berchenogi gan y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu ond mae angen rhywfaint o adnoddau i hwyluso llif gwybodaeth rhwng y partïon gan gynnwys presenoldeb ar-lein.

Bellach daethpwyd i gytundeb i Age Cymru weinyddu swyddogaeth ysgrifenyddol i rwydwaith Cymru Garedig, a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Heneiddio’n Iach bresennol. Bydd hyn yn darparu’r ymgysylltiad angenrheidiol â chymunedau “llawr gwlad”, yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau ar-lein i annog a hwyluso cydweithio, cyfnewid gwybodaeth, a rheoli digwyddiadau. Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r dull hwn ac wedi gofyn i Fwrdd y Rhaglen ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes barhau i oruchwylio’r fenter hon, ac adrodd iddi am gynnydd fel rhan o’r gweithdrefnau adrodd arferol.

Bydd Cytûn yn parhau i gymryd rhan ar ran ein haelodau yn y cyfnod newydd hwn.

Annog gobaith yn wyneb siom COP28

Er bod Consensws UAE y cytunwyd arno yn uwchgynhadledd hinsawdd COP28 yn Dubai ym mis Rhagfyr wedi methu â chynhyrchu cynllun manwl i “symud i ffwrdd” o ddefnyddio  tanwydd ffosil, mae yna reswm o hyd i obeithio y gall y byd symud tuag at gyfiawnder hinsawdd, meddai ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd, y Parch. Athro Dr Jerry Pillay. “Er i weithredu’r Gronfa Colled a Difrod gael ei sicrhau yn gynnar ar ddechrau’r gynhadledd hinsawdd fyd-eang, ni ellir ond disgrifio’r addewidion ariannol sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd fel rhai pitw, sy’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i ymateb i effeithiau dinistriol. newid hinsawdd mewn cenhedloedd tlawd a bregus,” meddai Pillay. … Ac eto, rhywsut, er gwaethaf y wyddoniaeth ddifrifol a’r realiti gwleidyddol rhwystredig, mae yna hefyd lawer i dynnu gobaith ohono,” meddai. “Gwelodd COP28 wledydd sy’n datblygu fel Colombia yn arwain y ffordd wrth gymeradwyo’r Cytundeb Atal Amlhau Tanwydd Ffosil.”

Mynegodd yr Esgob John Arnold, yr Esgob Arweiniol dros Faterion Amgylcheddol yng Nghynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr “optimistiaeth ofalus” ynghylch canlyniad y gynhadledd. Fodd bynnag, ychwanegodd: “Rwy’n gweld llawer gormod o gyfeiriadau at dargedau y mae angen cytuno arnynt – mae angen setlo pethau. Mae’r iaith yn gywir, ond nid oes unrhyw arwydd gwirioneddol o gyflawni ymrwymiadau difrifol na sancsiynau i’r sawl nad ydynt yn cyflawni eu hymrwymiadau. Ai twyll gwyrdd (greenwashing) sydd yma? Gobeithio nad felly y mae.”

Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen we arbennig Cyngor Eglwysi’r Byd, ac yn asesiadau Cymorth Cristnogol a’r asiantaeth Gatholig ar gyfer cymorth a datblygu tramor CAFOD.

Rhestr Gwylio’r Byd 2024

Ym mis Ionawr, mynychodd bron i 100 o ASau San Steffan lansiad Rhestr Gwylio’r Byd 2024 o wledydd lle mae Cristnogion yn wynebu erledigaeth ddifrifol gan Open Doors. Wedi hynny, cafwyd cyfarfod gweddi yng Nghapel Westminster, gan gynnwys anerchiad gan y Prif Swyddog Gweithredol Henrietta Blyth a chyfweliadau â chynrychiolwyr yr eglwysi dan erledigaeth yn Nigeria ac Iran. Mae ar gael ar YouTube – https://www.youtube.com/watch?v=vCVENbEcQ7U

Mae Rhestr Gwylio’r Byd 2024 bellach ar gael ar y wefan (www.opendoorsuk.org ) a gellir archebu copïau printiedig ar-lein. Bydd y fersiwn Gymraeg ar gael ymhen ychydig wythnosau.

Cytûn yn nigwyddiadau’r haf 2024

Yn ôl yr arfer bydd Cytûn yn cydlynu presenoldeb eglwysi a mudiadau Cristnogol Cymru yn nigwyddiadau’r haf. Croesewir unrhyw un sydd am helpu eleni i gyfarfodydd agored fel a ganlyn:

  • Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Meifod, Maldwyn (Mai 27 – Mehefin 1) am 7.00 nos Fercher Mawrth 6ed yng Nghapel Moreia, Llanfair Caereinion
  • Ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd (Gorffennaf 22-25) am 2.30 pnawn Mercher Mawrth 6ed yng Nghanolfan Gristnogol y Gymru Wledig (CCRW) ar faes y Sioe,
  • Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd (Awst 3-10) am 7.00 nos Iau, Mawrth 21ain yn Eglwys St Catherine yng nghanol tref Pontypridd

Ceir rhagor o fanylion gan y cyd-lynydd Aled Davies – aled@ysgolsul.com

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 29 2024. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fawrth 26 2024.