TRAIDCRAFT YN CAU OND Y FRWYDR AM FASNACH DEG YN PARHAU

Ar 21 Ionawr, cyhoeddodd Bwrdd Cyfarwyddwyr Traidcraft ccc ddatganiad (a gyfieithir wedi’i dalfyrru isod) yn dweud bod yr enw mwyaf cyfarwydd mewn cylchoedd Masnach Deg – a’r label allweddol ar fyrdd o stondinau Masnach Deg mewn eglwysi ledled Cymru – yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Dywedasant:

Gyda thristwch aruthrol y cyhoeddwn fod Traidcraft plc wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r busnes wedi bod mewn sefyllfa ariannol fregus ers rhai blynyddoedd ac fe gyflwynodd pandemig Covid-19 set newydd sylweddol o heriau. Yn union fel yr oeddem yn dod allan o’r pandemig, fel llawer o fanwerthwyr eraill, roeddem yn wynebu effeithiau’r rhyfel yn Wcráin, prisiau ynni cynyddol, a chostau trafnidiaeth uwch.

Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion arwrol ein tîm yn Gateshead, yn ystod cyfnod masnachu tyngedfennol y Nadolig, gyda gwerthiant gryn dipyn yn llai na’r hyn oedd ei angen i gynnal y cwmni, a gyda heriau o ran y tywydd a’r ansicrwydd a grëwyd gan streiciau’r Post Brenhinol, roedd y golled yn fwy na y gellid ei chynnal….

Mae’n dorcalonnus dod â stori Traidcraft plc i ben yn y modd hwn, ond gallwn o leiaf gael rhywfaint o gysur o’r wybodaeth ein bod wedi bod yn rym mawr er daioni yn y sector manwerthu moesegol ers dros ddeugain mlynedd. Rydym wedi hyrwyddo achos cyfiawnder masnach i’r pwynt lle mae gennym bellach safonau a gweithdrefnau gwell ar waith i amddiffyn hawliau ac urddas tyfwyr a chynhyrchwyr ledled y byd.

Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi teithio gyda ni fel gweithwyr, aelodau bwrdd, cyfranddalwyr a chyflenwyr. Hoffem ddiolch yn arbennig i’n criw ffyddlon o “Fasnachwyr Teg”, llawer ohonynt wedi bod gyda ni ers y cychwyn cyntaf.

Mae’r genhadaeth i frwydro yn erbyn anghyfiawnder masnach a thlodi ymhell o fod yn gyflawn. Mae’n bwysig cydnabod y bydd Transform Trade (Traidcraft Exchange gynt, cangen elusennol Traidcraft) yn parhau â’i waith hanfodol yn cefnogi cynhyrchwyr ac yn ymladd dros fasnach gyfiawnd sy’n canolbwyntio ar bobl. Ein gobaith a’n gweddi yw y bydd eraill hefyd yn dod i’r amlwg i godi’r ffagl yr ydym wedi’i chario ers pedwar degawd.

Mae gwefan Traidcraft bellach yn darparu tudalen o ddolenni i’r rhai sy’n dymuno archebu’n uniongyrchol gan y cynhyrchwyr a oedd wedi cyflenwi Traidcraft yn flaenorol. Anogir eglwysi ac unigolion sydd am barhau i ymgyrchu dros fasnach decach ar draws y byd i ymgysylltu â Cymru Masnach Deg. Cymerwch ran ym Mhythefnos Masnach Deg 2023 (27 Chwefror – 12 Mawrth).

Mae Cytûn wedi bod yn gweithio gyda Chymru Masnach Deg a nifer o sefydliadau eraill sydd yn arddel ymrwymiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, i geisio diwygio’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus sydd gerbron Senedd Cymru. Ein nod yw ymgorffori yn y gyfraith ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn Genedl Masnach Deg. Hyd yma, mae gwelliannau i’r perwyl hwn wedi’u gwrthod o drwch blewyn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi addo cyd-weithio i gynhyrchu Canllawiau Statudol yn annog pob corff cyhoeddus sy’n ‘caffael’ nwyddau i brynu nwyddau Masnach Deg a nwyddau a gwasanaethau y mae eu cadwyni cyflenwi’n cefnogi datgarboneiddio, diogelu bioamrywiaeth a hawliau dynol.

Mae Masnach Deg Cymru hefyd wedi cynnull Cyfiawnder Masnach Cymru, prosiect tymor byr i wella dealltwriaeth o fasnach ryngwladol yng nghyd-destun y bargeinion masnach sy’n cael eu negodi gan Lywodraeth y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Cynhelir cyfarfod olaf y rhwydwaith hwn ar Chwefror 6, er y gobeithir y gellir parhau â’r gwaith mewn ffyrdd eraill.

Caethwasiaeth Fodern, Masnachu a Chamfanteisio ar Bobl: Safbwynt Cymreig
gan Ali Ussery

Llun trwy garedigrwydd Hafan o Oleuni

Mae Caethwasiaeth Fodern yn drosedd ddifrifol ac yn groes i hawliau dynol. Mae’n cynnwys masnachu mewn pobl, pan fydd rhywun yn cael ei gipio a’i ddal yn erbyn ei ewyllys, ei recriwtio a’i orfodi i weithio neu cyflawni trosedd, cymryd rhan mewn gwasanaethau rhywiol, neu gaethwasiaeth yn y gweithle neu gaethwasanaeth domestig.

Mae dros 50 miliwn o bobl ledled y byd yr ystyrir eu bod yn gaeth (Sefydliad Llafur Rhyngwladol), ond nid problem sy’n bodoli mewn mannau pellennig yn unig yw hon, oherwydd yn y DU yn 2021 cofnodwyd yn swyddogol roedd 12,727 o ddioddefwyr posibl (Swyddfa Gartref), tra bod llawer mwy wedi llithro drwy’r system. Nid yw ffigurau diwedd blwyddyn 2022 wedi’u cyhoeddi eto, ond disgwylir y bydd i’r nifer godi gan mai 12,530 o atgyfeiriadau oedd y cyfanswm ar gyfer tri chwarter cyntaf y flwyddyn. Mae’r data’n cynnwys cam-drin yn erbyn gwladolion y DU a thramor, gyda’r mwyafrif o achosion ynghylch oedolion yn ‘ecsbloetio llafur’, sy’n cynnwys gwaith mewn ffatrïoedd, lletygarwch, twristiaeth, y system ofal, gwasanaethau fel glanhau a golchi ceir ac ati. Yn achos plant y mae’r gyfran uchaf ynghylch ‘camfanteisio troseddol’ sy’n ymwneud yn bennaf â chludo a gwerthu cyffuriau drwy’r hyn a adwaenir fel ‘llinellau sirol’. Mae data’r Fecanwaith Atgyfeirio Genedlaethol ar gael ar-lein lle cyhoeddir ffigurau cenedlaethol, atgyfeiriadau fesul ardal heddlu, y mathau o gamfanteisio, oedran, rhyw, cenedligrwydd ac ati: (https://www.gov.uk/government/statistics/national-referral-mechanism-and-duty-to-notify-statistics-uk-july-to-september-2022/modern-slavery-national-referral-mechanism-and-duty-to-notify-statistics-uk-quarter-3-2022-july-to-september).

Mae Caethwasiaeth Fodern yn realiti trasig a chynyddol yn ein cymunedau heddiw. Yng Nghymru, mae Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru yn strwythur a arweinir gan Lywodraeth Cymru sy’n dod ag asiantaethau statudol a thrydydd sector ynghyd. Mae’r fforwm hwn ar hyn o bryd yn datblygu strategaeth newydd a fydd yn cynnwys cydweithio rhwng pedwar gweithgor, ‘Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth’, ‘Atal’, ‘Grŵp Dioddefwyr a Goroeswyr’, a ‘Grŵp Cymru Foesegol a Rhyngwladol’. Cynrychiolir eglwysi ar y Fforwm gan Ali Ussery, sy’n adrodd yn ôl trwy Cytûn.

Mae hi’n eithriadol o bwysig bod cymunedau eglwysig a phobl o ffydd yn ymwneud â’r mater hwn fel un o’r troseddau mwyaf difrifol yn erbyn dynoliaeth yn ein cyfnod modern. Nid yw cydnabod yn unig fod y gamdriniaeth hon yn digwydd yn ei holl ffyrdd cymhleth, ond penderfynu nad ydym yn gallu gwneud unrhyw beth i wneud gwahaniaeth yn dderbyniol. I ni, credinwyr mewn Duw cariadus a thosturiol, sôn yr ydym fan hyn am fodau dynol sydd wedi eu llunio ar Ei lun a’i ddelw Ef, ac mae gan bawb yr hawl i fyw bywyd rhydd. Yr her yw sut i symud ymlaen. Mae cymaint o’r drafodaeth swyddogol yn ymwneud â sylwi ar arwyddion camfanteisio, sut i adrodd am bryderon, cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, ac yna dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Os ydym o ddifrif, mae’n rhaid inni edrych i ffynhonnell y llif a gweithio’n galetach ar atal, gweddïo, eirioli a newid y cwmpawd moesol fel bod cam-drin yn cael ei atal cyn iddo ddigwydd.

Mae yna lawer o elusennau sydd wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â chamfanteisio dros y degawd diwethaf a mwy ledled y DU. Mae Hafan o Oleuni yn fudiad yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio’n agos gyda’r Eglwys yng Nghymru a Rhwydwaith Rhyddid Ewropeaidd Cynghrair Efengylaidd Ewrop (www.havenoflight.co.uk). Am wybodaeth cysylltwch ag info@havenoflight.uk

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
gan y Parch. Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul Cymru

Ers 3 blynedd bellach, dwi wedi bod yn cynrychioli Cytûn ar Rwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, sy’n cyfarfod dros Zoom ac yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. Mae’n grŵp o rhwng 80 a 100 o gynrychiolwyr, yn cynrychioli’r sector breifat a busnes, ac yn cynnwys y Cynghorau Sir ar hyd a lled Cymru. Mae’n dda bod yna le hefyd ar gyfer eglwysi Cymru yn y rhwydwaith yma.

Pwrpas y grŵp yw ceisio sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad i’r we ac i wasanaeth band-eang, a’r gallu i gael gafael ar offer addas er mwyn bod yn rhan o’r byd digidol rydym yn byw ynddo. Bu’r gynghrair yn pwyso’n drwm ar y Llywodraeth er sicrhau bod gan bob un cymuned yng Nghymru fynediad i fand eang ffeibr optig, er mwyn cefnogi busnesau bach a phawb sy’n gweithio o’u cartrefu erbyn hyn.

Pryder amlwg yw’r ‘tlodi digidol’ mae llawer o blant yn cael eu hunain ynddo. Rydym wedi arfer clywed sôn am dlodi o ran cyllid ar aelwydydd, a hynny yn arwain at brinder dillad addas a phrinder bwyd i lawer. Ond yn yr un ffordd mae tlodi digidol – h.y. pobl (a phlant) sydd heb fynediad dibynadwy a chyson i’r we – yn ofid arall. Gyda chymaint o waith addysgol o ran gwaith cartref bellach yn dasgau i’w cyflawni ar y we, mae’r aelwydydd hynny sydd ond efo un cyfrifiadur, neu ddim o gwbl, yn rhoi plant o dan anfantais fawr. Bydd llawer efallai yn gorfod gwneud eu gwaith cartref ar declyn bychan fel ffôn symudol, ac yn gorfod mynd allan o’r tŷ i chwilio am gysylltiad rhyngrwyd. Mae nifer o gynlluniau ar y gweill i ddarparu offer a mynediad i’r we i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd. Yn yr un ffordd mi fydd oedolion bregus yn ei chael hi’n anodd cyrraedd at wasanaethau, gyda’r angen i gofrestru ac archebu gwasanaethau yn mynd fwyfwy ar lein.

Mae anogaeth ar i gymunedau sefydlu canolfannau y gall pobl droi i mewn atynt er mwyn cael mynediad i’r byd digidol, a dyna un lle y gallwn NI fel eglwysi fod yn flaengar. Os oes we yn y capel, beth am osod cyfrifiadur cymunedol yno? Cyfle i blant ddod yno i wneud eu gwaith cartref, neu fan cyfarfod i helpu’r henoed i gyflawni tasgau ar lein. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â chreu mannau cynnes, lle gall rhywrai sy’n ei chael hi’n anodd wresogi eu tai gael man cynnes i gyfarfod ynddo.

FFARWELIO Â CHOMISIYNYDD CYNTAF CENEDLAETHAU’R DYFODOL

Ar Ionawr 24 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, fe gynhaliodd Sophie Howe (uchod) ei digwyddiad ffurfiol olaf fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru (a’r Byd!) Cafwyd cyfle i glywed gan wyth o fudiadau lleol sydd wedi defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ysgogi newid o ran atal llifogydd, darparu gwelyau ysbyty sbâr i deuluoedd mewn angen, gwyrddio’r Gwasanaeth Iechyd, hybu llais pobl ifainc, a llawer mwy. Clywyd hefyd am y camau y mae’r Alban yn eu cymryd i’r un cyfeiriad, a mwynhawyd cerdd a chân pwrpasol. Ar ôl anerchiad gan Brif Weinidog Cymru, ar ddiwedd y dydd, trosglwyddwyd yr awenau i’r Comisiynydd newydd, Derek Walker.

Yn ystod y dydd hefyd fe gyhoeddwyd rhestr o 100 o Ysgogwyr Newid yng Nghymru yr oedd Sophie am gydnabod eu gwaith yn ysbryd y Ddeddf. Ymhlith y rhain oedd Swyddog Polisi Cytûn, y Parch. Gethin Rhys. Meddai Gethin, “Dydw i ddim fel arfer yn un am anrhydeddau, ond rwy’n mawr werthfawrogi’r gydnabyddiaeth hon o werth llais ffydd yn y sgwâr cyhoeddus yng Nghymru.”

DIGWYDDIADAU CHWEFROR A MAWRTH

Gweledigaeth Gweddi dros yr Ysgol yw ysgogi Cristnogion i gefnogi cymunedau eu hysgolion trwy weddi. Ledled y DU, mae grwpiau o rieni, athrawon neu weithwyr ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd i weddïo dros eu hysgolion lleol.

Dewch â ffrind gyda chi am 45 munud ysbrydoledig i weddïo gyda’ch gilydd ar nos Fercher 8fed Chwefror am 7pm. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o bythefnos Caru ein Hysgolion a gellir dod o hyd i adnoddau yma. https://www.prayforschools.org/loveourschools/

Am mwy o wybodaeth cysylltwch ag Andy Hughes wales@prayforschools.org

Gweddïo am yr Argyfwng Hinsawdd

Mae Christian Climate Action Cymru yn cynnal cyfres o gyfnodau gweddïo tawel am yr argyfwng o flaen adeilad Llywodraeth y DU yn Wood Street, Caerdydd yn ystod mis Mawrth. Gwahoddir pobl o bob ffydd a chefndir i ymuno. Ceir rhagor o fanylion yma.

Cadw’n Gynnes y Gaeaf Hwn

Rydym yn profi argyfwng costau byw, argyfwng ynni, ac argyfwng hinsawdd ar yr un pryd. Maent i gyd yn cael eu hysgogi gan ein dibyniaeth ar olew a nwy drud, ac yn rhannu’r un atebion. Bydd buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy rhatach ac insiwleiddio cartrefi yn gwneud gwresogi ein cartrefi’n fwy fforddiadwy, yn lleihau’r pwysau ar ein pocedi, ac yn lleihau allyriadau sy’n dinistrio’r hinsawdd.

Mae Climate Cymru, y mae Cytûn yn aelod ohono, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu trwy ddarparu cymorth brys i aelwydydd bregus, gweithredu rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol, cynyddu ynni adnewyddadwy cost isel yn gyflym a’n rhyddhau ni rhag Tanwydd Ffosil. Llofnodwch y ddeiseb yma: https://actionnetwork.org/petitions/tell-welsh-government-to-take-urgent-action-to-keep-people-warm-this-winter

Uwchgynhadledd Gofalwyr 2023 – Gyda’n gilydd gallwn cyflawni pethau

Mae Carers Wales yn gwahodd gofalwyr di-dâl i ymuno yn Uwchgynhadledd Gofalwyr ar-lein Ionawr 30 – Chwefror 16 eleni. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i chi gymryd rhan a dweud eich dweud. Gyda’n gilydd gallwn ac rydym yn cyflawni pethau. Yn dilyn Uwchgynhadledd llynedd, mae’r Ombwdsmon yn ystyried cynnal ymchwiliad a’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut mae Taliadau Uniongyrchol yn cael eu hyrwyddo ac yn adolygu’r broses Asesu Gofalwyr.

Rhaid cofrestru trwy Eventbrite yma.

Adroddiad ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yng Nghymru

Roedd Cytûn ymhlith 70 o sefydliadau a gyfrannodd dystiolaeth i adroddiad pwysig gan JustFair am yr hyn y maent yn ei ddisgrifio fel “cyflwr enbyd ein hawliau bob dydd” – megis hawliau i fwyd, tai, iechyd, addysg, nawdd cymdeithasol a gwaith yn y DU. Mae’r rhain wedi’u hymgorffori yn y Confensiwn Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR). Mae’r DU wedi llofnodi’r confensiwn, ond nid yw’r hawliau hyn wedi’u hymgorffori’n benodol mewn cyfraith ddomestig. Mae’r adroddiad yn bwydo i mewn i adolygiad y Cenhedloedd Unedig eu hunain o sut mae Cymru a’r DU yn gweithredu’r hawliau hyn y maent wedi ymrwymo iddynt. Cyfrannodd Cytûn sylwadau ar yr hawl i amlygu crefydd a chred yng Nghymru, ac fe’n dyfynnir ni yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar Ionawr 19, gyda siaradwyr (yn y llun) yn cynnwys y Parchg Ruth Coombs o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; Jess McQuail, Cyfarwyddydd Just Fair; Sioned Williams AS; Sean O’Neill o Plant yng Nghymru; ac Allison Hulmes o Romani, Sipsiwn a Theithwyr Cymru.

CYTÛN YN NIGWYDDIADAU CENEDLAETHOL CYMRU 2023

Braf oedd gallu cyfrannu i lwyddiant y tri digwyddiad cenedlaethol – Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol – yn ystod 2022, a gwelwyd rhai miloedd o bobl yn ymweld â’r stondinau yn Ninbych, Llanelwedd a Thregaron. Diolch am bob cefnogaeth a chydweithrediad a dderbyniwyd gan ein partneriaid a’r gwirfoddolwyr dros y 3 digwyddiad. Gobeithiwn adeiladu ar y momentwm hwn eto eleni, gan ymweld â Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Fawr yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ger Pwllheli ym mis Awst.

Fe fyddwn yn dechrau ar y trefniadau lleol yn fuan, gan alw gwirfoddolwyr ynghyd i greu rotas a chynllunio ar gyfer y gweithgareddau ayyb – gweler isod. Byddai’n dda clywed am unrhyw syniadau / themâu posib ar gyfer 2023. Oes yna ddigwyddiad / dathliad arbennig y byddech am eu cynnwys ar ein rhaglen o weithgareddau, neu i sicrhau gofod o fewn y babell ar gyfer arddangosfa / ymgyrch arbennig? Mae’r gofod wedi ei sicrhau eisoes ar gyfer y 3 digwyddiad, ar sail maint y pebyll yn y blynyddoedd a fu, ac felly disgwyliwn ymlaen dros y misoedd nesaf i greu unedau a fydd yn groesawgar ac yn apelgar. Cynhelir oedfa am 11.00 bob bore a digwyddiadau yn y prynhawn am 2.00. Bydd angen gwirfoddolwyr hefyd ar y stondin i groesawu a chynnal gweithgareddau heb sôn am rota helaeth o bobl i fod yn gyfrifol am y te a’r gegin.

Fe’ch gwahoddir i gyfarfodydd i drafod pa weithgarwch lleol y gellir eu cynnwys o fewn y babell.

Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin Mai 29 – Mehefin 3 2023: 7.00y.h. nos Lun Mawrth 6ed yng Nghapel Providence, Llangadog. Bydd yn dda medru cynnwys cynifer â phosib o arddangosfeydd o waith Ysgolion Sul lleol, clybiau plant ac ati o fewn y stondin.

Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Gorffennaf 24-27 2023: 1.00 pnawn Llun Mawrth 6ed 2023 yng Nghanolfan y CCRW ar faes y Sioe. Darperir te a choffi – dewch â’ch cinio eich hun.

Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd, Boduan ger Pwllheli, Awst 5-12 2023: 7.00 nos Fawrth, Mawrth 7fed yn festri capel Penlan yng nghanol tref Pwllheli, Byddwn hefyd yn trafod trefniadau’r oedfa ar fore Sul agoriadol yr eisteddfod.

Am fanylion pellach cysylltwch gyda Aled Davies, Trefnydd Digwyddiadau Cenedlaethol Cytûn 2023, ar 07894 580192 neu aled@ysgolsul.com.

PYTIAU POLISI

Cymorth i addoldai gyda biliau ynni

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu cynllun ar gyfer cynorthwyo cwsmeriaid annomestig – gan gynnwys addoldai – gyda’u biliau ynni ar gyfer Ebrill 2023 – Mawrth 2024. Gellir gweld y cyhoeddiad yma – https://www.gov.uk/guidance/energy-bills-discount-scheme (Saesneg yn unig). I’r rhan fwyaf o gwsmeriaid fe drefnir – yn awtomatig trwy eu biliau ynni – gostyngiad yn y pris fesul uned a godir. Dangosir manylion y gostyngiad trwy’r ddolen uchod, ac fe ddylai cyflenwyr ynni yrru cadarnhad i bob cwsmer cyn diwedd mis Mawrth 2023. Mae yna rai amodau o ran y math o gytundeb sydd gan y cwsmer â’r cyflenwr. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn golygu y bydd cost ynni fesul uned yn codi o Ebrill 2023 o’i gymharu â’r taliadau presennol, ond bydd o hyd yn llai na phris y farchnad.

Bydd nifer fach o addoldai yn gymwys hefyd ar gyfer gostyngiad ychwanegol trwy gynllun ETTI (Energy and Trade Intensive Industries), os ydynt yn safle neu’n adeilad hanesyddol neu yn atyniad i ymwelwyr; neu yn cynnal llyfrgell, archifdy neu amgueddfa. Bydd angen gwneud cais am y cymorth ychwanegol hwn, ac nid yw’r dull ymgeisio wedi ei gyhoeddi eto.

Yn anffodus, nid oes gan Cytûn yr adnoddau i gynghori addoldai unigol ar eu sefyllfa – dylid cysylltu â’r cyflenwr ynni – ond rydym yn falch i’r achos a roesom gerbron Llywodraeth y DU, gyda chymorth gwybodaeth gan nifer o eglwysi lleol, wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth.

Datgarboneiddio economi Cymru

Mynychodd Cytûn ddiwrnod hynod ddiddorol a drefnwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) am heriau datgarboneiddio economi Cymru, a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023. Mae llif byw’r digwyddiad a recordiadau o’r sesiynau cyfochrog bellach ar gael ar sianel YouTube WCPP –
https://bit.ly/WCPPDecarbEventPlaylist

Mae Cytûn yn argymell yn enwedig y sesiwn clo dan arweiniad Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru. Mae cyfraniad Dr Williams yn dechrau am 5:49 ar y fideo YouTube. Cymharodd ein methiant i ddatgarboneiddio â’r anhawster o dorri dibyniaeth – rydym yn gaeth, meddai, i dwf carbon. Credai mai rhan o dorri’r caethiwed fydd creu gweledigaeth ddychmygus o well dyfodol.

Coffáu cyhoeddus yng Nghymru

Yn dilyn dadleuon diweddar am gerfluniau a chofebau, gan gynnwys rhai mewn eglwysi, enwau strydoedd ac ati, mae Llywodraeth Cymru (trwy Cadw) wedi penderfynu datblygu canllawiau ar goffáu cyhoeddus yng Nghymru. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau tan 21 Chwefror. Mae Cadw yn awyddus i eglwysi a chymunedau ffydd eraill ymateb. Bydd Cytûn yn croesawu cyfraniadau i’n hymateb ninnau erbyn 14 Chwefror (e-bost gethin@cytun.cymru ), ac rydym yn annog aelod eglwysi a mudiadau hefyd i gyfrannu i’r drafodaeth.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 26 2023. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fawrth 31 2023.
Ymddiheurwn na fu’n bosibl cyhoeddi rhifyn Rhagfyr/Ionawr.