Mae ymchwiliad Covid 19 y DU, dan arweiniad y Farwnes Hallett, wedi dechrau ar ei waith. Ceir manylion llawn ar y wefan yma. Bydd yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ym mis Mehefin 2023. Mae’n rhannu ei waith yn ‘fodiwlau’ ar wahân sy’n ymdrin â gwahanol bynciau.

Dyma’r modiwlau a gyhoeddwyd hyd yma:

1. Pa mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig.

2. Llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau ar gyfer y DU. Bydd yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau’r llywodraeth ganolog, perfformiad y gwasanaeth gwleidyddol a sifil yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas â llywodraethau yn y gweinyddiaethau datganoledig a’r sectorau lleol a gwirfoddol. Bydd Modiwl 2 hefyd yn asesu’r penderfyniadau a wneir am fesurau nad ydynt yn rhai fferyllol (cloeon i lawr a chyfyngiadau eraill) a’r ffactorau a gyfrannodd at eu gweithredu.
Ym Modiwl 2, bydd Modiwl 2B yn canolbwyntio’n arbennig ar Gymru. Mae gwrandawiadau rhagarweiniol eisoes wedi’u cynnal – gweler https://covid19.public-inquiry.uk/cy/document/module-2b-provisional-outline-of-scope/ Mae tystiolaeth lafar yn debygol o ddechrau ym mis Chwefror 2024; bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig mewn da bryd cyn hynny.

3. Ymateb y llywodraeth a chymdeithas i Covid-19 a’r effaith a gafodd y pandemig ar systemau gofal iechyd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys llywodraethu gofal iechyd, gofal sylfaenol, ôl-groniadau’r GIG, effeithiau rhaglenni brechu ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ogystal â diagnosis a chymorth Covid Hir.

Bydd modiwlau pellach yn cwmpasu:

• Brechlynnau, therapiwteg a thriniaethau gwrthfeirysol

• Y sector gofal

• Caffael gan y llywodraeth a PPE

• Profi ac olrhain

• Ymatebion busnes ac ariannol y Llywodraeth

• Anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19

• Addysg, plant a phobl ifanc

• Gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys darpariaeth rheng flaen gan weithwyr allweddol

Mae’n rhaid i sefydliadau sydd am gyflwyno tystiolaeth gael caniatâd yr Ymchwiliad – ni fydd cais cyffredinol am dystiolaeth. Mae cyfranogwyr craidd (y rhai a fydd â hawl awtomatig i gyflwyno tystiolaeth) wedi’u neilltuo ar gyfer y modiwlau cynnar. Nid yw wedi bod yn ymarferol i eglwysi geisio statws o’r fath gan ei fod yn golygu llawer iawn o waith a chael cynrychiolaeth gyfreithiol. Bellach mae’r Ymchwiliad wedi cytuno derbyn tystiolaeth gan grwpiau ffydd ar gyfer Modiwl 2B (gweithrediadau a rheoliadau Llywodraeth Cymru a’u heffaith) trwy gyfrwng Cytûn a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru. Mae’n ymddangos yn annhebygol iawn y bydd enwadau neu grwpiau ffydd unigol yn cael caniatâd i gyflwyno tystiolaeth yn uniongyrchol.

Er mwyn ei gyflwyno yn amserol i’r Ymchwiliad, fe fydd angen i Cytun (trwy law Gethin Rhys gethin@cytun.cymru) dderbyn tystiolaeth gan enwadau a mudiadau am y materion ym Modiwl 2B erbyn 15 Medi 2023 fan bellaf. Fe all hyn gynnwys astudiaethau achos gan gynulleidfaoedd unigol os y dymunir, gan y bydd hynny yn darlunio realiti ar lawr daear yn well na datganiadau cyffredinol. Fe fydd cyfleon eraill yn y dyfodol i gyflwyno tystiolaeth i Fodiwlau eraill – megis ein cyfraniad i helpu pobl yn ymarferol yn ystod y pandemig. Os yw hi’n rhwyddach i ddanfon eich tystiolaeth mewn un swp, fe fyddwn ni yn ei ddosbarthu yn gywir rhwng y modiwlau.

Cyflwyno tystiolaeth gan unigolion

Gall unigolion (ond nid sefydliadau) sy’n dymuno rhannu eu profiadau personol eu hunain wneud hynny’n uniongyrchol i’r ymchwiliad trwy gynllun Every Story Mattershttps://share.covid19.public-inquiry.uk/s/your-experience/

Mae Jen Wingate o WSA Community a Just Ideas, sy’n rhan o dîm ehangach dan arweiniad Ipsos sy’n cynnal y cynllun hwn, wedi cysylltu â ni. Mae hi’n dweud:

Mae WSA a Just Ideas yn sefydliadau annibynnol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, sy’n hwyluso a chefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar y gymuned i sicrhau newid cadarnhaol. Ein rhan ni yn Every Story Matters yw gwrando a rhoi llais i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig. Rydym yn cefnogi tîm Ymchwiliad Covid i ddysgu am ystod o brofiadau a’r materion a effeithiodd arnynt yn ystod Covid. Am y tro rydym yn cefnogi modiwl 3 sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd yn ystod y pandemig ac felly rydym yn awyddus i glywed llais y rhai fu’n rhoi ac yn derbyn gofal iechyd gydag ystod o brofiadau, gan gynnwys caplaniaid ysbyty. Rydym yn cynnig ychydig o dalebau siopa i bawb sy’n cymryd rhan yn y cyfweliadau llawn i gydnabod eich amser. Bydd cefnogaeth hefyd ar gael i unrhyw un sy’n cymryd rhan gan ein bod yn gwybod y gall fod yn anodd gofyn i chi rannu eich stori. [fy mhwyslais i].
Gellir cysylltu â Jen yn: jen@wsacommunity.co.uk

Gethin Rhys 19.04.2023