LLYWODRAETH NEWYDD I GYMRU GYDA PHWYSLAIS AR NEWID HINSAWDD A CHYFIAWNDER CYMDEITHASOL

Llun: Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/aelodaur-cabinet-gweinidogion
Yn cynnwys gwybodaeth y sector cyhoeddus wedi ei thrwyddedu dan y Drwydded Llywodraeth Agored v3.0

Wrth gyhoeddi enwau aelodau Llywodraeth newydd Cymru yn dilyn etholiad Mai 2021, fe bwysleisiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, mai’r flaenoriaeth gyntaf fyddai adfer Cymru wedi pandemig Covid-19. Ond penderfynodd hefyd ad-drefnu’r llywodraeth i roi pwyslais amlycach ar ddwy flaenoriaeth tymor-hir, sef yr argyfwng hinsawdd a natur, a chyfiawnder cymdeithasol.

Cyn y cyhoeddiad, roedd swyddogion materion cyhoeddus rhai o aelod enwadau Cytûn wedi ysgrifennu at Mr Drakeford i’w longyfarch, ac i awgrymu (ymysg pethau eraill) y ddau bwyslais hyn. Er nad yw’r swyddogion hynny am hawlio’r clod am y penderfyniad, maent yn ei groesawu.

Fe amlygir y pwyslais ar newid hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth gan greu adran gwbl newydd yn Llywodraeth Cymru, fydd yn tynnu at ei gilydd feysydd gwaith fu gynt wedi eu gwasgaru ar draws adrannau eraill. Yn gryno, dyma nhw:

•   Tai, seilwaith a chynllunio
•   Cysylltedd digidol, adfywio trefol a chanol trefi, rhandiroedd a seilwaith gwyrdd trefol (mae gan Lywodraeth Cymru darged o 30% ar ôl gweithio o bell ar ôl y pandemig, gyda hybiau gwaith wedi’u sefydlu mewn trefi llai o faint ledled Cymru i leihau cymudo i’r dinasoedd mawr)
•   Cludiant a theithio egnïol
•   Cynllunio morol a dŵr croyw, bioamrywiaeth, cadwraeth a thrwyddedu
•   Polisi tir (er bod amaethyddiaeth yn parhau i fod o dan y Gweinidog Materion Gwledig)
•   Polisi ynni (cynhyrchu ynni ar raddfa fach a chanolig ac effeithlonrwydd ynni)
•   Targedau lleihau allyriadau a chyllidebau carbon
•   Rheoli Adnoddau Naturiol a pholisi coedwigaeth
•   Lliniaru ac addasu mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys dŵr; draenio tir; risg llifogydd mewndirol ac arfordirol; a rheoli llygredd morol ac aer
•   Polisi bioamrywiaeth, amddiffyn a rheoli bywyd gwyllt
•   Rheoli adnoddau a gwastraff yn gynaliadwy
•   Ansawdd yr amgylchedd lleol, gan gynnwys sbwriel a rheoleiddio sŵn
•   Parciau Cenedlaethol (ond mae twristiaeth yn parhau i fod yn rhan o bortffolio’r Economi)

Y Gweinidog Newid Hinsawdd newydd yw Julie James AS gyda Lee Waters AS yn Ddirprwy Weinidog. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei chyfyngu gan y setliad datganoli sy’n cadw’n ôl i San Steffan bwerau ynghylch cynhyrchu ynni ar raddfa fawr, seilwaith rheilffyrdd, hawliau eiddo a masnach ryngwladol – gan gynnwys y cytundebau masnach newydd ar ôl Brexit – sy’n golygu nad yw rhai meysydd polisi allweddol o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Yn nhymor y Senedd sydd i ddod, bydd biliau’n cael eu cyflwyno ar gyfer Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, ac Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol, i ddisodli’r pwerau dros dro i Weinidogion Cymru sydd wedi’u cynnwys yn neddfwriaeth San Steffan wedi Brexit ar y pynciau hyn (gohiriwyd deddfwriaeth Cymru oherwydd Covid) . Bydd Bil Aer Glân hefyd yn cael ei gyflwyno yn 2022 yn dilyn y Papur Gwyn diweddar.

Yr ail bwyslais yw Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda Jane Hutt AS yn Weinidog a Hannah Blythyn AS yn Ddirprwy Weinidog. Bydd eu portffolio nhw yn cynnwys (yn gryno):

  • Cydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi
  • Cynhwysiant digidol ac ariannol, gan gynnwys undebau credyd a Banc Cymunedol Cymru
  • Diwygio Lles
  • Rhaglen Cymru ac Affrica
  • Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Cydlynu materion yn ymwneud â sipsiwn, Roma a theithwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a chydlyniant cymunedol
  • Atal caethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol
  • Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli
  • Cyfiawnder, troseddu, carchardai a’r heddlu (i’r graddau y maent wedi eu datganoli)
  • Materion sy’n ymwneud â Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol yng Nghymru
  • Y berthynas â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
  • Y Cyflog Byw a Gwaith Teg

Bydd Cytûn yn gwylio datblygiad y ddwy adran newydd hyn gyda chryn ddiddordeb, ac yn awyddus i’r eglwysi gael llais yn y datblygiadau hyn. Fe fyddwn hefyd yn monitro, ar ran ein haelod eglwysi a mudiadau, deddfwriaeth a datblygiadau polisi mewn meysydd polisi eraill, gan gynnwys addysg (gweler tud. 5) a’r iaith Gymraeg; iechyd a gofal cymdeithasol; a diwylliant a’r celfyddydau.

RHAGLEN NEWYDD LLYWODRAETH SAN STEFFAN

Mae’n anarferol fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Du yn cyhoeddi rhaglenni newydd yr un pryd, ond dyna ddigwyddodd yn dilyn etholiad Senedd Cymru ar Fai 6 ac Araith y Frenhines yn San Steffan ar Fai 11. Yna, ar Fai 20, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun i Gymru 2021.

Mae rhaglen Llywodraeth y DU yn rhannu â rhaglen Llywodraeth Cymru flaenoriaeth ar adferiad wedi Covid-19 ac ymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd – er bod llawer llai o sôn am yr argyfwng bioamrywiaeth gan Lywodraeth y DU. Mae Cynllun i Gymru 2021 yn pwysleisio rôl Llywodraeth y DU o ran buddsoddi mewn diwydiannau all helpu gyda datgarboneiddio a lliniaru technolegol ar effaith newid hinsawdd. Mae’r cynllun hefyd yn cyfeirio at waith Llywodraeth y DU mewn meysydd eraill o fewn ei chyfrifoldebau, megis rheilffyrdd, darlledu yn Gymraeg (trwy S4C a’r BBC), a chyfraniad y diwydiant amddiffyn i economi Cymru.

Yn nodedig o absennol o raglen Llywodraeth y DU mae unrhyw gyfeiriad at gyfiawnder cymdeithasol. Mae yna wybodaeth am gronfeydd y DU sydd yn graddol gymryd lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yr arferid eu gwario yng Nghymru, ond y pwyslais yw ar eu rôl o ran hybu’r economi, seilwaith a chyflogadwyedd. Bu Gweithgor Cytûn am Gymru ac Ewrop yn derbyn gwybodaeth a thrafod y cronfeydd hyn yn ei gyfarfod ar Fai 24. Mynegwyd cryn bryder am y diffyg ymgynghori ag asiantaethau sy’n derbyn y grantiau hyn ar hyn o bryd (megis yn arbennig Byddin yr Iachawdwriaeth o blith aelodau Cytûn) a hefyd gyda’r trydydd sector ehangach a Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu rhoi rôl arbennig i awdurdodau lleol o ran ymgeisio am y cronfeydd hyn, a bydd gan Aelodau unigol Senedd San Steffan ddylanwad ar y dyraniad hefyd, gan godi pryderon am ddylanwad pleidiol ar y gwariant.

Roedd Araith y Frenhines yn cynnwys rhagflas o nifer o ddeddfau fydd yn cael eu cyflwyno yno a fydd o ddiddordeb i eglwysi yng Nghymru. Yn eu plith y mae:

  • Diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, o ran cadw pobl yn gaeth ac o ran trin pobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.
  • Sefydlu’r Advanced Research and Invention Agency (ARIA) ar gyfer hybu ymchwil technolegol, gan ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru i sicrhau mai i Lywodraeth y DU yn unig y bydd yn atebol.
  • Parhau â’r broses o gyflwyno rheoliadau newydd yn dilyn gadael yr UE, gan gyflwyno trefniadau ledled y DU o ran rheoli cymorthdaliadau cyhoeddus i fusnesau, rheolau caffael cyhoeddus a chydnabod cymwysterau proffesiynol. Mae’r rhain oll yn ymwneud â materion datganoledig, ac fe all y byddant yn brawf ar gymhwyster y naill Senedd a’r llall yn dilyn pasio Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.
  • Cyflwyno bil i’w gwneud hi’n anghyfreithlon i rwystro cyflenwadau olew (er enghraifft trwy brotestio), a pharhau â Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd fydd (ymysg llawer o bethau eraill) yn rhoi mwy o bwerau i’r heddlu atal neu gyfyngu ar brotestiadau sy’n effeithio ar y cyhoedd.
  • Atal awdurdodau cyhoeddus (ar wahân i Lywodraeth y DU) rhag cyflwyno polisïau yn boicotio neu’n dad-fuddsoddi o wledydd neu ddiwydiannau neilltuol.
  • Deddfwriaeth newydd am fewnfudo i’r DU, yn cyfyngu ar hawliau pobl i ofyn am loches os daethant trwy wledydd diogel eraill a chyfyngu ar apeliadau gan bobl wedi gwrthod eu cais.
  • Biliau i wella diogelwch yr unigolyn arlein, a diogelu’r system delathrebu rhag bygythiadau allanol.
  • Diwygio cyfraith prydlesi – hen asgwrn cynnen yng Nghymru – yn dilyn adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith. Roedd addewid tebyg ym Maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad Senedd Cymru, felly bydd angen i’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth fod yn gydnaws â’i gilydd.
  • Bil yn cyfyngu ar yr amgylchiadau lle y gellir ceisio adolygiad barnwrol o benderfyniadau gan awdurdodau cyhoeddus.
  • Bil yn mynnu dangos dogfen adnabod er mwyn pleidleisio, a bil yn adfer gallu Prif Weinidog y DU i alw Etholiad Cyffredinol San Steffan heb bleidlais Seneddol.

Bydd Cytûn yn monitro’r rhain, a deddfau eraill San Steffan perthnasol i Gymru, ar ran yr eglwysi.

Mavis Martin yn arloesi Caplaniaeth Anna ym Mhenybont

Cafodd Mavis Martin ei chomisiynu fel Caplan Anna newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a’r Caplan Anna cyntaf ar gyfer yr enwad Pentecostaidd, Assemblies of God, sydd newydd ymuno â Cytûn.

Mae Caplaniaeth Anna yn darparu ffordd o gefnogi pobl hŷn yn emosiynol ac yn ysbrydol. Enwir Caplaniaid Anna ar ôl y weddw, Anna, sy’n ymddangos gyda Simeon yn efengyl Luc (pen.2); mae’r ddau yn enghreifftiau arbennig o bobl hŷn a ffyddlon. Mae Caplaniaid Anna yno ar gyfer pobl o ffydd gref, ychydig neu ddim ffydd o gwbl.

Ymunodd Arweinydd Caplaniaeth Anna yng Nghymru, y Parchg Sally Rees, â theulu Mavis ’a doethion yn y gynulleidfa yn ei heglwys leol, Eglwys Emmanuel Christ, Pen-y-bont ar Ogwr (yn y llun isod gyda’r Parchg Hilary Pritchard, caplan yr ysbyty, a’r bugail Vernon King).

‘Roedd yn hyfryd bod gyda Mavis Martin ar gyfer ei chomisiynu fel Caplan Anna Pen-y-bont ar Ogwr,’ meddai Sally. ‘Fe’i comisiynwyd gan ei gweinidog, Vernon King. Rhoddais yr anerchiad, gan bregethu ar Marc 12: 42–44 – stori’r weddw a’i darn bach o arian. Roedd i gyd yn ddathliad gwych o weinidogaeth Caplaniaeth Anna. Mae teulu ei heglwys yn gynnes a chefnogol iawn, ’meddai Sally.

Symudodd Mavis o Belffast i Dde Cymru ym 1972. Bu ganddi erioed gariad a baich am y rhai sy’n fregus ac wedi’u heithrio o’r gymdeithas yn gyffredinol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar ôl gwirfoddoli yn y tîm caplaniaeth yn ei hysbyty lleol, datblygodd ‘angerdd llwyr dros yr henoed ac yn enwedig y rhai sy’n cerdded ar eu taith â dementia. Fel Hyrwyddwr Dementia agorodd Duw ddrysau imi ymweld â chartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan wneud sesiynau “crefft a chymundeb” yn ychwanegol at y sesiynau ‘Ymennydd ac Enaid’ gyda chaplan yr ysbyty.’ Cyflwynodd y caplan Mavis i Gaplaniaeth Anna. O’r diwedd, dechreuodd hyfforddi ar-lein eleni, gyda chefnogaeth ei gweinidog a’i heglwys leol, ac mae’n falch iawn ei bod wedi’i chomisiynu fel Anna Caplan ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

‘Credaf ‘mod i bellach o fewn ewyllys berffaith Duw ar gyfer fy mywyd a mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddangos ei gariad i’r genhedlaeth oedrannus werthfawr yw eu gwasanaethu fel Caplan Anna.’

Gweddi Caplaniaeth Anna

Dduw ffyddlon, rwyt ti wedi addo yng Nghrist y byddi gyda ni hyd ddiwedd amser.
Der yn agos at y rhai sydd wedi byw yn hir ac wedi profi llawer.
Cynorthwya nhw i barhau i fod yn ffyddlon ac, o fewn teyrnas Dduw sydd ar gyfer pob oedran,
dod o hyd i ffyrdd o barhau i roi a derbyn dy ras, o ddydd i ddydd.
Er dy ogoniant Di a’th deyrnas. Amen

Gwasanaeth gwrando newydd i ofalwyr

Mae Gofalwyr Cymru wedi lansio gwasanaeth cymorth emosiynol dwyieithog newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl. Bydd y Gwasanaeth Cymorth Gwrando ffôn newydd yn cynnig cyfle i ofalwyr di-dâl sgwrsio â rhywun sy’n deall heriau gofalu. Mae llawer o ofalwyr yn nodi, yn ystod y pandemig, iddynt deimlo eu bod “wedi eu hynysu”, “wedi eu taflu i’r dyfnderoedd” a bod disgwyl iddynt fwrw ymlaen heb fawr o gefnogaeth, os o gwbl. Bydd y gwasanaeth newydd felly yn cynnig gofod sydd mawr ei angen ar ofalwyr i gymryd amser i siarad â rhywun sy’n deall.

Gall gofalwyr gofrestru ar-lein ar gyfer y gwasanaeth yma. Yna bydd y gwrandawyr hyfforddedig yn gwneud cyfres o alwadau ffôn i’r gofalwr, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol a chlust i wrando, i gefnogi’r gofalwr ble bynnag y maent ar eu taith o ran gofalu.

Mae’r gwasanaeth wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru hyd at Fawrth 2023.

YMGYNGHORI ETO AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Gyda Medi 2022 – dyddiad cychwyn cwricwlwm newydd ysgolion Cymru ar gyfer pob plentyn hyd at flwyddyn 7 – mae llawer o waith eto i’w wneud.

Ar Fai 21 fe lansiodd Llywodraeth Cymru dim llai nag wyth ymgynghoriad am ganllawiau a chodau manwl sydd eu hangen i weithredu’r cwricwlwm. Mae dau o’r wyth maes yn rhai y bu Cytûn a’n haelod eglwysi a mudiadau yn ymwneud yn agos â nhw ar hyd y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r canllawiau drafft ar gyfer cynllunio ac addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cynnig arweiniad i athrawon ynghylch sut i ymdrin â dysgu am Gristnogaeth (sy’n cael ei chydnabod yn y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu fel prif draddodiad crefyddol Cymru), crefyddau eraill ac argyhoeddiadau anghrefyddol (megis dyneiddiaeth). Nid o fewn gwersi penodol yn unig y gwneir hyn yn y dyfodol, ond fel rhan o gwricwlwm llawer mwy cydlynus, wedi ei ddyfeisio gan bob ysgol leol ar sail maes llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi ei fabwysiadu gan Gynhadledd Maes Llafur sirol. Mae’r Gynhadledd honno yn cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod addysg lleol, athrawon a grwpiau crefyddol ac athronyddol ar sail eu cryfder yn lleol.

Rydym yn croesawu’n fawr yr arweiniad ar gynnig “profiadau cyfoethog” i blant o fewn y pwnc hwn, a’r ddau awgrym cyntaf ar gyfer profiadau o’r fath yw:

  • ymgysylltu â chymunedau lleol crefyddol ac anghrefyddol, mewn ffyrdd y bydd y dysgwyr yn eu mwynhau ac yn eu cofio
  • chwarae rôl a chymryd rhan mewn gweithgareddau megis dathliadau neu ddigwyddiadau ail-greu, neu arsylwi arnynt (tud. 22 y ddogfen ymgynghorol)

Mae hyn yn cynnig cyfle arbennig i eglwysi (a chrefyddau a mudiadau eraill) i ymgysylltu â’u hysgolion lleol i gynnig cymorth a chyfleusterau ar gyfer meithrin profiadau o’r fath.

Mae’r côd a’r canllawiau drafft ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cynnig arweiniad ar sut i ddysgu’r pynciau sensitif hyn. Unwaith eto, rhagwelir y digwydd hynny nid yn unig mewn gwersi neilltuol ond ar draws y cwricwlwm. Braf gweld yn y drafft hwn ambell gyfeiriad at bwysigrwydd daliadau crefyddol a chymunedau o ran ffurfio dealltwriaeth yn y meysydd hyn, ac at bwysigrwydd magu parch a pharodrwydd i ddeall daliadau gwahanol.

Mae’r chwech ymgynghoriad arall yn ymwneud ag:

  • Addysgu plant ifanc iawn trwy chwarae cyn cyrraedd y cwricwlwm ffurfiol
  • Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin preifat
  • Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith
  • Cod Cynnydd drafft
  • Cod drafft o’r hyn sy’n bwysig – sef y datganiadau creiddiol i bob maes yn y cwricwlwm
  • Y fframweithiau sgiliau trawsgwricwlaidd (rhifedd, llythrennedd, cymhwysedd digidol)

Yn ystod taith y Bil (a ddaeth yn Ddeddf) Cwricwlwm ac Asesu drwy Senedd Cymru, fe weithiodd Cytûn yn agos gyda’n haelod eglwysi a mudiadau i sicrhau nifer o newidiadau. Yn eu plith oedd:

  • Sicrhau nad oedd gan grwpiau anghrefyddol lais anghymesur ar Gynghorau Statudol Ymgynghorol dros Addysg Grefyddol nac yn y cynadleddau Meysydd Llafur
  • Cydnabod statws Gweithredoedd Ymddiriedolaethol ysgolion eglwysig wrth bennu eu cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
  • Sicrhau ymgynghori parhaus â grwpiau crefyddol wrth lunio’r cwricwlwm.

Mae’n sicr y bydd aelod eglwysi a mudiadau Cytûn am astudio’r drafftiau hyn yn ofalus ac ymateb iddynt erbyn y dyddiad cau, sef 16 Gorffennaf 2021, a gall unigolion hefyd – gan gynnwys plant, rhieni ac aelodau’r cyhoedd – fynegi eu barn.

95% o’r RHAI A GYFEIRIWYD I FANCIAU BWYD YN DDIYMGELEDD

Mae Trussell Trust, y rhwydwaith Banc Bwyd mwyaf yn y DU, sy’n derbyn cefnogaeth eang gan aelod eglwysi Cytûn, wedi rhyddhau adroddiad newydd sy’n datgelu’r tlodi eithafol wynebai pobl oedd wedi eu cyfeirio at fanciau bwyd yn union cyn y pandemig. Ledled y DU, dim ond £248 y mis ar gyfartaledd oedd gan y bobl hyn i oroesi ar ôl costau tai. Mae angen i’r arian hwnnw dalu costau ynni a dŵr, treth y cyngor, bwyd a hanfodion eraill.

Mae’r adroddiad newydd hwn yn rhan o State of Hunger, yr astudiaeth fwyaf erioed i newyn a defnydd banciau bwyd yn y DU. Wedi’i gynnal gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Heriot-Watt, mae’n helpu i ddeall graddfa newyn ac amddifadedd yn y DU a dysgu sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i adeiladu dyfodol heb newyn.

Dywedodd Emma Revie, Prif Weithredwr Trussell, “Fe wyddom y gallwn ni newid hyn. Mae angen i ni newid y sgwrs ynghylch tlodi a gweithredu ar y cyd. Mae arnom angen i’r llywodraeth ar bob lefel ymrwymo i ddileu’r angen am fanciau bwyd unwaith ac am byth a datblygu cynllun i wneud hynny. Mae’n bryd i’r Llywodraeth wneud hyn yn flaenoriaeth – cydnabod bod yn rhaid iddi fod yn rhan hanfodol o’u hagenda codi’r gwastad (levelling up) i weithio tuag at ddyfodol heb newyn lle gallwn ni i gyd fforddio’r pethau sylfaenol. “

COFRESTRWCH EICH OEDFA SUL YR HINSAWDD CYN MEDI 5

Gyda chynhadledd ryngwladol COP26 yn Glasgow yn agosáu ym mis Tachwedd, pan fydd gwledydd y byd yn trafod atal newid hinsawdd, mae’n amser allweddol i eglwysi ddangos cymaint eu baich am gread Duw. Mae partneriaeth Sul yr Hinsawdd, sy’n cynnwys eglwysi a mudiadau Cristnogol ledled Prydain ac Iwerddon, yn annog cynulleidfaoedd nad ydynt eisoes wedi cynnal eu gwasanaeth i bennu dyddiad nawr.

Meddai Gethin Rhys, sy’n aelod o Grŵp Llywio Sul yr Hinsawdd, “Mae Cadeirlan Glasgow wedi’i bwcio ar gyfer oedfa fawr i’w ffrydio’n fyw ar brynhawn Medi’r 5ed, lle byddwn yn dweud wrth Lywodraeth y DU faint o eglwysi sydd wedi ymuno. Felly hyd yn oed os ydych yn bwriadu cynnal eich oedfa wedi’r dyddiad hwnnw, cofrestrwch eich gwasanaeth cyn Medi 5, er mwyn i chi gyfri’!”

Ychwanegodd Gethin, “Dylai eich oedfa Sul yr Hinsawdd gynnwys cyfle i ymrwymo i wneud yr hyn a allwch i wella eich amgylchedd leol eich hun fel cynulleidfa, trwy EcoChurch neu Live Simply, a hefyd cyfle i lofnodi’r cyd-ddatganiad cyffredin Nawr yw’r Amser, dan nawdd Clymblaid yr Hinsawdd, sy’n cynnwys myrdd o sefydliadau ar draws y gymdeithas. Efallai y bydd eglwysi hefyd am ychwanegu eu llais at fudiad Climate Cymru.” Mae yna gyfoeth o ddeunydd addoli yn Gymraeg a Saesneg, a llawer mwy o wybodaeth, ar wefan Sul y Hinsawdd.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Sylwer bod Gethin yn cwblhau ei sabothol (a ohiriwyd yn rhannol oherwydd Covid) ac yn cymryd gwyliau byr o Fai 27 – Gorffennaf 4, felly ni fydd ar gael i ddelio â gohebiaeth nac ymholiadau.

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL
Yn ystod cyfnod yr argyfwng, yn gweithio gartref. Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2021. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 21 Gorffennaf 2021.