Mae Cytûn wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector ffoaduriaid yng Nghymru mewn ymateb i’r sefyllfa yn Afghanistan. Gydag eraill, mae cynnydd yn cael ei wneud o ran darparu ymateb strategol. Efallai y bydd y rhai sy’n dymuno cynnig cymorth ariannol am gyfrannu at elusennau ffoaduriaid yng Nghymru sydd eisoes yn gweithio gyda ffoaduriaid o Afghanistan. Ceir manylion pellach gan aled@cytun.cymru . Yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yn awr yw tai. Os oes eiddo ar gael, anfonwch fanylion at emma.maher@wlga.gov.uk . Mae Cytûn yn cydweithio â hi.