PANDEMIC YN CYNYDDU’R GOFYN AR FANCIAU BWYD

Mae ffigurau newydd gyhoeddwyd fis Tachwedd  yn datgelu fod banciau bwyd yn rhwydwaith Trussell Trust ar draws Cymru wedi darparu 70,393 o barseli bwyd i bobl yn wynebu argyfwng rhwng Ebrill a Medi eleni. Aeth 25,475 o’r parseli hyn i blant. Mae’r niferoedd hyn yn gynnydd o 21% ar yr un cyfnod llynedd. Cawsant eu dosbarthu gan 117 o ganolfannau ymhob un o 22 awdurdod lleol Cymru. Mae rhwydwaith banciau bwyd Trussell Trust yn dwyn ynghyd gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr o bob ffydd a chred i wneud gwahaniaeth. Mae eglwysi lleol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith, trwy roi bwyd a darparu lleoliadau, gwirfoddolwyr a chefnogaeth ariannol i’r banciau bwyd.

Tra bod y rhifau yn dangos yr angen cynyddol, mae Trussell Trust yn rhybuddio nad ydynt yn cynnwys y bobl a gafodd help gan fudiadau cymunedol newydd di-ri, banciau bwyd annibynnol ac awdurdodau lleol, sydd wedi camu i’r adwy yn ystod y pandemig i gefnogi eu cymunedau.

Y tri phrif reswm i rywun gael ei gyfeirio at fanc bwyd lleol yn rhwydwaith Trussell Trust yng Nghymru rhwng Ebrill a Medi oedd incwm isel (49%), oedi gyda budd-daliadau (10%) a newidiadau i fudd-daliadau (8%).

Meddai Susan Lloyd-Selby, Rheolwraig Weithredol Cymru gyda Trussell Trust,

“Ledled Cymru, mae dyfalbarhad ein gwirfoddolwyr wedi bod yn gwbl ragorol. Maent wedi bod yn gweithio’n galed o dan amgylchiadau anodd dros ben i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bobl sy’n ei chael hi’n anodd fforddio hanfodion bywyd, gyda chefnogaeth hael eu cymunedau lleol. Ond nid yw’n iawn bod unrhyw un ohonom ni’n cael ein gorfodi i fynd at elusen er mwyn cael bwyd.

“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi croesawu camau hanfodol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i atal pobl rhag cwympo i amddifadedd megis eu hymrwymiad i ariannu prydau ysgol am ddim a chryfhau’r Gronfa Cymorth Dewisol. Mae’n hanfodol bod cefnogaeth ar waith i bobl pan fydd ei hangen arnynt fwyaf.

“Mae’r pandemig hwn wedi taflu goleuni ar y gwahaniaeth a wnawn trwy ddod at ein gilydd – rydyn ni wedi gwneud newidiadau enfawr i’r ffordd rydyn ni’n byw, gweithio a chefnogi ein gilydd. Gyda’n gilydd, gallwn roi diwedd ar yr anghyfiawnder sy’n golygu fod pobl angen banciau bwyd. Gallwn adeiladu dyfodol heb newyn. ”

Ar draws y DU, bu cynnydd mwy nag yng Nghymru yn y defnydd o fanciau bwyd Trussell Trust – 47%. Fe all fod hyn yn adlewyrchu polisïau gwahanol yng Nghymru a maintioli’r ymateb cymunedol. Ond mae Trussell Trust yn dweud i ddefnydd ar fanciau bwyd godi’n barhaus yng Nghymru ers mis Awst, a maent yn poeni y gwelir lefelau uchel o angen dros y gaeaf a’r tu hwnt – yn enwedig gyda diswyddiadau yn uwch nag erioed. Maent yn gofyn i unrhyw un sydd am weld diwedd ar yr anghyfiawnder sy’n peri bod angen banciau bwyd ar bobl i ymuno â’r ymgyrch Hunger Free Future yn trusselltrust.org/hungerfreefuture. Mae’n gofyn i Lywodraeth y DU sicrhau cadw arian ym mhocedi’r rhai sydd ei angen fwyaf trwy:

  • Parhau â’r cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig, a sicrhau fod y sawl sydd ar hyn o bryd wedi eu heithrio rhag hynny, megis pobl sy’n defnyddio’r hen drefn fudd-daliadau, hefyd yn derbyn yr arian hyn.
  • Helpu pobl i ddal gafael ar fwy o’u harian trwy atal didynnu dyledion o fudd-daliadau hyd nes y gellir cyflwyno trefn decach ar gyfer eu had-dalu.

Mae clymblaid o fudiadau ar draws Cymru wedi ffurfio Synnwyr Bwyd Cymru sy’n ymgyrchu am well bwyd i bawb ar draws y wlad, yn ystod y pandemig a’r tu hwnt.

UN PLENTYN AR GOLL BOB AWR YNG NGHYMRU

Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru a Chymdeithas y Plant (sy’n aelod gyda Cytûn) yn datgelu yr adroddir bod plentyn arall yng Nghymru ar goll bob awr. Mae’r adroddiad newydd yn tynnu sylw at sut mae plant a phobl ifanc â phrofiad gofal yn fwy tebygol o gael eu riportio ar goll na’u cyfoedion. Er mai dim ond 1% o boblogaeth y plant oedd yng Nghymru, canfu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth fod 39% o gyfanswm y digwyddiadau plant coll a gofnodwyd gan gynghorau lleol y llynedd yn ymwneud â phlentyn mewn gofal.

Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o fynd ar goll dro ar ôl tro na phlant yn Lloegr, lle mae Cyfweliadau Dychwelyd yn ofyniad cyfreithiol. Heb ymyrraeth effeithiol, mae plant sy’n mynd ar goll unwaith yn debygol iawn o fynd ar goll eto.

Cefnogwyd yr adroddiad gan bob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru, yn ogystal ag elusennau a chyrff cyhoeddus cenedlaethol. Mae’n galw am:

  1. Gwneud Cyfweliadau Dychwelyd Annibynnol yn ofyniad statudol yng Nghymru.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad data plant coll blynyddol i nodi tueddiadau a meysydd i’w gwella. Dylai’r adroddiad hwn ddarparu dadansoddiad o ffactorau ‘gwthio’ a ‘thynnu’, a data ar nifer y Cyfweliadau Dychwelyd a gynigir ac a gynhelir ym mhob ardal awdurdod lleol a heddlu.
  3. Dylai rhieni corfforaethol gomisiynu prosiectau peilot i roi cefnogaeth wedi’i theilwra i blant yr adroddir eu bod ar goll dro ar ôl tro. Dylai’r prosiectau hyn ganolbwyntio ar y plentyn a datblygu arfer gorau wrth atal penodau coll pellach a lleihau niwed.

Dywedodd Tom Davies, Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas y Plant, “Mae gormod o bobl ifanc yng Nghymru sy’n mynd ar goll yn methu derbyn cyfweliad dychwelyd adref. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud Cyfweliadau Dychwelyd yn ofyniad statudol, er mwyn sicrhau bod unrhyw berson ifanc yng Nghymru sy’n mynd ar goll yn gallu siarad am eu profiad a derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. “

GOFALU GWERTHFAWR A CHOSTUS

Mae ymchwil newydd gan Gofalwyr Cymru yn amcangyfrif bod y gofal a ddarperir gan bobl sy’n gofalu am rywun sydd â salwch corfforol neu feddyliol, yn hŷn neu sydd ag anabledd yn ystod y pandemig yn £8.4 biliwn yng Nghymru hyd yn hyn, ar ôl wyth mis yn unig. . Mae hynny’n cyfateb i £33 miliwn y dydd. At hynny, canfu arolwg barn ar gyfer Gofalwyr Cymru fod 91% o oedolion yng Nghymru yn credu bod gofalwyr di-dâl wedi bod yn bwysig yn ystod y pandemig COVID-19, wrth gefnogi teulu neu ffrindiau ag anabledd neu salwch. Fodd bynnag, er gwaethaf gwerthfawrogiad y cyhoedd o’r cyfraniad hanfodol i ofalwyr di-dâl, dim ond 7% oedd yn gwybod bod gan ofalwyr di-dâl hawliau cyfreithiol. Enw’r adroddiad llawn gan Carers UK yw Underseen and Undervalued.

Mae Gofalwyr Cymru yn rhybuddio fod pobl sy’n gofalu bob awr o’r dydd yn fregus ar ôl misoedd o ofalu heb seibiant na’r gefnogaeth angenrheidiol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i:

  • Ymgyrch codi ymwybyddiaeth gyhoeddus ar raddfa fawr i gynyddu ymwybyddiaeth gofalwyr di-dâl a’u hawliau cyfreithiol i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Adnabod gofalwyr yn systematig gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, a chyflwyno dyletswydd newydd ar y GIG i nodi gofalwyr a hybu eu hiechyd a’u lles
  • Lefelau uwch o gymorth ariannol i wasanaethau gofalwyr ar lefel leol.

Mae Gofalwyr Cymru wedi lansio Canllaw Hunan Eiriolaeth a phecyn cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a lansiodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS eu hyfforddiant ar-lein Dysgu ar gyfer Byw ar gyfer gofalwyr, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

LLOCHESI NOS YNG NGHYMRU 2020-21

Mae Covid-19 wedi golygu na all llochesi nos weithredu’n ddiogel, oherwydd y gofod a rennir a’r cyfleusterau ymolchi. At hynny, mae defnyddio gwirfoddolwyr a chylchdroi lleoliadau yn dod â risg pellach i bawb sy’n gysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi nodi’n glir eu hawydd i symud i ffwrdd o lochesi nos yn barhaol. Maent wedi mynnu bod yn rhaid i bob llety brys roi eu hystafell eu hunain gyda chyfleusterau golchi i bob unigolyn, ac mae blaenoriaethu angen wedi’i ddileu, gan olygu bod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ail-gartrefu pawb. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd maent wedi darparu cyllid sylweddol fel y gall Awdurdodau Lleol brynu neu adeiladu mwy o lety brys o ansawdd gwell i bobl sy’n profi digartrefedd.

Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n llochesi nos eglwysig, lle byddai’n rhaid i unigolion adael y lleoliad ar ôl brecwast, i ddod o hyd i rywle i dreulio’r diwrnod, cyn dychwelyd gyda’r nos. Mae hyn yn arbennig o heriol i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi gan nad oes ganddyn nhw rwydweithiau cymorth yn aml i dreulio amser gyda nhw yn ystod y dydd neu leoedd fforddiadwy i fynd sy’n ddiogel ac yn gynnes.

O ystyried cryfder y camau a gymerwyd gan ein Llywodraeth yng Nghymru, mae’n golygu y gallwn ni, ynghyd â grwpiau gwirfoddol ffydd a chymunedol, symud ein hymdrechion a’n hadnoddau i fyny’r afon – i atal yr angen. Gellir dadlau mai atal digartrefedd yw’r peth doeth – darparu gwialen bysgota yn y lle cyntaf, yn hytrach na physgodyn unwaith y byddant eisoes mewn argyfwng.

O ganlyniad, yn Housing Justice Cymru, ni fyddwn yn rhedeg nac yn cefnogi unrhyw lochesi nos eleni. Yn lle hynny rydym wedi datblygu ein prosiect Citadel, sy’n canolbwyntio ar roi’r offer a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar unigolion i ddelio â’r pwysau sy’n eu gwthio tuag at ddigartrefedd. Mae Citadel yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ddarparu cefnogaeth wedi’i theilwra i’r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref trwy eu helpu i sefydlu a chynnal eu tenantiaeth. Gallai hyn fod yn gefnogaeth ymarferol, fel cofrestru gyda meddyg teulu neu gael mynediad i’r banc bwyd. Gall hefyd fod yn gefnogaeth emosiynol barhaus, yn cysylltu pobl â’u cymuned a helpu i fagu hyder a gwytnwch. Mae Citadel yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner i sicrhau bod yr holl wasanaethau’n gysylltiedig.

Mae’r pandemig wedi newid y ffordd y mae Cymru yn ymateb i ddigartrefedd, ac mae gwasanaethau bellach ar waith fel nad oes rhaid i unrhyw un fod ar y strydoedd. Os ydych chi’n ymwybodol o rywun yn cysgu allan, helpwch nhw i gael mynediad i’w tîm opsiynau tai yn eu Hawdurdod Lleol a’u hannog i ymgysylltu â’r gefnogaeth sydd ar gael. Os ydych chi neu’ch eglwys neu’ch cymuned eisiau helpu’n bersonol, gallwch weddïo, gwirfoddoli, codi arian ar gyfer sefydliadau sy’n gwneud gwaith ataliol, neu gyfrannu atynt. Mae’n hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, nad ydym yn cynnal pobl ar y strydoedd. Mae bwyd, cefnogaeth a llety ar gael.

I gael mwy o wybodaeth ar sut y gallwch chi helpu neu gymryd rhan gyda Citadel, ewch i www.HousingJustice.org.uk/Citadel

Bonnie Navarra, Housing Justice Cymru

Newidiadau i’r rheolau ar gyfer gwiriadau DBS

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi cyhoeddi newidiadau i’r ‘rheolau hidlo’ ar gyfer gwiriadau DBS. O 28 Tachwedd, bydd y DBS yn newid y rheolau hidlo sy’n pennu pa droseddau o’r gorffennol sy’n ymddangos ar dystysgrif DBS. Ar gyfer swyddi a rolau gwirfoddol sydd angen gwiriad cofnodion troseddol safonol neu fanylach gan y DBS:

  • bydd rhybuddiadaua dderbynnir ar ôl 18 oed yn cael eu hidlo ar ôl chwe blynedd
  • bydd euogfarnaua bennir ar gyfer unigolion o dan 18 oed yn cael eu hidlo ar ôl pum mlynedd a hanner
  • bydd euogfarnau ar gyfer unigolion dros 18 oed yn cael eu hidlo ar ôl 11 mlynedd
  • ni fydd euogfarnau sy’n arwain at gyfnod mewn carchar neu ddedfryd ohiriedig yn cael eu hidlo ar unrhyw adeg

Nid oes newid i’r rhestr o droseddau difrifol na fydd yn cael eu hidlo ar unrhyw adeg.

NEWID HINSAWDD – CYFRIFOLDEB PWY?

Fe ddynododd Llywodraeth Tachwedd 2-6 – dyddiadau gwreiddiol cynhadledd newid hinsawdd byd-eang COP26 yn Glasgow – yn Wythnos Hinsawdd Cymru, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau arlein. Roedd yn gyfle i bobl ar draws y byd glywed sut mae un genedl fach, trwy ei llywodraeth a’i chymdeithas sifil, yn ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Gallwch weld holl sesiynau’r wythnos ar alw ar https://waterfront.eventscase.com/CY/walesclimateweek/On-demand

Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus cynnwys ymatebion o du ffydd ymysg llawer eraill, felly ar Ddiwrnod 3 (Sesiwn 5) fe gymerodd Swyddog Polisi Cytûn, Gethin Rhys ran, yn enw Sul yr Hinsawdd, mewn trafodaeth banel gyda Chyfeillion y Ddaear, Gwrthryfel Difodiant a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Fe achubodd Sul yr Hinsawdd ar y cyfle hefyd i ail-lansio ei gwefan ar ffurf ddwyieithog – www.climatesunday.org

Teitl y sesiwn oedd Newid yn yr Hinsawdd – pwy sy’n gyfrifol? Mae’r ymrwymiad triphlyg rydym yn gofyn gan gefnogwyr Sul yr Hinsawdd hefyd yn cynnig ymateb Cristnogol i gwestiwn y seminar:

  • Rydym yn gofyn i eglwysi gynnal o leiaf un oedfa wedi’i chanoli ar yr hinsawdd. Tra bod oedfa yn weithred ar y cyd, mae’n dyfnhau ein perthynas bersonol â Duw y Creawdwr. Mae felly yn ein hatgoffa ein bod yn sefyll yn bersonol gyfrifol gerbron Duw. I ni yn y byd cyfoethog, mae’n sicr fod angen i bob oedfa Sul yr Hinsawdd gynnwys edifeirwch dwfn am ein ffordd o fyw a sut mae’n cyflymu’r newid yn yr hinsawdd.
  • Rydym wedyn yn gofyn i bob eglwys wneud ymrwymiad tymor-hir i un o’r rhaglenni sydd eisoes yn bodoli i leihau ein hôl troed carbon eglwysig a mynd i’r afael ag argyfyngau cysylltiedig yr hinsawdd a byd natur – megis Eco Church neu LiveSimply. Mae hynny yn ein hatgoffa ein bod ni unigolion yn byw mewn cymuned, a bod yna lawer o gamau – megis adfer natur ar dir ein heglwys neu ddadfuddsoddi arian y capel o danwydd ffosil – sy’n gofyn am weithredu gan y gymuned gyfan.
  • Yn drydydd, gofynnir i eglwysi ymrwymo i Ddatganiad ‘Nawr yw’r Amser’ Clymblaid yr Hinsawdd a gyfeirir at wleidyddion ac arweinyddion byd – gan fod newid hinsawdd yn gyfrifoldeb i bobl mewn grym. Nid yw datgarboneiddio’r grid cenedlaethol neu greu coedwig genedlaethol newydd i Gymru yn gynlluniau y gall unigolion na’r eglwys fwyaf ymroddedig eu cyflawni – mae angen llywodraethau i weithredu ar frys. Fe fydd COP26 yn llwyfan pwysig ar gyfer ymrwymiadau felly, ond fe’u ceir dim ond os yw gwleidyddion yn credu ein bod ni, unigolion a chymunedau, yn ddigon angerddol i fynnu newid a fydd, yn ei dro, yn newid ein bywydau ni yn sylweddol.

Felly, cyfrifoldeb pwy yw newid hinsawdd? Fy nghyfrifoldeb innau – a thithau. Cyfrifoldeb pob cymuned eglwysig a phob cymuned arall hefyd. A chyfrifoldeb y sawl sydd mewn grym. Boed i’n blwyddyn o Suliau’r Hinsawdd ein helpu ni a’n harweinyddion i ysgwyddo’n cyfrifoldebau er lles Cread Duw.

CYFLEOEDD A PHRYDERON YNGHYLCH CWRICWLWM NEWYDD YSGOLION CYMRU

Llun: © Comisiwn Senedd Cymru

Angela Keller, Cynghorydd Cymru i’r Gwasanaeth Addysg Gatholig; Elizabeth Thomas, Cyfarwyddwr Addysg Daleithiol yr Eglwys yng Nghymru; Paula Webber, Swyddog Gweithredol Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGauC); a Libby Jones, Cadeirydd y Panel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG) yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor. Hefyd yn y llun mae aelodau’r Pwyllgor, Laura Ann Jones AS, Suzy Davies AS (y ddau yn Geidwadwyr), Dawn Bowden AS (Llafur) a SiânGwenllian AS (Plaid Cymru).

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifainc ac Addysg Senedd Cymru yn parhau i graffu ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), fydd yn darparu’r sail gyfreithiol ar gyfer cwricwlwm newydd ysgolion Cymru o Fedi 2022. Daeth tystion yn cynrychioli ysgolion eglwysig ac addysg grefyddol o flaen y pwyllgor ar Hydref 15 i gyflwyno tystiolaeth am y lle newydd a arfaethir ar gyfer Addysg Grefyddol ar ffurf ‘Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg’ o fewn maes Dyniaethau y cwricwlwm. Bu pawb yn croesawu ethos y cwricwlwm newydd a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i wreiddio dysgu plant yn eu cynefin eu hunain, tra ar yr un pryd yn mynegi gofid am rai o’r newidiadau a fwriedir o ran gallu ysgolion eglwysig i barhau i addysgu yn unol â’u hethos crefyddol, ac o ran cyfansoddiad Cynghorau Ymgynghorol Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAGau) y siroedd.

Ar Hydref 13, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cwricwlwm i Gymru: Y Daith i 2022 sy’n cyflwyno’r amserlen a fwriedir ei gweithredu unwaith i’r Bil gael ei basio. Mae’n annog ysgolion i ddechrau gweithio mor fuan ag y bo modd (gan gydnabod yr amgylchiadau anodd presennol) i weithio tuag at ddatblygu eu cwricwlwm lleol eu hunain – o fewn y fframwaith genedlaethol – ar y cyd. Mae datblygu ar y cyd yn gofyn bod pobl yn gweithio ar draws ffiniau traddodiadol: rhwng haenau addysg yn ogystal â rhwng disgyblaethau, ysgolion a chyfnodau, a hefyd gyda rhanddeiliaid y tu hwnt i’r system addysg (t. 5).Mae’r ddogfen drwyddi draw yn pwysleisio cyd-weithio â’r gymuned leol. Mae hyn yn rhoi cyfle arbennig i eglwysi – ynghyd â llawer o rannau eraill o’r gymdeithas – ddod yn rhan o ddatblygu dysgu ac addysgu eu hysgolion lleol. Mae’r ddogfen yn rhybuddio ysgolion na ddylent buddsoddi mewn cwricwlwm parod ‘oddi ar y silff’  Fe anogir aelod eglwysi a mudiadau Cytûn, felly, i beidio â mynd ati i gynhyrchu ‘adnoddau dysgu’ traddodiadol y gall athrawon eu codi a’u defnyddio heb eu cymhwyso i’w dosbarth, ond yn hytrach ymwneud â phob ysgol mewn ffordd greadigol. Mae hon yn dasg heriol, ond hefyd yn gyfle arbennig i feithrin perthynas gadarnhaol gydag ysgolion ledled Cymru.

Gellir gweld manylion pellach am y pryderon ynghylch statws ysgolion eglwysig yn y dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn dilyn y gwrandawiad gan yr Eglwys yng Nghymru a’r Gwasanaeth Addysg Gatholig. Mae’r papurau hyn yn ymdrin hefyd â’r pryderon ynghylch cyfansoddiad CYSAGau, a gellir darllen mwy am hynny yn nhystiolaeth ysgrifenedig Cymdeithas CYSAGau Cymru.

LLONGYFARCHIADAU I EILEEN DAVIES

Mae’r Hybarch Ganon Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi a sylfaenydd Tir Dewi, wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth i ffermio yng Ngorllewin Cymru. Fe’i gwelir yn y llun hwn ym mhabell Cytûn yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Lansiwyd Tir Dewi yn wreiddiol gan Esgobaeth Tyddewi yr Eglwys yng Nghymru yn haf 2015 ac, ers hynny mae wedi rhoi help gweithredol i gannoedd o ffermwyr a’u teuluoedd a oedd, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, mewn argyfwng. Mae yna bellach rwydwaith o 60 o wirfoddolwyr, o sawl cefndir o ran cred, ar draws Cymru, sy’n golygu bod gan ffermwyr a’u teuluoedd fwy o gefnogaeth pan fydd arnynt ei hangen.

Gellir cysylltu â Tir Dewi trwy ffôn: 0800 121 47 22 neu drwy’r wefan https://www.tirdewi.co.uk/  

Ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun, Penfro

Yn annisgwyl, ym mis Medi, danfonwyd nifer o geiswyr lloches gan Lywodraeth y DU i hen wersyll milwrol Penalun, Sir Benfro. Mae Cytûn yn gweithio trwy’r grŵp gweithredol sefydlwyd er mwyn goruchwylio gofal y sawl a ddanfonwyd yno ac hefyd yn ceisio eiriol ar eu rhan gyda’r Swyddfa Gartref. Buom yn weithgar yn sefydlu caplaniaeth Rhyng-ffydd. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Parchedig Rob James a’r gymuned Fwslimaidd leol ac eraill am gynnig gofal i’r preswylwyr. Maen nhw ar hyn o bryd yn ceisio gyda phartneriaid eraill darparu ar gyfer y Nadolig yn y gwersyll.

Ar Dachwedd 18, fe gytunodd Senedd Cymru trwy fwyafrif sylweddol i gynnig ei bod:
1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-Pysgod;
2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei fod wedi’i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol;  
3. Yn condemnio’r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau’r asgell dde eithafol o’r tu allan i Sir Benfro;          
4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi’r ceiswyr lloches.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS:

“Mae Cymru yn Genedl Noddfa. Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hynny, a dylai’r Swyddfa Gartref wneud yr un peth.”

Datblygwyd y syniad o Gymru yn Genedl Noddfa gan Cytûn ar y cyd â phartneriaid eraill sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a bellach cafodd ei fabwysiadu yn bolisi gan Lywodraeth Cymru.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2020. Cyhoeddir y Bwletin nesaf 1 Chwefror 2021.