Mae arweinwyr cymunedau ffydd  Cymru yn annog addolwyr i ystyried yn arbennig o ofalus y modd y maent yn ymgynnull ar gyfer gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Er y gall addoldai agor ar gyfer gwasanaethau yn Lefel Pedwar y cyfyngiadau symud, mae aelodau o Gyngor Rhyng-ffydd Cymru yn galw  am ofal ac am roi’r flaenoriaeth i ddiogelwch pobl wrth ymateb i’r sefyllfa sy’n newid yn gyflym o  ran trosglwyddo COVID-19.

Ers dechrau’r pandemig mae cymunedau ffydd Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos, gan ddyfnhau rhwymau cyfeillgarwch. Maent  wedi parhau mewn cysylltiad rheolaidd  â Llywodraeth Cymru, gan geisio drwy’r adeg warchod bywydau a sicrhau diogelwch  y cyhoedd. Mae hynny’n parhau’n wir wrth i’r Nadolig agosáu ac wrth i addolwyr o amrywiol grefyddau fyfyrio ar arwyddocâd  gŵyl Gristnogol o bwys.

Meddai Kate McColgan, Cadeirydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, “Gyda’r amgylchiadau’n  newid yn gyflym, mae’n hanfodol ein bod yn ystyried ein lles ein hunain fel addolwyr a diogelwch pobl eraill y gallwn ddod i gysylltiad â hwy.”

Meddai Archesgob Cymru, John Davies, “Gwir ystyr y Nadolig yw rhoi pobl eraill yn gyntaf, gan ddangos cariad a thosturi tuag atynt. Yn yr ysbryd hwnnw rwyf yn annog y rhai sy’n cynnal gwasanaethau a’r rhai sy’n eu mynychu i fod yn feddylgar ac yn ystyriol ac i fod  yn gall yn hytrach na dibynnu ar deimladau. Rhaid  i les a diogelwch pawb fod yn flaenoriaeth i ni.”

Ar ran Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, tynnodd y Parchedig Gethin Rhys sylw at bwysigrwydd  cynnal  asesiadau risg. Dywedodd, “Mae Llywodraeth Cymru am ein hatgoffa  bod y sefyllfa iechyd yng Nghymru yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd, a dylai pob asesiad risg ddechrau drwy ofyn y cwestiwn: O  ystyried y risgiau sydd ynghlwm â’r gweithgaredd hwn, a oes angen i mi gyflawni’r gweithgaredd o gwbl? A oes dewisiadau amgen mwy diogel, megis darlledu?”  

“Pwysleisiodd Siân Rees, Cyfarwyddwr Cynghrair Efengylaidd Cymru, bwysigrwydd glynu wrth fesurau megis cadw pellter cymdeithasol, diheintio dwylo ac ymatal rhag canu cynulleidfaol. Meddai, “Mae dod ynghyd i gydaddoli’n elfen bwysig o’r bywyd Cristnogol, efallai’n fwy felly adeg y Nadolig. Mae eglwysi hefyd yn darparu rhwydweithiau cymorth hanfodol ar gyfer y rhai sydd ag anghenion ysbrydol, anghenion iechyd meddwl neu anghenion ymarferol. Rydym yn llwyr gydnabod difrifoldeb y pandemig hwn a’r ddyletswydd gofal sydd ar eglwysi i sicrhau y cedwir aelodau eu cynulleidfaoedd yn ddiogel.”

Meddai’r Dr Abdul-Azim Ahmed, ar ran Cyngor Mwslimiaid Cymru, “Mae addoldai ymhlith y lleoedd mwyaf diogel yng Nghymru yn ystod y pandemig, ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny ac wedi caniatáu iddynt aros ar agor. Mae’n hanfodol bod addolwyr yn cymryd gofal arbennig i fynychu addoldai dim ond pan mae hi’n gwbl ddiogel i wneud hynny. Gall ymgynnull diofal niweidio llawer o bobl eraill.”

Mewn ymateb i ddatganiad y Cyngor Rhyng-ffydd, dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Prif Chwip:

“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos ag arweinwyr ffydd a grwpiau ffydd drwy gydol y pandemig. Mae i ffydd ran hanfodol ym mywydau llawer o bobl, ac rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw addoli ar y cyd i gymunedau ffydd.

“Ym mhob un o’m cyfarfodydd niferus ag arweinwyr ffydd ledled Cymru eleni, ac yn fy holl ymwneud â chredinwyr, mae eu hymdrechion rhyfeddol i gadw addoldai’n ddiogel ar gyfer cydaddoli wedi creu argraff arnaf. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’r gwaith pwysig maent wedi bod yn ei wneud o fewn eu cymunedau lleol, gan estyn allan i gynorthwyo’r rhai sydd mewn angen yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn, gan amlygu yn fwy nag erioed y gorau o’u nodweddion.

“Gwn fod y cyfyngiadau ar gydaddoli’n parhau i fod yn anodd i lawer o gynulleidfaoedd, ond nid yw hynny’n golygu bod credinwyr wedi encilio – y gwrthwyneb sy’n wir.”

Kate McColgan, Cadeirydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru