Yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth yn siarad yng nghymanfa gyffredinol Cyngor Eglwysi Ewrop, Tallinn, Estonia.

Mae’r Arglwydd Williams o Ystumllwynarth, y Parchedicaf a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru, wedi siarad â Cytûn yn dilyn traddodi anerchiad allweddol yng Nghynulliad Cyffredinol Cynhadledd Eglwysi Ewrop – sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn Tallinn, Estonia.

Yn ei anerchiad cyweirod, canolbwyntiodd yr Arglwydd Williams yn benodol ar y cwestiwn ‘pa fendith a ddaw yn sgil eglwys Crist?’
Yn ei gyfweliad gyda Phrif Weithredwr Cytûn, Siôn Brynach, mae’n amlinellu elfennau allweddol ei anerchiad ac mae hefyd yn ymateb i’r gwrandawiad a ddigwyddodd yn y Cynulliad, yn dilyn ei anerchiad, ar “Eglwysi fel crewyr newid yn ein cymdeithas yn dilyn rhyfel”. Roedd y sesiwn heriol hon yn edrych yn benodol ar y rhyfel presennol yn yr Wcrain.


Gellir gweld anerchiad yr Arglwydd Williams i Gynulliad Cyffredinol CEC yn llawn yma

Medrwch weld adroddiadau eraill o Cymanfa Gyffredinol CEC trwy glicio ar y dolenni isod:

  1. adroddiad agoriadol
  2. Argraffiadau Anna Jane Evans, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
  3. Argraffiadau terfynol