Mae Senedd Cymru newydd basio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn gosod sail statudol i Gwricwlwm i Gymru i’w gyflwyno ymhob ysgol a gynhelir. Mae’r Llywodraeth bresennol o hyd yn bwriadu i gyflwyno’r cwricwlwm ddechrau yn 2022 (hyd at Flwyddyn 7, gyda blynyddoedd eraill yn dilyn yn eu tro), ond mewn tystiolaeth gerbron pwyllgor Seneddol, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg presennol, Kirsty Williams AS, nad yw’n gwarafun oedi yn dilyn helbul Covid-19.

Nod y Canllawiau Cwricwlwm yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun …. Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben [gweler isod]. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu. Mae hyn yn dra gwahanol i’r model cyfarwyddol a ddefnyddir gan y cwricwlwm presennol (1988 a diwygiadau wedyn). Fe fydd cwricwlwm pob ysgol leol yn dechrau o’i chynefin (defnyddir y gair Cymraeg drwy’r canllawiau). Mae addoldai a chymunedau ffydd lleol yn rhan bwysig o’r cynefin hwnnw.

Mae’r Ddeddf yn nodi pedwar diben y cwricwlwm, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Rhaid i’r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.

  • Y Celfyddydau Mynegiannol.
  • Iechyd a Lles.
  • Y Dyniaethau.
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
  • Mathemateg a Rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • Cymraeg
  • Saesneg (o 7 mlwydd oed)

Mae’r Ddeddf yn rhoi i lywodraeth nesaf Cymru y gallu i newid y meysydd dysgu a phrofiad dynodedig a llawer agwedd arall ar fframwaith y cwricwlwm, gan gynnwys sut y trefnir asesu. Bydd hyn yn rhoi cryn ofod i lywodraeth nesaf Cymru yn y dyfodol i newid yn sylweddol y ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn gweithredu heb orfod newid y ddeddfwriaeth sylfaenol.

Pynciau penodol o ddiddordeb arbennig i eglwysi

Mae Cytûn wedi cyfrannu at ddatblygu pob agwedd ar Fframwaith Cwricwlwm 2022 a bydd gan Gristnogion ymrwymiad i weld datblygu’r cwricwlwm cyfan. Ond rydym wedi ymddiddori mewn dau faes yn arbennig, gan iddynt fod o bryder penodol i aelodau nifer o eglwysi a chymunedau ffydd.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) bellach yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Mae Cytûn yn rhan o Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig, sydd yn darparu adborth i’r sawl sy’n datblygu’r canllawiau cenedlaethol manwl a gyhoeddir maes o law ar gyfer ysgolion. Bydd y rhan hwn o’r cwricwlwm yn llawer mwy penodol na meysydd eraill, yn hytrach na chael ei benderfynu yn bennaf yn lleol. Bydd Côd drafft ar gyfer ACRh yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori a phenderfyniad gan y Senedd ar ôl yr etholiad.

Fe ailenwir Addysg Grefyddol yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) ac fe ddaw yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Meddai Fframwaith y Cwricwlwm, Mae’n bwysig fod gan ddysgwyr gyfleoedd i drafod ac archwilio eu safbwyntiau personol ar fydolygon crefyddol ac anghrefyddol, heriau moesol a materion cynhwysiant cymdeithasol. Bydd Fframwaith drafft ar gyfer y pwnc yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori wedi’r etholiad. Mater i Cyngor Ymgynghorol Sefydlog pob awdurdod lleol fydd pennu’r fframwaith CGM ar gyfer eu hardal eu hunain (ac mae grwpiau ffydd a chred wedi’u cynrychioli ar y Cynghorau hyn). Bydd ysgolion eglwysig yn gallu parhau i ddysgu yn unol â chredoau eu ffydd, ond bydd rhaid iddynt hefyd gynnig cwricwlwm CGM y sir i ddysgwyr ar gais eu rhieni.

Cwestiynau ar gyfer ymgeiswyr

  1. Ydych chi’n credu y dylid cyflwyno’r trefniadau newydd ar gyfer y cwricwlwm ym Medi 2022, neu a ddylid eu gohirio wedi’r pandemig?
  2. Sut gredwch chi y dylai dysgwyr gael eu hasesu yn ystod eu haddysg, ac yn enwedig am 16 mlwydd oed, dan y cwricwlwm newydd?
  3. Sut fyddwch chi’n cefnogi eglwysi a chymunedau ffydd lleol i helpu ysgolion lleol ddatblygu eu cwricwlwm, fel rhan o gynefin yr ysgol?
  4. Beth gredwch chi ddylai gael ei gynnwys yn y Côd newydd ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?
  5. Beth gredwch chi ddylai gael ei gynnwys yn y Fframwaith newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?