“Nid prinder arian yn unig yw tlodi. Mae’n ymwneud â hawliau a pherthnasoedd; am sut mae pobl yn cael eu trin a sut maen nhw’n eu hystyried eu hunain; am fod yn ddi-rym; am allgau a cholli ecwiti.”

Cyfranogydd mewn gwrandawiad tlodi lleol a gynhaliwyd yn Bradford

Cyn y Pandemig

Roedd tlodi ac anghydraddoldeb eisoes yn broblemau enfawr cyn y pandemig. Yn 2019 roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru (700,000) yn profi tlodi, gan gynnwys 28% o’r holl blant[1]. Ledled y DU, roedd y profiad o dlodi wedi mynd yn anoddach – gyda 2.5 miliwn o bobl yn y DU yn profi amddifadrwydd, y math mwyaf eithafol o dlodi, cynnydd o 35% o ddwy flynedd ynghynt[2].

Roedd anghydraddoldeb incwm yn uchel ond roedd wedi stopio cynyddu – roedd anghydraddoldeb yn dal i gynyddu, fodd bynnag, wrth i asedau fel tai, cronfeydd pensiwn neu stociau a chyfranddaliadau eraill gynyddu mewn gwerth. Anaml y bydd y tlotaf yn berchen ar bethau o’r fath ac felly cawsant eu cloi allan o’r enillion hyn mewn cyfoeth cenedlaethol[3].

Ar ôl y Pandemig

Pwysodd y pandemig ar yr anghydraddoldebau oedd eisoes yn bresennol mewn cymdeithas. Yr isaf oedd eich incwm, y mwyaf tebygol yr oeddech o golli eich swydd neu gael eich rhoi ar ffyrlo. Ochr yn ochr â’r gostyngiadau hyn mewn incwm, cynyddodd costau teuluoedd yn enwedig i’r rhai â phlant. Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus wedi’i gyfyngu a phobl yn cael cyfarwyddyd i aros gartref, gadawyd llawer o deuluoedd heb fawr o ddewis ond siopa mewn siopau lleol drud.

Mae eglwysi ac asiantaethau cynghori fel CAB wedi gweld bod cyllidebau gofalus pobl a oedd yn cael trafferthion ariannol ar ddechrau’r cyfyngiadau symud yn cael eu chwalu, ac yn aml roedd angen iddynt fynd i ddyled er mwyn goroesi[4]. Rhan o etifeddiaeth y pandemig yng Nghymru yw £73 miliwn o ôl-ddyledion wedi’u cronni ar filiau cartref fel ynni, rhent neu’r dreth gyngor. Dywed 280,000 o bobl yng Nghymru eu bod ar ei hôl hi o ran taliadau.[5]

Mae’r anghydraddoldeb hwn yn cael ei wneud yn fwy amlwg gan y ffaith bod teuluoedd incwm uwch a oedd yn fwy tebygol o allu gweithio gartref a chadw eu hincwm wedi gwneud arbedion sylweddol gan fod eu cyfleoedd gwario wedi’u cyfyngu. Ar draws y DU, roedd y grŵp hwn felly’n gallu ad-dalu tua £20Bn o ddyledion ansicredig yn ogystal ag arbed dros £100Bn mewn adneuon banc ychwanegol.

Sut gallai’r etholiadau hyn arwain at newid cadarnhaol?

Aelodau Seneddol, sydd ddim yn cael eu hethol eleni, sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau ynghylch budd-daliadau ac isafswm cyflog. Fodd bynnag, gall y Senedd wneud gwahaniaethau enfawr i gyllidebau’r teulu, i gyfleoedd pobl ac, yn bwysig, wrth dyneiddio’r profiad o fyw gydag incwm isel. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na £400m y flwyddyn ar grantiau, lwfansau chyfraniadau o fath arall ar gyfer aelwydydd incwm isel, megis Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, darparu Prydau Ysgol am Ddim a chymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Mae’r cynlluniau hyn yn ategu system nawdd cymdeithasol y DU[6].

Cymorth Ariannol

Awdurdodau Lleol sy’n pennu cyfraddau’r Dreth Gyngor. Eleni, disgwylir  cynnydd o tua 5% ledled Cymru. Mae hynny 10 gwaith yn fwy na’r gyfradd chwyddiant o 0.5% a ddefnyddir i gynyddu’r rhan fwyaf o fudd-daliadau.  Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor i leihau’r biliau ar gyfer teuluoedd incwm isel. Gan mai Treth y Cyngor yw un o’r trethi mwyaf atchwel – yn cael ei godi heb gyfeirio at y gallu i dalu – mae’r cynllun lleihau hwn yn bwysig iawn.  Fodd bynnag, mae terfynau cymhwystra llym.

Mae Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol cyfyngedig ar adegau o argyfwng.

Bydd y Senedd newydd sy’n cael ei hethol ar 6 Mai yn pennu’r cyfraddau a’r amodau ar gyfer y cynlluniau hyn yn y dyfodol. Mae’n werth mynd i wefan eich Awdurdod Lleol i weld pa gymorth sy’n cael ei ddarparu i deuluoedd incwm isel yn eich ardal.

Cymuned gynhwysol

Os nad oes gennych arian i’w wario, mae’r cyfleoedd i gyfarfod a rhannu ym mywyd y gymuned yn aml yn brin. Y Senedd sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol, sydd â rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau bod mannau lle gall pobl gymdeithasu a bod yn rhan o’r gymuned sydd ar gael i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n brin o ran modd.

Mae mynediad i fannau anfasnachol a rennir, megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a meysydd chwarae wedi lleihau wrth i awdurdodau lleol geisio torri cyllidebau. Gall rhai rhannau o gymdeithas fforddio prynu’r gwasanaethau hyn gan y sector preifat, ond mae llawer yn methu gwneud hynny.

Mae Llywodraeth yr Alban a rhai awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cefnogi Comisiynau’r Gwirionedd am Dlodi i gynnwys yn well y rhai sy’n brwydro yn erbyn tlodi o ddydd i ddydd yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’r rhain wedi dangos bod y gwleidyddion mwyaf diwyd a llawn bwriadau da yn cael eu synnu at sut mae tlodi’n effeithio ar fywydau – a sut nad yw gwasanaethau’n aml yn ymateb i’r realiti hwnnw. Mae Llywodraeth yr Alban wedi defnyddio paneli o bobl sy’n profi tlodi i gynghori ar bolisi sy’n effeithio arnynt.[7]

Cwestiynau i’w gofyn i ymgeiswyr

  1. Sut mae modd diogelu teuluoedd incwm isel yn well gan y budd-daliadau sydd o dan reolaeth y Senedd, megis Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a’r Gronfa Cymorth Dewisol?
  2. Sut ydych chi’n bwriadu cynnwys pobl sy’n byw mewn tlodi yn eich prosesau gwneud penderfyniadau?
  3. Ydych chi’n cefnogi datganoli peth neu’r cyfan o fudd-daliadau lles o San Steffan i’r Senedd?

Darllen pellach

  1. Reset the Debt – sy’n edrych ar effeithiau’r pandemig ar deuluoedd incwm isel
  2. Adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar dlodi plant (cyn y pandemig)
  3. HuManifesto – Cynigion Leeds Poverty Truth Commission ar gyfer newid.

Cysylltu

Fe hoffem wybod sut yr oedd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol a beth y dylid ei ychwanegu neu ei newid ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Os oes gennych gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau, ysgrifennwch at:

Gethin Rhys gethin@cytun.cymru  

Diweddarwyd yr erthygl ym mis Mawrth 2021 gan Paul Morrison a Gethin Rhys


[1] Jrf Tlodi yng Nghymru 2020 (Tach 2020) https://www.jrf.org.uk/file/56861/download?token=MNgDh6g5&filetype=crynodeb

[2] JRF (2020)  https://www.jrf.org.uk/report/destitution-uk-2020

[3] Arolwg Cyfoeth ac Asedau SYG (2019) https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/personalandhouseholdfinances/incomeandwealth/datasets/totalwealthwealthingreatbritain

[4] Ailosod y Ddyled (2020) https://resetthedebt.uk/ , JPIT a PAC (2020) http://www.jointpublicissues.org.uk/corona-virus/gleanings/

[5] CAB Cymru, Dyledion coronafeirws: Amcangyfrif maint ôl-ddyledion y cyfyngiadau symud yng Nghymru https://www.citizensadvice.org.uk/Global/CitizensAdvice/Wales/Coronavirus%20Debt%20Cymru.pdf

[6] https://www.bevanfoundation.org/publications/a-welsh-benefits-system/

[7] E.e. https://www.gov.scot/publications/social-security-experience-panels-faqs/