LLYWODRAETH NEWYDD I GYMRU

Ar 21 Mawrth, cyhoeddodd Prif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething AS, ei Gabinet (y bydd ei aelodau bellach yn cael eu hadnabod fel Ysgrifenyddion Cabinet) a Gweinidogion. Mae Cytûn wedi ysgrifennu at Mr Gething, yn ei longyfarch ar ei benodiad yn arweinydd Du cyntaf unrhyw genedl Ewropeaidd, ac yn edrych ymlaen at barhau ag ymrwymiad ei ragflaenwyr i gadeirio Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Mark Drakeford AS, ar ei ymddeoliad fel Prif Weinidog, i ddiolch iddo am ei ymrwymiad i gefnogi eglwysi a chymunedau ffydd eraill Cymru yn ystod ei dymor yn y swydd, ac yn enwedig yn ystod pandemig Covid.

Mae Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn ymuno â’r cabinet am y tro cyntaf, a Jayne Bryant AS yn dod yn weinidog am y tro cyntaf, yn gyfrifol am Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. Mae Cytûn yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r tri yn eu rolau newydd, ac mae wedi ysgrifennu atynt i’w croesawu i’w swyddi. Mae Ms Bryant yn etifeddu ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru ar strategaethau drafft am atal hunanladdiad a hunan-niweidio ac iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Bydd Cytûn yn ymateb i’r ddau a bydd yn croesawu mewnbwn gan ein haelodau a’n darllenwyr erbyn 30 Mai 2024, i’w cyflwyno i’r llywodraeth erbyn 11 Mehefin.

Mae Lesley Griffiths AS wedi dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac ar adeg ysgrifennu hwn credwn y bydd yn gyfrifol am ymgysylltu â’r trydydd sector a chymunedau ffydd, gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector lle mae Cytûn yn darparu’r prif gynrychiolydd ar gyfer Cyngor Rhyng-ffydd Cymru.

Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu ar ran ein haelod eglwysi a sefydliadau â’r gweinidogion eraill sy’n parhau i wasanaethu, llawer ohonynt mewn portffolios gwahanol i’r rhai blaenorol. Dyma nhw:

• Darpar Gwnsler Cyffredinol – Mick Antoniw MS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Jeremy Miles AS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Eluned Morgan AS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Rebecca Evans AS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio – Julie James AS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth – Ken Skates AS

• Prif Chwip a’r Trefnydd – Jane Hutt MS

• Y Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol – Hannah Blythyn AS

• Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol – Dawn Bowden AS

Llun: Llywodraeth Cymru

ANGEN DOGFENNAU ADNABOD YN ETHOLIADAU 2024

Dau etholiad i’w cynnal yn ystod 2024 fydd y cyntaf yng Nghymru lle bydd angen i bleidleiswyr ddod â dogfen adnabod gyda llun i’r orsaf bleidleisio er mwyn bwrw pleidlais. Mae gan y Comisiwn Etholiadol fanylion ar ei wefan am y dogfennau adnabod sy’n dderbyniol, a sut y gall pleidleiswyr heb y dogfennau gofynnol wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Mae rhai o’n henwadau wedi paratoi deunydd i eglwysi (Saesneg yn unig) roi gwybod am hyn.

Y cyntaf o’r etholiadau hyn yw etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Fai 2. Nid oes gan ymgeiswyr yn yr etholiadau hyn yr un hawliau ag ymgeiswyr mewn etholiadau eraill i bostio deunydd yn rhad ac am ddim i bob pleidleisiwr, felly nid oes cymaint o ddealltwriaeth o’r etholiadau hyn, a gall y nifer sy’n pleidleisio fod yn isel, oni bai eu bod yn cyd-daro ag etholiad arall.

Ar adeg cyhoeddi’r Bwletin hwn, mae’n bosibl y gellir cynnal Etholiad Cyffredinol y DU ar Fai 2. Os na, rhaid ei gynnal cyn 28 Ionawr 2025. Bydd yr un rheolau ar gyfer dogfennau adnabod yn berthnasol. Roedd ein Bwletin Polisi Chwef/Mawrth 2024 yn cynnwys gwybodaeth am nifer o glymbleidiau a sefydlwyd gan, neu yn cynnwys, aelodau o Cytûn sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth am faterion fydd yn codi yn yr etholiad. Mae gwefan Prydain ac Iwerddon churcheselection.org.uk bellach yn fyw ac yn cael ei diweddaru’n rheolaidd, a bydd tudalen we etholiadol Cytûn yn cyhoeddi adnoddau dwyieithog gan aelod eglwysi a sefydliadau wrth iddynt ddod ar gael.

Llun: Comisiwn Etholiadol

YMCHWILIAD COVID 19 YN DOD I GYMRU

O Chwefror 26 tan Fawrth 14 fe gynhaliodd Ymchwiliad Covid-19 y DU wrandawiadau llafar yng Nghymru. Roedd Cytûn wedi danfon i’r Ymchwiliad ei adroddiad Sgwrs Genedlaethol (Mai 2021) a phecyn gwybodaeth ychwanegol ac wedi cynnig cyflwyno tystiolaeth ffurfiol ar ran yr eglwysi a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru. Ategwyd y cais gan gyfranogwyr craidd, Covid Bereaved Families for Justice Cymru, ond nis derbyniwyd gan yr ymchwiliad, ac ni fu unrhyw gyfeiriad yn ystod y gwrandawiadau at effaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar arfer crefydd na chymunedau ffydd.

Meddai Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, a ddilynodd y gwrandawiadau o bell: “Roedd yr holi a’r ateb yn ddiddorol, a mae’r dystiolaeth ysgrifenedig yn dadlennu llawer am ddulliau Llywodraeth Cymru a’r DU o weithredu ac o ymwneud â’i gilydd. Bydd dogfennau megis adroddiadau’r Athrawon Ailsa Henderson a Dan Wincott am gyfansoddiad datganoledig Cymru yn hynod ddefnyddiol i bawb sy’n ymddiddori yn llywodraethiant ein gwlad. Felly hefyd y dystiolaeth ysgrifenedig lawn gan y cyn Brif Weinidog Mark Drakeford AS, gweinidogion megis y Prif Weinidog Vaughan Gething AS a’r cyn Weinidog Addysg Kirsty Williams, a’r Comisiynwyr ar gyfer Pobl Hŷn a Phlant yng Nghymru.

“Ond nid oedd tair wythnos – llawer llai nag a neilltuwyd i Loegr – yn ddigon i fynd i’r afael â’r holl gwestiynau a godwyd. Ni alwyd Kirsty Williams, er enghraifft, i roi tystiolaeth lafar er i lawer o dystion eraill gyfeirio ati. Ar adegau, roedd cyfreithwyr wrth holi yn cydnabod eu bod dan bwysau amser ac na allent holi am bob pwnc na hyd yn oed dilyn i fyny ar atebion y tystion. Fe dreuliwyd llawer o amser yn holi pob tyst o blith y gwleidyddion am eu defnydd o Whatsapp – pwnc ymylol braidd, sydd yn obsesiwn gan yr ymchwiliad hwn, ac ar adegau roedd gwylio’r holi ar ruthr yn rhwystredig.”

Mae yna nifer o fodiwlau eraill i ddilyn, gan gynnwys rhai ar y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau gofal, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a’r effaith ar fusnes a chydraddoldebau. Ond ni fydd gan yr un o’r rhain is-fodiwlau penodol am Gymru, a mae’n anodd gwybod felly sut yr ymdrinnir â’r wedd Gymreig yn ystod y gwrandawiadau hyn. Er bod “cau ac agor addoldai” yn rhan o gylch gorchwyl yr ymchwiliad, nid yw’n eglur ymhle y ceir gofod ar gyfer trafod hynny.

Yn ystod cyfnod y gwrandawiadau, fe drefnodd Marie Curie ddiwrnod o fyfyrio am y rhai a gollwyd yn ystod y pandemig, a hynny am y tro cyntaf ar Sul cyntaf mis Mawrth – sef y dyddiad a argymhellwyd gan y Gomisiwn y DU ar Gofio Covid (Saesneg yn unig). Nid oedd munud o dawelwch am ganol dydd yn gyfleus i lawer o eglwysi, gan ei fod ar ôl neu ynghanol oedfa, a bod y Sul mor agos at Ŵyl Ddewi, a mae Cytûn wedi mynegi hyn wrth Marie Curie wrth iddynt gynllunio at y dyfodol.

EGLWYSI AR WAITH – CYMDEITHAS DAI AELWYD

Ym 1991 daeth tri enwad yng Nghymru ynghyd i ffurfio Aelwyd, cymdeithas dai elusennol ddi-elw. Sefydlwyd y gymdeithas gan Undeb Bedyddwyr Prydain, yr Eglwys Bresbyteraidd, a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig gyda’r weledigaeth o ddarparu cartrefi i glerigwyr wedi ymddeol a Christnogion ar draws De Cymru, gyda thir arferai berthyn i’r eglwysi yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y datblygu. Mae Aelwyd wedi tyfu dros y blynyddoedd a heddiw mae’n berchen neu’n rheoli bron i 300 o gartrefi ar rent cymdeithasol yn Ne Cymru. Aelwyd yw’r unig gymdeithas dai ar sail ffydd yng Nghymru o hyd, ac mae bellach yn darparu cartrefi i unrhyw un sydd ag angen tai, waeth beth fo’u ffydd.

Aelwyd yw un o’r cymdeithasau tai lleiaf yng Nghymru, mewn sector lle bydd y fwyaf cyn bo hir yn berchen ar 20,000 o gartrefi. Mae’r Prif Weithredwr Sharon Lee yn credu mai ei maint sy’n gwneud Aelwyd yn arbennig ac yn caniatáu iddo sefyll allan yn y sector: “Mae ein maint yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaethau mewn ffordd bwrpasol a phersonol iawn. Mae’r staff yn gwybod enw pob preswylydd a chan fod y rhan fwyaf o’n preswylwyr yn bobl hŷn, mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Ym mhopeth a wnawn, caredigrwydd ddaw yn gyntaf. Mae gwerthoedd ac ethos Cristnogol Aelwyd yn golygu bod pob ymwneud â phreswylwyr yn garedig a thosturiol. Dyma’r unig gymdeithas tai yng Nghymru sydd â ‘Chyfiawnder’ yn un o’i gwerthoedd.” Mae’r dull gweithredu hwn yn golygu mai Aelwyd yw’r gymdeithas dai draddodiadol sy’n perfformio orau yng Nghymru ers sawl blwyddyn ac enillodd y Wobr Rhagoriaeth Cwsmer yng Ngwobrau Tai Cymru yn 2022.

Wrth i’r argyfwng tai yng Nghymru weld mwy a mwy o bobl yn dod yn ddigartref neu’n brwydro i fforddio eu cartref, mae’r sefydliad yn awyddus i wneud mwy. Yn 2023 prynodd gartrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot gan landlord preifat a oedd yn bygwth troi’r tenantiaid allan. Mae’r cartrefi bellach yn cael eu hadnewyddu ac mae’r tenantiaid yn talu rhent mwy fforddiadwy.

Mae llawer o eglwysi yn rheoli adeiladau dros ben neu’n gweithredu fel landlordiaid preifat, sy’n llyncu adnoddau ac yn gofyn am gydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid fodloni safonau llawer llymach ac mae llawer o landlordiaid yn gadael y sector. Mae hyn wedi cyfrannu at ddiffyg cartrefi i’w rhentu yng Nghymru.

Mae Sharon Lee yn gweld rôl i eglwysi wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai ac yn eu hannog i weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol i ryddhau tir ac adeiladau sydd dros ben. Mae hi’n awyddus i Aelwyd adeiladu ar ei threftadaeth a gweithio gydag eglwysi sydd eisiau hwyluso budd hirdymor i’w cymuned. “Os bydd eglwys yn penderfynu partneru gyda ni neu gymdeithas dai arall i ddarparu cartrefi, mae’n gadael etifeddiaeth a fydd o fudd i genedlaethau o bobl i ddod. Mae hefyd yn dileu’r galw aruthrol ar amser ac adnoddau pan fo eglwysi eisiau canolbwyntio ar genhadaeth a bod yn fendith i’w cymuned.”

Os hoffech wybod mwy am waith Aelwyd neu os hoffech gyngor ar yr opsiynau tai ar gyfer tir ac adeiladau sy’n eiddo i’r eglwys cysylltwch â Sharon Lee, Prif Weithredwr Tai Aelwyd sharonl@aelwyd.co.uk neu 02920 481203.

Llun: Preswylydd mewn eiddo a brynwyd gan Gymdeithas Dai Aelwyd oddi wrth ei landlord preifat

Helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau cyhoeddus

Roedd Cytûn yn falch o gynrychioli’r eglwysi yn lansiad hwb Cyswllt Rhieni Cymru, gwefan adnoddau ar-lein newydd sbon Plant yng Nghymru ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol. Y nod yw helpu rhieni i gymryd mwy o ran wrth gyfrannu at wneud penderfyniadau cyhoeddus, oherwydd mae prosesau ymgynghori traddodiadol yn aml yn anodd i rieni prysur eu cyrchu. Rydym yn ymwybodol bod rhieni Cristnogol yn aml yn rhwystredig oherwydd cyfyngiadau’r prosesau hyn, ac yn darganfod yn rhy hwyr yn y dydd am benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u plant. Gall darllenwyr gyrchu recordiad llawn y gweminar i ddysgu mwy am y wefan hon a sut y bydd yn datblygu yn y dyfodol, yn ogystal â chlywed am sut mae Plant yng Nghymru wedi ymgysylltu â rhieni yn ystod prosiect y 12 mis diwethaf a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

EGLWYSI AR WAITH – PROSIECT AMBR BYDDIN YR EGLWYS

Mae Byddin yr Eglwys (Church Army) yn gweithio ledled Cymru mewn partneriaeth â’r Eglwys yng Nghymru. Mae Prosiect Ambr yn un o brosiectau allweddol Byddin yr Eglwys ers dros 21 mlynedd, wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, yn gweithredu o dŷ cwrdd Crynwyr Caerdydd.

Mae’r Rheolwr Gweithrediadau Tim Crahart yn esbonio:

Rydym yn darparu cymorth a chefnogaeth i:

• pobl ifanc 14-25 oed sydd â phrofiad o hunan-niweidio

• pobl ifanc 12-25 oed sy’n draws, yn anneuaidd neu’n archwilio eu hunaniaeth o ran rhywedd

Pam Ambr? Dewiswyd yr enw i gyfleu ymdeimlad o gael eich gwarchod, ac am fod sudd, gwaed coeden, yn dod yn rhywbeth hardd a pharhaus. Mae Ambr yn ceisio darparu man diogel i bobl ifanc gyda charedigrwydd yn werth craidd a lle mae yna ymdeimlad o gymuned.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i gefnogi’r bobl ifanc:

• Mae ein Cwnsela yn helpu pobl ifanc i gydnabod a mynegi eu trallod emosiynol.

• Mae Cefnogaeth Un i Un yn ceisio datrys y materion ymarferol sylfaenol sy’n bwydo eu hemosiynau ac mae’r sesiynau grŵp yn creu cymuned gefnogol i feithrin cydberthynas ynddi. Rydym yn gweld y broses hon fel rhywbeth sy’n galluogi, yn annog, yn grymuso ac yn cyfoethogi.

• Mae gweithdai a sesiynau grŵp celfyddydol (canu, cerddoriaeth, theatr, celf a chrefft) yn darparu lle diogel i’r bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a meithrin cydberthynas. Mae unigedd yn aml yn bwydo i mewn i’r trallod emosiynol y mae ein pobl ifanc yn ei deimlo, felly mae adeiladu cymuned wrth wraidd y broses iacháu.

Mae’r prosiect yn mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol at weithio gyda phobl ifanc ac mae gennym un grŵp, Constellation, sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc sy’n draws, anneuaidd neu sy’n archwilio eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Dywedodd un o’n pobl ifanc, aeth ymlaen i wirfoddoli yn y prosiect hwn, “Cyn Ambr, roedd fy mywyd yn llanast, a nawr mae tipyn bach o lanast yn fy mywyd o hyd, fel ym mywyd pawb am wn i, ond mi ydw i’n llawer hapusach, ac rwyf eisiau byw. Wyddoch chi, yn 13 oed, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i yma. Nawr, rydw i’n rhydd rhag hunan-niweidio ers 7-8 mlynedd. Rydw i eisiau dangos i’r bobl ifanc, efallai y cewch chi anhawster, ond fe allwch chi ei wneud e!”

CYMORTH I FARW – BETH NESAF?

Mae’r syniad y dylid cyfreithloni cymorth meddygol i farw yn arwain ymron pob sesiwn yn Senedd San Steffan at gyflwyno bil i’r perwyl hwnnw o’r meinciau cefn. Yn ymarferol, fe fyddai angen cefnogaeth (ar ffurf amser trafod) gan lywodraeth y dydd i fil o’r fath gyrraedd y llyfr statud, ond gydag arweinyddion y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur wedi datgan yn gyhoeddus y byddent yn barod i gefnogi’r syniad, mae’n debygol y ceir ymdrech arall ar ôl yr Etholiad Cyffredinol. Byddai bil yn San Steffan yn rhychwantu Cymru a Lloegr, er y byddai angen i Lywodraeth a Senedd Cymru hefyd wneud rhai newidiadau o ran gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol sydd wedi eu datganoli.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin felly wedi cynnal ymchwiliad ac ar 29 Chwefror fe gyhoeddodd adroddiad swmpus am y dystiolaeth ddiweddaraf o wahanol rannau o’r byd. Nid yw’r adroddiad yn argymell o blaid nac yn erbyn newid y gyfraith, ond mae yn argymell gwella mynediad at ofal lliniarol a gwell ariannu i hosbisau. Bwriad yr adroddiad, meddir, yw cyflwyno trosolwg cytbwys o’r hyn y mae’r dystiolaeth a gawsom wedi’i awgrymu, yn ogystal â thynnu ar ymchwil a gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd (para 5). Bydd felly yn adnodd pwysig mewn unrhyw drafodaeth yn Senedd nesaf San Steffan.

Yr unig un o aelod o Cytûn i gyflwyno tystiolaeth oedd Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr, er i nifer o fudiadau Cristnogol eraill ac unigolion gyflwyno tystiolaeth o wahanol safbwyntiau Cristnogol. Fe all y bydd hwn yn fater y bydd aelod enwadau Cytûn am ei ystyried, ac y bydd aelodau eglwysig unigol am ei drafod gydag ymgeiswyr yn yr etholiad.

ANGEN GWEITHREDU BRYS AR FFOADURIAID SY’N CYSGU ALLAN

Mae gan wledydd Prydain hanes hir o groesawu ffoaduriaid a’r enghraifft enwocaf oedd y Kindertransport yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gyrhaeddodd 10,000 o blant ar eu pen eu hunain yma i gael eu ‘lletya’ yng nghartrefi pobl. Yn fwy diweddar, roedd pobl yn y DU mor bryderus am dynged Iwcraniaid yn dilyn goresgyniad Putin nes iddynt agor eu cartrefi i ffoaduriaid yn y Cynllun Cartrefi i Wcráin.

Gyda’r rhyfel yn Wcrain a gwrthdaro yn Gaza yn cydio yn penawdau, mae’r trais yn Swdan, Somalia, Ethiopia ac Afghanistan i enwi dim ond rhai, heb ei adrodd ryw lawer ac yn rhoi miliynau o bobl mewn perygl.

Mae Prosiect Lletya Housing Justice Cymru yn rhan hanfodol o’r frwydr i liniaru digartrefedd yng Nghymru ac mae arnynt angen mwy o letywyr ar frys yng Nghaerdydd, Casnewydd, Wrecsam ac Abertawe. Mae’r Prosiect, sydd wedi’i ariannu gan Comic Relief a Llywodraeth Cymru, yn cysylltu cartrefi gwirfoddolwyr sydd ag ystafell sbâr â phobl sydd angen rhywle diogel i aros ar frys. Heb fod ganddynt hawl i weithio, mynediad at lety, na mynediad at fudd-daliadau, mae llawer o bobl yn cael eu hunain yn gwbl amddifad tra eu bod yn ceisio lloches yn y DU. Mae’r hinsawdd wleidyddol bresennol yn gadael y bobl hyn heb ofal na chroeso.

Mae ein lletywyr yn bobl wych sy’n croesawu eraill i’w cartrefi am gyfnod dros dro. Mae’r amser a’r sefydlogrwydd y mae lletya yn ei ddarparu yn rhoi’r cyfle i bobl wella, cael mynediad at gymorth ac eiriolaeth, ac adeiladu ymdeimlad o berthyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am westeio gyda HJC yma neu drwy e-bostio Hostingcymru@housingjustice.org.uk.

Llun: Housing Justice

Prentisiaid mewn Gweinidogaeth Gristnogol

Mae Athrofa Padarn Sant wedi bod yn anelu at sefydlu prentisiaeth mewn Gweinidogaeth Gristnogol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac yn y pen draw llwyddodd i wneud hynny ddiwedd Gorffennaf 2023. Er mwyn dechrau ym mis Medi 2023 fe’i cyfyngwyd ym mlwyddyn 1 i brentisiaid o’r Eglwys yng Nghymru Cymru yn unig. Rhoddodd hyn gyfle i dreialu’r cynllun a hefyd i werthuso’r agweddau addysgu a chyflogaeth. Ymunodd 9 o bobl ifanc â’r rhaglen ym mis Medi 2023 o Gaerdydd, Pontypridd, Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Aberystwyth.

Fe’i cynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n archwilio galwedigaethau yn y Weinidogaeth Gristnogol (Ficer, Caplan, Offeiriad, Bugail, Gweinidog, Bugail Ieuenctid/Plant/Teulu, efengylwr, gweithwyr ysgol) ac o fis Medi 2024 bydd yn agored i bobl o unrhyw enwad Cristnogol yng Nghymru. Mae wedi’i anelu’n bennaf at y rhai rhwng 18 a 30 oed (ond gellir gwneud eithriadau i hynny – ac fe wnaed hynny eisoes). Felly, os ydych yn ystyried cyflogi prentis o fis Medi ymlaen, hoffai’r Athrofa glywed gennych. Mae cymhellion ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais a bydd pob prentis yn dilyn rhaglen Lefel 4 (blwyddyn gyntaf gradd) mewn Diwinyddiaeth, Cenhadaeth a Gweinidogaeth – a gyflwynir trwy sesiynau Zoom fore Llun a 2 gyfnod preswyl. Ymhlith y pynciau mae’r Testament Newydd a’r Hen Destament, Cenhadaeth Gristnogol, Athrawiaeth Gristnogol, Cnoi Cil ar Brofiad a Diwinyddiaeth Ymarferol.

Mae’r brentisiaeth hon yn cael ei darparu gan Goleg Sir Gâr ac Athrofa Padarn Sant gyda chymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, gyrrwch e-bost at mark.grifiths@stpadarns.ac.uk  a fydd yn trefnu galwad Zoom/Teams.

Llun: Rhai o’r prentisiaid cyntaf (Athrofa Padarn Sant)

 DIWEDDARIADAU POLISI

Darganfod ychydig o arian ychwanegol ar gyfer y Gyllideb

Ar Fawrth 6, pasiodd Senedd Cymru gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, yn dilyn craffu gan bwyllgorau’r Senedd ar y gyllideb ddrafft (gweler Bwletin Polisi Chwef/Mawrth 2024). Gyda dyraniad cyllid ychwanegol hwyr gan Lywodraeth y DU llwyddwyd gwneud rhai codiadau. Yn dilyn lobïo gan y sector tai a digartrefedd yng Nghymru – gan gynnwys aelodau Cytûn sy’n gweithio yn y maes – roedd yn cynnwys codiad o £13miliwn i’r Grant Cymorth Tai sy’n darparu cefnogaeth hanfodol i’r digartref. Croesawyd hyn yn eang. Llwyddwyd lliniaru hefyd gostyngiadau arfaethedig yn y grant plant a chymunedau, cyllid ar gyfer prentisiaethau a chymorth i weithwyr Cwmni Dur Tata.

Bu eglwysi am ostyngiadau i gyllideb Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn y gyllideb derfynol cafodd £1.4m o’r gostyngiad arfaethedig ei adfer. Ond bydd y gyllideb o hyd yn lleihau o £0.7m, heb sôn am y gostyngiad mewn gwerth o ganlyniad i chwyddiant.

Mae’r gyllideb hefyd yn ceisio codi refeniw ychwanegol. Mae yna ymgynghoriad tan Fai 13, er enghraifft, am godi’r uchafswm tâl am ofal cymdeithasol amhreswyl o £100 i hyd at £125 yr wythnos, a fyddai’n effeithio ar lawer o aelodau ein heglwysi. Bydd Cyllideb Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar Fawrth 7 yn achosi addasiadau pellach i gyllideb Llywodraeth Cymru, ond nid yw’r manylion yn hysbys eto.

Llywodraeth a Senedd Cymru yn derbyn argymhellion y Comisiwn Cyfansoddiadol

Bu Bwletin Polisi Chwef/Mawrth 2024 yn adrodd ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyd-gadeiriwyd gan yr Esgob Rowan Williams a’r Athro Laura McAllister. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar Fawrth 12 ei bod yn derbyn y deg argymhelliad penodol ynghylch cryfhau’r trefniadau datganoli presennol. Mae’n croesawu’r awgrym i ddatganoli mwy o bwerau dros ddarlledu a chyfathrebu ac Ystâd y Goron, ac o roi sylfaen statudol i gysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Ond dywed Llywodraeth Cymru fod derbyn datganoli rhai meysydd – megis seilwaith y rheilffyrdd a (yn raddol) plismona a chyfiawnder yn dibynnu ar dderbyn nid yn unig arian sy’n cyfateb i’r gwariant presennol yng Nghymru ar y meysydd hyn, ond hefyd gwneud iawn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn danwariant yn y gorffennol. Mae’n annhebygol, felly, y bydd y datganoli hwn yn digwydd yn gyflym.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru hefyd argymhelliad y Comisiwn i chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch materion llywodraethu, er eu bod yn sôn yn bennaf am adeiladu ar bolisïau presennol (fel gwneud cofrestru pleidleiswyr yn haws ac addysg dinasyddiaeth o fewn y cwricwlwm ysgolion newydd yng Nghymru) yn hytrach na syniadau mwy radical.

Cymeradwywyd ymateb Llywodraeth Cymru gan bleidlais fwyafrifol yn y Senedd ar 19 Mawrth.

Archwilwyr Meddygol

Roedd Bwletin Chwefror/Mawrth 2024 yn cyfeirio at gyflwyno Archwilwyr Meddygol fel rhan o’r broses cofrestru marwolaeth. Mae Llywodraeth y DU yn annisgwyl wedi gohirio’r is-ddeddfwriaeth er mwyn rhoi hyn ar sail statudol, ond mae’r cynllun anstatudol yng Nghymru yn parhau yn ei le.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 25 2024. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fai 22 2024.