Mae plismona yn brif flaenoriaeth i lawer o deuluoedd ledled Cymru a Lloegr. Mae ethol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (PCCs) yn rhoi cyfle i ni ethol Comisiynwyr newydd a fydd yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau ein diogelwch i’r dyfodol. Ac eto, mae’r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi bod yn isel yn hanesyddol. Felly pam dylen ni ymgysylltu â’r etholiadau hyn? Dyma ganllaw byr ar bwerau a chyfrifoldebau’r Comisiynwyr a’r materion allweddol sy’n bwysig i bleidleiswyr.
Dros beth ydw i’n pleidleisio?
Hanes
Roedd Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn nodi trosglwyddo rheolaeth dros heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, gan arwain at sefydlu 40 o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) i ddisodli awdurdodau heddlu y tu allan i Lundain. Mae Maer Llundain yn cymryd rôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn Llundain.
Etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd 2016
Pa bwerau a chyfrifoldebau sydd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd?
CHTh sy’n gyfrifol am bennu cyllideb yr heddlu. Maent yn pennu faint yr ydym yn ei dalu tuag at blismona o’r dreth gyngor, sy’n cael ei ychwanegu at y cyllid gan Lywodraeth y DU. Maent hefyd yn penderfynu sut y caiff y cyfuniad o’r arian hwnnw ei wario.
Mae’n ofynnol i CHTh ddwyn Prif Gwnstabliaid i gyfrif am y ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau a’r rhai sydd o dan eu rheolaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn yr ardal berthnasol yn darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon. CHTh sy’n gyfrifol am benodi Prif Gwnstabliaid.
Mae’r CHTh hefyd yn dwyn ynghyd Bartneriaid Cyfiawnder Troseddol ar lefel leol a chenedlaethol i weithio ar lunio a gweithredu strategaethau a fydd yn lleihau troseddu.
Mae pwerau comisiynu a gwneud grantiau’r Comisiynwyr yn ganolog i’r nod o fynd i’r afael ag atal a lleihau troseddu, a sicrhau cymorth i ddioddefwyr a’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Mae’n ofynnol i CHTh gyhoeddi eu Cynllun Heddlu a Throseddu o fewn dyddiau i gychwyn y swydd. Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu eu tymor llawn yn y swydd ac fe’i nodir ar ôl ymgynghori â phobl leol a nodi blaenoriaethau lleol.
Sut mae’r pleidleisio’n gweithio?
Cynhelir etholiadau CHTh bob pedair blynedd (cafodd etholiadau 2020 eu gohirio tan 2021). Mae’r rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau lleol yn gymwys i bleidleisio dros CHTh yn eu hardaloedd. Defnyddir y system Pleidlais Atodol.
Mae dwy golofn ar bapur pleidleisio. Gall pleidleiswyr farcio X yn y golofn gyntaf ar gyfer eu hymgeisydd dewis cyntaf a X arall yn yr ail golofn am eu hail ddewis. Etholir ymgeisydd sy’n cael mwy na 50% o’r pleidleisiau dewis cyntaf ar y cyfrif cyntaf.
Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd 50% yn y rownd gyntaf, cedwir y ddau ymgeisydd sydd â’r nifer uchaf o bleidleisiau. Mae’r papurau pleidleisio sy’n dangos dewis cyntaf ar gyfer ymgeiswyr a gafodd eu dileu yn cael eu gwirio am eu hail ddewis. Yna ychwanegir unrhyw bleidleisiau ail ddewis ar gyfer y ddau ymgeisydd sy’n weddill at bleidleisiau dewis cyntaf yr ymgeiswyr. Yna, mae’r ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn ennill.
Beth yw’r pynciau pwysig yn yr etholiadau hyn?
- Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw unigolyn waeth beth fo’i oedran neu ryw. Gall fod yn rheolaeth ariannol, emosiynol, corfforol a rheolaeth drwy orfodaeth. Mae llawer o ardaloedd wedi nodi eu cynnydd mwyaf mewn lefelau troseddu cam-drin domestig a gofnodwyd yn ystod cyfyngiadau symud Covid. Mae lefelau erlyn yn isel ac mae angen cefnogaeth i erlyn cyflawnwyr ac i godi ymwybyddiaeth a nodi’r llwybr cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr. Gall CHTh ymuno â sefydliadau partner i weithio gyda theuluoedd a chyflawnwyr i ddyfeisio dulliau ataliol, a herio’r mythau a’r stereoteipiau am ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.
- Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol: Gall camddefnyddio sylweddau fod yn gysylltiedig â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac felly mae’n achosi niwed nid yn unig i’r unigolyn ond hefyd i’r gymuned ehangach. Canabis yw’r cyffur a ddefnyddir amlaf yn y DU o hyd. Mae derbyniadau i ysbytai sy’n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau yn parhau i gynyddu’n gyflym mewn ardaloedd difreintiedig, a gall CHTh ddatblygu systemau i ymgysylltu’n rheolaidd â’r rhai sy’n dioddef yn sgil cam-drin cyffuriau neu alcohol er mwyn deall eu profiadau a gwella’r strategaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar waith.
- Trosedd casineb yw unrhyw ddigwyddiad sydd, neu y tybir ei fod, yn cael ei ysgogi gan ragfarn yn seiliedig ar anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn, yn ogystal ag elfennau eraill o hunaniaeth unigolyn. Er na ddylai unrhyw un fod yn byw mewn ofn a phryder am ganlyniadau unrhyw drosedd casineb y byddant yn ei ddioddef, mae llawer yn gwneud hynny. Mae llawer o gymunedau’n awyddus i gyfryngau cymdeithasol, gwneuthurwyr penderfyniadau gwleidyddol a sefydliadol weithredu er mwyn cryfhau amddiffyniadau yn erbyn troseddau casineb. Gall CHTh sicrhau bod pob Canolfan Adrodd am Ddigwyddiadau Casineb yn cael cyhoeddusrwydd drwy gyfathrebu cydgysylltiedig i godi ymwybyddiaeth a magu hyder i reportio achosion o droseddau casineb.
- Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater o bwys i’n cymunedau ac fe’i codir yn aml fel pryder gan aelodau o’r cyhoedd. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn cwmpasu sbectrwm o faterion o barcio anystyriol i yrru’n beryglus, ond mae nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffordd yn bryder mawr. Cofnodwyd 1,580 o farwolaethau ar y ffyrdd a 131,220 o rai wedi eu hanafu yn 2020, sy’n ostyngiad o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau o’r fath yn y rhai gafodd eu hanafu a gofnodwyd yn y DU wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau cenedlaethol a ddaeth i rym o fis Mawrth 2020 ymlaen yn sgil pandemig y Coronafeirws. Gall CHTh ddarparu adnoddau a fydd yn annog yr heddlu i hyrwyddo gwell ymddygiad ymhlith gyrwyr a defnyddwyr ffyrdd.
- Gall trais difrifol gael effaith ddinistriol ar fywydau unigolion, eu teuluoedd, a’r cymunedau lle maent yn byw. Yn aml, mae cysylltiad rhwng troseddu cyfundrefnol, trais difrifol, a’r defnydd o arfau, ac ar y cyd gallant ddinistrio bywydau. Mae gweld y cynnydd cyflym mewn troseddau cyllyll a nifer y bobl ifanc sydd wedi dioddef yn sgil gweithredoedd o’r fath yn peri pryder enfawr. Bydd deall maint a natur trais difrifol yn allweddol wrth bennu’r mesurau ataliol sydd eu hangen. Gall CHTh weithio gyda gwasanaethau i annog integreiddio gwasanaethau i alluogi gwasanaethau cyson ac effeithiol ar draws eich ardaloedd i ddioddefwyr ac i’r rhai sydd mewn perygl o niwed.
- Caethwasiaeth Fodern: Amcangyfrifir bod tua 136,000 o oedolion a phlant yn ddioddefwyr caethwasiaeth yn y DU, ac mae’r nifer yn codi bob blwyddyn.
Bwriad y Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (NRM) yw sicrhau bod unrhyw un yr amheuir ei fod yn ddioddefwr yn derbyn gofal tra bod ei achos yn cael ei ymchwilio. Mae llawer o bobl yn aros sawl blwyddyn i benderfyniad gael ei wneud, ac mae cyfraddau erlyn am droseddu caethwasiaeth yn eithriadol o isel. Ar hyn o bryd nid yw data NRM wedi’u dadgyfuno ar gyfer pob sir, felly mae’n anodd dod o hyd i’r ffeithiau am droseddau a gyflawnwyd, risgiau i’r gymuned a nifer yr atgyfeiriadau. Gweinyddir llawer o’r cymorth a roddir i ddioddefwyr caethwasiaeth yn yr NRM gan sefydliadau gwirfoddol sydd wedi’u contractio o fewn y Contract Gofal Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern. Er ei bod yn bwysig cynnal diogelwch dioddefwyr sy’n agored i niwed, mae’n anodd iawn i eglwysi a grwpiau cymunedol nad ydynt yn ddeiliaid contract gynnig cymorth ychwanegol, oherwydd anhawster cael gwybodaeth am niferoedd a lleoliadau dioddefwyr yn eu hardal.
Mae gan CHTh rôl i flaenoriaethu a chydlynu gwaith i ganfod caethwasiaeth fodern, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac i annog cyfathrebu rhwng sefydliadau lleol sy’n awyddus i gynnig cymorth i ddioddefwyr.
Cwestiynau i ymgeiswyr
Er y gall materion blaenoriaeth amrywio yn dibynnu ar eich ardal, dyma rai cwestiynau y gallech ddewis eu gofyn i ymgeiswyr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n sefyll mewn etholiad.
- Sut ydych chi’n bwriadu cymryd i ystyriaeth ganfyddiadau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o gam-drin domestig yn eich gwaith?
- Pa raglenni wedi’u datblygu’n lleol fyddech chi’n eu dewis er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr offer i reoli gwrthdaro a phwysau gan gyfoedion yn well er mwyn osgoi trais difrifol?
- Beth ydych chi’n bwriadu fydd eich prif gyfraniad tuag at wella perfformiadau’r gwasanaethau y byddwch yn eu harwain, eu hariannu neu’n dylanwadu arnynt?
- Sut ydych chi’n mynd i sicrhau bod eich atebolrwydd i’r cyhoedd yn cael ei archwilio fwy nag unwaith bob pedair blynedd?
- Pa flaenoriaeth fyddwch chi’n ei roi i ganfod ac erlyn achosion o Gaethwasiaeth Fodern yn eich ardal? Sut byddwch chi’n helpu i leihau’r achosion sydd wedi cronni yn y system, sy’n aros am benderfyniadau ar hyn o bryd?
Cysylltu
Fe hoffem wybod sut yr oedd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol a beth y dylid ei ychwanegu neu ei newid ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Os oes gennych gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau, ysgrifennwch at:
Gethin Rhys gethin@cytun.cymru
Joint Public Issues Team enquiries@jointpublicissues.org.uk
Diweddarwyd yr erthygl ym mis Mawrth 2021 gan Rodney Coker