Mae darlith goffa’r Parch Lloyd Jones a draddodwyd gan Brif Weithredwr Cytûn, Siôn Brynach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi ei chyhoeddi. Traddodwyd y ddarlith ar wahoddiad y Parch Casi Jones, gweddw Lloyd, a’r Parch Rosie Dymond, Rheithor Ardal Weinidogaeth Uwch Gwyrfai, ac fe’i thraddodwyd yn Eglwys St Beuno, Clynnog fawr.

Gan siarad heddiw, dywedodd Siôn:

“Braint o’r mwyaf oedd cael gwahoddiad i draddodi’r ddarlith hon yn eglwys St Beuno lle bu Lloyd yn Reithor yn y gorffennol. Roedd Lloyd a minnau yn gyd-weithwyr ac yn gyfeillion flynyddoedd yn ôl a’n llwybrau wedi croesi o dro i dro yn y blynyddoedd wedi hynny. Mae ei golled i’w deimlo yn ddwys, a gobeithio y byddai teitl y ddarlith wedi codi gwen ar wyneb Lloyd ac yntau yn eciwmenydd o argyhoeddiad, ac yn hoff iawn o fynyddoedd hefyd.

“Her yw’r ddarlith i’n harweinwyr eglwysig ystyried dyfodol y mudiad eciwmenaidd yng Nghymru a chyfeiriad Cytûn yn benodol. Mae ein cyfansoddiad yn ei gwneud hi’n glir mai dyma dasg arweinwyr yr eglwysi sy’n aelodau o Cytûn – mewn cydweithrediad â’n hymddiriedolwyr – yw hyn. Gobeithio y bydd y grwpiau hyn yn mynd i’r afael â’r dasg yn ebrwydd, yn egnïol a chyda calonnau agored a llon.”

Mae’r areithiau allweddol o Gymanfa Gyffredinol CEC, Tallinn, y cyfeirir atynt yn yr araith isod, i’w cael ar y dudalen hon (Saesneg yn unig)