Yng nghyfarfod ymddiriedolwyr Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) a gynhaliwyd ar lein heddiw, fe gadarnhawyd penodi Dr Cynan Llwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol i Cytûn o 1 Gorffennaf 2024. Mae’n olynu’r Parch. Siôn Brynach a fu’n Brif Weithredwr Cytûn tan ddiwedd Ebrill, ac sydd bellach yn offeiriad llawn-amser gyda’r Eglwys yng Nghymru.

Brodor o Aberystwyth yw Cynan ond bellach mae’n byw yn Nhrelluest (Grangetown) yng Nghaerdydd gyda’i wraig Rachel a’u dau mab. Mae’n ddiacon yn Eglwys Ebeneser Caerdydd (Annibynwyr) ac yn un o arweinwyr Angor Grangetown, sy’n un o fentrau arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddo MPhil o Brifysgol Aberystwyth a PhD o Brifysgol Caerdydd ble ymchwiliodd i fewn i Athrawiaeth yr Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant yng ngwaith rhai o’r Piwritaniaid Cymreig a’u goblygiadau cymdeithasol yng Nghymru. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ag eglwysi ac elusennau yng Nghymru. Bu’n gweithio fel cynorthwy-ydd bugeiliol yn eglwysi San Mihangel a’r Santes Fair, Aberystwyth cyn cael ei benodi’n Swyddog Plant a Phobl Ifanc Llenyddiaeth Cymru. Mae wedi gweithio i Cymorth Cristnogol fel Cydlynydd Rhanbarthol De Cymru ac yna’n Bennaeth Dros Dro ac ar hyn o bryd ef yw Pennaeth Tearfund Cymru. Mae hefyd yn awdur, ac mae Gwasg Y Lolfa wedi cyhoeddi dwy nofel o’i eiddo i bobl ifanc ac mae’i drydedd nofel ar fin ei chyhoeddi gan Llyfrau Broga.

Croesawyd Cynan yn gynnes gan aelodau’r cyfarfod. Dywedodd Cadeirydd Cytûn, y Barch. Jennifer Hurd, “Mae’n braf iawn croesawu Cynan fel Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Cytûn ac i’w longyfarch ar ei benodiad. Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio tra dw i’n gwasanaethu fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cytûn, a boed i Dduw fendithio gwaith Cynan efo’r eglwysi yng Nghymru er mwyn i ni nesáu at ein gilydd a chydweithio er mwyn teyrnas Dduw.”

Ymatebodd Cynan, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn. Edrychaf ymlaen at gyd-weithio gyda’r eglwysi yng Nghymru wrth i ni geisio ewyllys Duw gyda’n gilydd, i ni “fod yn un fel dŷn ni yn un” (Ioan 17:22). Mae’n gyfnod cyffrous a heriol i ni fel eglwysi a gweddïaf y tyfwn yn agosach at Dduw ac at ein gilydd dros y cyfnod sydd i ddod.”