ATODLEN 1

Sylfaen

Mae CYTÛN yn uno mewn pererindod yr eglwysi hynny yng Nghymru sydd, gan gydnabod datguddiad Duw yng Nghrist, yn cyffesu’r Arglwydd Iesu Grist fel Duw a Gwaredwr yn ôl yr Ysgrythurau; ac mewn ufudd-dod i ewyllys Duw ac yng ngrym yr Ysbryd Sanctaidd, yn ymrwymo eu hunain i geisio dyfnhau eu cymundeb â Christ ac â’i gilydd yn yr Eglwys, sef ei gorff ef, ac i gyflawni eu cenhadaeth o gyhoeddi’r Efengyl trwy fod yn dystion a thrwy wasanaeth yn y byd, er gogoniant yr un Duw Dad, Mab ac Ysbryd Sanctaidd.

ATODLEN 2

Datganiad Cenhadaeth

Bydd yr Elusen yn ceisio hyrwyddo ei amcanion trwy wneud y canlynol:

  1. annog yr eglwysi i dyfu yn yr undod y mae Crist yn roi ac yn ewyllysio i’w eglwys `fel y daw’r byd i gredu’
  • cadarnhau ac arddangos rhan ganolog addoliad a gweddi ym mhob tasg a wneir
  • galluogi’r eglwysi i wynebu gyda’i gilydd y materion sy’n eu gwahanu fel y gallant dyfu i ddealltwriaeth lawnach o natur, pwrpas ac undod eglwys Crist
  • annog yr eglwysi i ymgymryd ynghyd â mentrau mewn cenhadaeth ac efengylu
  • galluogi’r eglwysi i ymateb ynghyd i anghenion y gymdeithas ddynol, yn yr ynysoedd hyn a thramor, trwy rannu’r adnoddau hynny a ddarparwyd gan Dduw
  • galluogi’r eglwysi i ddod ynghyd mewn deialog a’r awdurdodau seciwlar a Chrefyddau eraill y Byd mewn pob mater priodol
  • helpu’r eglwysi i fod o’r un meddwl ac i gymryd penderfyniadau gyda’i gilydd
  • parhau i gyflawni’r cyfryw swyddogaethau a chyfrifoldebau hynny a roddwyd i’r Elusen neu a osodwyd arni dan ei henw blaenorol o Gyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon ac y tybir sy’n briodol gan yr eglwysi sy’n aelodau o’r Elusen

Yn yr holl faterion hyn, bydd a wnelo’r Elusen yn bennaf a’r materion eglwysig a chyhoeddus hynny sydd angen adnoddau, myfyrdodau neu weithredoedd cyffredin yr eglwysi oll, gan gadw mewn cof y dimensiynau Ewropeaidd a byd-eang.