Yn atebol i:

Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Yn gyfrifol am:

  • Y Gweinyddwr a Chynorthwyydd Personol yr Ysgrifennydd Cyffredinol
  • Swyddog Polisi
  • Staff eraill a gwirfoddolwyr fel bydd angen

Pwrpas y Rôl

Darparu arweiniad gyda gweledigaeth ar eciwmeniaeth ac ymwneud cyhoeddus gan Eglwysi Cymru, a hwyluso a dwyn ymlaen y rhaglen waith a’r blaenoriaethau a osodir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Cytûn i wasanaethu’r Eglwysi.

Cyfrifoldebau a Swyddogaethau Cysylltiedig:

1          Hyrwyddo Cenhadaeth trwy Undod

  • hyrwyddo deialog rhwng arweinwyr yr eglwysi sy’n aelodau o Cytûn
  • cychwyn a chefnogi rhaglenni a chynlluniau i gryfhau ymwneud rhyng-eglwysig, trwy feithrin perthynas agosach gydag eglwysi eraill a grwpiau o eglwysi a thrwy gyfarfodydd anffurfiol gyda chyrff perthnasol eraill
  • trwy oruchwylio cefnogaeth i’r Cyfamod dros Undod yng Nghymru trwy Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol.
  • trwy gefnogi Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
  • trwy helpu’r Eglwysi i hyrwyddo’r ymrwymiadau a wnaed ganddynt a’u cynorthwyo i ymateb i bobl o wahanol ffydd

2          Annog Bywyd Eglwysig sy’n cael ei Rannu

  • cyfarfod ac ymgynghori ag Arweinwyr Eglwysig a chymryd rhan briodol yn nhrafodaethau eu cyrff llywodraethol
  • galluogi’r Eglwysi a’r Enwadau (aelodau Categori A Cytun) i hyrwyddo ymatebion a strategaethau ar y cyd, gan gynnwys y rhai y cytunwyd arnynt gyda CTBI
  • cefnogi asiantaethau eglwysig (aelodau Categori B Cytun) megis Cymorth Cristnogol, CAFOD, ayb

3          Galluogi Cytûn i chwarae ei ran ym mywyd cyhoeddus y genedl

  • cysylltu â’r Senedd, Llywodraeth Cymru ac eraill dros ymwneud Cytûn a gwasanaethau a dathliadau cenedlaethol
  • sicrhau yr ymatebir yn briodol i fentrau gan y llywodraethau datganoledig a llywodraeth y DU

4          Llywodraethiant a Rheoli

  • Ymgymryd â rôl ysgrifennydd cwmni Cytûn fel cwmni elusennol cyfyngedig trwy warant
  1. Sicrhau bod gan yr Ymddiriedolwyr yr adnoddau digonol ar gyfer y penderfyniadau mae angen iddynt eu cymryd
  2. Sicrhau y gweithredir penderfyniadau’r Ymddiriedolwyr yn gywir
  3. arfer rheolaeth gyffredinol a chydgordio gwaith CYTÛN, rheolaeth ariannol a goruchwylio staff
  4. sicrhau drafftio papurau, adroddiadau, agendau ar gyfer holl gyfarfodydd CYTÛN
  5. mynychu cyfarfodydd bwrdd CTBI a chydweithredu â CTBI
  6. bod yn gyfrifol am gyflwyno datganiadau cyhoeddus ysgrifenedig a rhai a ddarlledir.

5             Sicrhau cynrychiolaeth CYTÛN

  • ar Fforwm Cymunedau Ffydd y Senedd, ac ar Gyngor Rhyng-Ffydd Cymru
  • trwy eiriolaeth Eglwysi ac Enwadau Cymru yng nghyrff ecwmenaidd yr Eglwys:

a) ym Mhrydain ac Iwerddon,

b) Cyngor yr Eglwysi Ewropeaidd (CEC) a chyfarfodydd Ysgrifenyddion Cyffredinol Cynghorau Eglwysi Cenedlaethol Ewrop, ac

c) fel Cynrychiolydd Dirprwyedig i Gyngor Eglwysi’r Byd

Efallai y gofynnir i’r Ysgrifennydd Cyffredinol ymgymryd â thasgau eraill ar wahân i’r uchod fel y cytunir arnynt gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Oriau:

37.5 yr wythnos

Cyflog:

£46,179 y flwyddyn. 

Anogir pob aelod o’r staff sydd heb fod mewn cynllun pensiwn i ymuno â’r cynllun pensiwn a gynigir gan Cytûn.