Cefndir
Dangosodd cyfrifiad 2011 fod dros 95% o boblogaeth Cymru yn wyn. Nododd y cyfrifiad hefyd bresenoldeb nifer cynyddol o rai cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a Chynghrair Efengylaidd Cymru wedi cydweithio i sicrhau bod lleisiau eglwysi dan arweiniad pobl dduon yn cael eu clywed yn enwedig ar Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru.
Cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae’r gwirioneddau a ddatgelwyd gan Covid-19 wedi llunio’r sgwrs am gyfiawnder hiliol. Datgelodd yr adroddiad economaidd-gymdeithasol ar farwolaethau BAME Covid-19 yng Nghymru, yn dilyn adolygiad dan arweiniad yr Athro Emmanuel Ogbonna ym mis Mehefin 2020, batrwm cymhleth o anfanteision hirsefydlog. Dangosodd dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fod pobl o gefndir ethnig du yng Nghymru a Lloegr mewn mwy o berygl o farw o Covid-19. Mae’r risg i ddynion du wedi bod fwy na thair gwaith yn uwch na dynion gwyn a bron i ddwy waith a hanner yn uwch ar gyfer menywod du na menywod gwyn. Tynnodd Adroddiad Ogbonna sylw at faterion sy’n peri pryder megis hiliaeth ac anfantais hirsefydlog, diffyg cynrychiolaeth BAME o fewn prosesau gwneud penderfyniadau a faint o’r materion sy’n peri pryder a amlygwyd yn y gorffennol ond nad oeddent wedi cael sylw mewn unrhyw ffordd systemig na pharhaus. Cynigiodd yr adroddiad fwy na 30 o argymhellion.
Materion Mewnfudo
Cyhoeddwyd Papur Safbwynt Cymru ar Ymfudo ym mis Mawrth 2020 yn amlygu’r angen i leihau neu ddileu’r trothwy cyflog o £25,600 ar gyfer fisa gwaith a chyfeirio at yr angen am bolisïau unigryw yng Nghymru. Er bod system fewnfudo newydd y DU sy’n seiliedig ar bwyntiau yn caniatáu rhywfaint o ‘gyfnewid’ cyflog is yn erbyn, er enghraifft, cynnig swydd neu gymwysterau penodol, mae’r trothwy hwn yn parhau i fod yn uchel o ystyried lefelau cyflog yng Nghymru. Bydd y cynllun gweithwyr amaethyddol tymhorol yn cael effaith gyfyngedig yng Nghymru gan fod galw am weithwyr yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn.
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
Mae Cymru wedi croesawu ceiswyr lloches drwy system wasgaru’r Swyddfa Gartref gan dderbyn bron i 7% o gyfanswm y DU. Mae Cymru hefyd wedi croesawu ffoaduriaid o dan gynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed Syria yn y DU a chynllun Adsefydlu Plant Agored i Niwed, y mae rhai ohonynt wedi’u noddi gan grwpiau cymunedol gan gynnwys eglwysi a chymunedau ffydd eraill.
Mae Cymru wedi arloesi mentrau hirsefydlog fel Cynllun Hyfforddi Cymru i Feddygon sy’n Ffoaduriaid (WARD) a gychwynnwyd yn 2002 sydd â rhyw 100 o feddygon wedi’u hailhyfforddi ar hyn o bryd yn gallu gweithio yn y GIG. Erbyn hyn, mae blaenoriaethau strategol yn cael eu hidlo drwy’r Genedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Cychwynnwyd cysyniad Cenedl Noddfa gan yr eglwysi yng Nghymru.
Dinasyddion Ewrop
Mae cymunedau ffydd ochr yn ochr â phartneriaid eraill yng nghymdeithas ddinesig Cymru wedi ceisio sicrhau bod hawliau dinasyddion Ewrop sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cynnal. Mae prosiect Hawliau Dinasyddion UE Cymru (EUCR) yn ceisio cefnogi’r 80,000 o ddinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru. Cynigiwyd cyngor i’r rhai y mae angen iddynt wneud cais am statws preswylydd sefydlog yr UE. Yn 2020, tynnodd Sefydliad Bevan sylw at adborth gan ddinasyddion a rhanddeiliaid yr UE yn amlygu diffyg ymwybyddiaeth o ddarpariaeth cefnogaeth Cymru, dryswch a achosir gan wybodaeth anghywir a sesiynau gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb yn cael eu hatal oherwydd Coronafeirws.
Rhagor o Wybodaeth
Mae Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru yn rhoi trosolwg o faterion mewnfudo yng Nghymru ac mae wedi cyhoeddi sawl adroddiad llawn gwybodaeth. Mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn sefydliad partner.
Cwestiynau i ymgeiswyr
- A ddylai Cymru allu pennu ei blaenoriaethau ei hun ar gyfer mewnfudo, ar wahân i’r rhai ar gyfer gweddill y DU? Os felly, beth ddylen nhw fod?
- Sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd a ddatgelwyd gan bandemig Covid-19?
- Ydych chi’n cefnogi’r syniad y dylai Cymru fod yn genedl noddfa? Os felly, pa gamau ymarferol pellach ddylai gael eu cymryd i groesawu ffoaduriaid i Gymru?
Cysylltu
Fe hoffem wybod sut yr oedd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol a beth y dylid ei ychwanegu neu ei newid ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Os oes gennych gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau, ysgrifennwch at:
Gethin Rhys gethin@cytun.cymru
Diweddarwyd yr erthygl ym mis Mawrth 2021 gan Aled Edwards a Gethin Rhys