Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
Mae ariannu a threfnu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru (gan weithio drwy bedwar Bwrdd Iechyd rhanbarthol) yw gofal iechyd, ac fe’i hariennir drwy drethiant cyffredinol. Mae unigolion yn talu (ar sail prawf modd) am wasanaethau deintyddol ac optegol, ond nid ar gyfer gofal iechyd cyffredinol. Mae gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu a’i ddarparu drwy awdurdodau lleol, ac mae unigolion yn cael prawf modd, felly mae’r rhai sydd â digon o incwm neu gynilion yn cyfrannu at y gost.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Ddadansoddi Cyllidol Cymru, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy’n amhleidiol, gofal anffurfiol a ddarperir gan ffrindiau a pherthnasau yw’r ffynhonnell fwyaf o ddarpariaeth gofal oedolion o bell ffordd. Amcangyfrifir mai cost prynu’r gofal hwn am bris y farchnad fyddai £8 biliwn – sy’n cyfateb yn fras i gyllideb flynyddol GIG Cymru. Mae’r trydydd sector (gwirfoddol) hefyd yn darparu llawer o ofal cymdeithasol. Darperir rhywfaint o hyn yn ffurfiol, drwy gontractau gydag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, darperir llawer ohono’n anffurfiol. Mae eglwysi a chyrff gwirfoddol eraill yn cynnig cyfleoedd i’r rhai sy’n derbyn gofal (efallai oherwydd dementia neu anabledd) a’u gofalwyr i gyfarfod ar gyfer achlysuron cymdeithasol, i rannu profiadau, neu i gael awr neu ddwy allan o’u cartref.
Yn 2018 argymhellodd Adolygiad Seneddol trawsbleidiol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru y dylid integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well o lawer. Mae Llywodraeth Cymru sy’n ymadael wedi cynnig mwy o gydlynu ar ofal cymdeithasol ac iechyd, heb newid y trefniadau presennol yn sylfaenol.
Mae gofal cymdeithasol wedi cael ei daro’n galed gan Covid-19. Roedd 23% o’r holl rai fu farw oherwydd Covid-19 yng Nghymru hyd at ddiwedd Ionawr 2021 yn breswylwyr cartrefi gofal. Cafodd llawer o’r rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofal y rhai sy’n byw gartref a’u gofalwyr di-dâl eu hatal dros dro yn ystod y pandemig.
Nid yn unig y mae’r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector, mae hefyd wedi amlygu ei wendidau. Mae adroddiad Dadansoddi Cyllidol Cymru yn nodi pedwar mater allweddol y mae’n rhaid i bolisi yng Nghymru yn y dyfodol fynd i’r afael â hwy:
- Lefel yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau gofal effeithiol. Ar ôl cyfrif am chwyddiant, gostyngodd gwariant cyhoeddus ar ofal cymdeithasol i oedolion hŷn yng Nghymru o £1,058 i £956 y pen rhwng 2009–10 a 2018–19. Dangosodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y bydd poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym yn gwneud hyd yn oed y lefel bresennol o ddarpariaeth gofal cymdeithasol a ariennir yn gyhoeddus yn anfforddiadwy cyn bo hir. Argymhellodd felly naill ai i gynyddu cyfraddau treth incwm yng Nghymru tua 1.5c yn y £ i ariannu gofal cymdeithasol, neu i gyflwyno ardoll gofal cymdeithasol i sefydlu cronfa gofal cymdeithasol ar wahân. Nid yw’r naill gynnig na’r llall wedi’i symud ymlaen eto.
- Natur dameidiog darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, yn enwedig mewn gofal preswyl, gyda dros 1,000 o ddarparwyr yn gweithredu ledled Cymru. Dim ond 9% o leoedd cartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, ac mae tri awdurdod lleol (Torfaen, Powys a Chaerdydd) yn gwbl ddibynnol ar y sector preifat am ddarpariaeth cartrefi gofal.
- Cyflog isel a throsiant staff uchel. Telir y Cyflog Byw gwirioneddol (£9.50 yr awr ar hyn o bryd) i lai na hanner y gweithlu gofal personol yng Nghymru, ac mae gweithwyr wedi wynebu degawd o ddim gwelliant cymharol mewn cyflog.
- Yr anhawster i ragweld a bodloni’r galw yn y dyfodol. Ychydig iawn o dwf a welwyd mewn adnoddau cyhoeddus mewn mwy na degawd, ac mae cwestiynau ynghylch a all y strwythur ffioedd presennol ddenu buddsoddiad newydd i gyflenwad sy’n breifat yn bennaf.
Ystyriodd adroddiad pellach gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru y gwersi y gellir eu dysgu o gyflwyno gofal personol am ddim yn yr Alban, ac archwiliodd oblygiadau posibl gweithredu’r un polisi yng Nghymru. Mae Cymru eisoes wedi gosod cap o £60 yr wythnos ar daliadau am ofal yn eich cartref eich hun ac wedi cynyddu’r trothwy asedau sy’n golygu bod angen i breswylwyr cartrefi gofal ariannu eu costau eu hunain i £50,000. Mae hyn yn golygu y byddai man cychwyn Cymru mewn perthynas â gofal personol am ddim yn wahanol i’r Alban, gyda rhai o gostau cysylltiedig y polisi eisoes yn rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad yn cyfrifo y gallai’r opsiwn o ddarparu ‘gofal personol am ddim’ i oedolion hŷn yn debyg i’r Alban gostio tua £300m y flwyddyn i ddechrau (sy’n cyfateb i 1.5% o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd). Ond mae ffactorau a allai godi cost hirdymor y polisi. Mae’r boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru yn gyfatebol ychydig yn fwy nag yn yr Alban ac mae disgwyl i’r boblogaeth dros 85 oed dyfu ychydig yn gyflymach. Gallai mwy o achosion o eiddilwch fod yn ffactor arall a fyddai’n cynyddu costau. Mae goblygiadau hefyd i’r rhyngweithio rhwng ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r system fudd-daliadau sy’n cael ei rheoli gan Lywodraeth y DU.
Cwestiynau i ymgeiswyr
- Ydych chi o blaid cynyddu trethiant i ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol? Os felly, sut fyddech chi’n trefnu hyn? Os na, sut ydych chi’n cynnig y dylid ariannu’r gofal hwnnw?
- Sut ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth nesaf Cymru gefnogi gofalwyr di-dâl a chyrff gwirfoddol sy’n darparu gofal anffurfiol?
- A ddylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu hintegreiddio’n well, neu hyd yn oed eu huno’n un gwasanaeth? Os felly, ydych chi’n credu y dylai’r gwasanaeth newydd hwn gael ei lywodraethu’n lleol neu’n genedlaethol?
Cysylltu
Fe hoffem wybod sut yr oedd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol a beth y dylid ei ychwanegu neu ei newid ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Os oes gennych gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau, ysgrifennwch at:
Gethin Rhys gethin@cytun.cymru
Diweddarwyd yr erthygl ym mis Mawrth 2021 gan Gethin Rhys