ETHOLIADAU CYMRU 2021 – CANLLAW CWTA

Ar y 6ed o Fai 2021, caiff etholwyr Cymru eu cyfarch gan ddau etholiad gwahanol, tair system bleidleisio wahanol, a thair ffin etholaethol wahanol. Mewn ambell ardal, fe all y bydd is-etholiadau i ethol cynghorwyr lleol, a ohiriwyd oherwydd pandemig Covid-19.

Dyma ganllaw cyflym o beth i’w ddisgwyl.

Cofrestru i bleidleisio

Er mwyn taro pleidlais yn yr etholiadau fis Mai, rhaid sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych wedi cofrestru, ni fyddwch yn medru pleidleisio. Mae rhaid i bob unigolyn gofrestru ar wahân (yn hytrach na fesul teulu neu trwy neuadd breswyl ac ati, fel y digwyddai cyn 2016). Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, fe ddylech dderbyn llythyr gan eich Cyngor Lleol yn nodi hyn. Fel arall, gellir cofrestru’n hawdd iawn ar-lein neu drwy’r post – sylwer y bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch i wneud hyn. Cewch hefyd yr opsiwn i gofrestru am bleidlais bost. Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio fe ddylech dderbyn Cerdyn Pleidleisio ychydig wythnosau cyn yr etholiad a fydd yn nodi’r orsaf lle gewch bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Nid oes angen mynd â’r cerdyn gyda chi i’r orsaf bleidleisio.

16 yw’r isafswm oedran i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd, ond 18 ar gyfer yr etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac isetholiadau lleol. Mae pob dinesydd tramor sy’n byw yn gyfreithlon yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, ond dim ond dinasyddion o’r DU, yr Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd a dinasyddion cymwys o’r Gymanwlad all bleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac unrhyw isetholiadau lleol (er y bydd pob dinesydd tramor sy’n byw yma yn gyfreithlon, a’r sawl sydd yn 16 neu 17 oed, yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol o Fai 2022). Os oes gennych ymholiadau pellach ynghylch cofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu cysylltwch â’ch Cyngor Sir. Y dyddiad terfynol i gofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 19eg Ebrill 2021.

Etholiadau Senedd Cymru

Ers ei sefydlu yn 1999 mae Senedd Cymru (neu’r Cynulliad Cenedlaethol fel y’i galwyd o’r blaen) wedi datblygu’n sylweddol, gan bellach ddal grym deddfu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys iechyd, addysg, yr amgylchedd a thai. Ers 2011 fe gynhelir etholiadau bob pum mlynedd. Caiff 60 o aelodau eu hethol i’r Senedd drwy system etholiadol rhannol-gyfrannol, gyda 40 aelod etholaethol yn cael eu hethol drwy system etholiadol y cyntaf heibio’r postyn, ac 20 aelod rhanbarthol a etholir drwy system etholiadol Aelod Ychwanegol. Bydd pob etholwr felly yn derbyn dau bapur pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd ar ddiwrnod yr etholiad.

Y cyntaf heibio’r postyn

Dyma’r un system a gaiff ei defnyddio yn etholiadau San Steffan. Cynhelir yr etholiadau ar draws y 40 etholaeth Gymreig, gyda disgwyl i’r etholwr osod croes gerllaw enw un o’r ymgeiswyr. Bydd yr ymgeisydd gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau yn yr etholaeth yn cael ei ethol i’r Senedd. Gall mwyafrifau’r ymgeiswyr llwyddiannus amrywio’n sylweddol ar draws etholaethau Cymru. Er enghraifft, yn 2011 bu i’r Blaid Lafur ennill sedd Canol Caerdydd gyda mwyafrif pitw o 38 pleidlais, ond ym Mlaenau Gwent cafodd y Blaid Lafur fwyafrif o dros 9,000 pleidlais.

System Aelod Ychwanegol

Ceir 5 Rhanbarth etholiadol yng Nghymru, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gorllewin De Cymru a Chanol De Cymru. Etholir 4 aelod (AS) i bob rhanbarth.

Nod y system Aelod Ychwanegol yw sicrhau elfen o gyfranoldeb yn y Senedd. Mae’n gwobrwyo pleidiau sydd wedi ennill nifer o bleidleisiau, ond heb ennill fawr o seddi etholaethol. Er enghraifft, yn 2011 bu i’r Democratiaid Rhyddfrydol ond ennill 1 sedd etholaethol, ond bu i’r blaid ennill 4 sedd ranbarthol drwy’r system Aelod Ychwanegol. Cyfeirir at y bleidlais yma yn aml fel ‘rhestr bleidiol’ gan fod etholwyr fel arfer yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag unigolyn. Pe dymunant, gall etholwyr bleidleisio am blaid wahanol yn etholaethol a rhanbarthol, neu fe allant bleidleisio am yr un blaid ddwywaith. Yn draddodiadol, ceir mwy o bleidiau gwleidyddol yn cystadlu ar restri rhanbarthol y Senedd nag yn yr etholaethau.

Nid ‘ail ddewis’ yw’r ail bleidlais yma. Mae’r pleidleisiau etholaethol a rhanbarthol yn cael eu cyfrif ar wahân, a’r ddwy bleidlais yn cyfrannu i’r canlyniad terfynol. Caiff y seddi rhanbarthol eu dyfarnu yn ôl system d’Hondt (gweler y nodyn ar y diwedd). Canlyniad y drefn yw bod plaid sydd yn ennill nifer o seddi etholaethol mewn rhanbarth yn annhebyg o ennill seddi rhanbarthol. Er enghraifft, yn 2011 enillodd y Blaid Lafur 5 sedd etholaethol yn rhanbarth Gogledd Cymru, ond dim un sedd ranbarthol.

Bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr, a gaiff eu hethol i’r Senedd yn eu trefn ar y rhestr. Ceir eithriad i hyn, gan y gall ymgeisydd sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol eu plaid. Os yn ennill sedd etholaethol, bydd y sedd ranbarthol yn cael ei phasio i’r ymgeisydd islaw’r unigolyn ar y rhestr bleidiol ranbarthol. Er enghraifft, yn 1999 etholwyd Cynog Dafis (a oedd yn ail ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru Plaid Cymru) i’r Cynulliad, gan y bu i ymgeisydd rhanbarthol safle cyntaf y blaid (Helen Mary Jones) ennill sedd etholaethol yn Llanelli.

Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd

Bydd y trydydd papur pleidleisio ar gyfer y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn caniatáu pleidleisio ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Ond bydd rhai etholwyr sy’n gallu pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru yn anghymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr. Mae hyn yn cynnwys y sawl sy’n 16 neu’n 17 oed ar ddiwrnod yr etholiad a dinasyddion tramor, ag eithrio dinasyddion yr UE a dinasyddion cymwys y Gymanwlad.

Cyflwynwyd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i Gymru a Lloegr yn 2012, gan ddisodli’r awdurdodau heddlu lleol. Mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am ddal y Prif Gwnstabl a’r heddlu yn atebol ar ran y cyhoedd, gan hefyd ddal cyfrifoldebau megis rheoli’r gyllideb ac apwyntio Prif Gwnstabliaid.

Ceir 4 Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru: Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent. Mae ffiniau’r lluoedd hyn yn wahanol i ffiniau rhanbarthau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Caiff Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eu hethol drwy system y Bleidlais Atodol (Supplementary vote). Ceir dwy golofn ar y papur pleidleisio – y gyntaf i’r etholwr gael nodi ei ddewis cyntaf, a’r ail ar gyfer ei ail ddewis. Nid oes raid i’r etholwr ddefnyddio’r ail golofn os nad yw’n dymuno gwneud hynny. Caiff y pleidleisiau dewis cyntaf eu cyfrif yn gyntaf. Os oes gan unrhyw ymgeisydd fwyafrif (50%+), cânt eu hethol. Os nad oes gan unrhyw ymgeisydd fwyafrif, mae’r ddau ymgeisydd gyda’r bleidlais uchaf yn mynd i’r ail rownd, tra caiff yr ymgeiswyr eraill eu bwrw allan. Caiff ail bleidleisiau pawb a bleidleisiodd am ymgeisydd a fwriwyd allan eu cyfri. Caiff unrhyw bleidleisiau am y ddau ymgeisydd sydd ar ôl eu hychwanegu i’w cyfanswm. Pa bynnag ymgeisydd sydd gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau erbyn diwedd yr ail rownd fydd yn ennill.

Isetholiadau awdurdod lleol

O ganlyniad i Covid-19, gohiriwyd isetholiadau yr oedd eu hangen i lenwi seddi gwag ar awdurdodau lleol ers Mawrth 2020. Fe all y cynhelir rhai o’r isetholiadau hyn ar yr un pryd â’r etholiadau eraill ar Fai 6ed 2021. Dim ond y mathau hynny o bobl oedd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau llawn diwethaf ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn 2017 fydd yn gallu pleidleisio yn yr isetholiadau hyn – yr un bobl ag sy’n gallu pleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. (O Fai 2022, bydd pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru yn gallu pleidleisio yn etholiadau ac isetholiadau’r awdurdod lleol hefyd).

Cynhelir isetholiadau lleol dan y drefn ‘Cyntaf heibio’r postyn’ (gweler tudalen 1 uchod).

Gwybodaeth bellach

https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

http://www.electoralcommission.org.uk/cy

http://www.apccs.police.uk/role-of-the-pcc/ [Saesneg yn unig]

Cydnabyddiaeth

Mae Cytûn yn hynod ddiolchgar i Aled Morgan Hughes o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, am baratoi rhifyn 2016 o’r Canllaw hwn. Cafodd ei ddiweddaru’n llawn ar gyfer 2021.

Nodyn: System etholiadol d’Hondt (ar gyfer seddi rhanbarthol y Cynulliad)

Yn gyntaf caiff y pleidleisiau rhanbarthol eu cyfrif, ac fe gofnodir y nifer o bleidleisiau y bu i bob plaid wleidyddol ei derbyn. Caiff y nifer hwn ei rannu gyda’r nifer o seddi bu i’r blaid ennill yn y rhanbarth, gan ychwanegu un sedd i’r hafaliad. Bydd y blaid gyda’r cyfanswm uchaf wedi’r rhannydd yn ennill y sedd ranbarthol gyntaf, gyda’r broses yno cael ei hail-adrodd (gan ychwanegu’r seddi bu i’r pleidiau ennill i’r hafaliad) tan y bydd y 4 sedd ranbarthol wedi eu dyfarnu.

Ceir diagram islaw yn dangos yn fanylach un enghraifft o’r system ar waith.

System Aelod Ychwanegol (Rhanbarth Gogledd Cymru: Etholiad Cynulliad 2011)

(Er hwylustod, hepgorir o’r tabl y pledleisiau ar gyfer pleidiau nad oeddynt wedi ennill yr un sedd)

North Wales Regional Result 2011: 2 Conservatives; 1 Plaid Cymru; 1 Liberal Democrat

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English