Dduw a ddaeth yn gnawd,
wrth ein creu fe’n gwnaethost nid ar wahân i’r byd, ond o’r un sylwedd â’r byd;
ac fe ymddiriedaist i ni ofal dros y Ddaear a thros ein gilydd.
Fe roddaist i ni ddealltwriaeth, dychymyg a rhyddid i ystyried ffyrdd gwahanol o lywodraethu;
a rwyt yn galw i wasanaeth cyhoeddus ferched a dynion â chalonnau a meddyliau
sydd am greu cymdeithas sy’n cydgordio ac yn ffynnu.
Rho i ni, fe weddïwn, y ddirnadaeth i ddefnyddio’n ddoeth y fraint o gael dewis yn yr etholiad hwn,
gan drin gyda pharch pawb sydd yn cynnig i ni eu hamser, eu hegni a’u galluoedd.
Arwain bawb sy’n pleidleisio a phawb sy’n ymgeisio â gweledigaeth, tosturi ac anhunanoldeb,
fel y gallwn gyda’n gilydd ddeall beth yw dy flaenoriaethau di,
a gwneud ein cartref yma ar y Ddaear yn fan lle y gall dy bobl oll a’r cread cyfan ffynnu.
Amen.
Ysgrifennwyd gan Parchedig Ganon Carol Wardman