Cyflwyniad:
Term ymbarêl yw Rhyng-ffydd Cymru sy’n cynnwys tri chorff gwahannol: Y Fforwm Cymunedau Ffydd (sy’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd), Cyngor Rhyng-ffydd Cymru a Rhwydwaith Rhyng-ffydd Cymru sy’n datblygu ar hyn o bryd.

Mae angen meithrin ymdeimlad o ddinasyddia Gymreig gyffredin ac ymglymiad byw, a all annog pobl i edrych y tu hwnt i’w cymunedau unigol. Gallai cymunedau ffyd ysbrydol chwarae rôl bwysig yn y dyfodol mewn Cymru fywiog a chydlynol, a gobaith Rhyng-ffydd Cymru yw helpu hynny i ddigwydd.

Gall cynrychiolwyr o’r cymunedau ffydd canlynol fod yn aelodau o’r Fforwm Cymunedau Ffydd a’r Cyngor Rhyng-ffydd: Bah√°i, Bwdhaeth, Cristnogaeth (yr Eglwys yng Nghymru, Cyt√ªn, Cynghrair Efengylaidd Cymru, Cyngor Eglwysi Rhyddlion Cymru, Yr Eglwys Gatholig yng Nghymru), HindWaeth, Islam, Jainiaeth, Idddewiaeth, Sikhiaeth a Soroastrianaeth. Yn ogystal ceir sedd newydd ar gyfer cymunedau ffydd ac ysbrydol nad ydynt hyd yma wedi’u cynrychioli ar y Cyngor Rhyng-ffydd.

Y CYNGOR
Mae gan Y Cyngor Rhyng-ffydd fynediad at yr aelodau ffydd ar y fforwm a gall dderbyn adroddiadau ganddynt. Mae hefyd yn adrodd am faterion i’r Fforwm tel ffordd 0 siarad a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Daeth i fodolaeth yn 2003 a’i nod yw bod yn fan cyfarfod annibynnol i gynrychiolwyr cymunedol ddod i ramnu materion rhwng pob ffydd a’i gilydd.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 17 Mawrth 2008 cymeradwywyd cyfansoddiad a Pholisîau newydd oedd yn cynnwys amcanion diwygiedig:

  • Cynyddu gwybodaeth gyt1oeddus a chyd-ddealltwriaeth o ddysgu, traddodiadau ac arferion y gwahanol gymunedau ffydd yng Nghymru
  • Hyrwyddo perthynas dda rhwng personau o wahanol ffydd a gwasanaethu pobl Cymru
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o nodweddion arbennig pob un o’r cymunedau ffydd hyn ynghyd a’r hyn sydd ganddynt yn gyffredin

Bydd gan y Cyngor bellach uchafswm o 35 o seddau gyda 22 o seddau ar gyfer Cymunedau Ffydd, 7 ar gyfer aelodau Rbanbarthol a 6 ar gyfer Aelodau Cyfetholedig Unigol. Mae’r gynrychiolaeth ranbarthol yn gam arloesol, lie mae aelodau o gyrff rhyng-ffydd yn cynrychioli eu rhanbarthau yn hytrach
ma’u cymunedau ffydd – mae hyn yn cydnabod yr angen am fwy o weithgarwch ar lawr gwlad a chyfathrebu uniongyrchol a gwahanol ranbarthau Cymru. Mae sedd newydd wedi’i chreu ar gyfer ‘ffydd heb gynrychiolaeth’ hefyd. Caiff hon ei chadw ar gyfer cymunedau ffydd ac ysbrydol ar wahan i’r naw crefydd byd sy’n cael eu cydnabod ar hyn o bryd gan Weithgor Crefyddau’r Byd SHAP – mae hyn yn cydnabod yr angen i fod yn hollol gynhwysol a galluogi pawb sy’n teimlo eu bod yn byw â ffydd i gymryd rhan mewn gwaith rhyng-ffydd yng Nghymru.