Deddfwriaeth Coronafeirws:
Papur briffio i eglwysi Cymru

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth hon, ond ni ddylid dibynnu arno at ddibenion cyngor cyfreithiol.

Rheoliadau ar gyfer addoldai yng Nghymru o Ebrill 12 2021 (cyfyngiadau Lefel 3A)

Dechreuwyd symud o gyfyngiadau Lefel 4 i gyfyngiadau Lefel 3 yng Nghymru ar Fawrth 27.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addoldai yn cael eu diweddaru’n gyson ac fe gynghorir y sawl sy’n gyfrifol am addoldai eu darllen yn fanwl.

Mae’n parhau yn gyfreithlon i addoli mewn addoldai dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru), fel y’u diwygiwyd.

Yn unol a chymal 16 y rheoliadau, yn sgîl COVID-19 prif ddyletswydd gyfreithiol ychwanegol y ‘person’ (all fod yn gorff, megis cyngor eglwys y plwyf) sy’n gyfrifol am yr adeilad yw:

(1)(a) cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);
(ii) pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),
(b) cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
(i) newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii) rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii) rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv) rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
(v) gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi) darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c) darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(2) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—
(a) peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b) cau rhan o’r fangre;
(c) caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan fo—
(i) Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r person hwnnw wneud hynny;
(ii) hysbysiad a roddir gan swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud hynny;
(d) casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i) Gweinidogion Cymru;
(ii) swyddog olrhain cysylltiadau;
(e) cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

Wrth gwrs, mae gofynion cyfreithiol eraill – megis iechyd a diogelwch cyffredinol, diogelu plant ac oedolion bregus, diogelu data personol, ac yn y blaen – yn parhau mewn grym hefyd, ac ni ddylid eu hanghofio wrth drefnu ail-agor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau manwl ar weithredu’r gofynion cyfreithiol hyn. Mae cymal 18 y rheoliadau yn gosod dyletswydd ar y sawl sy’n gyfrifol am addoldy i roi sylw i’r canllawiau hyn (a chanllawiau eraill y Llywodraeth sy’n berthnasol – gweler isod). Mae’n bwysig, felly, fod y sawl sy’n gyfrifol am addoldy yn darllen y canllawiau hyn yn ofalus.

Ar Ionawr 20 fe ddiweddarwyd rheoliadau coronafeirws Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol ar y sawl sy’n gyfrifol am “fangreoedd rheoleiddiedig” (gan gynnwys addoldai, canolfannau cymunedol, ayb) i wneud asesiad risg cyn rhoi mynediad i’r cyhoedd i’r fangre am unrhyw reswm. Er i’r adroddiadau yn y cyfryngau bwysleisio’r effaith ar archfarchnadoedd, mae hyn yn berthnasol i bob “mangre reoleiddiedig”. Fe fu hyn yn arfer da ers gwanwyn 2020, ac fe wyddom i’r rhan fwyaf o enwadau/rhwydweithiau gynhyrchu templadau pwrpasol ar gyfer eu heglwysi. Ond dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei gynnwys yn y gyfraith. Dylid nodi fod y geiriad yn gwneud cynnal asesiad risg cyflawn (gan gynnwys materion iechyd a diogelwch cyffredinol, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â’r coronafeirws yn benodol) hyd yn oed os yn achlysurol mai’r adeilad ar agor (e.e. ar gyfer ambell angladd), neu ar gyfer pwrpas llawer mwy cyfyng na’r arfer (e.e. i gynnal banc bwyd).

Fe ddewisodd Llywodraeth Cymru eirio’r rheoliadau trwy gyfeirio at reoliadau Iechyd a Diogelwch o 1999, sydd wedi eu diwygio sawl gwaith ers hynny, ac yna mynnu eu darllen pe baent wedi eu geirio’n wahanol i’r hyn ydynt. Felly, er mwyn ceisio cynorthwyo ein haelod eglwysi i ddiweddaru eu hasesiadau risg a’r templadau yn unol â’r gyfraith, rydym wedi paratoi datganiad o’r hyn sy’n ofynnol bellach y gellir ei lawrlwytho yma. Yn Saesneg yn unig y mae’r atodiad, gan mai yn Saesneg yn unig y mae’r rheoliadau iechyd a diogelwch sy’n sail iddo.

Byddem yn tynnu sylw arbennig at bedair agwedd ar oblygiadau’r rheoliadau:

  1. Ein dealltwriaeth ni yw bod y rheoliadau yn gwneud paratoi asesiad risg cyflawn – yn cynnwys risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol ac asesiad risg tan – yn ogystal â’r risgiau sy’n ymwneud yn benodol â’r coronafeirws – yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob “mangre rheoleiddig”, hyd yn oed os nad oedd hynny’n ofyniad cyfreithiol cyn hyn
  2. Mae’r rheoliadau yn mynnu adolygu’r asesiad risg bob tro y newidir y rheoliadau coronafeirws neu y newidir y defnydd a wneir o’r adeilad (gan y byddai hyn yn a significant change in the matters to which it relates) a hefyd pan fo’r sefyllfa gyffredinol o gwmpas coronafeirws yn newid (gan y byddai hyn yn reason to suspect that it is no longer valid).
  3. Mae’r rheoliadau yn mynnu fod yr asesiad risg yn ysgrifenedig pan fo pump neu fwy yn “gweithio” yn y fangre. Gan fod ‘gweithio’ yn cynnwys gwneud hynny yn wirfoddol, credwn y byddai hyn yn cynnwys bron pob amgylchiad sy’n debygol o fod yn berthnasol i gymunedau ffydd. Maent hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ymgynghori gyda’r ‘gweithwyr’ hynny wrth lunio’r asesiad risg.
  4. Mae yna ofynion penodol ar gyfer yr asesiad risg pan fo person neu bobl ifainc yn ‘gweithio’ yn y fangre.

Gobeithiwn y bydd yr atodiad yn gymorth i chi, ond noder nad yw’n gyngor cyfreithiol, ac y dylid ceisio cyngor proffesiynol arbenigol os oes unrhyw amheuaeth ynghylch sut i gymhwyso’r rheoliadau i’ch sefyllfa benodol chi.

Nid oes uchafswm penodedig ar gyfer y nifer all fynychu oedfa – dylai pob addoldy weithio allan ei uchafswm diogel ei hun o fewn y Rheoliadau uchod a’i weithredu.
Ni chaniateir addoli yn yr awyr agored y tu hwnt i dir yr addoldy o dan y canllawiau presennol. Er y gellid, mewn egwyddor, ddefnyddio tir sy’n perthyn i’r addoldy i gynnal addoli yn yr awyr agored, dylid ystyried yn ofalus nid yn unig diogelwch o ran Covid, ond hefyd effaith bosibl addoli gweladwy yn yr awyr agored o ran perthynas y gymuned ffydd a rhannau eraill o’r gymuned nad ydynt yn cael cyfarfod o gwbl.

Dylid nodi fod ail-agor addoldai (a mannau cyhoeddus eraill) yn ddarostyngedig i’r egwyddor a fynegir fel hyn yn y canllawiau:
Efallai y bydd rhai mannau addoli yn dewis peidio ag ailagor am beth amser, cymryd mwy o amser i agor a/neu barhau i ddefnyddio technoleg ar-lein i gynnal gweithgareddau ffydd a bugeiliol. Wrth reoli risg y cwestiwn cyntaf bob tro yw a oes modd i mi osgoi’r gweithgaredd peryglus. Lle bo’n ymarferol ac yn rhesymol, dylid osgoi cyfarfodydd wyneb yn wyneb er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws. [pwyslais Cytun]
Dylai eglwysi, felly, ystyried yr egwyddor hon yn ofalus cyn mentro i ail-agor unrhyw weithgarwch.

Mae’n ofyniad dan Gymal 20 y Rheoliadau i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd cyhoeddus dan do, gan gynnwys addoldai, oni bai fod ganddynt afiechyd neu anabledd sy’n gwarafun hynny. Nid oes eithriad cyfreithiol ar gyfer arweinyddion addoli, ond yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, fe ddywedir:
Nid oes rhaid i’r sawl sy’n arwain yr addoliad wisgo gorchudd wyneb os yw’n anymarferol i wneud hynny.  Fodd bynnag dylid ystyried mesurau lliniaru arall i sicrhau ei bod yn creu rhwystr i ledaeniad megis cadw pellter, sgriniau, feisor a mesurau hylendid ychwanegol.

Angladdau a phriodasau

Yn achos angladdau, mae yna gyfyngiad cyfreithiol ar y sawl sy’n gallu mynychu. O dan Atodlen 4 cymal 1(4)(d) y gall unigolyn adael cartref i fynychu angladd:       
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,        
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.

Ceir canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau angladd yma. Maent wedi eu diweddaru ar gyfer Lefel 4. Noder yn arbennig na ellir cynnal gwylnos neu de angladd, gan gynnwys cynnal mewn addoldy neu adeilad yn perthyn iddo,

Yn achos priodasau a seremonïau partneriaethau sifil, mae yna gyfyngiad tebyg ar y sawl sy’n gallu mynychu, o dan Atodlen 4 cymal 1(4)(c), sef y gellir:
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall —
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynychu, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

Mae’r canllawiau y mae angen rhoi sylw iddynt wrth drefnu gwasanaeth priodas neu bartneriaeth sifil yma.
Ni chaniateir cynnal gwledd briodas ar hyn o bryd.

Dywed y canllawiau fod angen i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb yn ystod y seremoni, gyda’r eithriadau canlynol:
Nid oes rhaid i’r sawl sy’n arwain y seremoni wisgo gorchudd wyneb os yw’n anymarferol i wneud hynny.  Fodd bynnag dylid ystyried mesurau lliniaru arall i sicrhau ei bod yn creu rhwystr i ledaeniad megis cadw pellter, sgriniau, feisor a mesurau hylendid ychwanegol….
Nid oes rhaid i’r cwpl wisgo gorchudd wyneb wrth gerdded ar yr eil, wrth wneud eu haddunedau, y gusan gyntaf ac wrth dynnu lluniau o dan do.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn caniatáu cynnal “seremoni briodas arall”, a ddiffinnir fel seremoni:

  1. sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,
  2. a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a
  3. a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;

Byddai hyn yn cynnwys gwasanaeth bendithio priodas sifil neu wasanaeth priodas crefyddol (neu ddi-grefydd) nad yw’n cynnwys cofrestru’r briodas yn gyfreithlon.

Mae mynychu angladd, priodas neu seremoni partneriaeth sifil dan yr amgylchiadau uchod hefyd yn “esgus rhesymol” dros deithio rhwng Cymru a gweddill y DU. [Atodlen 4, Cymal 6(4)(b) ac (c)]

Ymweliadau bugeiliol

Nid yw gofal bugeiliol o’r math a ddarperir gan gymunedau ffydd (yn hytrach na’r math o ofal ffurfiol ac anffurfiol a gwmpasir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru) yn cael ei grybwyll yn y rheoliadau. Mae canllawiau’r Llywodraeth ar gyfer addoldai yn cynnwys y canlynol:
Dylai arweinwyr ffydd osgoi mynd ar aelwydydd eraill i ddarparu gofal bugeiliol os nad yw resymol angenrheidiol a dylid ystyried ffyrdd amgen o gynnig y gefnogaeth megis ar y ffȏn, gwrdd yn rhithiol, cwrdd yn yr awyr agored neu mewn lleoliad diogel o ran COVID-19.
Ond os yw unigolyn angen cefnogaeth bugeiliol  mae’n rhesymol i arweinydd ffydd ymweld â’r unigolyn o dan do am resymau tosturiol.  Gall hyn fod oherwydd bod y person hwnnw yn gweld pethau’n anodd yn gyffredinol yn ystod y cyfyngiadau, neu os yw’n dioddef salwch corfforol neu feddyliol, wedi cael profedigaeth neu os ydych chi’n bryderus am ei les yn gyffredinol.

Dylid, felly, bod yn ochelgar iawn dan yr amgylchiadau presennol. Dylid ystyried yn llawn y risg o ledaenu’r feirws yn ddiarwybod cyn mentro ar unrhyw ymweliad. Os yw’r tywydd yn braf, gellir ystyried ymweld yn yr awyr agored yn hytrach na dan do. Fe all fod yn ddoeth cadw cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad i ymweld a’r rhesymau dros hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar ymweld a chartrefi gofal ac ymweld ag ysbytai.

Defnydd cymunedol ar addoldai a chanolfannau cymunedol

O dan gyfyngiadau Lefel 3A [Atodlen 3A, Cymal 9(2)], caniateir agor addoldy neu ganolfan gymunedol ffydd, ar wahan i oedfaon, angladdau a phriodasau, dim ond:
(a) i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b) i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

Mae Cymal 9(5) yn esbonio, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.
Mewn cyfnodau clo blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y gall cynnal banc bwyd neu gymorth arall i’r digartref neu’r hyglwyf ar sail elusennol hefyd gyfrif fel “gwasanaeth gwirfoddol hanfodol” nad oes angen caniatad Llywodraeth Cymru neu awdurdod lleol ar ei gyfer (hyd yn oed os oes gweithwyr cyflogedig ynglyn a’r ddarpariaeth). Ceir canllawiau manwl am ofal plant yma. Ar y cyfan, y mathau o ddarpariaeth gofal plant a gofrestrir gyda’r awdurdod lleol yn unig y gellir eu cynnal (ac nid trefniadau mwy anffurfiol megis clybiau plant gwirfoddol).

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am gau busnesau yn dweud am ganolfannau cymunedol:
Gellir agor y rhain i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol. Caniateir iddynt hefyd agor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais awdurdod lleol neu un o Weinidogion Cymru. Dyma rai enghreifftiau o wasanaethau y cânt agor ar eu cyfer:

  • rhoi gwaed
  • gorsafoedd pleidleisio
  • banciau bwyd
  • cynnal profion torfol ar gyfer y coronafeirws neu roi brechlynnau
  • gofal plant
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • cymorth camddefnyddio sylweddau neu i’r rheini sy’n gaeth i sylweddau

Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Mae Atodlen 3A Cymal 4(1) yn darparu mai uchafswm o 15 o bobl all fod yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad ar wahan i oedfa a gynhelir dan do, a 30 mewn digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored, ond nid yw’r uchafswm yn cynnwys plant dan 11 na phobl sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

Canllawiau eraill

Mae yna ganllawiau eraill fydd yn berthnasol i rai addoldai:

Dylai eglwysi sy’n rhan o enwad, yn enwedig lle bo’r enwad yn ymddiriedolwr ar yr adeilad lleol, sicrhau eu bod yn ceisio cyngor eu henwad eu hunain am unrhyw ofynion enwadol perthnasol. Dylid nodi fod canllawiau nifer o enwadau traws-ffiniol yn seiliedig ar y Rheoliadau sy’n gymwys yn Lloegr yn hytrach na’r rhai sy’n gymwys yng Nghymru. Mater i’r enwad unigol yw hyn, a lle bo gwrthdaro rhwng cyngor enwadol a Rheoliadau Cymru dylid trafod hyn o fewn yr enwad perthnasol.

Mae nifer o’r bobl hynny sy’n gyfrifol am addoldai yn bryderus am gydymffurfio â’r Rheoliadau, yn enwedig pan eu bod yn newid yn rheolaidd. Fe all y bydd yn gymorth, felly, darllen canllawiau Llywodraeth Cymru i swyddogion gorfodi, i weld yr hyn y byddan nhw yn chwilio amdano a sut  byddant yn gweithredu wrth sicrhau cydymffurfio â’r gyfraith.

Ambell gwestiwn penodol

Dyma atebion i ambell gwestiwn a ofynnir yn gyson. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr hon yn rheolaidd.

Pryd gaiff mwy o weithgareddau ail-ddechrau?

Ar Ebrill 8 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddyddiadau diwygiedig ar gyfer ail-agor hyd at Fai 3
Yn dilyn yr etholiad ar Fai 6, mae’r hyn a gyhoeddwyd ar Fawrth 31 o hyd yn gymwys, ond yn ddarostyngedig i benderfyniadau Llywodraeth newydd Cymru
Mae cyfuno’r ddau gyhoeddiad yn rhoi’r amserlen ddangosol ganlynol – rydym wedi pwysleisio’r materion fydd o fwyaf o ddiddordeb i addoldai a chymunedau ffydd:

Dydd Llun 12 Ebrill:

  • Bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr
  • Bydd gweddill y siopau yn ailagor, gan gwblhau’r broses raddol o ailagor busnesau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol
  • Bydd gweddill y gwasanaethau cysylltiad agos yn ailagor, gan gynnwys gwasanaethau symudol
  • Bydd y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae’r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon
  • Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad
  • Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel

Dydd Llun 26 Ebrill:    

  • Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i’w gludo oddi yno
  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl
  • Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl

Dydd Llun 3 Mai

  • Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do

Dydd Llun 17 Mai:

  • Gweithgareddau dan do i blant;
  • Canolfannau cymunedol;
  • Gweithgareddau dan do wedi’u trefnu ar gyfer oedolion, a fydd wedi’u cyfyngu i uchafswm o 15 o bobl. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymarfer corff.

cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn (Mai 31)

  • Galluogi lletygarwch dan do, a’r llety ymwelwyr sy’n weddill i ailagor,

Mae’r rhain yn ddyddiadau dangosol er mwyn rhoi amser i’r sectorau gynllunio a pharatoi – bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar y rhain yn nes at yr amser, unwaith y bydd effaith llacio cyfyngiadau eraill wedi’i hasesu ac ar yr amod bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu i’r llacio ddigwydd.

Offerynnau a chanu

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynnwys adran fanwl am ganu lleisiol ac offerynnol, a dylid ei astudio yn ofalus. Ni chaniateir canu cynulleidfaol.

Cyhoeddwyd cyngor gwyddonol Grwp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru parthed addoldai ar Ebrill 8, ac fe welir dadansoddiad o’r dystiolaeth am ganu lleisiol ac offerynnol ar dudalennau 5-7.

Lle bo cor neu grwp offerynnol wedi’i drefnu, yn broffesiynol neu yn wirfoddol, am ganu neu ymarfer, mae yna ganllawiau manwl i’w dilyn, a dylid eu darllen yn ofalus. Yn fras, gall grwpiau canu neu offerynnol digyfnewid o 6 ymarfer dan do, ac arwain oedfa dan do neu yn yr awyr agored – a gall mwy nag un grŵp o 6 ddod at ei gilydd i arwain. OND dylai pob aelod o’r grwpiau hyn (a’u teuluoedd) wybod os bydd angen i un ohonynt hunan-ynysu fe fydd raid i’r grŵp cyfan wneud hynny.

Ni ellir defnyddio offerynnau chwyth.
Lle bo’n ddymuniad ystyried defnyddio organ bîb, gellir defnyddio templed asesu risg penodol yr Eglwys yng Nghymru (Saesneg yn unig).

Gwasanaethau awyr agored

Derbyniwyd y cyngor canlynol gan Lywodraeth Cymru: Gall addoli awyr agored ddigwydd ar dir sydd ynghlwm â neu o fewn ffiniau addoldy, gan y gellir ei ystyried yn estyniad o’r addoldy. Os ydych yn cynllunio gwneud hyn fe all fod yn ddoeth gadael i’r awdurdod lleol a’r heddlu wybod am eich cynlluniau. Ni yw hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio tir cyhoeddus na thir preifat ar gyfer addoli, ac nid yw’n cynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl mewn ceir na gorymdeithiau.

Mae yna fodd, gyda gofal mawr, trefnu bod grwpiau yn arwain canu yn yr awyr agored, ond ni chaniateir canu cynulleidfaol yn yr awyr agored. Gellir gweld canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru am ganu yma.

Gweini lluniaeth cyn neu wedi oedfa

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am y defnydd a ganiateir o addoldai yn dweud: Ar ôl cwblhau’r seremoni neu’r gwasanaeth, dylid annog y cyfranogwyr i adael y fangre’n brydlon a chadw 2 fetr rhwng aelodau o aelwydydd eraill, er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad a lledaenu’r haint. Mae’r rheolau ymgynnull yn caniatáu mynychu man addoli fel esgus rhesymol ond ni ddylai hynny fod am bwrpas cymdeithasol.

Ni ellir gweini lluniaeth cyn neu wedi oedfa, hyd yn oed mewn caffi eglwysig.

Glanhau’r adeilad

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am addoldai yn cynnwys arweiniad cyffredinol defnyddiol. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cynhyrchu arweiniad mwy manwl (Saesneg yn unig) am lanhau cyffredinol ac am lanhau adeilad wedi darganfod fod rhywun â Covid-19 wedi bod yno.

Profi, Olrhain, Diogelu

Mae Rheoliad 21(3) yn nodi mai un “mesur rhesymol” i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yw: Casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol ar ei gais
(i) Gweinidogion Cymru
(ii) swyddog olrhain cysylltiadau 
a chymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth gyswllt yn gywir. 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar addoldai yn dweud Mae’r cwestiwn ynghylch a yw’r mesur hwn yn un “rhesymol”, ac  felly’n un y mae’n rhaid ei gymryd, yn dibynnu i ba raddau y mae modd i bobl nad ydynt yn adnabod ei gilydd ryngweithio yn y fangre ac a oes risg o ryngweithio agos. Dylid felly ystyried yn ofalus iawn cadw rhestr mynychwyr yn achos oedfa priodas neu fedydd. Mae rhai enwadau yn argymell y dylid cadw rhestr felly ar gyfer pob gweithgarwch. Os penderfynir cadw rhestr, rhaid sicrhau cadw at reoliadau diogelu data (GDPR).

Mae canllawiau’r Llywodraeth ar gyfer canolfannau cymunedol yn dehongli’r rheoliadau i olygu fod angen cadw rhestr o fynychwyr gweithgareddau cymunedol, felly argymhellir parhau i wneud hynny ar gyfer pob gweithgarwch cymunedol mewn addoldy.

Ceir canllawiau manwl am gadw cofnodion Profi, Olrhain, Diogelu yma.

Nid yw’n orfodol yng Nghymru cyhoeddi cod QR ar gyfer addoldai er mwyn defnyddio’r ap Covid-19, ond fe ellir gwneud hynny os y dymunir.

Unigolion sy’n bryderus am fynychu

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at bawb ar y ‘rhestr warchod‘ (shielding) yn dweud y daw’r cyngor i’r grwp hwn gadw at eu tai a chadw draw o’r gwaith ac ati i ben ar 31 Mawrth 2021.

Nid oes unrhyw reidrwydd ar neb i fynychu addoldy am unrhyw bwrpas, a dylid sicrhau gofal bugeiliol priodol o unrhyw sy’n bryderus am hynny.

  1. Fe all y bydd o gymorth i rai defnyddio’r adnodd asesu risg ar gyfer unigolion a luniwyd gan Lywodraeth Cymru. Er iddo gael ei lunio’n bennaf ar gyfer gweithleoedd, mae’n gymwys ar gyfer pawb hyd at 79 mlwydd oed ac yn rhoi amcan o lefel risg yr unigolyn o ran Covid-19. Mae’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig wedi llunio offeryn tebyg ar gyfer aelodau cynulleidfaoedd (Saesneg yn unig), yn cynnwys r rhai sydd dros 80. Mae’n defnyddio metric ychydig yn wahanol.
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adnoddau hawdd eu darllen ar gyfer y cyhoedd yn cynnig arweiniad cyffredinol am gadw’n ddiogel.
  3. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu bathodynnau priodol i bobl eu gwisgo er mwyn atgoffa eraill i gadw eu pellter.

Bedydd trochiad

Ni chaniateir bedydd trochiad ar hyn o bryd heblaw pan fo un aelod o aelwyd yn bedyddio aelod arall o’r un aelwyd. Mae yna adran fer yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru sy’n esbonio mwy am beth sydd yn bosibl.

Mae Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr wedi cyhoeddi canllawiau byr am rai ffyrdd o gynnal bedydd credinwyr (Saesneg yn unig) dan yr amgylchiadau presennol. Ni fydd pob awgrym yn y canllawiau hyn yn dderbyniol i bob un o aelod eglwysi Cytun. Argymhellir cynnal asesiad risg penodol cyn mentro trefnu gwasanaeth o’r fath.

Gwasanaethau cymundeb

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am ddefnyddio bwyd a diod (gan gynnwys y Cymun Bendigaid) wrth addoli yn rhychwantu amrywiaeth eang o arferion ffydd, a gallant fod yn anodd eu dehongli. Mae arferion eglwysi gwahanol o ran cymuno yn amrywio’n fawr, a dylai eglwysi sy’n rhan o enwad geisio cyngor eu henwad yn y lle cyntaf.
Gallwn gynnig yr arweiniad cyffredinol canlynol, i’w gymhwyso i ddealltwriaeth ddiwinyddol eglwysi unigol:
1. Ni cheir torri torth na rhannu bara yn ystod y gwasanaeth. Gellir defnyddio afrlladen neu fara wedi ei baratoi a’i becynnu ymlaen llaw. Mae rhai eglwysi yn gofyn i gymunwyr ddod a’u bara eu hunain, ond dylid ystyried yn ofalus beth i’w wneud ynghylch addolwyr sy’n anghofio neu yn ymweld ac heb wybod y dylent wneud hyn (gweler 4 isod).
2. Ni cheir defnyddio cwpan gyffredin i rannu’r gwin. Gall traddodiadau sy’n defnyddio cwpanau unigol eu defnyddio, ond gwell trefnu fod y cwpanau wedi eu llenwi yn barod yn y seddi neu i’w codi wrth ddod i’r oedfa, yn hytrach na’u dosbarthu yn ystod y gwasanaeth. Dylid sicrhau eu golchi yn ofalus wedi’r gwasanaeth, neu ddefnyddio cwpanau untro.
3. Dylai traddodiadau lle bo raid bendithio’r bara a’r gwin cyn eu dosbarthu nodi yn arbennig yr adran ganlynol yn y canllawiau:
Ni ddylid siarad, canu na llafarganu dros nwyddau traul nad ydynt wedi’u gorchuddio (heblaw am nwyddau traul a gaiff eu defnyddio gan y gweinydd yn unig). Yn hytrach, dylid gorchuddio nwyddau traul yn ddiogel a dylid glanhau’r arwynebedd cyn agor cynhwysydd rhaid golchi dwylo neu wisgo menig.
4. Mae nifer o gyflenwyr masnachol yn darparu pecynnau unigol yn cynnwys afrlladen a chwpan plastig o win a gellir bendithio’r rhain yn unol a’r canllawiau uchod. Fel arall, gellir dosbarthu’r pecynnau yn y seddi cyn yr oedfa neu eu gadael i’w codi wrth i addolwyr gyrraedd. Os gofynnir i addolwyr ddod a’u bara eu hunain, gellir cadw cyflewnad o’r pecynnau hyn wrth gefn ar gyfer addolwyr sy’n anghofio neu’n ymweld. Bydd rhai eglwysi am osgoi defnyddio’r pecynnau hyn oherwydd y swmp o blastig na ellir ei ail-ddefnyddio sydd ynddynt.

Plant a phobl ifainc

Caiff mannau addoli ddarparu gofal plant cofrestredig a chynnal addoli ar gyfer plant, a gall plant hefyd fynychu gwasanaethau crefyddol, yn ddarostyngedig i drefniadau diogelu yr addoldy. Ni ellir cynnal gweithgareddau dan oruchwyliaeth megis ysgolion Sul dan do.

O Fawrth 27, fe ganiateir gweithgareddau awyr agored wedi eu trefnu i blant a phobl ifainc hyd 18 oed. Gellir gweld canllawiau manwl Llywodraeth Cymru yma. Mae’r rhain yn cychwyn trwy ddweud: caniateir gweithgareddau awyr agored a gynhelir er mwyn helpu â datblygiad a llesiant plant a phobl ifanc, fel clybiau chwaraeon, dosbarthiadau drama, grwpiau rhieni a phlant bach, grwpiau ieuenctid a grwpiau crefyddol. Mae hyn yn berthnasol i blant o dan 18 oed (neu bersonau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020). Nid oes cyfyngiad ar nifer y plant a phobl ifanc a all gymryd rhan, ond dylai’r trefnwyr ystyried faint o le sydd ar gael. Ni chaniateir gweithgareddau dan do a gweithgareddau preswyl ar hyn o bryd. Mae gan y trefnwyr ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn digwydd mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Felly, dylent ystyried faint o le sydd ar gael i allu cadw pellter cymdeithasol gyda phlant pan fo’n bosibl, gan gyfyngu ar nifer y plant a all gymryd rhan i sicrhau hynny.

Ni chaniateir gweithgareddau wedi eu trefnu i blant a phobl ifainc dan do, ond fe fu ar hyd y cyfyngiadau Lefel 4 ganiatâd i drefnu sesiynau gofal plant. Gellir gweld y canllawiau ar gyfer hynny yma, a mae’r rhain yn cynnwys trefniadau gofal plant sydd heb eu cofrestru, megis y rhai a drefnir gan rai addoldai yn ystod gwasanaethau. Mae’r canllawiau yn statudol (hynny yw, rhaid i drefnwyr rhoi sylw iddynt wrth drefnu) ac yn ei gwneud hi’n glir fod angen cymryd gofal arbennig gyda gofal plant dan do. Mae’r rhagofal hyn i’w gynyddu ymhellach yn achos plant oed ysgol, lle mae’r canllawiau ar gyfer ysgolion a darparwyr yn cynghori yn erbyn cymysgu plant y tu hwnt i’w grwpiau yn yr ysgol neu eu haelwydydd eu hunain oni bai fod hynny yn gwbl angenrheidiol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addoldai yn dweud nid yw’n bosib cynnal gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant megis ysgol Sul neu madrassas. Ond mae’n bosib i ddarparwyr gofal plant barhau i ddefnyddio mannau addoli i ddarparu eu gwasanaeth arferol.
Wedi astudio’r holl ganllawiau, barn Cytûn yw ei bod yn rhesymol i awdurdodau addoldai ystyried cynnal gofal plant ar gyfer plant cyn oedran ysgol er mwyn i aelodau hŷn eu teuluoedd gael addoli wyneb yn wyneb, ond byddem yn cynghori yn erbyn trefnu ‘gofal plant’ dan do i blant oedran ysgol. Gan fod llawer o oedfaon wyneb yn wyneb yn fyrrach nag arfer ar hyn o bryd, fe all na fydd yn afresymol gofyn i blant oedran ysgol aros gyda’u haelwydydd yn ystod yr oedfa. Dylai pob addoldy/cymuned ffydd sy’n trefnu gofal plant gofnodi yn ysgrifenedig eu penderfyniad am y mater hwn, y rhesymu y tu cefn iddo a’u hasesiad risg cyflawn rhag ofn y cyfyd unrhyw gwestiwn.

Noder nad oes angen i blant dan 11 oed wisgo gorchuddion wyneb. Nid yw’r rheoliadau yn eithrio plant rhag cadw pellter cymdeithasol na’r gofynion cyfreithiol eraill, ond dywed canllawiau Llywodraeth Cymru am weithgarwch cymunedol:
Dan amgylchiadau pan fo plant ifanc yn cymysgu â’i gilydd, efallai na fydd yn ymarferol ceisio cadw pellter o 2 fetr o hyd (rhwng plant, neu hyd yn oed rhwng plant ac oedolion). Y rheswm am hyn yn rhannol yw oherwydd ei bod yn galetach i blant ifanc ddeall y cysyniad o gadw pellter corfforol, ac yn rhannol oherwydd bod yn rhaid cael cyswllt agos er mwyn rhoi’r gofal priodol iddynt.
I blant ifanc (oedran ysgol gynradd neu’n iau), nid yw mor hanfodol i geisio cadw pellter cadarn o 2 fetr rhyngddynt o hyd, nac ychwaith rhwng plant ac unrhyw oedolion y tu allan i’w haelwyd neu aelwyd estynedig. Mae astudiaethau wedi canfod bod plant ifanc yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws, boed hynny i blant eraill neu i oedolion, ac ymddengys nad yw plant yn dioddef cymaint ag oedolion o gael y feirws, yn y rhan fwyaf o achosion.
Serch hynny, mae plant ifanc yn dal yn gallu trosglwyddo’r feirws, a dylai rhieni plant ifanc ddefnyddio eu crebwyll, a gofalu yn arbennig eu bod yn annog plant i olchi eu dwylo a sicrhau eu bod yn osgoi dod i gysylltiad agos â phobl cymaint â phosibl.

Defnyddiwch ganllaw Llywodraeth Cymru, mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel fel canllaw ar gyfer cadw plant ac oedolion yn ddiogel yn ystod gweithgareddau wedi’u trefnu i blant rhwng 0 a 12 mlwydd oed.

Cyfarfodydd llywodraethiant eglwysig

O dan Atodlen 3A, Cymal 1(2)(a), mae yn rheidrwydd cyfreithiol i weithio neu wirfoddoli gartref oni bai fod gwneud fel arall yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, Fe all fod amgylchiadau brys, lle nad oes dewis amgen, lle bo raid cynnal cynnal cyfarfod llywodraethiant (ar gyfer Cyngor Plwyf, Diaconiaid, Blaenoriaid, ayb) o fewn addoldy neu ganolfan gymunedol. Os oes rhaid gwneud hynny, ac nad oes modd gohirio, yna dylid sicrhau bod yr holl reoliadau uchod yn cael eu dilyn a bod yr asesiad risg lleol yn caniatáu. Lle bo rhai o aelodau’r cyfarfod yn oedrannus a/neu yn dioddef iechyd gwael, dylid cymryd hynny i ystyriaeth ddwys wrth lunio’r asesiad risg.

Addoli mewn adeiladau nad ydynt yn perthyn i’r gymuned ffydd

Ar Fawrth 27, derbyniodd Cytun y cyngor canlynol gan Lywodraeth Cymru: Gall awdurdodau lleol roi caniatâd i agor mangreoedd yn benodol i’w defnyddio fel addoldai. Gall hyn fod yn opsiwn os ydych yn rhagweld y daw cynulleidfa fwy nag y gellir ei chynnwys yn ddiogel yn eich addoldy arferol. Bydd angen i chi drafod hyn gyda’r awdurdod lleol priodol a chyd-lynu â’r heddlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio fod angen dilyn yr holl fesurau a chamau gofalu a ddisgrifir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addoldai. Yn wir, fe fydd angen fod yn fwy trylwyr wrth eu gweithredu nag arfer gan y bydd pobl yn ymgynnull dan amgylchiadau anghyfarwydd. Felly, bydd rheoli symudiad pobl wrth iddynt gyrraedd ac ymadael ac yn ystod eu hamser yn y lleoliad neu’r man awyr agored er mwyn osgoi cymysgu aelwydydd, arwyddion, golchi dwylo, glanhau, casglu manylion cyswllt oll yn bwysig.  

Y sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiant â’r rheoliadau ac am drefnu asesu’r risg. Dylid, felly, trafod gyda’r awdurdod priodol am sut a phryd y gellid ail-gychwyn addoli.

Cynlluniau cymorth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi (furlough) tan ddiwedd Medi 2021. Mae’r cynllun ar gael i fusnesau sydd ar agor neu ar gau, ond dylid darllen y canllawiau llawn. Mae cyfraith trethiant yn faes arbenigol, ac fe’ch cynghorir i geisio cyngor proffesiynol os ydych mewn cyfyng-gyngor am sut i weithredu yn y mater hwn.

Mae’r ariannu canlynol ar gael trwy Lywodraeth Cymru, a gall gefnogi gweithgareddau cymunedol a gynhelir gan grwpiau ffydd. Ni fydd yn cefnogi gweithgarwch crefyddol.

  • Mae Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol ar gael i pob mudiad trydydd sector, yn cynnwys grwpiau ffydd. Mae’n anelu at atal anghydraddoldebau sydd wedi codi o ganlyniad i Covid-19 rhag bod yn barhaol. Gall gyllido gweithgarwch cymunedol arweinir gan wirfoddolwyr sydd wedi’i ganoli ar yr adferiad.
  • Mae Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru yn darparu cyfuniad o grantiau a benthyciadau ar gyfer mudiadau trydydd sector mewn tri ffrwd: goroesi, gwella ac amrywio. Mae’n derbyn ceisiadau gan grwpiau ffydd, ond am fod y cyllid yn cynnwys benthyciad fe all y bydd yn addas ar gyfer rhai grwpiau yn unig. Mae angen i ymgeiswyr fod yn fudiadau corfforedig, neu fod yn barod i ymgorffori cyn derbyn yr ariannu.
  • Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cynnig grantiau cyfalaf ar ddwy lefel, hyd at £25,000 ar gyfer cynlluniau llai a hyd at £250,000 ar gyfer cynlluniau mwy o faint. Rhaid defnyddio’r grant ar gyfer gwella adeiladau cymunedol sy’n cael eu defnyddio’n eang. Gall hyn gynnwys cyfleusterau a weithredir gan grwpiau ffydd cyhyd a’u bod ar agor i’r gymuned ehangach.

Mae yna nifer fawr o raglenni grant eraill a gynigir gan fudiadau y tu allan i Lywodraeth Cymru fydd yn darparu cyllid ar gyfer cynlluniau arweinir gan grwpiau ffydd. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd Deddf Eglwys Cymru a weithredir gan awdurdodau lleol (gweler gwefan eich awdurdod lleol) a rhaglenni Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Cymunedol Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau. Gellir gweld gwybodaeth am y ffynonellau ariannu hyn ar wefan Cyllido Cymru.

Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am gynlluniau cymorth eraill sydd ar gael ac am gynllun prentisiaethau sydd wedi’i ehangu ar gyfer pobl sy’n ddi-waith oherwydd effaith y pandemig.

Mae CGGC wedi paratoi rhestr gynhwysfawr o ffynonellau cyllid ar gyfer mudiadau trydydd sector, a mae llawer o’r rhain yn agored i eglwysi a grwpiau ffydd.

Bydd hefyd yn beth da i grwpiau ffydd gysylltu a’u cyngor gweithredu gwirfoddol lleol er mwyn derbyn cymorth gyda dod o hyd i ffynonellau ariannu lleol a chenedlaethol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eich cyngor gweithredu gwirfoddol lleol gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Gethin Rhys
12.04.2021