Sgroliwch i lawr y ddogfen PDF am y testun Cymraeg.
Darperir y nodyn hwn i gynorthwyo eglwysi Cymru.
Ni fwriedir iddo fod yn gyngor cyfreithiol, ac ni ddylid ei ystyried felly.
1. Gwahardd cyflenwi rhai plastigau untro o 30 Hydref 2023 ymlaen
Mae llawer o eglwysi eisoes yn wirfoddol yn lleihau neu’n dileu eu defnydd o blastig untro. Yn gynharach eleni, pasiodd Senedd Cymru Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Ar 24 Hydref 2023, penderfynodd y Senedd y byddai’r rhan fwyaf – ond nid y cyfan – o ddarpariaethau’r Ddeddf honno yn dod i rym ar Hydref 30 2023.
O’r dyddiad hwnnw bu’n anghyfreithlon i gyflenwi (boed trwy eu gwerthu neu eu rhoi am ddim) rhai eitemau plastig untro, sef:
- Platiau plastig untro – mae hyn yn cynnwys platiau papur ag arwyneb plastig wedi’i lamineiddio
- Cytleri plastig untro – er enghraifft ffyrc, llwyau, cyllyll
- Trowyr diodydd plastig untro
- Cwpanau wedi’u gwneud o bolystyren ymestynedig neu bolysteryn sbwng allwthiedig
- Cynwysyddion bwyd tecawê wedi’u gwneud o bolystyren ymestynedig neu bolysteryn sbwng allwthiedig
- Ffyn balŵn plastig untro
- Ffyn cotwm plastig untro
- Gwellt yfed plastig untro – gydag eithriadau fel y gall pobl sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol barhau i’w cael
Mae hyn yn cynnwys pob math o’r cynhyrchion hyn sy’n cynnwys plastig untro, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau eraill ond sydd wedi’u lamineiddio â phlastig, ac eitemau plastig sy’n honni eu bod yn fioblastigau neu y gellir eu compostio. Ni fydd defnyddio terminoleg o’r fath ar y cynnyrch neu ar y pecyn yn eu gwneud yn gyfreithlon.
I lawer o eglwysi, dychwelyd at ddefnyddio llestri a chyllyll a ffyrc traddodiadol yw’r ymateb symlaf. Ond efallai na fydd hyn yn bosibl mewn rhai lleoliadau. Yn yr achos hwnnw, rhaid i eglwysi ddefnyddio naill ai eitemau y gellir eu hailddefnyddio wedi’u gwneud o ddeunyddiau eraill (a all gynnwys eitemau wedi’u gwneud o blastig caled y gellir ei ailddefnyddio), neu eitemau tafladwy wedi’u gwneud o ddeunyddiau nad ydynt yn blastig, fel papur, pren neu gardbord.
Cyfrifoldeb yr eglwys leol a defnyddwyr ei hadeiladau (ac yn y pen draw ymddiriedolwyr yr eglwys honno, yn unol â’r strwythur enwadol perthnasol) yw sicrhau bod y rheolau hyn yn cael eu dilyn.
Ni fydd meddu ar eitemau plastig untro yn drosedd, ond gan na ellir eu cyflenwi – hyd yn oed yn rhad ac am ddim – ar ôl 30 Hydref 2023, dylid cael gwared arnynt yn gyfrifol (ag eithrio gwellt yfed plastig ar gyfer y sawl sydd ag angen penodol amdanynt wrth fwyta neu yfed). Mae rhai awdurdodau lleol neu fannau ailgylchu eraill (fel rhai archfarchnadoedd) yn gallu mynd â rhai neu bob un o’r eitemau hyn i’w hailgylchu – holwch yn lleol.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Bwriedir ymestyn y gwaharddiad i gynhyrchion ychwanegol maes o law, ac mae’r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu at y rhestr hon.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i eglwysi gael eu hatgoffa pam fod y gwaharddiad hwn wedi’i gyflwyno – gweler gwefannau’r Gymdeithas Cadwraeth Forol a Surfers Against Sewage (Saesneg yn unig).
2. Gwahanu gwastraff ar gyfer ei ailgylchu a thynhau rheoliadau gwastraff bwyd o 6 Ebrill 2024
Mae’r rhan fwyaf o eglwysi eisoes yn gydwybodol ynghylch ailgylchu cymaint o’u gwastraff â phosibl. Mae’n arfer da, wrth gwrs, i leihau faint o wastraff yr ydych yn ei anfon i’w ailgylchu drwy ddod o hyd i ffyrdd o ailddefnyddio eitemau’n ddiogel, neu eu troi at ddefnydd arall – mae llawer o grwpiau plant eglwysig yn mwynhau modelu sothach, a byddant eisoes, er enghraifft, yn defnyddio blychau wyau gwag ar gyfer llu o gemau ac ati.
O 6 Ebrill 2024, bydd yn ofynnol i bob eiddo annomestig – gan gynnwys eglwysi, neuaddau cymunedol, ac ati – ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu yn fwy trylwyr. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir ailgylchu’r gwastraff – gall gwastraff cymysg achosi croeshalogi ac atal ei ailgylchu.
Mae Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, a gytunwyd gan Senedd Cymru ar Dachwedd 28 2023, yn gofyn i wastraff ar gyfer ailgylchu gael ei wahanu gan berchennog/rheolwr y lleoliad, neu gan drefnydd y gweithgarwch, yn chwe chynhwysydd ar wahân:
- Gwydr
- Plastig, metel a chartonau a phecynnau tebyg eraill – ond cofiwch y bydd cyflenwi llawer o eitemau plastig untro wedi’i wahardd ar 30 Hydref 2023
- Papur a cherdyn
- Gwastraff bwyd (gweler mwy am hyn isod)
- Offer trydanol bach nas gwerthwyd*
- Tecstilau nas gwerthwyd*
* Diffinnir “nas gwerthwyd” fel a ganlyn: cynnyrch treulwyr nas defnyddiwyd, mewn ffatri, mangre fanwerthu, cyfanwerthwr, warws neu fangre arall, nad yw wedi ei werthu i dreuliwr [consumer] neu sydd wedi ei werthu i dreuliwr a’i ddychwelyd gan dreuliwr, felly mae’r categorïau hyn yn annhebygol o fod yn berthnasol yn y lle cyntaf i eglwysi neu siopau elusen sy’n gwerthu nwyddau ail-law. Fodd bynnag, bwriad Llywodraeth Cymru yw ymestyn y gofyniad i ailgylchu i’r holl decstilau o fewn tair blynedd, a phob offer trydanol bach o fewn dwy flynedd, felly dylai eglwysi ddechrau paratoi ar gyfer y newidiadau hyn nawr.
Bydd yn anghyfreithlon anfon gwastraff yn unrhyw un o’r categorïau uchod (neu “is-ffracsiynau”, fel y’u gelwir yn y rheolau) i’w losgi neu ei dirlenwi, a bydd yn anghyfreithlon anfon gwastraff pren i safleoedd tirlenwi (er y gellir ei losgi o hyd).
Cynhwysir y diffiniadau llawn o’r chwe chategori, yn unol â’r rheolau, yn yr atodiad isod. Mae canllawiau pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a llawer o fanylion am union ddiffiniadau’r deunyddiau hyn, beth i’w wneud â gwastraff a wneir o gymysgedd o ddeunyddiau gwahanol, ac yn y blaen yn y cod ymarfer. Mae’r Côd hefyd yn ymdrin â nifer o faterion ymarferol eraill nad oes cyfeiriad uniongyrchol atynt yn y rheoliadau. Mae’r cod hwn yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol ac mae’n rhaid i lys ei ystyried wrth benderfynu ar unrhyw gwestiwn y mae’n ymddangos i’r llys ei fod yn berthnasol iddo (para 1.5 – mae pob cyfeirnod o’r fath yn y nodyn hwn yn cyfeirio at y Côd hwn). Dylai rheolwyr ac ymddiriedolwyr eiddo felly sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r Côd.
Rhaid i wastraff a gyflwynir i’w ailgylchu fod yn lân. Dywed y Côd: Mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr eitemau pecynnu a roddir ym mhob ffrwd wastraff ailgylchadwy yn wag o’u cynnwys ac yn lân. Mae angen i eitemau eraill nad ydynt yn ddeunydd pecynnu fod yn rhydd o halogiad sylweddol. Mae’n debygol y bydd lefel yr halogiad derbyniol yn amrywio yn seiliedig ar ofynion gwahanol ailbroseswyr a dylid dilyn eu gofynion er mwyn osgoi cael casglwyr gwastraff yn gwrthod llwythi halogedig. Dylai eich casglwr gwastraff allu rhoi cyngor ar hyn. (para 7.7). Mae’n bwysig nodi nad yw’n dderbyniol cyflwyno gwastraff y gellid ei ailgylchu yn y ffrwd gwastraff cyffredinol, yn hytrach na’i lanhau er mwyn ei gasglu i’w ailgylchu. Dylai rheolwyr eiddo gymryd hyn i ystyriaeth a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer hyn cyn y diwrnod casglu.
Gallai rhoi’r gwastraff anghywir yn y cynhwysydd anghywir arwain at hysbysiad cosb benodedig (dirwy) gan Gyfoeth Naturiol Cymru, er bod Llywodraeth Cymru yn dweud mai’r bwriad yw atgoffa ac addysgu yn gyntaf cyn cosbi. Felly, dylai rheolwyr ac ymddiriedolwyr mangreoedd aml-ddefnydd – fel llawer o adeiladau eglwysig – ddechrau sicrhau bod pob defnyddiwr yn ymwybodol o’r rheoliadau newydd a sut i ailgylchu gwastraff yn y dyfodol cyn mis Ebrill 2024.
Mae’r Côd Ymarfer yn nodi y gall Cyfoeth Naturiol Cymru wirio unrhyw eiddo ar hap, a dywed bod angen cadw cofnodion priodol (para 7.22). Gallai’r dystiolaeth hon fod yn ddogfennau y mae gennych ofyniad cyfreithiol eisoes i’w cadw, fel o dan y ddyletswydd gofal ar gyfer gwastraff sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gynhyrchu a chadw nodiadau trosglwyddo gwastraff, a fydd yn dangos pryd, sut a phwy a gasglodd y gwastraff a’r mathau o wastraff. Mae’n rhaid cadw’r nodiadau am o leiaf ddwy flynedd. Gallai tystiolaeth arall gynnwys cytundebau neu gontractau a allai fod gennych ar waith gyda chwmni rheoli gwastraff, neu’r contractau sydd gennych gyda’ch cwsmeriaid os ydych yn gasglwr, sy’n helpu i ddangos bod gwastraff yn cael ei gasglu ar wahân mewn ffordd sy’n cydymffurfio. (para 7.23). Gan fod llawer o addoldai a chyfleusterau cymunedl yn gweithredu yn fwy anffurfiol nag y mae’r Côd yn awgrymu, mae’n bwysig fod rheolwyr ac ymddiriedolwyr yn adolygu sut maent yn cadw cofnodion ac y neu cadw am ddwy flynedd.
Bydd angen cael gwared ar wastraff peryglus (fel batris, toddyddion, plaladdwyr ac ati) – fel ar hyn o bryd – yn ddiogel ac ar wahân i’r cynwysyddion ailgylchu (para 6.8).
Diffinio gwastraff cartref a gwastraff masnachol
Mae’r rhan fwyaf o addoldai (gan gynnwys neuaddau eglwysi a chapeli ac ati a ddefnyddir yng nghyswllt yr addoldy) yn gymwys i gael casglu gwastraff am ddim o dan Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012. Ar gyfer eglwysi, y tebygrwydd yw mai’r unig eithriadau i hyn fydd bwytai neu siopau eglwysig sy’n gweithredu ar sail fasnachol, a chanolfannau preswyl, sydd angen trefnu casgliadau gwastraff masnachol. Mae rheoliadau 2012 yn dal mewn grym yng Nghymru.
Fodd bynnag, bydd angen i hyd yn oed y safleoedd hynny sy’n gymwys i gasglu gwastraff cartref am ddim wahanu eu gwastraff yn chwe chynhwysydd fel y disgrifir uchod. Mater i’r awdurdod lleol fydd penderfynu sut mae’r rhain yn cael eu casglu – boed yn rhad ac am ddim gan ei wasanaeth casglu gwastraff masnachol, neu (fel yn y rhan fwyaf o achosion ar hyn o bryd) gan ei gasgliad gwastraff cartref, a sut i ymdrin â’r gwahaniaethau mewn gofynion gwahanu rhwng eiddo domestig (cartrefi) a’r rheoliadau newydd hyn.
Gall y bydd awdurdodau lleol yn cysylltu ag eglwysi i geisio eu trosglwyddo i’w gwasanaeth casglu gwastraff masnachol o fis Ebrill 2024. Os felly, dylai eglwysi sicrhau y bydd y casgliad hwn yn parhau i fod yn rhad ac am ddim, ac os bydd angen, dylid cyfeirio’r awdurdod lleol at reoliadau 2012.
Tenantiaid a llogwyr adeiladau
Mae llawer o eiddo eglwysig wedi ei osod, yn rhannol neu yn gyfangwbl, i denantiaid. Mae’r Côd yn dweud Ar gyfer safle ym meddiant busnesau lluosog … lle mae un contract ar gyfer casglu gwastraff a reolir gan y perchennog neu asiantaeth rheoli cyfleusterau, byddem yn disgwyl i’r cytundeb tenantiaeth gynnwys gofyniad i’r partïon gydymffurfio â’r gofynion gwahanu (para 5.11). Nid yw’r Côd yn manylu ynghylch Cytundebau Llogi a’u tebyg, a ddefnyddir gan lawer o fangreoedd eglwysig. Ond mae’r egwyddor yn y Côd yn eglur: Rydych yn gyfrifol am yr holl wastraff sy’n cael ei gyflwyno i’w gasglu o’ch eiddo. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wastraff a gynhyrchir gan staff, ymwelwyr a chontractwyr. (para 7.12). Golyga hyn y bydd angen trafod yn fanwl gyda holl ddefnyddwyr eich adeiladau, ac fe all y byddwch am ysytyried cynnwys cymalau ynghylch gwahanu gwastraff yn eich cytundebau llogi.
Biniau a chynwysyddion ar gyfer gwastraff
Dywed y Côd Ymarfer Yn y man lle’r ydych yn cyflwyno eich gwastraff i’w gasglu (er enghraifft, casglu ymyl y ffordd), er mwyn cydymffurfio â’r gofynion gwahanu bydd angen cynhwysydd ar wahân arnoch ar gyfer pob ffrwd wastraff ailgylchadwy. Nid yw hyn yn wir mewn perthynas â biniau mewnol ar gyfer meddianwyr, staff, ymwelwyr ac ati gan y cydnabyddir na fydd hyn yn ymarferol nac yn bosibl mewn rhai amgylchiadau. Ystyrir ei bod yn arfer da darparu cynwysyddion ar wahân ar gyfer pob ffrwd wastraff ailgylchadwy lle bynnag y cesglir gwastraff ar eich eiddo. (para 7.14-7.15).
Mae’r Côd yn gosod y gofynion canlynol ar gyfer y math o gynwysyddion gellir eu defnyddio i gyflwyno gwastraff i’w gasglu: Gall y cynwysyddion hyn fod yn finiau, yn fagiau, yn focsys, yn sgipiau neu’n fath arall o gynhwysydd fel y bo’n briodol, gan ystyried natur y gwastraff a gofynion eich casglwr gwastraff. Er enghraifft, efallai na fydd bagiau plastig hyblyg yn addas ar gyfer gwahanu eitemau ag ymylon miniog, neu sy’n drwm iawn. Mae’n dderbyniol defnyddio cynwysyddion sydd wedi’u hisrannu’n fewnol gan rwystr ffisegol parhaol, er enghraifft bin gyda dwy neu fwy o adrannau sydd wedi’u gwahanu’n ffisegol. Mae’n rhaid i’r cynwysyddion a ddefnyddir fod yn ddigon gwydn i gynnal y gwahaniad gofynnol wrth i’r gwastraff gael ei drin a’i reoli’n ddiweddarach. Argymhellir bod adrannau mewn cynhwysydd wedi’u gwneud o adeiladwaith solet yn hytrach na phlastig hyblyg sy’n debygol o rwygo’n agored, sy’n cynyddu’r risg y bydd y cynnwys yn cymysgu â ffrydiau gwastraff eraill. Pan fydd y ffrydiau gwastraff a gyflwynir ar wahân yn cael eu casglu, mae’n rhaid eu cadw ar wahân a heb eu cymysgu â ffrydiau eraill, nac unrhyw wastraff arall (para 7.3-7.4). Ceir hefyd arweiniad manwl ynghylch defnyddio “bagiau goroesi” (a chyfyngiadau ar suyt y gellir eu defnyddio – para 7.5). Mae’r Côd yn ychwanegu O gofio y gallai fod angen storio cynwysyddion gwastraff mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, ystyrir ei bod yn arfer gorau defnyddio cynwysyddion y gellir eu cloi a sicrhau bod y rhain yn cael eu cadw dan glo i leihau’r risg o halogi damweiniol neu fwriadol (para 7.8), ac yn nodi fod angen labelu’r cynwysyddion yn eglur ar gyfer eu casglu. Mae’n debygol y bydd awdurdodau lleol a chasglwyr gwastraff gwahanol yn gwneud gofynion ychydig yn wahanol i’w gilydd, a dylai rheolwyr ac ymddiriedolwyr eiddo geisio cyngor eu casglwr gwastraff, os nas darparwyd eisoes.
Biniau allanol: Dywed y Côd nid oes rhaid i sbwriel a gesglir gan yr Awdurdod Lleol … gan amlaf o strydoedd, palmentydd a mannau agored sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gael eu gwahanu wrth eu cyflwyno i’w casglu. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau cysondeb ac arfer da, argymhellir bod biniau sbwriel ar wahân ar gyfer eitemau ailgylchadwy yn cael eu darparu mewn unrhyw leoliadau lle mae yna finiau sbwriel fel y gall Awdurdodau Lleol, lle bynnag y bo’n bosibl, drefnu i sbwriel gael ei ailgylchu. (para 5.7). Ond lle darperir bin mewn gardd eglwysig, mynwent, lle chwarae neu fan tebyg, a’r gwastraff wedyn yn cael ei gynnwys yng nghasgliad gwastraff yr eglwys (yn hytrach na chael ei gasglu’n uniongyrchol gan yr awdurdod lleol o fan cyhoeddus), mae’r cynnwys hwnnw yn ddarostyngedig i’r gofynion i’w wahanu.
Gwastraff bwyd
Bydd y gofyniad cyfreithiol i wahanu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i safleoedd sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd yr wythnos (os ydych yn cynhyrchu llai, bydd yn gyfreithlon rhoi gwastraff bwyd yn y ffrwd wastraff gyffredinol, na ellir ei hailgylchu). Fodd bynnag, mae’n arfer da i wahanu ac ailgylchu’r holl wastraff bwyd, hyd yn oed meintiau bach, a byddem am annog eglwysi i wneud hynny.
Noder Ar gyfer gwastraff bwyd sy’n dal yn ei ddeunydd pecynnu, dylid gwahanu’r gwastraff bwyd oddi wrth y deunydd pecynnu. Yna dylid rhoi pob deunydd yn y cynhwysydd ffrwd wastraff ailgylchadwy perthnasol…. Lle nad yw’n rhesymol ymarferol dad-becynnu gwastraff bwyd fel hyn, gellir gosod y gwastraff bwyd sy’n dal yn ei ddeunydd pecynnu sylfaenol (hynny yw, yr haen o ddeunydd pecynnu sydd agosaf at y cynnyrch) yn y ffrwd gwastraff bwyd, ar yr amod bod (a) eich casglwr gwastraff bwyd yn cytuno i gasglu’r gwastraff ar y sail hon a (b) bydd y gwastraff bwyd wedi’i becynnu’n cael ei anfon i gyfleuster priodol i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu (sy’n cynnwys compostio a threulio anaerobig) (para 7.28, pwyslais Cytûn). Mae’r Côd yn gofyn am gadw cofnod o wastraff bwyd a gyflwynir wedi ei becynnu (para 7.29).
Yn ogystal, bydd gwaharddiad ar waredu unrhyw faint o wastraff bwyd i lawr y sinc neu i mewn i ddraen neu garthffos gyhoeddus. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i arllwys bwyd yn uniongyrchol i’r sinc neu ddraen, ond yn golygu na fydd modd bellach defnyddio offer megis mwydwyr, treulwyr ensymau na dulliau tynnu dŵr. Dylai eglwysi sicrhau bod defnyddwyr eu hadeiladau yn ymwybodol o hyn. Ni fydd yn rhaid i chi ddadosod unrhyw offer o’r fath sydd gennych yn eich eiddo, ond mae’n debyg ei bod yn syniad da ei ddadosod neu ei ddatgysylltu, fel nad yw’n cael ei ddefnyddio ar ddamwain. Bydd gollwng gwastraff bwyd i ddraeniau neu garthffosydd cyhoeddus yn drosedd ac os bydd hyn yn digwydd, gall yr awdurdod lleol roi hysbysiadau cosb benodedig i’r eiddo neu drefnydd y gweithgarwch perthnasol. Mae’n arbennig o bwysig osgoi rhyddhau braster, olew a saim i’r garthffos (para 7.34), ac mae’r Côd yn argymell ystyried gosod trapiau saim i atal hyn.
Atodiad: Diffinio’r is-ffracsiynau gwastraff
(gan eithrio ymhob achos gwastraff peryglus, a mae’n rhaid gwaredu hwnnw ar wahân)
1. Gwydr
Jariau gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith
Poteli gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith
2. Cartonau a’u tebyg, metel a phlastig
a) Cartonau a’u tebyg
- Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapurfwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw, yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Cartonau
- Cwpanau diod papur sydd â haen blastig bolythen neu bolypropylen dwysedd isel
- Cynwysyddion papur anhyblyg
b) Metel
- Aerosolau dur ac alwminiwm
- Caeadau a chapiau jariau a photeli dur ac alwminiwm
- Ffoil alwminiwm
- Hambyrddau bwyd alwminiwm
- Tiwbiau alwminiwm
- Tuniau a chaniau dur ac alwminiwm
c) Plastig
- Pecynwaith plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd a pholyethylen tereffthalad crisialog yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
- Pecynwaith plastig polypropylen a pholypropylen wedi ei ehangu yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
- Pecynwaith polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, a chaeadau anhyblyg a lled anhyblyg ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
- Poteli plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
- Poteli, pympiau a thrigerau plastig polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
- Poteli, pympiau a thrigerau plastig polypropylen ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
- Tiwbiau pecynwaith plastig polyethylen a pholypropylen ac eithrio:
pan fônt yn llai na 50x50mm;
pan fônt wedi cynnwys cynhyrchion a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu;
pan fo ganddynt haen fetel,
neu pan fônt yn blastig amlfonomer
3. Papur a cherdyn
- Yr holl bapur a cherdyn ac eithrio:
- Amlenni clustogog wedi eu leinio â pholyethylen
- Cardiau crafu
- Cwyr, silicon, papurau gwrthsaim
- Derbynebau til
- Llyfrau clawr caled
- Papur a cherdyn sydd wedi eu halogi â bwyd, paent, olew neu saim
- Papur a cherdyn sy’n cynnwys gliter neu ffoil
- Papur a cherdyn wedi ei lamineiddio
- Papur wal
- Papur wedi ei ddarnio
- Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapurfwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill hefyd, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw
- Sticeri a nodiadau gludiog
- Tyweli papur, hancesi papur, weipiau gwlyb, papur cegin
4. Gwastraff bwyd
Pob gwastraff bwyd (gydag eithriadau cul iawn)
5. Offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd
Pob offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd (gweler y diffiniadau uchod)
6. Tecstilau nas gwerthwyd
- Dillad
- Pecynwaith sydd wedi ei wneud o decstilau
- Tecstilau nad ydynt yn ddillad gan gynnwys carpedi a theils carped, tecstilau hamdden (fel pebyll a tharpolinau), matresi, rygiau, deunyddiau dodrefnu meddal (fel llenni, cynfasau gwely, blancedi, dwfes, clustogau, tyweli), isgarped
13.02.2024
Parch./Revd Gethin Rhys
Swyddog Polisi / Policy Officer
Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru | Cytûn: Churches Together in Wales
Swyddfa gofrestredig: Tŷ Hastings House, Llys Fitzalan Court, Caerdydd/Cardiff CF24 0BL
Mudol/Mobile: +44 (0)7889 858062
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg. Happy to communicate in Welsh or English
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |
Cytûn is a registered company in England and Wales | Number: 05853982 | Registered name: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Cytûn is a registered charity | Number: 1117071