Wales church leaders at a meeting

Yn unol ag un elfen allweddol o ddatganiad cenhadaeth Cytûn, “helpu’r eglwysi i gyrraedd meddwl cyffredin a gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd” ac yn dilyn patrwm rhai eraill o offerynnau ecwmenaidd cenedlaethol Prydain ac Iwerddon, gwahoddodd Ymddiriedolwyr Cytûn arweinwyr Eglwysi Cymru i ddod ynghyd i gael sgwrs am gyfeiriad Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru at y dyfodol.

Nid oedd cyfarfod o’r fath wedi digwydd ers pedair blynedd ar ddeg ac yn anochel bu llawer o newidiadau mewn personél enwadol yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd yn galonogol iawn bod llawer o eglwysi Categori A Cytûn wedi eu cynrychioli yn y cyfarfod yn ogystal â Chadeiryddion cyrff traws enwadol eciwmenaidd eraill sef Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, y Cyngor Ysgolion Sul a Chomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol. Roedd yr aelodau categori A canlynol wedi cyflwyno ymddiheuriadau: Byddin yr Iachawdwriaeth, Cynulliadau Duw, Eglwys Pentecost y DU, yr Eglwys Uniongred Indiaidd ac Eglwys Dduw. Dylid cydnabod bod hyn yn golygu nad oedd unrhyw lais Pentecostaidd nac o gynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig yn bresennol, er mawr ofid i staff Cytûn.

Darlith a draddodwyd gan Brif Weithredwr Cytûn, Siôn Brynach, ym mis Awst 2023 o’r enw “Dringo’r ail fynydd : dyfodol i eciwmeniaeth yng Nghymru?” oedd y catalydd ar gyfer y drafodaeth. Yn y ddarlith honno y cwestiynau cyfathrebu allweddol oedd y rhai a amlygwyd – pwy, beth, pam, pryd, ble a sut – gyda’r ddarlith yn tynnu sylw yn benodol at bwysigrwydd canolog y tri chyntaf o’r cwestiynau rheini – pwy, beth a pham.

Dywedodd Siôn Brynach, Prif Weithredwr Cytûn:
“Roedd hwn yn gyfarfod calonogol a chadarnhaol gyda theimlad pendant ei bod yn amser i ganolbwyntio unwaith eto ar faterion eciwmenaidd. Roedd teimlad o dymor newydd wrth law. Fodd bynnag, gallai hyn olygu bod angen i ni fel eglwysi wneud penderfyniadau dewr ynghylch a ddylai holl offerynnau eciwmenaidd Cymru barhau, neu a ddylid canolbwyntio ynni ac adnoddau ar un. Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r cyfarfod hwn, ac yn arbennig felly i’r Parch Ddr Susan Durber a arweiniodd yr astudiaeth Feiblaidd ar gychwyn y cyfarfod. Bu i’w hastudiaeth hi osod y naws ar gyfer gweddill y cyfarfod a rhoi sylwedd gwirioneddol i bawb gnoi cil arno.

“Roedd consensws cryf bod cysylltiadau personol yn allweddol, a bod ‘eciwmeniaeth y galon’ (testun Datganiad Undod Unfed Cynulliad ar ddeg Cyngor Eglwysi’r Byd) yn elfen ganolog o ran adeiladu meysydd cydweithredu a symud tuag at undod gweladwy.

“Mae’r adroddiad hwn yn cloi gyda set arall o gwestiynau i Ymddiriedolwyr Cytûn fynd i’r afael â nhw, er mwyn penderfynu ar gyfeiriad yr elusen bwysig hon at y dyfodol. Gobeithiaf hefyd y bydd modd i ni sefydlu patrwm o gyfarfodydd blynyddol rhwng Ymddiriedolwyr Cytûn ac arweinwyr eglwysi Cymru. Mae’r cyfarfod nesaf o’r rhain eisoes wedi ei drefnu ar gyfer 17 Hydref 2024, a bydd fformat y cyfarfod hwnnw yn cael ei bennu yn fuan iawn gan Ymddiriedolwyr Cytûn.”

DIWEDD

Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod.