Mae Polisi Rheoliad Preifatrwydd Data Cyffredinol Cytûn wrthi’n cael ei adolygu, ond mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i storio a rhannu eich gwybodaeth fel rhan o broses penodi YC. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r modd y bwriadwn drin eich data yng nghyswllt proses penodi Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn:
- Caiff eich ffurflen gais a gwybodaeth gysylltiedig ei dderbyn yn electronig fel atodiad e-bost gan Gadeirydd Bwrdd Cytûn a fydd yn ei storio ar gyfrifiadur Cytûn sydd wedi ei ddiogelu gan gyfrinair.
- Caiff eich ffurflen gais ei chylchredeg trwy e-bost i aelodau’r panel penodi, a byddant hwy’n ei storio ar ddyfeisiadau a ddiogelir gan gyfrinair.
- Defnyddir y wybodaeth ar eich ffurflen gais yn unig gan y panel penodi at ddibenion y broses benodi ac ni chaiff ei rannu y tu allan i’r grŵp yn ystod y broses benodi.
- Ar derfyn y broses benodi, dilëir y wybodaeth o holl gyfrifiaduron personol a dyfeisiadau aelodau’r panel penodi.
- Gall aelodau’r panel penodi argraffu dogfennau i’w defnyddio yn ystod y broses benodi, a chedwir hwy’n ddiogel yn ystod y broses. Caiff unrhyw ddogfennau print eu carpio ar derfyn y broses.
- Caiff ffurflen gais, gwybodaeth a geirda’r ymgeisydd llwyddiannus eu storio ar gyfrifiadur sydd wedi ei ddiogelu gan gyfrinair yn swyddfa Cytûn i fod yn sail i ffeil personél yr Ysgrifennydd Cyffredinol newydd.
Cymerir cyflwyno ffurflen gais wedi ei llenwi fel cytundeb i drin eich data personol fel hyn.
Pwyllgor Adnoddau Dynol Cytûn Gorffennaf 2022